Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Mehefin, 2014 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel a restrir uchod.

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor, yn absenoldeb yr Is-Gadeirydd, a oedd yn dymuno penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.  Ym marn yr Aelodau, nad oedd angen hynny.

 

Tynnodd y Cynghorydd Lewis Davies sylw at y ffaith mai dim ond 6 allan o gyfanswm y Pwyllgor o 11 Aelod oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwn a gofynnodd a oedd hynny’n cael ei ystyried fel digon i allu dod i benderfyniadau democrataidd mewn ffordd a oedd yn dryloyw a theg.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol - o dan ddarpariaethau Cyfansoddiad y Cyngor, mai’r cworwm ar gyfer cyfarfod yw chwarter o gyfanswm nifer yr Aelodau h.y. 3 Aelod yn achos y Pwyllgor hwn.  Gan fod cworwm o Aelodau’n bresennol, nid oedd unrhyw reswm mewn cyfraith felly pam na ddylai’r cyfarfod gael ei gynnal.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yng nghais rhif 7.1

 

Datganodd y Cynghorydd Lewis Davies a John Griffith ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â cheisiadau 6.1 a 7.4 ar y sail bod cyfeiriad at dyrbinau gwynt ym maniffesto Plaid Cymru.  Dywedodd y ddau y byddent yn cadw meddwl agored ac yn ystyried pob cais ar eu rhinweddau eu hunain.

 

Datganodd Mr. John A. Rowlands, Technegydd Priffyrdd ddiddordeb yng nghais rhif 7.2

           

3.

Cofnodion Cyfarfod 7ed Mai, 2014 pdf eicon PDF 85 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar dyddiadau canlynol -

 

·         7ed  Mai, 2014

·         8ed Mai, 2014

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Mai ac 8 Mai 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. 

4.

Ymweliadau Safle 21 Mai, 2014 pdf eicon PDF 140 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 21 Mai 2014 a chawsant eu cadarnhau’n gofnod cywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai siaradwyr cyhoeddus yng nghyswllt ceisiadau 7.2 a 7.5

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

6.1 41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1       41C125B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer codi tri tyrbin gwynt 800kW-900kW gydag uchder hwb hyd at uchafswm o 55m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 52m ac uchder blaen unionsyth hyd at uchafswm o 81m, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i lôn A5025, ynghyd â chodi 3 chabinet storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau'n Codi

7.1 19C1136 – Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi

 

7.2 22C40A – Cae Maes Mawr, Llanddona

 

7.3 38C237B – Careg y Daren, Llanfechell

 

7.4 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol

 

7.5 – 46C38S/ECON – Sea Shanty House, Lôn St Ffraid, Trearddur

 

ADRODDIAD I DDILYN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1       19C1136 – Cais llawn ar gyfer lleoli adeilad symudol i ddarparu meithrinfa yn Ysgol Kingsland

 

Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yn y cais hwn, arhosodd yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y mater.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio i’r drafodaeth ar y cais gael ei gohirio yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ym Mai 2014 oherwydd materion priffyrdd.  Roedd y materion hynny bellach wedi eu datrys gyda llythyr o gefnogaeth wedi ei dderbyn gan Caban Kingsland yn cadarnhau’r trefniadau parcio.  Ers derbyn y llythyr o gefnogaeth, mae’r Adran Priffyrdd wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig.  Yr argymhelliad felly yw un o ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei ganiatáu ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2       22C40A – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a modurdy a chodi annedd a modurdy newydd, codi stablau, gosod system trin carthffosiaeth ac addasu’r fynedfa bresennol yn Cae Maes Mawr, Llanddona

Roedd y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei alw i mewn i’r Pwyllgor gan ddau o’r Aelodau Lleol.

 

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth Mr. John Alun Rowlands, Technegydd Priffyrdd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr. Ifan Rowlands oedd wedi gofyn am gael siarad yn y cyfarfod i gefnogi’r cais, yn bresennol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones oedd yn annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol ei fod yn siarad i gyfleu safbwyntiau nifer o breswylwyr pryderus yn Llanddona yn ogystal â safbwynt unfrydol y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais hwn am annedd fawr ar safle arfordirol o fewn AHNE.  Dygodd sylw at y materion canlynol fel rhai a oedd yn peri pryder.

 

           Mae cadw cymeriad y dirwedd hanesyddol o amgylch Traeth Baner Las Llanddona yn bwysig i gymuned Llanddona ac i’r Cyngor Cymuned.  Mae’r ardal arfordirol yn gyforiog o glytwaith o gaeau gyda bythynnod yma ac acw; roedd Cae Maes Mawr yn un o’r hen fythynnod hyn cyn iddo gael ei addasu’n fyngalo.

           Bydd y datblygiad ar y maint a fwriedir gydag annedd â 5 o ystafelloedd gweled gyda 5 ystafell ymolchi ensuite a garej a stablau yn difetha’r olygfa o’r traeth a byddai’n ddolur llygad.

           Mae llethrau Traeth Llanddona yn ardal lle ceir llithriadau tir ac fe gafwyd enghraifft ddifrifol o hyn rhyw ddwy flynedd yn ôl.  Mae rhan o’r llwybr arfordirol wedi ei gau yn ddiweddar ac mae Adran Priffyrdd yn ymchwilio ar hyn o bryd i graciau yn y ffordd i lawr i’r traeth.  Rhaid rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r posibilrwydd y ceir mwy o lithriadau tir o ganlyniad i’r datblygiad mawr hwn.

           Mae’r ymgeisydd yn dymuno cloddio i gryn ddyfnder oherwydd bod y datblygiad arfaethedig yn sylweddol uwch na’r byngalo gwreiddiol gydag effeithiau posibl i’r ffordd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Dim un i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Dim un i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 25C163C – Tyddyn Waen Barn, Bachau

 

10.2 27C102 – Penrhos, Llanfachraeth

 

ADRODDIAD I DDILYN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1    25C163C – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw'n ôl i godi un annedd ar dir ger Tyddyn Waen Barn, Bachau

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn ond y gellid ei gefnogi dan ddarpariaethau polisi HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Roedd y cynnig yn dderbyniol mewn termau tirweddol cyffredinol ac roedd yn ymdoddi’n dda gyda’r pethau oedd o’i gwmpas.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2    27C102 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd presennol sydd wedi ei ddifrodi gan dân a chodi annedd yn ei le ym Mhenrhos, Llanfachraeth

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i Gynllun Lleol Ynys Môn, ond gyda’r Swyddogion yn bwriadu ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cynnig oedd hwn i ddymchwel annedd oedd wedi ei difrodi gan dân a chodi annedd yn ei lle fydd yn adlewyrchu’r annedd wreiddiol ac a fydd yn cael ei hadeiladu ar sail tebyg am debyg. Er nad yw’r safle wedi ei leoli o fewn unrhyw anheddiad a nodir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a’i fod yn groes i Bolisi 53 y Cynllun Lleol sydd yn rhwystro codi anheddau newydd ar dir yn y cefn gwlad agored ac eithrio lle mae’r holl feini prawf rhestredig wedi eu bodloni, fe geir annedd ar y safle er na ellir byw yn yr annedd oherwydd difrod tân ac roedd yn cael ei ystyried bod yr amgylchiadau yn yr achos hwn yn cyfiawnhau rhoi caniatâd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1 23C266A – Gwenfro Uchaf, Talwrn

 

ADRODDIAD I DDILYN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1    23C266A – Cais llawn ar gyfer codi sied a ty gwydr ynghyd a chreu estyniad i'r cwrtil preswyl yn Gwenfro Uchaf, Talwrn

 

Cyflwynwyd y cais i sylw’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn Swyddog perthnasol wedi ei nodi yng Nghyfansoddiad y Cyngor.  Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais y unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

12.

Gweddill y Ceisiadau

12.1 29LPA996/CC – Maes Maethlu, Llanfaethlu

 

12.2 30C392A – Maes Parcio Cyhoeddus a Thir Agored Cyfagos, Ffordd Bangor, Min yr Afon, Benllech

 

12.3 32LPA920A/CC – Ysgol y Tywyn, Llanfihangel yn Nhowyn

 

12.4 46C535 – Toiledau Cyhoeddus  Ynys Lawd, Ynys Lawd, Caergybi

 

ADRODDIAD I DDILYN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    29LPA996/CC - Cais amlinellol ar gyfer codi 5 annedd newydd ar dir yn Maes Maethlu, Llanfaethlu

 

Cyflwynwyd y cais i sylw’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Adran wedi derbyn deiseb gyda 59 wedi ei harwyddo a hynny ers i’r adroddiad ysgrifenedig gael ei ddrafftio, a hefyd lythyr yn gwrthwynebu a chynlluniau eraill oedd wedi eu comisiynu gan y gymuned.  Roedd y prif faterion yn ymwneud â chydymffurfio â pholisi ac effeithiau ar y dirwedd.  Ystyrir bod safle’r cais yn addas ar gyfer ei ddatblygu o safbwynt polisi a bydd y cynnig yn adlewyrchu’r datblygiad presennol sydd yno a bydd yr effaith yn un niwtral ar yr AHNE dynodedig.  Yr argymhelliad oedd caniatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Huws yn siarad fel Aelod Lleol bod holl breswylwyr Maes Maethlu wedi arwyddo’r ddeiseb yn gwrthwynebu’r cynnig presennol ac roedd ganddynt bryderon mawr mewn perthynas â’r dyluniad a’r trefniadau parcio.  Nidydynt yn gwrthwynebu’r egwyddor o ddatblygu ar y safle ond maent yn teimlo bod y dyluniad yn amhriodol yn y ffordd y mae’n defnyddio’r safle ac oherwydd y ddarpariaeth o lefydd parcio. Felly, roedd y preswylwyr wedi comisiynu cynlluniau eraill ac aeth y Cynghorydd Huws ymlaen i’w disgrifio.  Soniodd hefyd am y mater o ddarparu tai fforddiadwy gan fynegi pryder mai dim ond dau o’r 5 annedd yn y cais oedd wedi eu dynodi fel tai fforddiadwy ac roedd yn teimlo nad oedd hynny’n ddigonol o ran cyfarfod â’r angen am dai fforddiadwy ar yr Ynys.  Gofynnodd i’r Pwyllgor ymweld â’r safle i weld y cynlluniau eraill hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cynnal ymweliad safle ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Raymond Jones.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith i’r cynlluniau newydd a ddrafftiwyd gan y gymuned leol fod ar gael i’r Pwyllgor.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yn rhaid i’r Pwyllgor ddelio â’r cais fel yr oedd wedi ei gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais a wnaed gan Aelod Lleol.

 

12.2    30C392A – Codi canolfan gofal cychwynnol deulawr ynghyd â pharcio cysylltiedig, man agored, tirlunio mynedfa newydd i gerbydau yn y Maes Parcio Cyhoeddus ar dir agored gyferbyn â Ffordd Bangor, Min yr Afon, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i sylw’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod rhan o’r safle ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y prif faterion yn ymwneud â’r egwyddor o ddatblygu, materion priffyrdd a materion mwynderau.  Mae safle’r cais wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Benllech yn y Cynllun Lleol a’r CDU a stopiwyd.  Mae wedi ei leoli yn dda i leihau’r galw am gludiant preifat ac y mae yn ffurf o ddatblygu fydd yn help i wasanaethu anghenion iechyd y gymuned tra’n defnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol.  Ystyrir bod dyluniad cyfoes yr adeilad arfaethedig yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

13.1 11LPA101J/1/LB/CC – Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

ADRODDIAD I DDILYN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1    11LPA101J/1/LB/CC – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith adnewyddu mewnol yn y prif doiledau ar gyfer y bechgyn gan gynnwys ciwbiclau, troethfeydd, systemau IPS ac unedau ymolchi newydd ynghyd â lwfrau allanol a griliau awyriant mewnol newydd i orchuddion y ffenestri yn y to yn Ysgol Thomas Jones, Amlwch

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd y cais fel oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad ysgrifenedig yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru am benderfyniad yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.