Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 8fed Ionawr, 2014 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod y Cyngor Sir yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2013 wedi penderfynu fel a ganlyn ynglyn â’r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio :-

 

·         Bydd Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn gallu cymryd rhan mewn trafodaeth a phleidleisio ar gais fel Aelodau Lleol ar giesiadau o fewn eu Wardiau;

·         Bydd gan Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion nad ydynt wedi bod ar Ymweliad Safle hawl i drafod ac i bleidleisio ar geisiadau.

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheuriadau fel a nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-

 

Y Cynghorydd Nicola Roberts yng nghais 7.1.

 

Datganodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghyswllt cais rhif 13.2 oherwydd y cyfeiriad at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru ond gan ddweud y buasent yn ystyried y cais yn ôl ei rinweddau.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 165 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4ydd Rhagfyr, 2013.                                                                                                                                                                 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2013 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar wneud y newidiadau a ganlyn.

 

  • Eitem 11 – 18C215 – Ni wnaeth y Cynghorydd John Griffiths bledleisio ar y cais oherwydd mai ef yw’r Aelod Lleol.
  • Eitem 14.1 – Gorchymyn Cyngor Sir Ynys Môn (Llefydd Parcio oddi ar y Stryd) (Meysydd Parcio Amrywiol yn Ynys Môn)(1) 2013.
  • Nodi y bydd unrhyw safleoedd parcio talu ac arddangos newydd yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac nid gan y Pwyllgor Gwaith.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 32 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2013 a chawsant eu cadarnhau’n gofnod cywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Nid oedd siarad cyhoeddus.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 956 KB

6.1 –14C135A – Glasfryn, Tyn Lon

6.2 - 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

6.3 - 37C187 – Bryn Garth, Brynsiencyn

6.4 – 41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

6.5 – 42C114A – Tai’n Coed, Pentraeth

6.6 – 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol

 

Cofnodion:

CEISIADAU FYDD YN CAEL EU GOHIRIO

6.1     14C135A – Cais llawn ar gyfer codi annedd a modurdy preifat, chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd a gosod tanc trin carthion ar dir ger Glasfryn, Tyn Lon

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

           6.2     34C553A – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd a rhwydwaith cysylltiol yn Ty’n Coed, Llangefni

 

PENDERFYNWYD dileu y cais oddi ar Raglen y Pwyllgor hyd nes y bydd trafodaethau a gwaith ymgynghori wedi dod i ben ac y gellir gwneud argymhelliad.

6.3     37C187 - Cais amlinellol i godi annedd gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ynghyd ag addasu'r fynedfa bresennol ar dir ger Bryn Garth, Brynsiencyn

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

6.4     41C125B/EIA/RE - Cais llawn ar gyfer codi tri twrbin wynt 800kW - 900kW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 55m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 52m ac uchder blaen unionsyth hyd at uchafswm o 81m, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i lôn A5025, ynghyd a chodi 3 cabinet storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

6.5      42C114A - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd a gosod tanc septig yn Tai’n Coed, Pentraeth

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

6.6      44C294B - Cais llawn i godi dau twrbin gwynt 20kW gydag uchder hwb hyd at 20.5m, diamedr rotor hyd at 13.1m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 27.1m ar dir yn Plas Newydd, Rhosybol

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 356 KB

7.1 - 34C655 – 2 Ty’n Coed Uchaf, Llangefni

 

Cofnodion:

7.1    35C655 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 2 Ty’n Coed Uchaf, Llangefni

 

(Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio arno).

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Gynghorydd fel sy’n cael ei ddiffinio ym mharagraff 4.6.10.  Roedd y cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel oedd yn ofynnol o dan baragraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf oherwydd i lythyr gael ei dderbyn yn gwrthwynebu a hynny ar y diwrnod cyn y Pwyllgor ac nid oedd y Swyddogion wedi cael digon o amser i ystyried cynnwys y llythyr.  Nododd bod y Swyddogion yn parhau i argymell y dylid caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd R O Jones.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 377 KB

11.1 – 13C183A – Seren Las Bodedern     

11.2 – 36C272A - Cae’r Bwl, Rhostrehwfa

 

Cofnodion:

11.1    13C183A - Cais amlinellol gyda mynedfa wedi ei gynnwys ar gyfer codi annedd ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol a gosod system trin carthffosiaeth ar dir ger Seren Las, Bodedern

 

Roedd y cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol o’r awdurdod.  Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Llinos M Hughes, un o’r Aelodau Lleol, i siarad gerbron y cyfarfod. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos M Hughes bod yr ymgeisydd wedi prynu 25 acer o dir ger pentref Bodedern fel daliad amaethyddol.  Dywedodd bod menter fel hon yn beth digon unigryw gan deulu ifanc lleol y dyddiau hyn.  Roedd y Swyddogion Cynllunio wedi dweud yn yr adroddiad bod y cais hwn yn gais yn y cefn gwlad agored.  Nododd y Cynghorydd Huws bod 3 annedd ger safle’r cais hwn a hefyd garej brysur.  Cyfeiriodd at Bolisi 55 a nodi bod angen diogelu’r iaith Gymraeg ac y byddai cael teulu Cymraeg lleol o fantais i’r gymuned leol.  Dywedodd ymhellach y byddai’n awgrymu, fel yr Aelod Lleol, y dylai’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ymweld â’r safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei fod eisiau diweddaru’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.  Roedd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi ymateb gyda gwrthwynebiadau i’r cais ond nid oedd gan Dwr Cymru na’r Adran Ddraenio unrhyw wrthwynebiad i’r cais.  Roedd y Swyddog Hawliau Tramwy wedi dweud bod llwybr cyhoeddus ger y safle ond nad oedd gwrthwynebiad ac roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi dweud bod angen cael gwell llain gwelededd o’r safle ac yr oedd gan yr ymgeisydd ddigon o dir i ddarparu mynediad mewn lle arall.  Nododd bod y cais yn amlwg yn y cefn gwlad o ran polisïau cynllunio, 350m o ffin datblygu Bodedern ac nad oedd chwaith o fewn clwstwr.  Nid oedd y cais oedd wedi ei gyflwyno yn un am annedd amaethyddol.  Yr argymhelliad oedd gwrthod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

11.2    36C272A – Cais llawn i godi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid yn Cae’r Bwl, Rhostrehwfa

 

     Roedd y cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol o’r awdurdod.  Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.

Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd R.O. Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 703 KB

12.1 – 19LPA989/CC – Fferyllfa Rowlands, 62 Stryd y Farchnad, Caergybi

12.2 - 19LPA989A/AD/CC – Fferyllfa Rowlands, 62 Stryd y Farchnad, Caergybi

12.3 – 19LPA990/AD/CC – Siop y Porth, 60 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

 

Cofnodion:

12.1    19LPA989/CC – Cais llawn ar gyfer amnewid tri o’r ffenestri presennol i’r llawr cyntaf a’r ail o’r edrychiad blaen gyda ffenestri traddodiadol dalennog pren yn Fferyllfa Rowland, 62 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod y cais wedi cael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.O. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

 

12.2    19LPA989A/AD/CC – Cais ar gyfer codi arwydd swing estynedig heb ei oleuo yn Fferyllfa Rowland, 62 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod y cais wedi cael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

12.3   19LPA990/AD/CC – Cais ar gyfer codi arwydd swing estynedig heb ei oleuo yn Siop y Porth, 60 Stryd y Farchnad, Caergybi

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod y cais wedi cael ei gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd R.O. Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 413 KB

13.1 – 23C84C – Penrhos, Maenaddwyn

13.2 – 38C277B – Caerdegog Uchaf, Llanfechell

 

Cofnodion:

13.1     23C84C - Cais i bennu os oes angen caniatad blaenorol ar gyfer codi sied   amaethyddol ar gyfer storio gwair, gwellt a peiriannau yn Penrhos, Maenaddwyn

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn weithiwr i’r Cyngor. 

 

Penderfynwyd nad oedd angen caniatâd yr Awdurod Cynllunio Lleol ymlaen llaw ar gyfer y datblygiad uchod a’i fod yn gyfystyr â datblygiad a ganiateir.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

13.2      38C277B - Cais llawn ar gyfer codi twrbin wynt 50kW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 24.6m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 19.2m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.2m ynghyd a gwaith cysylltiedig ar dir yn Caerdegog Uchaf, Llanfechell

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y cais hwn wedi ei ddwyn gerbron y cyfarfod er mwyn i’r Pwyllgor wneud penderfyniad oherwydd bod yr ymgeisydd wedi penderfynu apelio i Arolygaeth Gynllunio Cymru oherwydd bod yr Awdurdod wedi methu â gwneud penderfyniad arno.  Roed y Swyddogion Cynllunio yn gofyn am gyfarwyddyd gan y cyfarfod ynglŷn â sut i ddelio â’r apêl.

 

Dywedodd bod cais hwyr wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd i gael siarad yn gyhoeddus ar y mater gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.  Rhoddwyd cyngor cyfreithiol i Gadeirydd y Pwyllgor yn y blaen-gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio ac roedd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol wedi rhoi’r cyngor hwnnw i’r ymgeisydd hefyd cyn y cyfarfod.  Y cyngor cyfreithiol a roddwyd i’r Cadeirydd oedd na ddylid caniatáu i’r ymgeisydd siarad yn gyhoeddus oherwydd nad oedd y cais yn un i’w benderfynu gan y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd wedi penderfynu apelio i’r Arolygaeth Gynllunio oherwydd diffyg gwneud penderfyniad;  Nid oedd y Swyddogion Cynllunio wedi paratoi’r adroddiad yn y disgwyl y byddai siarad cyhoeddus yn digwydd ar y cais hwn; byddai’n creu annhegwch o blaid y gwrthwynebwyr pe baent yn cael siarad ar y cais.  Ategodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ei gyngor unwaith yn rhagor na ddylai’r Cadeirydd ganiatáu i’r ymgeisydd siarad ar y cais hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion wedi nodi yn yr adroddiad beth oedd y prif faterion ynglŷn ag egwyddor y datblygiad, effaith Weledol ac effaith ar y Tirlun a Mwynderau Preswyl.  Trwy bod yr ymgeisydd wedi penderfynu apelio i’r Arolygaeth Gynllunio oherwydd diffyg gwneud penderfyniad ar y cais, roedd y Swyddogion Cynllunio yn hyderus i wrthwynebu’r apêl ar y sail y byddai yna effeithiau andwyol sylweddol yn weledol ac effeithiau ar y dirwedd ar osodiad yr AHNE yn yr ardal a hefyd effeithiau Cronnol Andwyol ar y Dirwedd a Gweledol ar yr AHNE tua ffin yr Ardal Cymeriad Tirwedd 5.  Gofynnodd a oedd y Pwyllgor Cynllunio yn fodlon i’r Swyddogion Cynllunio wrthwynebu’r apêl ar y materion hynny.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes bod hwn yn unigryw gan fod dros 100 o lythyrau o gefnogaeth i’r cais yn yr ardal a dim ond ychydig o wrthwynebiadau.  Dywedodd bod Cardegog  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.