Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 3ydd Medi, 2014 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau fel uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yng nghyswllt cais 7.2.

 

Datganodd y Cynghorydd W.T. Hughes ddiddordeb yng nghyswllt cais 12.2.

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol ond heb fod yn un sy’n rhagfarnu yng nghyswllt cais 6.1 ac arhosodd yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

Datganodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith a Nicola Roberts ddiddordeb mewn perthynas â cheisiadau 6.2, 12.2 oherwydd bod cyfeiriad at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru.  Dywedodd pob un y byddent yn cadw meddwl agored mewn perthynas â’r ceisiadau perthnasol.

3.

Cofnodion Cyfarfod 30 Gorffennaf, 2014 pdf eicon PDF 250 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf, 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2014.

4.

Ymweliad Safle 20 Awst, 2014 pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwyno cofnod o’r ymweliad safle a gynhaliwyd ar 20 Awst, 2014.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 20 Awst 2014.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus yn y cyfarfod hwn.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio pdf eicon PDF 510 KB

6.1 - 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

 

6.2 - 41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

 

6.3 - 42C9N – Gwasanaethau Pentraeth, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  34C553A - Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd a rhwydwaith cysylltiol yn Ty’n Coed, Llangefni

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

6.2  41C125B/EIA/RE - Cais llawn ar gyfer codi tri tyrbin gwynt 800kW - 900kW gyda uchder hwb hyd at uchafswm o 55m, diamedr rotor hyd at uchafswm o 52m ac uchder blaen unionsyth hyd at uchafswm o 81m, gwelliannau i'r fynedfa bresennol i lôn A5025, ynghyd â chodi 3 cabinet storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.3  49C9N - Cais llawn ar gyfer dymchwel y gweithdy, swyddfa ac ystafell arddangos bresennol, ehangu'r orsaf betrol, codi 2 uned mân-werthu nad ydynt yn gysylltiedig â bwyd a chreu parcio ychwanegol yn Pentraeth Services, Pentraeth

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 543 KB

7.1 -14C164D – Tryfan, Trefor

 

7.2 - 19LPA434B/FR/CC – Canolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi

 

7.3 - 36C328A – Bodafon, Llangristiolus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  14C164D - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw'n ôl ar gyfer codi pâr o anheddau un talcen a chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Tryfan, Trefor

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyfaill i swyddog 'perthnasol' fel a ddiffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad.  Roedd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod ar 30 Gorffennaf, 2014 wedi penderfynu gwrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail nad oedd yr angen am dai ym mhentref Trefor wedi ei brofi.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Bob Parry OBE, un o'r Aelodau Lleol i annerch y cyfarfod.  Dywedodd y Cynghorydd Parry fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle am un annedd ond bod yr ymgeisydd yn dymuno rhoi cyfle i brynwyr tro cyntaf yn lleol allu prynu eu cartref eu hunain.  Dywedodd ymhellach mai’r unig sylw yr oedd preswylwyr Tryfan yn dymuno ei wneud yw - pan gyflwynir y cynllun manwl na fydd ffenestri’r anheddau yn edrych dros eu heiddo.

 

Dywedodd y Cynghorydd T. Victor Hughes ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y cais yn y cyfarfod diwethaf ond yn dilyn ystyried y cyfle oedd yma i bobl ifanc allu fforddio i brynu anheddau o'r fath yn hytrach nag un tŷ mawr fyddai y tu hwnt i’w cyrraedd, roedd yn fodlon cefnogi'r cais.  Fodd bynnag, dywedodd y dylid rhoi sylw dyledus i’r angen i gael tanc septig mawr ar gyfer y ddwy annedd ac y dylid gwneud contract fyddai’n ymrwymo perchenogion yr eiddo i gynnal a chadw’r system ddraenio.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth gan ddau werthwr tai ar wahân yn dweud bod angen am eiddo o’r fath yn yr ardal.  Roedd Galluogydd Tai Gwledig y Cyngor o’r farn y bydd diddordeb yn yr ardal am ddatblygiad o'r fath oherwydd agosrwydd Trefor i bentrefi eraill yn yr ardal.  Roedd yr Asesiad o’r Farchnad Lleol Ynys Môn yn dweud bod angen am 134 o dai o’r  dyluniad hwn bob blwyddyn am y 5 mlynedd nesaf.  Mae dros 1,500 o bobl ar hyn o bryd ar y rhestr aros am dai gyda’r Cyngor Sir a dros 500 o bobl wedi cofrestru gyda sefydliad Tai Teg.  Mae’n glir bod angen amlwg ar yr Ynys a hefyd yn yr ardal hon, am y math hwn o dai.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach bod llythyr wedi ei dderbyn yn hwyr gan yr ymgeisydd a darllenodd allan brif bwyntiau’r llythyr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith nad oedd yn credu bod yna alw mawr am dai o’r fath yn Trefor a chynigiodd y dylid gwrthod y cais.  Nid chafwyd eilydd i'w chynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd R O Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  9LPA434B/FR/CC - Cais llawn ar gyfer adnewyddu'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 842 KB

12.1 – 12C389B – Man Chwarae Thomas Close, Biwmares

 

12.2 – 20C102J – Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

12.3 – 21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

12.4 – 39C305B – 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy

 

12.5 – 45C111/RE – Gellinog Bach, Dwyran

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  12C389B - Cais llawn ar gyfer codi ffens pedwar medr o uchder ar dir yn Maes Chwarae, Thomas Close, Biwmares

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod safle’r cais ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Roedd y Cynghorydd Ann Griffith yn dymuno iddo gael ei nodi ei bod yn atal ei phleidlais.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  20C102J - Cais i godi mast anemomedr dros dro 60m o uchder ar dir yn Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

(Datganodd y Cynghorydd W T Hughes ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio arno).

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei benderfynu na  fyddai pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt.

 

Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ddiweddariad i’r Pwyllgor gan ddweud bod y Swyddog Llwybrau Cyhoeddus ac Ymgynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol y Cyngor Sir wedi ymateb gyda dim gwrthwynebiad i'r cais.  Nododd mai strwythur main fyddai’r anemomedr ac y byddai yno am gyfnod dros dro o 3 blynedd ac nid oedd yn cael ei ystyried y byddai’n cael effaith sylweddol ar gymeriad ac edrychiad y tirlun.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid caniatau’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Nicola Roberts ar y cais.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  21C40A - Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a pit slyri ar dir yn Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod pobl lleol wedi gofyn am gael siarad ar y cais hwn ond nid oedd yr Adran Gynllunio wedi gallu cysylltu â hwy o fewn y cyfnod amser penodol.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd H. Eifion Jones fel Aelod Lleol i annerch y cyfarfod.  Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai o fudd i’r Pwyllgor ymweld â'r safle a gofynnodd am i’r sylwadau a gafwyd gan y Cyngor Cymuned gael eu cynnwys yn yr adroddiad yn y cyfarfod nesaf.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid ymweld â'r safle ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd T. Victor Hughes.

 

PENDERFYNWYD y dylid ymweld â’r safle fel y gallai’r Aelodau asesu’r effaith ar yr eiddo cyfagos.

 

12.4  39C305B - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy

 

Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod 2 o'r Aelodau Lleol wedi gofyn am i’r Pwyllgor ymweld â'r safle.  Cynigiodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 231 KB

13.1 – 33C302 – Penffordd, Gaerwen

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  33C302 - Cais llawn i newid defnydd o annedd (C3) i fod yn rhan o (A3) siop i werthu pethau poeth i’w bwyta allan a rhan annedd (C3) ynghyd â chreu ychwanegiad i safle parcio yn Penffordd, Gaerwen

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i’r cais hwn gael ei ganiatáu gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 2 Ebrill 2014.  Roedd yr adroddiad ysgrifenedig yn nodi nad oedd unrhyw ymateb wedi ei dderbyn gan y Cyngor Cymuned.  Roedd y Cyngor Cymuned wedi nodi ei wrthwynebiad cryf i'r cais ac roedd am sicrhau bod ei sylwadau wedi eu nodi.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.