Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 7fed Mai, 2014 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb fel a ganlyn:-

 

Mr. John A. Rowlands, Technegydd (Adran Priffyrdd) ar gyfer cais 7.2 (diddordeb personol); Y Cynghorydd K.P. Hughes ar gyfer cais 7.3 (personol a niweidiol);

Y Cynghorydd Jeff M. Evans ar gyfer cais 12.2 (personol a niweidiol); Y Cynghorydd W.T. Hughes ar gyfer cais 12.6 (personol a niweidiol);

Mr. Huw Percy, Prif Beiriannydd ar gyfer cais 12.8 (personol a niweidiol); Y Cynghorydd Alwyn Rowlands ar gyfer cais 13.2 (personol a niweidiol).

 

Gwnaeth y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith a Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb oherwydd y cyfeiriad at dyrbinau gwynt o fewn Maniffesto Plaid Cymru ond dywedasant y byddent yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u llofnodi, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Ebrill, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Ebrill, 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 125 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 16 Ebrill, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 16 Ebrill, 2014 a chawsant eu cadarnhau’n gofnod cywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Roedd Siaradwr o’r Cyheodd mewn perthynas â cheisiadau 7.3, 12.9, 12.11, 12.12.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 249 KB

6.1  41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

Cofnodion:

6.1  41C125B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer codi tri tyrbin gwynt 800kW – 900kW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 55m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 52m ac uchder blaen unionsyth hyd at uchafswm o 81m, gwelliannau i’r fynedfa presennol i lôn yr A5025, ynghyd â chodi 3 chabinet storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Menai Bridge

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 720 KB

7.1  15C116E – 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth

7.2  22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona

7.3  38C237B – Careg y Daren, Llanfechell

7.4  44C294B – Plas Newydd, Rhosybol

Cofnodion:

7.1  15C116E Cais llawn i addasu ac ehangu yn 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth

 

Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Ebrill 2014 fe benderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gynnal ymweliad safle cyn gwneud penderfyniad. Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 16 Ebrill 2014.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cynnig yn un i godi estyniad mawr yng nghefn yr eiddo ynghyd â chreu llawr cyntaf ar gyfer yr adeilad allanol presennol. Bydd yr eiddo dair gwaith yn fwy na’r annedd bresennol ac oherwydd maint yr estyniad argymhellwyd gwrthod y cais.

 

Gan annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol yn unig, dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith fod y teulu yn dymuno cael lle i’w wyrion a fydd yn aros gyda nhw dair gwaith yr wythnos. Mae dau o’r plant yn awtistig ac maent angen llawer o ofal gan aelodau o’r teulu ac mae’n rhaid gwneud trefniadau ar wahân i ddarparu ystafelloedd gwely ar gyfer y ddau fachgen i gwrdd â’u hanghenion ymddygiadol. Dywedodd hefyd y byddai modryb oedrannus yn symud i fyw gyda’r teulu yn y dyfodol agos. Nid yw’r cynnig yn cael unrhyw effaith ar fwynderau ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau, dim ond llythyrau sy’n cefnogi gan y cymdogion.

 

Ategodd Aelod Lleol, y Cynghorydd P. S. Rogers y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Griffith gan ddweud bod gwir angen i’r ymgeiswyr gael lle mwy i fyw oherwydd bod ganddynt rôl fel nain a thaid i blant gydag anghenion arbennig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn cydymdeimlo gyda’r ymgeiswyr a’u hangen dybryd i gael eiddo mwy ar gyfer eu hwyrion a’r fodryb. Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Roedd y Cynghorydd K. P. Hughes hefyd yn cydymdeimlo gyda’r ymgeiswyr ond dywedodd nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes felly y dylid gwrthod y cais. Eiliwyd y cynnig i wrthod y cais gan y Cynghorydd Alwyn Rowlands.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

7.2  22C40A – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a modurdy a chodi annedd  a modurdy newydd, codi stablau, gosod system garthffosiaeth ac addasu’r fynedfa bresennol yn Cae Maes Mawr, Llanddona

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais, gadawodd Mr J.A. Rowlands, Technegydd (Priffyrdd) y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Cafodd y cais ei gyflwyno’n wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol.

 

Dywedodd Aelod Lleol, sef y Cynghorydd Lewis Davies, fod Cyngor Cymuned Llanddona wedi gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ymweld â’r safle i bwyso a mesur yr effaith ar yr AHNE a Llwybr yr Arfordir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid ymweld â’r safle ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd R.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 320 KB

10.1  31C134D – Cae Cyd, Llanfairpwll

Cofnodion:

10.1  31C134D Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 5 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Cae Cyd, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond roedd modd ei gefnogi dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod caniatâd ar gyfer tair annedd ar y tir ar hyn o bryd. Nodwyd bod angen gwneud newid i’r adroddiad i’r Pwyllgor o ran y pellter lleiaf rhwng talcen yr annedd agosaf y bwriedir ei chodi a’r eiddo o’r enw Cae Cyd, sef pellter oddeutu 4m ac nid 6m.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 266 KB

11.1  30C728A/DA – Meusydd, Llanbedrgoch

Cofnodion:

11.1  30C728A/DA – Cais am faterion a gadwyd yn ôl i godi 1 annedd ar dir ger Meusydd, Llanbedrgoch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn Swyddog perthnasol yn yr Awdurdod. Mae’r cais wedi ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. V. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – 11C554B – The Sail Loft, Porth Amlwch

12.2 – 19C1136 – Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi

12.3 – 19C5R – Ffordd y Traeth, Caergybi

12.4 – 19C792G – Caffi’r Parc, Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

12.5 – 19LPA997/CC – 5 Stryd Stanley, Caergybi

12.6 – 20C277G/VAR – Tai Hen, Rhosgoch

12.7 – 34LPA998/CC – 1 Isgraig, Llangefni

12.8 – 39C72E – Clwb Rygbi Porthaethwy, Porthaethwy

12.9 – 43C32D/DA – To Gwyrdd, Pontrhydybont

12.10 – 46C38S/ECON – Sea Shanty House, Lôn St Ffraid, Trearddur

12.11 – 46C397D – Bryniau, Lôn Penrhyn Garw, Trearddur

12.12 – 46C66J/FR – Garej Progress, Lôn St Ffraid, Trearddur

 

Cofnodion:

12.1  11C554B – Cais llawn i addasu ac ehangu yn The Sail Loft, Porth Amlwch

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  19C1136 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad symudol i ddarparu meithrinfa yn Ysgol Gynradd Kingsland, Kingsland, Caergybi

 

Ar ôl gwneud datganiad o ddiddordeb yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Jeff M. Evans y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio y dylid gohirio’r cais oherwydd materion parcio a phriffyrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais fel bod modd cael trafodaethau ynghylch materion priffyrdd.

 

12.3  19C5R – Cais llawn diwygiedig ar gyfer adeiladu cofeb ffisegol ar dir i’r gorllewin o’r heneb i goffau’r ymweliad Brenhinol yn 1958 yn Ffordd y Traeth, Caergybi

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio mai’r dyddiad diwethaf ar gyfer derbyn sylwadau oedd 12 Mai 2014. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K. P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn codi yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais hwn.

 

12.4  19C792G – Cais llawn ar gyfer adeiladu storfa biniau yn Caffi’r Parc, Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio mai’r dyddiad diwethaf ar gyfer derbyn sylwadau oedd 9 Mai 2014. Argymhellir cymeradwyo’r cais ar yr amod na fydd unrhyw faterion newydd yn codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau yn codi yn ystod gweddill y cyfnod ymgynghori nad ydynt eisoes wedi cael sylw wrth benderfynu’r cais hwn.

 

12.5  19LPA997/CC – Cais llawn ar gyfer amnewid pedwar o’r ffenestri presennol i’r llawr cyntaf a’r ail o’r edrychiad blaen gyda ffenestri traddodiadol dalennog pren yn 5 Ffordd Stanley, Caerybi

 

Roedd y cais hwn wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor oedd yn gwneud y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 587 KB

13.1  11C554C/LB – Llofft Hwyliau, Porth  Amlwch

13.2  12C266K – ABC Power Marine, Porth Lafan, Biwmares

13.3  39C285D – Lon Gamfa, Porthaethwy

Cofnodion:

13.1  11C554C/LB – Cais adeilad rhestredig ar gyfer addasu ac ehangu The Sail Loft, Porth Amlwch

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio y byddai’r cais uchod yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru i’w benderfynu yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

13.2  12C266K Cais ôl-weithredol ar gyfer addasu dyluniad y ac addasiadau cyffredinnol i unedau 2 i 5 yn A.B.C. Power Marine, Porth Lafan, Biwmares

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor oedd biau’r tir. Roedd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi cymeradwyo’r cais ym mis Mehefin 2013.

 

Roedd y cais yn ymwneud ag unedau 2-5 yn unig ac nid oedd yn cynnwys uned 1 fel y dywedwyd yn yr adroddiad i’r Pwyllgor ym mis Mehefin 2013. Cymeradwywyd mân-newid i ddyluniad uned 1 gan yr Awdurdod Lleol yn 2011. Bydd angen caniatâd cyfreithiol newydd yn hytrach nag amrywio’r cytundeb cyfredol a gwblhawyd mewn perthynas â chaniatâd cynllunio 12C266C. Mae geiriad yr amod arfaethedig hefyd wedi ei ddiwygio fel bod unrhyw nwyddau a werthir neu unrhyw wasanaethau a ddarperir yn ymwneud yn bennaf â materion cychod, arforol neu bysgota.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

13.3  39C285D Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai ar dir yn Lon Gamfa, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio fod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2014 wedi penderfynu gwrthod y newid i’r penderfyniad a wnaed yn flaenorol mewn perthynas â’r anheddau fforddiadwy, a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog. Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad gohiriwyd y cais yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf fel bod modd i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais.

 

Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2013 penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gymeradwyo’r cais ar yr amod bod chwech o’r unedau yn fforddiadwy ar 85%. Mae’r cais cynllunio am 17 o anheddau a byddai 30% o unedau fforddiadwy yn cyfateb i 5.1 o anheddau. Yn dilyn trafodaeth gyda’r Swyddogion cytunwyd i ostwng nifer y tai fforddiadwy mewn perthynas â’r datblygiad hwn i 3. Cysylltwyd gydag Ymgynghorydd Tai Fforddiadwy’r Cyngor yn dilyn y penderfyniad a wnaed gan yr Aelodau ac mae hi wedi dweud bod sicrhau 3 o anheddau fforddiadwy ar 85% o’u gwerth ar y farchnad yn ganlyniad llwyddiannus o gofio’r amcangyfrif o bris gwerthu’r anheddau, sef £116,000.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio hefyd fod yr ymgeisydd wedi datgan y bydd yn apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais. Adroddwyd nad oedd y Swyddog Cynllunio na’r Ymgynghorydd Tai Fforddiadwy yn gallu cynrychioli’r Cyngor mewn apêl o’r fath.

 

Yn dilyn ystyriaethau PENDERFYNWYD  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.