Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 31ain Gorffennaf, 2013 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr ymddiheuriadau fel a nodwyd.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-

 

Y Cynghorydd W.T.Hughes yng nghyswllt cais 7.1

Y Cynghorydd Victor Hughes yng nghyswllt cais 7.3

Y Cynghorydd Vaughan Hughes yng nghyswllt cais  12.3

Y Cynghorydd Kenneth Hughes yng nghyswllt cais 13.3

Datganodd Y Cynghorydd Ann Griffith ddiddordeb personol oherwydd bod maniffesto Plaid Cymru yn cyfeirio at dyrbinau gwynt.  Dywedodd y byddai yn ystyried pob cais ar ei rinweddau cynllunio.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod ar 3ydd o Orffennaf, 2013 pdf eicon PDF 314 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf, 2013 yn amodol ar y newidiadau canlynol yng nghyswllt cais 7.1 –

 

Y frawddeg - “Cynigiodd y Cynghorydd T.V.Hughes bod y cais yn cael ei wrthod.  Nid oedd eilydd i’w gynnig” i ddarllen “Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei wrthod.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T.V.Hughes.”

 

4.

Ymweliadau Safleoedd 17 Gorffennaf, 2013 pdf eicon PDF 39 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2013.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd  a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf, 2013 .

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor bod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi mynegi pryderon ynglŷn â nifer yr aelodau oedd yn absennol o’r ymweliad safle ar 17 Gorffennaf a’u bod am ofyn i aelodau’r Pwyllgor wneud pob ymdrech i fod yn bresennol ar ymweliadau safle er mwyn sicrhau bod digon o Aelodau yn gallu pleidleisio ar geisiadau sydd yn destun ymweliadau safle pan fyddent yn cael eu hystyried ymhellach gan y pwyllgor a hefyd i gydnabod pwysigrwydd ymweliadau safle  yn y broses o wneud penderfyniadau cynllunio.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Roedd aelodau’r cyhoedd yn dymuno siarad ar geisiadau 12.2, 12.3 and 12.5.

 

6.

Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 2 MB

6.1 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

 

6.2 41C8C – Garnedd Ddu, Star

 

6.3 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

Cofnodion:

6.1   34C553A – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd a rhwydwaith cysylltiol yn Ty’n Coed, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais hwn wedi bod gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn wreiddiol yn Nhachwedd, 2008 oherwydd iddo gael ei hysbysebu fel cais oedd yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu, ac roedd rhan o’r cynigion a gyflwynwyd yn cael eu hargymell i’w caniatáu.   Oherwydd natur a chyd-destun y datblygiad byddai’n ddefnyddiol i’r aelodau fod wedi gweld y safle cyn dod i benderfyniad.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn cynnal ymweliad  safle yn unol ag argymhelliad y Swyddogion.

 

6.2   41C8C – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y tir er mwyn lleoli 33 o garafannau symudol, codi bloc toiled, creu mynedfa i gerbydau ynghyd â thirlunio yn Garnedd Ddu, Star

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio crynodeb a chefndir i’r cais a dywedodd bod ymweliad safle wedi ei gynnal gan Aelodau’r Pwyllgor ar 19 Mehefin, 2013.  Cyflwynwyd gwybodaeth i gefnogi’r cais a gohiriwyd penderfyniad er mwyn caniatáu i’r cyfnod rhybuddio cymdogion ddod i ben a rhoi cyfle i ystyried sylwadau ac atebion ymgynghori oedd yn codi o’r wybodaeth ychwanegol hon. Er hynny mae materion draenio yn parhau dan drafodaeth ac argymhellir felly bod y cais yn cael ei ohirio. 

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddogion am y rheswm a nodir.

 

6.3   46C427K/TR/EIA/ECON – Cais Cynllunio hybrid sy’n cynnig :

 

Cais Amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ac eithrio dull mynediad ar gyfer :

 

Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys cabannau a bythynnod newydd; Adeilad canolbwynt canolog newydd gan gynnwys derbynfa, cyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr dan do, bowlio deg a neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai a siopau; adnewyddu ac ymestyn adeiladau ar y stad ar gyfer Marchnad Ffermwyr; lle chwarae dan do i blant, Sba gyda gym a chyfleusterau newid, addasu adfeilion yr hen Dy Cychod yn fwyty wrth y traeth, Darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r llwybr arfordirol gan gynnwys: Rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar i goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; Creu trywydd cerfluniau newydd trwy goetir a llwybrau pren a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; Bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun.

 

Tir yn Cae Glas - Codi llety pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 315 o gabanau i'w hisrannu yn y lle  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ceisiadau’n Codi pdf eicon PDF 2 MB

7.1 20LPA962/CC – Fron Heulog, Cemaes

 

7.2 34LPA121Q/CC – Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni

 

7.3 42C321 – Y Sidings, Pentraeth

Cofnodion:

7.1   20LPA962/CC – Cais ôl weithredol ar gyfer y trac gafodd ei wneud yn ddiweddar ynghyd â gwelliannau i’r fynedfa bresennol ar dir gyferbyn a Fron Heulog, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Datganodd y Cynghorydd W.T.Hughes ddiddordeb personol yn y cais hwn ond arhosodd yn y cyfarfod a rhoddodd wybodaeth gefndirol yn rhinwedd ei swydd fel Aelodau Lleol ond ni chymerodd unrhyw ran yn y pleidleisio ar y cais.  Aeth y Cynghorydd Ann Griffith fel Is-Gadeirydd i’r Gadair am yr eitem hon.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor mai cais oedd hwn i altro a gwella mynedfa sydd yno’n barod i gerbydau amaethyddol ddod i’r A5025 a hefyd gadw trac cerrig sy’n rhoi mynedfa i beiriannau amaethyddol ac sydd wedi ei osod yn ôl o’r briffordd.  Roedd y prif ystyriaethau yn ymwneud â diogelwch y briffordd, ac roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno adroddiad oedd yn gwneud sylwadau ynglŷn â diogelwch y briffordd fel a oedd i’w weld yn yr adroddiad.  Roedd gwrthwynebiad wedi ei wneud i adroddiad yr ymgeisydd ac roedd gwrthwynebwyr y cais yn cwestiynu’r adroddiad, gyda’r sylwadau hynny i’w gweld yn yr adroddiad.  Roedd y gwrthwynebiadau wedi eu hanfon i Adain Priffyrdd y Cyngor.  Roedd Swyddog Priffyrdd y Cyngor wedi asesu cyflwyniad yr ymgeisydd a hefyd y materion oedd yn cael eu codi yn y gwrthwynebiadau ac roedd yn ystyried bod y cynnig yn dderbyniol.  Dylid nodi ygallai perchennog y tir ddefnyddio’r fynedfa bresennol heb wneud unrhyw welliannau iddo.  Argymhelliad y Swyddog oedd caniatáu.

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith am y fynedfa ac a oedd penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â pha mor bell i’r dwyrain y byddai’n cael ei leoli i bwrpasau gwelededd. Dywedodd ei fod wedi gofyn yr un cwestiwn yn ystod yr ymweliad safle ond nid oedd wedi cael ateb pendant i ddweud a oedd y gwelededd o fewn y gofynion.

 

Dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) bod y gwelededd o’r fynedfa yn wael iawn ar hyn o bryd i’r ddau gyfeiriad tua Chemaes ac Amlwch.  Bydd y newidiadau a fwriedir fel rhan o’r cais yn lledu ac yn gwella’r fynedfa ac yn ymestyn y gwelededd i gyfeiriad Cemaes hyd at 215m.  Ni fydd y fynedfa yn cynnig gwelededd cystal tuag at Amlwch ond bydd yn rhoi gwelededd da i gyfeiriad Cemaes i rai fydd yn dod trwy’r porth i’r briffordd ac wrth ddod allan ymhellach i edrych i gyfeiriad Amlwch.  Dywedodd y Swyddog bod y gwelededd yn ddifrifol wael i gyfeiriad Cemaes fel ag y mae pethau yn awr.  Ychwanegodd y Swyddog bod y gwelliannau’n cael eu cynnig fel rhan o’r cais a chan gofio y gallai’r porth gael ei ddefnyddio heb wneud unrhyw welliannau iddo, barn yr Adain Priffyrdd oedd ei bod yn werth derbyn y gwelliannau. 

 

Roedd y Cynghorydd John Griffith yn dymuno cael gwybod union faint y gwelededd i gyfeiriad Amlwch ac a oedd yr Adain Briffyrdd yn mynnu ar welededd o 160m.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

10.

Ceisiadau sy’n groes i bolisi pdf eicon PDF 494 KB

10.1 45C294C - Bwthyn Minffordd, Penlon, Niwbwrch

Cofnodion:

10.1        Cais llawn i godi annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Minffordd Cottage, Penlon, Niwbwrch

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor fel cais sy’n groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond fel un all gael ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu  Unedol a Stopiwyd.

 

Esboniodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion yn argymell cymeradwyo’r cais er ei fod yn un sy’n tynnu’n groes.  Nid yw ardal Penlon yn cael ei chydnabod fel pentref yng Nghynllun Lleol Ynys Môn ond mae’n cael ei nodi fel treflan dan ddarpariaethau Polisi HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Mae’r polisi hwn yn caniatáu datblygu plotiau sengl cyn belled a’u bod yn safleoedd mewnlenwi.  Mae’r map o’r safle yn nodi’n glir bod safle’r cais yn safle mewnlenwi gydag anheddau ar y naill ochr a’r llall ac i’r cefn.  Roedd yr argymhelliad felly yn un o ganiatau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd dim ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 12LPA983/AD/CC – Penrhyn Safnas, Biwmares

 

12.2 22C211C – Yr Orsedd, Llanddona

 

12.3 23C268B – Uwch y Gors, Mynydd Bodafon

 

12.4 30LPA/978/AD/CC – Traeth Coch

 

12.5 34C648A – Pwros, Rhosmeirch

 

12.6 34LPA982/CA/CC – Yr Adeilad ar Stiltiau, Llangefni

 

12.7 47LPA966/CC – Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant

Cofnodion:

12.1  12LPA983/AD/CC – Cais i leoli arwydd dehongli ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd  R.O.Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.

 

12.2     22C211C – Cais llawn i godi un twrbin gwynt gydag uchder hwb hyd at 25m, diamedr rotor hyd at 19.24m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.37m ar dir yn Yr Orsedd, Llanddona

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd penderfynwyd na fydd pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr adroddiad yn dwyn sylw at dri mater allweddol gyda’r cais mewn perthynas â’r egwyddor o ddatblygu, sef y dirwedd, yr effaith weledol a’r mwynderau preswyl.  Er y cydnabyddir bod polisïau’n cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy, ystyrir yn yr achos hwn y byddai’r datblygiad arfaethedig yn creu niwed annerbyniol i’r amgylchedd ac am y rhesymau hynny roedd y Swyddog yn argymell gwrthod y cais.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr John Alexander gyflwyno sylwadau i’r Pwyllgor fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig.

 

Dygodd Mr Alexander sylw at y pwyntiau uchod fel gwrthwynebiadau i’r cynnig:

 

  • Nid yw Ynys Môn wedi ei rhestru fel parth strategol ar gyfer ynni gwynt ar y tir ac, yn ôl TAN 8 ni fu erioed yn fwriad i’r peiriannau hyn ledaenu’n ddi-gynllun dros yr Ynys gyfan.
  • Ni ddylai’r cais tyrbin fod wedi pasio’r broses sgrinio.  Dylai’r Awdurdod Cynllunio fod wedi gwneud ymholiadau gyda defnyddwyr y trawsyrrydd - yr Heddlu, BT ac Aquiva ynghylch problemau gydag ymyriant.  Mae hon yn broblem fawr ac roedd nifer o wrthwynebiadau yn dwyn sylw at y posibilrwydd hwn.  Byddai archwiliad ar adeg y sgrinio wedi arbed amser a chostau.
  • Dyfaliad yn unig yw’r ffigyrau asesu sŵn oherwydd nad oes anemomedr wedi ei godi yn y lleoliad. 
  • Mae’r safle yn rhy agos i dair annedd, yr AHNE, safleoedd hanesyddol a hynafol ac 18 o safleoedd dynodedig.  Bydd yn cael effaith ar Biwmares a Pharc Cenedlaethol Eryri.  Mae’r lleoliad wedi ei amgylchynu gan dirwedd gwerth uchel ac mae’n ardal sydd o bwysigrwydd rhyngwladol ac sydd â daeareg eithriadol. Byddai felly’n difetha un o’r golygfeydd mwyaf ysblennydd ar yr Ynys.
  • Mae’r lleoliad yn agos iawn i’r adeilad rhestredig Graddfa II, Rhos Isaf a’r hufenfa gysylltiedig a ddefnyddir fel llety gwyliau.  Byddai’n cael effaith andwyol hefyd ar Hafoty, un o’r eiddo hynaf ar yr Ynys.
  • Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn dweud nad oes angen asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd ac nad oes ganddo unrhyw gofnod o unrhyw rywogaeth sy’n cael ei ddiogelu’n statudol yn y fro.  Dylai’r Cyngor gysylltu gyda’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a’i Ymgynghorydd Ecolegol ei hun.  Byddai angen asesiad amgylcheddol oherwydd uchder y datblygiad arfaethedig a phresenoldeb ystlumod, cŵn dwr, gwalchod marth,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 3 MB

13.1 20C27D/2/CONS – Pwerdy Wylfa, Cemaes

 

13.2 34LPA982A/CC – Yr Adeilad ar Stiltiau, Llangefni

 

13.3 38C185C – Maes Mawr, Llanfechell

Cofnodion:

13.1     20C27D/2/CONS – Ymgynghoriad ar gyfer dadgomisiynu Wylfa A

 

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad yn amlinellu ymateb arfaethedig ar ran yr Awdurdod i ymgynghoriad yr Awdurdod Gweithredol ar gyfer Iechyd a Diogelwch sy’n gwneud sylwadau ynglyn a’r Orsaf Niwclear Gyfredol yn Wylfa. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio wrth y Pwyllgor fod y Swyddfa dros Reoli Niwclear, sef asiantau ar gyfer yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Awdurdod Gorfodi ar gyfer adweithyddion niwclear yn ymgynghori’n ffurfiol ar hyn o bryd a bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael gwahoddiad i wneud sylwadau ar y cais ar gyfer dad-gomisiynu, ac yn arbennig felly ar y datganiad amgylcheddol sy’n cynnwys asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd a mesurau lliniaru i osgoi neu leihau effaith sylweddol ar yr amgylchedd. 

 

Cafodd Gorsaf Pŵer Niwclear Wylfa ganiatad EIADR i ddad-gomisiynu ym mis Mawrth 2009, yn seiliedig ar ddatganiad amgylcheddol a baratowyd yn 2008 (DA 2008).  Mae’r caniatad cyfredol gan EIADR yn caniatau ar gyfer cychwyn y prosiect dad-gomisiynu cyn pen 5 mlynedd, ond oherwydd estyn ei hoes gynhyrchu nid oes disgwyl y bydd yr orsaf yn cau ac yn cychwyn dad-gomisiynu tan 2015 ac erbyn hynny bydd y caniatad cyfredol wedi dod i ben ac felly mae Wylfa yn gofyn am ganiatad newydd.

 

Fel ymgynghorai, penderfynodd y Cyngor ym mis Tachwedd 2008 i anfon y sylwadau fel y cawsant eu rhestru yn yr adroddiad at yr Awdurdod Gweithredol ar gyfer Iechyd a Diogelwch.  Cychwynnodd y cyfnod ymgynghori cyfredol ym Mai 2013 ac mae’r swyddfa dros reoli niwclear angen sylwadau erbyn 9 Awst 2013.  Mae’r adroddiad yn manylu ar yr ymatebion ymgynghori ac yn adolygu newidiadau i’r DA diweddaredig (Mawrth, 2013) a newidiadau perthnasol eraill mewn amgylchiadau.  Mae hefyd yn gwneud argymhellion ar faterion y mae’r Cyngor yn ystyried y dylai’r Swyddfa Dros Reoli Niwclear eu cymryd i ystyriaeth fel rhan o’r broses ganiatau gan EIADR. Manylir ar y rhain yn rhan 12 yr adroddiad.

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau gan y Swyddog at y map safle ar gyfer Wylfa i ddangos tair prif ran y broses dad-gomisiynu gan gynnwys paratoadau Gofal a Chynnal; Gofal a Chynnal a Chlirio’r Safle’n Derfynol.

 

Gwnaed sylw gan y Cynghorydd Kenneth Hughes y bydd cynnydd yn y traffig trwy bentref Llanfachraeth ac roedd yn siomedig nad oedd llwybr osgoi ar gyfer Llanfachraeth wedi ei gymryd i ystyriaeth.

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio bod angen gwahaniaethu rhwng datblygu’r orsaf niwclear arfaethedig newydd a fydd yn gais i Lywodraeth Cymru a dad-gomisiynu’r orsaf niwclear gyfredol.  Os bydd gorsaf niwclear newydd yn cael ei hadeiladu mae trafodaethau eisoes wedi cychwyn mewn perthynas â darparu ffordd osgoi ar gyfer Llanfachraeth.  Dywedodd y Swyddog na fyddai’n hapus cynnwys y sylw a wnaed yn y sylwadau y bwriedir eu hanfon at y Swyddfa Dros Reoli Niwclear.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion yr adroddiad a nodir yn rhan 12, gan ychwanegu sylw mewn perthynas ag ystyried darpar llwybr osgoi ar gyfer Llanfachraeth.

 

13.2  34LPA982A/CC – Rhybudd o fwriad i ddymchwel adeilad yn The Stilts Building, Llangefni   

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.