Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Datganiad o Ddiddordeb |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3ydd Ebrill, 2013. Penderfyniad: Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Ebrill, 2013. |
|
Ymweliadau Safle Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chynhaliwyd unrhyw ymweliadau safleoedd yn dilyn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Ebrill, 2013. |
|
Y Cyhoedd yn Siarad Penderfyniad: Roedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol i siarad ar geisiadau 7.1 and 12.3.
|
|
Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio PDF 439 KB 6.1 39C285D – Lon Gamfa, Porthaethwy. Penderfyniad: 6.1 39C285D – Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lon Gamfa, Porthaethwy
PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a thynnu’r cais o’r rhaglen hyd nes y bydd argymhelliad ar gael.
|
|
7.1 19C313A – Stâd Pentrefelin & Waenfawr, Caergybi 7.2 48C182 – Bryn Twrog, Gwalchmai Penderfyniad: 7.1 19C313A – Cais amlinellol i godi 22 o anheddau a chodi mynedfa newydd ar dir rhwng Pentrefelin a Stad Waenfawr, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio rhoi sylw i’r cais ar gyngor y Prif Weithredwr oherwydd y ddealltwriaeth y byddai penderfynu ar y cais cyn yr etholiadau lleol yn fater cynhennus ac, o bosib, yn tynnu’n groes i ganllawiau’r Cyngor mewn perthynas â’r cyfnod etholiad.
7.2 48C182 – Cais amlinellol i godi annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa i gerbydau a gosod gwaith trin ar dir ger Bryn Twrog, Gwalchmai
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais, yn groes i argymhelliad y swyddog, yn amodol ar orfodi amod A106 ar gyfer ty ‘fforddiadwy’ mewn perthynas â’r cais.
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau Economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau Tai Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau Economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau’n tynnu’n groes Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau Economaidd yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 1 MB
11.1 16C194 – Tan Rallt, Bryngwran 11.2 36C206E – Cefn Canol, Llangristiolus 11.3 40C133C – Graianog, Dulas 11.4 43C188A – Pwll Preban, Rhoscolyn Penderfyniad: 11.1 16C194 – Cais llawn i gadw’r lle caled a dau dwnel polythen ynghyd â chodi un twnel polythen, cwt potiau ac estyniad i’r adeiladau allanol yn Tan Rallt, Bryngwran.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog, gyda’r amodau yn yr adroddiad a chydag amod ychwanegol na chaniateir defnydd adwerthu neu gyfanwerthu o’r safle.
11.2 36C206E – Cais llawn i godi garej ar wahân yn Cefn Canol, Llangristiolus
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau yn yr adroddiad.
11.3 40C133C – Cais i ddileu amod (04) a gwaith altro i adeiladu ffenestr ddormer yn Graianog, Dulas
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog, gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad.
11.4 43C188A – Cais llawn i godi sied amaethyddol newydd ar dir yn Pwll Preban, Rhoscolyn
PENDERFYNWYD dirprwyo’r cais i’r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) i’w gymeradwyo, ar yr amod na cheir unrhyw wrthwynebiadau cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben.
|
|
12.1 19C792F – Llyn Parc Gwledig y Morglawdd, Porth Namerch, Caergybi 12.2 20C289 – Blaendraett ger yr Harbwr, Cemaes 12.3 42C61G – Y Garafan, Ty’r Ardd, Pentraeth 12.4 47LPA602A/CC – Tremoelgoch Fawr, Llanfigael Penderfyniad: 12.1 19C792F – Cais llawn i osod decin caled yn lle tri llwyfan pysgota ynghyd â gwaith altro ac estyn ar dri llwyfan pysgota ar dir ar lôn Parc Gwledig y Morglawdd, Porth Namerch, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad.
12.2 20C289 - Cais llawn i osod cloch ‘Llanw ac Amser’ ynghyd â ffrâm cefnogol ar y blaendraeth ger yr harbwr, Cemaes
PENDERFYNWYD gohirio’r cais fel bod modd ymgynghori mewn perthynas â lefelau sŵn.
12.3 42C61G – Cael gwared o’r garafan breswyl a chodi annedd ddeulawr o fewn y cwrtil preswyl yn Y Carafan, Ty’r Ardd, Pentraeth
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn ymgynghori gyda’r cyhoedd gan fod y cais yn tynnu’n groes i bolisi.
12.4 47LPA602A/CC – Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer gwartheg godro yn Tremoelgoch Fawr, Llanfigael
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad.
|
|
13.1 43C188 – Pwll Preban, Rhoscolyn Penderfyniad: 13.1 43C188 – Rhybudd ymlaen llaw am ddymchwel sied yn Pwll Preban, Rhoscolyn
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth fel y cafodd ei chyflwyno.
|