Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 2ail Ebrill, 2014 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn  unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganoddy Cynghorydd Kenneth Hughes ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â chais 12.5.

 

            Datganodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith a Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â cheisiadau 6.1 a 7.4 oherwydd y cyfeiriad at dyrbinau gwynt o fewn Maniffesto Plaid Cymru ond dywedodd y byddent yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.

3.

Cofnodion cyfarfod 5 Mawrth 2014 pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 128 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 19 Mawrth, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 19 Mawrth, 2014 a chawsant eu cadarnhau’n gofnod cywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Roedd Siaradwr o'r Cyhoedd mewn perthynas â chais 7.3.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 197 KB

6.1 41C125B/EIA/RE - Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

Cofnodion:

6.1 41C124B/EIA/RE - 41C124B/EIA/RE - Cais llawn ar gyfer codi tri thyrbin gwynt 800kW - 900kW gydag uchder hwb hyd at 55m,  rotor hyd at 52m ar draws ac uchder hyd at 81m at flaen y llafn, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i’r A5025, ynghyd â chodi 3 chabinet storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau’n Codi pdf eicon PDF 725 KB

7.1 14C135A – Glasfryn, Tyn Lon

 

7.2 19C1046C/LB – Soldiers Point, Caergybi

 

7.3 33C302 – Penffordd, Gaerwen

 

7.4 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol

Cofnodion:

7.1       14C135A – Cais llawn ar gyfer codi annedd a garej breifat, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â gosod tanc trin carthion ar dir ger Glasfryn, Tyn Lôn

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol ar 5 Mawrth 2014 wedi penderfynu ymweld â’r safle i asesu’r cynnig ac yn arbennig y fynedfa arfaethedig i’r safle, cyn gwneud ei benderfyniad. Roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu’r fynedfa fel ag yr oedd yn wreiddiol a hynny oherwydd gwelededd is-safonol.  Ymwelwyd â’r safle ar 19 Mawrth 2014. Yn y cyfamser, ac yn dilyn trafodaethau gyda’r Awdurdod Priffyrdd, cyflwynwyd cynnig newydd er mwyn dod dros y gwrthwynebiad o ran diogelwch y briffordd ac y mae’r cynnig hwnnw yn awr yn destun ymgynghori hyd 10 Ebrill.  Dywedwyd wrth yr Aelodau am y cynnig newydd tra roeddent ar y safle.  Roedd yr Awdurdod Priffyrdd yn cadarnhau ei fod bellach wedi tynnu ei wrthwynebiad i’r cynnig yn ôl.  Mae’r argymhelliad felly yn un o gymeradwyo ar yr amod na cheir unrhyw faterion newydd yn codi cyn y daw’r cyfnod ymgynghori i ben ac yn amodol ar wneud cytundeb Adran 106 fel oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ar yr amod na fydd unrhyw faterion eraill yn codi cyn daw’r cyfnod ymgynghori i ben nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais; yn amodol ar gytundeb adran 106 i gyfyngu’r defnydd o’r annedd i bobl leol sydd angen tŷ fforddiadwy yn unol â gofynion Polisi PT2 ac yn amodol ar unrhyw ofynion ychwanegol mewn perthynas â threfniadau mynediad a’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  19C1046C/LB – Cais am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer dymchwel rhan or tŷ yn Soldiers Point, Caergybi

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth wedi penderfynu y dylid cynnal ymweliad safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais hwn ac i hynny ddigwydd ar 19 Mawrth 2014.  Roedd Tîm Atal Tân Bwriadol Llywodraeth Cymru wedi ymweld â’r safle ac wedi nodi bod yr adeilad sy’n destun y cais yn rhoi mynediad i’r prif dŷ.  Roedd y tîm yn argymell y byddai dymchwel yr adeilad oedd yn destun y cais yn rhoi diogelwch yn y tymor hir i’r prif dy.  Dywedodd y Swyddog - ers i’r adroddiad gael ei ddrafftio, fe gafwyd ymatebion gan y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru, y Grŵp Georgaidd, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd a hefyd Swyddog Cadwraeth y Cyngor ei hun i gyd yn dweud eu bod yn fodlon gyda’r cynnig. Ni chredir y byddai gwaith dymchwel arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar bwysigrwydd pensaernïol na hanesyddol yr adeilad a bydd yn cyfrannu tuag at wella diogelwch y safle a sicrhau y bydd y tŷ gwreiddiol yn goroesi.  Yr argymhelliad felly yw caniatáu, ar yr amod na cheir unrhyw sylwadau gwrthwynebus gan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau a oedd yn gwyro pdf eicon PDF 672 KB

10.1 19C452E – Canada Gardens, Ffordd Llundain, Caergybi

 

10.2 27C95C – Plas Llanfigael, Llanfigael

 

10.3 33C125L – Cynlas, Gaerwen

Cofnodion:

10.1  19C452E –Cais amlinellol ar gyfer codi 18 o anheddau ar dir yn Canada Gardens, Ffordd Llundain, Caergybi

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y byddai caniatáu tai ar safle’r cais sydd wedi ei ddyrannu ar gyfer defnydd busnes yn un fyddai’n tynnu’n groes i Bolisi 2 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Pholisïau B2 a B4 Cynllun Fframwaith Gwynedd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais o fewn ffin ddatblygu Caergybi ond ei fod wedi ei ddyrannu ar gyfer defnydd busnes/diwydiannol yn y Cynllun Lleol.  Fodd bynnag, roedd cais amlinellol am ddatblygiad preswyl ar dir yn Canada Gardens wedi ei ganiatáu ar apêl yn 2009 ac roedd y Swyddogion o’r farn  nad oedd unrhyw newid mawr wedi bod yn y sefyllfa ers yr amser hwnnw ac a fyddai’n arwain at benderfyniad gwahanol.  Pe bai unrhyw newid mewn pwyslais i’w weld, byddai’r pwyslais hwnnw yn ymwneud â lleoli datblygiadau diwydiannol ac/neu fusnes y tu allan i’r dref gyda datblygu Parc Cybi.  Roedd dynodiad busnes/cyflogaeth safle’r cais wedi ei wneud yn wreiddiol yn 1996.  Nid oedd lle i gredu y byddai caniatáu’r cais yn cael effaith niweidiol ar y cynllun datblygu.  Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau ar sail dechnegol i’r datblygiad gan unrhyw un o’r ymgynghorwyr statudol ac roedd y materion hyn i’w hystyried ar y cyfnod apêl.  Yr argymhelliad oedd cymeradwyo’r cais gyda Chytundeb Adran 106 i ddarparu tai fforddiadwy a chyfraniad terfynol tuag at le chwarae ar Ffordd Llundain a threfniadau cynnal a chadw ar gyfer y ffens acwstig.

 

Mynegodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones oedd yn siarad fel Aelod Lleol bryderon ynglŷn â’r sefyllfa draffig o fewn ac o amgylch safle’r cais a gofynnodd i’r Swyddog Priffyrdd gadarnhau bod yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon na fydd unrhyw broblemau’n codi o ganlyniad i’r datblygiad.  Dywedodd y Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod y cais yn cydymffurfio â’r gofynion technegol.  Roedd effeithiau’r cynnig ar y briffordd wedi ei sgriwtineiddio ar apêl ac roedd yr Arolygwr yn fodlon nad oedd y pryderon a leisiwyd yn ddigonol i warantu gwrthod y cais, ac roedd y Swyddogion Priffyrdd yn cyd-fynd â’r farn honno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gais na diddordeb busnes ar hyn o bryd yn y tir dan sylw.  Ceisiodd gael eglurhad o beth yr oedd dynodiad tai fforddiadwy yn ei olygu yn yr amgylchiadau. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod Cytundeb Adran 106 safonol gan Awdurdod Lleol am dai fforddiadwy yn dweud na ddylai annedd fforddiadwy gael ei gwerthu am fwy na chyfran benodol o werth yr annedd ar y farchnad agored yn amodol ar drafod gyda’r ymgeisydd yn seiliedig ar yr ystadegau tai yn ardal y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn credu bod yr ardal yn addas ar gyfer datblygiad o’r fath a dywedodd ei fod yn credu ei bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd ceisiadau i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 984 KB

12.1 15C116E – 3 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth

 

12.2 19C967C – Cyfleusterau Chwaraeon Millbank, Caergybi

 

12.3 22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona

 

12.4 34LPA121R/VAR/CC – Ysgol y Bont, Llangefni

 

12.5 38C237B – Careg y Daren, Llanfechell

 

Cofnodion:

  12.1    15C115E – Cais llawn i wneud y gwaith addasu ac ehangu yn 3 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers gerbron y Pwyllgor fel Aelod Lleol gan wneud y pwyntiau canlynol i gefnogi’r cais –

 

  Mae safle’r cais mewn lle amlwg iawn ar y ffordd arfordirol rhwng  Niwbwrch ac Aberffraw ym mhentref Malltraeth.

 

  Roedd caniatâd i ddatblygu’r safle arferai fod yn fferm a thir ond gyda’r adeiladau wedi mynd a’u pen iddynt yn gynnar yn 2000.

 

  Mae’r unedau ar y safle bellach wedi eu cwblhau i safon uchel a byddai’r cais, pe gâi ei ganiatáu, yn cwblhau’r datblygiad ac yn gwella’r ardal sydd i’w gweld yn blaen.

 

  Roedd llythyr o gefnogaeth wedi ei dderbyn gan ddeiliaid y ffermdy gwreiddiol yn cefnogi’r cynigion. 

 

  Mae angen cael yr estyniad o’r maint a fwriedir er mwyn darparu ystafelloedd gwely ychwanegol i ganiatáu ar gyfer darparu gofal ysbaid i ddau blentyn awtistig y teulu sydd wedi elwa o aros yn y cefn gwlad ar y penwythnosau ac yn ystod gwyliau.

 

  Mae datblygiad tebyg wedi ei ganiatáu yn flaenorol yn yr ardal mewn lle unig lle rhoddwyd caniatâd cynllunio am hyd at 5 uned.  Roedd yr egwyddor o gysondeb yn berthnasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol i ateb datganiad a wnaed gan yr ymgeiswyr, ac na fyddai’n pleidleisio ar y mater.  Cyfeiriodd at yr ystyriaethau a ganlyn –

 

  Mae’r adeilad penodol dan sylw yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel gweithdy

 

  Mae’r ymgeiswyr ar hyn o bryd yn byw mewn bwthyn un ystafell welygydag ystafell fyw, cegin ac ystafell ymolchi.

 

  Mae ganddynt dri o wyrion ac un wyres.  Mae dau o’r bechgyn yn

awtistig sy’n golygu bod ganddynt anghenion ymddygiadol.

 

  Mae’r plant yn byw gyda nain a thaid o leiaf dair gwaith yr wythnos ac

mae angen trefniadau ar wahân i ddarparu ystafelloedd cysgu i’r ddau

fachgen awtistig er mwyn cyfarfod â’u hanghenion ymddygiadol; yr

wyres a hefyd modryb oedrannus fydd yn symud i fyw gyda’r teulu yn

y dyfodol agos ac un y mae’r ymgeiswyr yn gofalu amdani.  Mae’n

bwysig ei bod yn cael preifatrwydd er mwyn hyrwyddo ei

hannibyniaeth.

 

  Mae tŷ presennol yr ymgeiswyr yn rhy fychan ac yn golygu bod yn

rhaid defnyddio’r ystafell fyw ar gyfer trefniadau cysgu.

 

  Nid yw’r cynnig yn cael unrhyw effaith ar fwynderau ac ni chafwyd

unrhyw wrthwynebiadau.  Mae yna lythyrau gan gymdogion yn cefnogi.

 

  Bydd yr estyniad yn ychwanegu at ac yn cwblhau’r gyfres o

fythynnod.

 

  Mae’r cynnig yn un o 5 bwthyn ac un o 15 mewn clwstwr o anheddau

o wahanol siapiau a meintiau.  Gofynnir i’r Pwyllgor gymryd golwg

gadarnhaol ar y cais gan y bydd yn cyfoethogi’r teulu, ac yn fanteisiol

iddynt.

 

Roedd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yn cydnabod yr amgylchiadau personol oedd ynglŷn â’r cais ond roedd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 6 MB

13.1 39C285D – Lon Gamfa, Porthaethwy

 

13.2 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

Cofnodion:

13.1    39C285D – Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio - yn unol â thelerau’r cytundeb Adran 106 y caniatawyd y cais yn wreiddiol yn unol ag ef, roedd 6 uned tai fforddiadwy i’w ddarparu.  Yn dilyn cyflwyno gwybodaeth mewn perthynas ag ymarferoldeb y datblygiad arfaethedig ac yn dilyn ymgynghori gyda Swyddog Tai Fforddiadwy’r Cyngor, cafwyd cytundeb y byddai tair uned tai fforddiadwy’n cael eu darparu ac felly yn ostyngiad i’r ddarpariaeth wreiddiol o 3.  Hefyd roedd cynnig y dylai amod cynllunio (23) ar y caniatâd gwreiddiol gael ei newid i ddweud y byddai asesiad llygredd tir yn cael ei wneud wrth i’r datblygiad fynd yn ei flaen yn hytrach na cyn dechrau’r datblygiad. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans pam nad oedd yn bosibl i’r datblygwr fynd yn ei flaen gyda’r bwriad gwreiddiol o 6 uned tai fforddiadwy.  Dywedodd y Cynghorydd John Griffith ei fod yn deall bod angen darpariaeth 30% o dai fforddiadwy ac roedd yn bryderus y byddai caniatáu’r gostyngiad yn y ddarpariaeth o unedau tai fforddiadwy ar y cais hwn yn gosod cynsail i ddatblygwyr yn y dyfodol. Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts yn cytuno ac yn gwrthwynebu’r gostyngiad o ystyried nad oedd unrhyw leihad cyfatebol yn nifer y tai oedd i’w darparu ar y datblygiad. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid gwrthod y newid ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol na fyddai gostwng nifer yr unedau tai fforddiadwy yn gosod cynsail ac er bod y polisi yn darparu canllaw o 30% y mae hefyd yn caniatáu peth hyblygrwydd i adlewyrchu’r ffaith y bydd datblygiadau gwahanol mewn gwahanol leoliadau yn golygu y gall yr anghenion tai fforddiadwy newid oherwydd ffactorau lleol a hynny’n golygu na ellir mynnu ar y ddarpariaeth 30%.  Roedd y mater wedi ei drafod gyda Swyddog Tai Fforddiadwy’r Cyngor ac felly roedd sail gadarn i’r argymhelliad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y newid i amod cynllunio (23) yn cael ei ganiatau ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd -

 

  Gwrthod y newid i’r cytundeb 106 ynghylch darparu cartrefi fforddiadwy

  Cymeradwyo’r newid i Amod (23) yn y caniatâd cynllunio fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

13.2    46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

 

Tynnwyd sylw at ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 7 Mawrth 2014 yn nodi ei resymau dros beidio â galw’r cais hwn i mewn, er gwybodaeth y Pwyllgor.  Gofynnwyd i’r Aelodau nodi bod manylion manwl yr ymrwymiad cynllunio yn awr i’w setlo gyda’r amodau’n cael eu cwblhau a bydd adroddiad ar hynny’n cael ei ddarparu cyn rhyddhau’r penderfyniad cynllunio. 

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones fel Aelod Lleol ei fod yn dymuno iddo gael ei nodi nad oedd y Gweinidog Tai ac Adfywio wrth iddo ddod i’w benderfyniad i beidio â galw’r cais i mewn wedi ystyried rhinweddau’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.