Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Cofnodion: Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-
Y Cynghorydd Lewis Davies mewn perthynas â chais 7.4; Y Cynghorydd T. Victor Hughes mewn perthynas â chais 7.5; Y Cynghorydd W.T. Hughes mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 12.7;
Gwnaeth y Cynghorydd Ann Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol ar y sail bod maniffesto Plaid Cymru yn cynnwys pwyntiau mewn perthynas â thyrbinau gwynt. Dywedodd y byddai’n rhoi sylw i bob cais yn ôl eu rhinweddau cynllunio. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2013. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2013 fel rhai cywir, yn amodol ar y newidiadau canlynol yng nghyswllt cais 13.3 :-
(Roedd y Cynghorydd Ann Griffith yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi crybwyll CCA yn ystod y trafodaethau ar gais 13.3). |
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd a gafwyd ar 21 Awst, 2013. Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion yr Ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 21 Awst 2013. |
|
Siarad Cyhoeddus Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai aelodau o’r cyhoedd yn siarad ar gais 7.4. |
|
Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio PDF 2 MB 6.1 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni 6.2 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi Cofnodion: 6.1 34C553a – Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffyrdd a seilwaith cysylltiol yn Ty’n Coed, Llangefni
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen i’r cais gael ei ohirio oherwydd bod trafodaethau ar y gweill mewn perthynas â thelerau’r cytundeb Adran 106 mewn perthynas â thai fforddiadwy ac anghenion yr Awdurdod Addysg.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.
6.2 46c427K/TR/EIA/ECON – Cais cynllunio hybrid yn cynnig :-
Cais Amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ac eithrio dull mynediad ar gyfer :
Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys cabannau a bythynnod newydd; Adeilad canolbwynt canolog newydd gan gynnwys derbynfa, cyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr dan do, bowlio deg a neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai a siopau; adnewyddu ac ymestyn adeiladau ar y stad ar gyfer Marchnad Ffermwyr; lle chwarae dan do i blant, Sba gyda gym a chyfleusterau newid, addasu adfeilion yr hen Dy Cychod yn fwyty wrth y traeth, Darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r llwybr arfordirol gan gynnwys: Rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar i goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; Creu trywydd cerfluniau newydd trwy goetir a llwybrau pren a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; Bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun.
Tir yn Cae Glas - Codi llety pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 315 o gabanau i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer 2000 o weithwyr adeiladu; Adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; Cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; Gwesty newydd; Adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, siopau a bar; Cae pêl-droed glaswellt newydd a chae criced; a Chanolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad ansawdd uchel i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: cabanau ac adeiladau cyfleusterau wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o gabanau i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Canolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i ymwelwyr.
Tir yn Kingsland – Codi datblygiad preswyl a ddyluniwyd i’w ddefnyddio yn y lle cyntaf fel llety i weithwyr adeiladu yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi yn cynnwys : Hyd at 360 o dai ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
7.1 20LPA962/CC – Fron Heulog, Cemaes 7.2 22C211C – Yr Orsedd, Llanddona 7.3 34C648A – Pwros, Rhosmeirch 7.4 41C8C – Garnedd Ddu, Star 7.5 42C321 – The Sidings, Pentraeth 7.6 47LPA966/CC – Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant Cofnodion: 7.1 20LPA962/CC – Cais ôl-ddyddiol mewn perthynas â’r trac oedd wedi ei adeiladu yn ddiweddar a gwelliannau i’r fynedfa bresennol ar dir gyferbyn a Fron Heulog, Cemaes
(Datganodd y Cynghorydd W. T. Hughes ddiddordeb personol yn y cais hwn. Aeth yr Is-Gadeirydd i’r Gadair yn ystod y drafodaeth ar y cais).
(Dywedodd y Cynghorwyr Lewis Davies, K. P. Hughes ac R. O. Jones nad oeddynt yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle ac nad oeddynt o’r herwydd am bleidleisio ar y cais hwn).
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion Cynllunio wedi cysylltu gyda’r ymgeisydd (y Cyngor Sir) yn dilyn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i weld beth oedd y posibilrwydd o symud y fynedfa i leoliad arall. Roedd yr ymgeisydd wedi ymateb drwy ddweud nad oedd hynny’n bosibl ac wedi gofyn i’r Pwyllgor ddelio â’r cais fel y cafodd ei gyflwyno.
Cynigiodd y Cynghorydd A. Griffith bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd N Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
7.2 22C211C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt gydag uchafswm uchder i’r hwb o 25m, diametr rotor o 19.24m ac uchafswm uchder o 34.37m ar dir yn Yr Orsedd, Llanddona
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd y penderfyniad wnaed na fydd pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt. Ymwelwyd â’r safle ar 21 Awst 2013.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi gofyn am gael gohirio’r cais er mwyn caniatáu iddo ddelio gyda materion a godwyd gan swyddogion mewn perthynas â’r effaith ar y dirwedd. Nodwyd mai argymhelliad y Swyddogion oedd gwrthod y cais hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd R. O. Jones.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais hwn yn unol â dymuniad yr ymgeisydd.
(Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes nad oedd wedi pleidleisio ar y cais hwn gan nad oedd yn bresennol ar yr ymweliad safle). 7.3 34C648A Cais amlinellol i godi annedd a gwneud gwaith altro ar y fynedfa bresennol ar dir yn Pwros, Rhosmeirch (Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies na fyddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais hwn nac yn pleidleisio oherwydd nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion)
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.
Nodwyd y gwnaed penderfyniad yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 31 Gorffennaf 2003 i ganiatáu’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y safle o fewn ffiniau rhesymegol y pentref.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion yn parhau i fod o’r farn y dylai’r cais gael ei wrthod a nododd ymateb y Swyddogion i resymau’r Aelodau dros ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid oedd unrhyw geisiadau economaidd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
Ceisiadau am Dai Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw geisiadau am dai fforddiadwy i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw geisiadau sy’n tynnu’n groes i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 338 KB 11.1 26C85C – Parciau Home Farm, Marianglas Cofnodion: 26C85C – Cais llawn i godi adeilad amaethyddol i gadw anifeiliaid a storio cyffredinol yn Parciau Home Farm, Marianglas
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Uwch Swyddog yn y Cyngor. Roedd y Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4. y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod CADW, Dŵr Cymru a’r Ymgynghorydd Ecolegol oll wedi ymateb a’u bod yn fodlon gyda’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad. |
|
12.1 19C5Q – Ffordd y Traeth, Caergybi 12.2 19C760D – 7 Plas Road, Caergybi 12.3 19LPA985/CC – 19 Stryd Stanley, Caergybi 12.4 30LPA986/CC – Eglwys St. Pedr, Llanbedrgoch 12.5 34LPA850G/CC – Ysgol y Graig, Llangefni 12.6 35LPA929A/CC – Haulfre, Llangoed 12.7 38C219C – Cae Mawr, Llanfechell 12.8 34LPA984/CC – Stad Ddiwydiannol Penyrorsedd, Llangefni Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 19C5Q – Cais llawn i adeiladu cofeb ar dir i’r gorllewin o’r golofn i gofio’r ymweliad brenhinol yn 1958 yn Ffordd y Traeth, Caergybi.
Cyflwynwyd y cais i’r Cyngor oherwydd ei fod yn ymwneud â thir y mae’r Cyngor yn berchen arno.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod i ben tan 5 Medi 2013 a gofynnodd i’r Pwyllgor roi grym i’r swyddogion weithredu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben os nad oedd yr Adran wedi cael unrhyw sylwadau.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd R. O. Jones.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi grym i weithredu i’r Swyddogion ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ddod i ben.
12.2 19C760D – Cais ôl-weithredol i gadw wal derfyn ac adeiladu balwstrad gwydr yn 7 Ffordd Plas, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor ar gais un o’r Aelodau Lleol (y Cynghorydd T.Ll. Hughes).
Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad. 12.3 19LPA985/CC – Cais llawn i godi plac yn 19 Stryd Stanley, Caergybi.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd mai’r Awdurdod Lleol oedd yn ei wneud.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Cyngor Tref Caergybi bellach wedi ymateb yn ffafriol i’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
12.4 30LPA986/CC – Newid defnydd tir i ffurfio estyniad i’r fynwent bresennol yn Eglwys Sant Pedr, Llanbedrgoch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd mai’r Awdurdod Lleol oedd yn ei wneud.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad. 12.5 34LPA850G/CC – Cais llawn i godi uned feithrin a lle parcio ceir ar dir yn Ysgol y Graig, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan mai’r Cyngor Sir sy’n ei wneud ar dir y mae’n berchen arno.
Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
12.6 35LPA929A/CC – Newid defnydd cyn-fflat yn fwyty/caffi yn Haulfre, Llangoed
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan mai’r Cyngor Sir yw perchen y safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
12.7 38C219C – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt 10kW gydag uchafswm uchder hwb o 15m, diametr rotor o 9.7m ac uchafswm uchder o 19.5m ar dir yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 35LPA929B/CC/LB – Haulfre, Llangoed 13.2 46LPA972/CC – Toiledau Cyhoeddus Ynys Lawd, Ynys Lawd, Caergybi Cofnodion: 13.1 35LPA929B/CC/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig i wneud gwaith altro mewnol ac allanol yn Haulfre, Llangoed
Nodwyd y bydd y cais yn cael ei gyfeirio i sylw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth. 13.2 46LPA972/CC – Cais llawn i addasu’r cyn toiled cyhoeddus yn annedd yn Cyfleusterau Cyhoeddus, Ynys Lawd, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan mai cais gan y Cyngor Sir ydyw ar dir y mae’n berchen arno.
Nodwyd bod caniatâd cynllunio llawn wedi ei roi yn Ebrill 2013 i newid defnydd o’r hen doiled cyhoeddus i fod yn annedd, ynghyd â gwaith altro ac estyn arno. Mae’r ymgeisydd wedi gofyn am fân-newidiadau i’r cais. Mae’r newidiadau yn cynnwys gwneud y 3 ffenestr yn edrychiad ffrynt yn fwy. Ystyrir bod y newidiadau arfaethedig yn dderbyniol ac ni fyddant yn cael effaith ar gymeriad yr adeilad nac yn andwyo mwynderau deiliaid eiddo cyfagos.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. |