Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 30ain Gorffennaf, 2014 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheuriadau fel a nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Jeff Evans ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â chais 7.1.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb personol ond nid un sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.4 ac arhosodd yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem honno.

 

Gwnaeth y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith Vaughan Hughes a Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â cheisiadau 6.1, 13.1 a 13.4 oherwydd y cyfeiriad at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru.  Dywedasant y byddent yn cadw meddwl agored mewn perthynas â’r cyfryw geisiadau.

3.

Cofnodion Cyfarfod 2 Gorffennaf, 2014 pdf eicon PDF 291 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar

2 Gorffennaf, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2014.

4.

Ymweliadau Safle 17 Gorffennaf, 2014

Cynhaliwyd ymweliadau safle ar 17th Gorffennaf, 2014 mewn perthynas â’r ceisiadau canlynol:

 

           31C14V/1 - Cais llawn i addasu ac ymestyn 34 Cil y Graig, Llanfairpwll

 

           36C328A – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â dymchwel y garej bresennol ar dir ger Bodafon, Llangristiolus

 

Cofnodion:

Nodwyd bod ymweliadau safle wedi cael eu cynnal ar 17 Gorffennaf, 2014 mewn perthynas â'r ceisiadau canlynol:

 

  311C14V/1 – Cais llawn i addasu ac ymestyn 34 Cil y Graig, Llanfairpwll

  36C328ACais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â dymchwel y garej bresennol ar dir ger Bodafon, Llangristiolus.

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.5 a 11.1.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 263 KB

6.1 41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

Cofnodion:

6.1   41C125B/EIA/RE - Cais llawn i godi tri o dyrbinau gwynt 800kw-900kw gydag uchder hwb o hyd at 55m, rotor a fydd hyd at 52 m ar ei draws a hyd at 81m o uchder i ben uchaf y llafn, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i’r A5025 ynghyd â chodi 3 cabinet i storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 19LPA434B/FR/CC – Canolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi

 

7.2 29LPA/996/CC – Maes Maethlu, Llanfaethlu

 

7.3 31C14V/1 – 31 Cil y Graig, Llanfairpwll

 

7.4 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

 

7.5 36C328A – Bodafon, Llangristiolus

 

Cofnodion:

7.1   19LPA434B/FR/CC - Cais llawn i adnewyddu’r adeiladau presennol, dymchwel yr estyniad cyswllt ynghyd â chodi estyniad deulawr yng Nghanolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i'r Pwyllgor oherwydd mae’n gais gan y Cyngor mewn perthynas â thir y mae’n berchen arno.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, penderfynodd y Pwyllgor ohirio ystyried y cais oherwydd yr ymgynghorwyd gyda’r aelodau lleol anghywir.  Cafodd y camgymeriad hwnnw ei gywiro wedyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans am gyngor mewn perthynas â’r diddordeb yr oedd wedi ei ddatgan ar gychwyn y cyfarfod ynglŷn â’r cais hwn gan ofyn a oedd rhaid iddo adael y cyfarfod.  Eglurodd bod ei fab yn cael ei gyflogi ar sail rhan amser yn y Ganolfan Jesse Hughes gyfredol ac roedd yn tybio bod ei ddiddordeb yn ymwneud â rhan o’r adeilad cyfredol er ei bod yn bosibl y byddai ei fab yn gweithio yn y rhan honno o’r clwb ieuenctid lle bwriedir gwneud y newidiadau.

 

Dywedodd Rheolydd y Gwasanaethau Cyfreithiol bod y diddordeb yn un sy’n rhagfarnu petai person rhesymol sydd â’r cyfan o’r ffeithiau yn tueddu i gredu mai budd mab yr Aelod fydd prif reswm yr Aelod am gymryd rhan yn y mater hwn yn hytrach na’r budd cyhoeddus.  O ystyried cyngor y Swyddog, aeth y Cynghorydd Jeff Evans allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad ar y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r brif ystyriaeth gynllunio yw effaith bosibl y cynnig ar fwynderau eiddo cyfagos.  Mae oddeutu 17m rhwng yr adeilad y bwriedir ei ymestyn a’r anheddau y tu cefn i’r safle sy’n cefnu ar y llecyn chwarae ac ym marn y Swyddog, ni fyddai defnydd ychwanegol o’r safle yn ystod y dydd yn cynyddu’r effeithiau ar fwydnerau i’r fath raddau y dylid gwrthod caniatâd cynllunio ac mae’r datblygiad yn estyniad rhesymol a phriodol i’r ganolfan.  Ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, derbyniwyd cynlluniau pellach sy’n cynnig ail-leoli’r storfa biniau yn bellach oddi wrth yr eiddo preswyl; daw’r cyfnod ymgynghori ynglŷn â’r cynlluniau pellach hyn i ben ar 1 Awst 2014 a phetai unrhyw faterion yn codi yn dilyn hynny, adroddir yn ôl arnynt i’r Pwyllgor.  Mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon gyda'r cynnig cyn belled ag y bydd amod ar gyfer cynllun rheoli traffig yn cael ei gynnwys gyda’r caniatâd cynllunio.

 

Gan annerch y Pwyllgor fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes nad oedd yn dymuno colli'r cyfle o ran y cyllid grant sy'n gysylltiedig gyda’r cynnig ac y mae cyfyngiad amser arno ond bod ganddo serch hynny bryderon difrifol ynglŷn â’r sefyllfa gyfredol mewn perthynas â thraffig yng Nghanolfan Jesse Hughes a’r ardal o’i chwmpas yn arbennig faterion parcio a mynediad ar gyfer y gwasanaethau argyfwng, problemau yr ymhelaethodd arnynt.  Mae pryderon yn lleol y bydd yr estyniad newydd arfaethedig i ganolfan Jesse Hughes yn creu mwy o anawsterau o ran traffig a pharcio.  Ni fedrai gefnogi'r cais heb fodloni ei hun bod Aelodau’r Pwyllgor wedi cael y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau Ty Fforddiadwy

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau sy'n Tynnu'n Groes

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 600 KB

11.1 14C164D – Tryfan, Trefor

 

11.2 14C147A – 11 Stryd Fawr, Malltraeth

 

11.3 21C158 – 21 Stâd Plas Hen, Llanddaniel

 

11.4 47C139 – Awelfryn, Elim, Llanddeusant

Cofnodion:

11.1   14C164D – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi pâr o anheddau un talcen a chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Tryfan, Trefor.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyfaill i Swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad.  Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion y paragraff hwnnw.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr. R. Parry siarad fel un sy’n gwrthwynebu’r cais.  Dygodd Mr Parry sylw at yr ystyriaethau canlynol:

 

  Ni welwyd galw am dai yn Nhrefor am y 40 mlynedd diwethaf oherwydd dadboblogi yn dilyn lleihad yn y gweithlu amaethyddol lleol.  Mae hyn yn ei dro wedi arwain at gau cyfleusterau lleol ynghyd â haneru’r gwasanaethau dosbarthu ar gyfer nwyddau lleol.

  Byddai effaith y cais gwreiddiol gan deulu Cymreig ar yr iaith yn codi’r ganran o siaradwyr Cymraeg o 72% i oddeutu 75-79% tra byddai cais marchnad agored ar gyfer 2 neu efallai 4 o anheddau yn ôl pob tebyg yn lleihau’r ganran i oddeutu 50% i 27% o ystyried bod prisiau tai fforddiadwy y tu allan i gyrraedd incwm lleol.

  Tra’n cydnabod nad oes hawl awtomatig i oleuni dan reolau cynllunio, byddai safle’r cais arfaethedig yn cau allan yn llwyr brif ffynhonnell oleuni deheuol Tryfan o’r lolfa, y gegin a’r ystafell amlbwrpas oherwydd nid yw’r ffenestri ond 4 troedfedd i ffwrdd o wal derfyn 4 troedfedd o uchder.  Byddai hynny’n golygu colli preifatrwydd.

  Gofynnir am ymweliad safle fel y gall y sawl sy’n gwneud penderfyniadau weld drostynt eu hunain yr anawsterau y mae’r safle yn ei greu a’r B5112 lle gwelwyd cynnydd yn y traffig ysgafn a thrwm gan arwain at sawl achos o ddifrod i arwyddion cyflymder a cholli un arwydd am dros flwyddyn.

  Oherwydd nad oes asesiad o’r effaith ar yr iaith a’r gymuned ym Mholisi Iaith Cyngor Sir Ynys Môn, mae’r achos wedi cael ei gyfeirio at Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg.

 

Nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw gwestiynau i’w gofyn i Mr. Parry.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r prif faterion sy’n gysylltiedig â’r cais yw a ydyw’r cynnig yn cydymffurfio gyda pholisïau cyfredol; a fydd yn cael effaith ar fwynderau eiddo cyfagos ac a fydd yn cael effaith andwyol ar y dirwedd o’i gwmpas ynghyd â diogelwch ar y ffyrdd.  Diffinnir Trefor fel anheddiad rhestredig dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.  Yn y polisi hwnnw, dywedir na fydd caniatâd ond yn cael ei ryddhau fel arfer i anheddau sengl o fewn yr anheddiad neu ar ei gyrion.  Er bod y cynnig yn un am ddau dy bâr, gellir ei gefnogi dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn oherwydd mae’r ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth yn cadarnhau bod angen am eiddo o’r maint yma yn yr ardal.  Mae caniatâd cynllunio eisoes ar y safle; mae cymysgedd o fathau o dai yn y cyffiniau ac mae’r cynnig yn adlewyrchu patrwm y 4 tŷ teras  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 903 KB

12.1 12C239A – Canolfan Biwmares, Biwmares

 

12.2 13C186 – 13 Stryd Wesley, Bodedern

 

12.3 19LPA1002/CC – 3 Teras Stanley, Caergybi

 

12.4 39C548 – Ysgol y Borth, Porthaethwy

Cofnodion:

12.1   12C239A – Cais llawn i leoli uned symudol dros dro yng Nghanolfan Biwmares, Biwmares.

 

Cyflwynir y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mae safle’r cais ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Lewis Davies am gyngor ynghylch a ddylai ddatgan diddordeb yn y cais oherwydd y bu’n aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Hamdden Biwmares hyd at ddau fis yn ôl.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd angen iddo wneud hynny oni bai iddo fod yn rhan o’r broses o baratoi a chymeradwyo’r cais tra’n aelod o’r Pwyllgor.

 

Wedi hynny, datganodd y Cynghorydd John Griffith ddiddordeb yn y cais ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod yr argymhelliad yn un i ganiatáu’r cais i leoli uned symudol dros dro yng Nghanolfan Biwmares er mwyn darparu lle ychwanegol i gwrdd â’r galw cynyddol am ddosbarthiadau cymunedol a hynny am gyfnod o 5 mlynedd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Owain Jones gynnig y dylid caniatáu’r cais.  Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2   13C186 – Cais llawn i altro ac ymestyn 18 Stryd Wesla, Bodedern.

 

Cyflwynir y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mae safle’r cais ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gais gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3    19LPA1002/CC - Cais llawn i osod plac yn 3 Stanley Terrace, Caergybi.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais gan y Cyngor ydyw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4    39C548 – Cais llawn i godi adeilad ar gyfer ei ddefnyddio fel clwb ar ôl ysgol a chlwb gwyliau yn Ysgol y Borth, Porthaethwy.

 

Cyflwynir y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mae safle’r cais ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 1 MB

13.1 26C20E – Fferm Frigan, Brynteg

 

13.2  30C490CFfordd y Traeth, Benllech

 

13.3 37C174E – Tre Ifan, Brynsiencyn

 

13.4 44C305C/RE – Tre Wyn, Maenaddwyn

Cofnodion:

13.1    26C20E – Codi un tyrbin gwynt 80kw gydag uchder hwb o hyd at 19.4m, rotor a fydd hyd at 18m ar ei draws a hyd at 28.4m o uchder i ben uchaf y llafn ar dir yn Fferm Frigan, Brynteg.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y gwnaed penderfyniad y bydd yr holl geisiadau am ddatblygiadau o’r fath yn cael eu dwyn gerbron y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y pwyllgor fod apêl wedi cael ei chyflwyno oherwydd na wnaed penderfyniad ar y cais.  Petai’r apêl heb ei chyflwyno, byddai’r argymhelliad wedi bod yn un o wrthod oherwydd mae pryderon ynglŷn â’r niwed y byddai’n ei achosi i’r dirwedd.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a chefnogi’r Swyddogion o ran gwrthwynebu’r apêl.

 

13.2    30C490C – Cais llawn i ddymchwel y gwesty presennol a chodi 18 o fflatiau newydd a gwaith cysylltiedig ar y safle yn Ffordd y Traeth, Benllech.

 

Cyflwynwyd y mater i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd newidiadau arfaethedig i’r cytundeb cyfreithiol a’r amodau cynllunio ac oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers adeg cymeradwyo’r cais yn wreiddiol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cymeradwywyd y cais gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ym mis Gorffennaf 2006 ar yr amod bod yr ymgeisydd yn cwblhau cytundeb cyfreithiol y byddai 6 o’r 18 o unedau fflat newydd yn unedau fforddiadwy a hynny’n unol â CCA y Cyngor ar Dai Fforddiadwy yn seiliedig ar ganran angenrheidiol o 30%.  Ni chwblhawyd y cytundeb cyfreithiol gan yr ymgeisydd oherwydd materion dichonoldeb mewn perthynas â’r datblygiad a’r ddarpariaeth o 6 o unedau fforddiadwy.  Ers hynny, mae’r gwesty wedi mynd â’i ben iddo.  Cafwyd trafodaethau gydag Ymgynghorydd Tai Fforddiadwy’r Cyngor a chynigir y dylid diwygio telerau’r cytundeb cyfreithiol fel bod y ddarpariaeth tai fforddiadwy yn cael ei chynnig ar ffurf cyfraniad ariannol gan y datblygwr i’r Cyngor yn unol â’r ymrwymiad a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.  Mantais hyn yw y byddai’n caniatáu i’r datblygiad fynd yn ei flaen gan wella’r safle ynghyd â sicrhau y deuai budd ariannol i’r Cyngor i’w ddefnyddio i gwrdd ag anghenion tai fforddiadwy ar yr Ynys.

 

Cododd y Cynghorydd Jeff Evans y pwynt ynghylch a yw gwerth y cyfraniad ariannol a nodir yn adlewyrchiad digonol o werth posib y datblygiad wedi iddo gael ei gwblhau.  Gofynnodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a John Griffith am eglurhad ynghylch sut y byddid yn defnyddio’r cyfaniad ariannol gan y datblygwr ac ym mhle.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai’r cyfraniad yn cael ei roddi i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai i’w ddefnyddio i ddiben cyflawni cynlluniau eraill ar gyfer tai fforddiadwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r newidiadau i’r cytundeb cyfreithiol ar y cais cynllunio fel a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod y caniatâd cynllunio ar ôl hynny’n cael ei ryddhau gyda’r amodau a restrir  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.