Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 5ed Tachwedd, 2014 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ymddiheuriadau fel yr uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

To receive any declaration of interest by any Member or Officer in respect of any item of business.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd T. V. Hughes ddatganiad o ddiddordeb yng nghais 12.7.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2014.

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim i’w hysteried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas â chais 12.3.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 460 KB

6.1  21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

6.2  34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

6.3  41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  21C40A Cais llawn i godi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir ger Penrhyn Gwyn, Llanddaniel.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2  34C553A Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.3  41C125B/EIA/RE - Cais llawn i godi tri thyrbin gwynt 800kw – 900kw hyd at 55 m o uchder, rotor hyd at 52m ar ei draws a hyd at 81m i flaen y llafn, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i’r A5025 ynghyd â chodi 3 chabinet i storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 245 KB

7.1  36C336 – Ffordd Meillion, Llangristiolus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  36C336 Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Ffordd Meillion, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr aelod lleol. Yn ei gyfarfod ar 1 Hydref 2014, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblybu fod llythyr ychwanegol gan yr ymgeisydd wedi dod i law. Eglurodd y Swyddog yn fanwl ymateb y Swyddogion i’r rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf am wrthod y cais. Nodwyd yr ystyrir bod y cais yn cydymffurfio gyda’r polisïau yn y cynllun datblygu ac nad yw’n achosi unrhyw niwed amlwg a bod yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o ganiatáu.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dygodd y Cynghorydd T Victor Hughes sylw ar y materion isod:-

 

  Cyfeiriodd at bolisi 50 a dywedodd na ddylid ystyried y cais dan y polisi hwn;

  Yr effaith ar yr Iaith Gymraeg a chymeriad penderfyniad Llangristiolus oherwydd gor-ddabtlygu;

  93 o blant yn ysgol gynradd y pentref a 35 o gartrefi di-Gymraeg;

  Mae cymeriad Cymreig y pentref wedi newid;

  Gwrthwynebiad cryf i’r cais yn y pentref;

  Roedd yn gwrthwynebu’r cais a gofynnodd i’r Pwyllgor ail-gadarnhau’r penderfyniad a wnaeth yn y cyfarfod diwethaf i wrthod y cais.

 

Cynigiodd y dylid gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod angen i’r Pwyllgor fod â rhesymau cadarn dros wrthod y cais hwn. Petai’n mynd i apêl, yna câi’r Cyngor anhawster i’w amddiffyn.  Awgrymodd y dylai’r Pwyllgor efallai ystyried ymweld â’r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes ymweliad safle ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R O Jones. Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Jeff Evans, John Griffith, T V Hughes, Raymond Jones, Nicola Roberts yn erbyn ymweliad safle. Chafodd y cynnig mo’i gario.

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Victor Hughes y dylid gwrthod y cais ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Pleidleisiwyd fel a ganlyn :-

 

I gadarnhau’r penderfyniad i wrthod y cais : Y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, T.V. Hughes, Vaughan Hughes, Raymond Jones, Nicola Roberts. Cyfanswm 6

 

I ganiatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog:  Y Cynghorwyr K.P. Hughes, R.O. Jones        Cyfanswm 2

 

Y rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais oedd nad oedd yn cydymffurfio gyda Pholisi 50; dim angen lleol ar gyfer y datblygiad; byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail ar gyfer datblygiad pellach yn y dyfodol; mae’r cynnig y tu allan i ffin ddatblygu’r pentref ac nid ydyw ychwaith yn estyniad rhesymegol i’r pentref.

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion.

 

 

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 478 KB

10.1  24C261A – Dafarn Drip, Penysarn

10.2  37C26T/VAR – Merddyn Gwyn, Brynsiencyn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  24C261A Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Dafarn Drip, Penysarn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Ynys Môn ond oherwydd y gellir ei gefnogi dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R O Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  37C26T/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (02) a (03) o ganiatâd cynllunio rhif 37C26S (adnewyddu caniatâd cynllunio 37C26P ar gyfer datblygiad trigiannol) er mwyn adnewyddu caniatâd cynllunio amlinellol ar dir ger Merddyn Gwyn, Brynsiecyn.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel un sy’n tynnu’n groes yn rhannol i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Ynys Môn ond oherwydd y gellir ei gefnogi dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn un i adnewyddu’r caniatâd a roddwyd ym mis Hydref 2011. Cais amlinellol ydyw ond mae’n cynnwys manylion am gynllun y safle a dull mynediad. Cynigir codi 13 o anheddau, 4 ohonynt yn rhai fforddiadwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

11.

Cynigion Datblygu gan gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 417 KB

11.1  28C354B/DEL – Glan y Gors, Llanfaelog

11.2  30C728B/DEL – Meusydd, Llanbedrgoch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  28C354B/DEL – Cais dan Adran 73 i dynnu amodau (07), (08) a (09) (amodau yn cyfyngu’r uned ar gyfer defnydd gwyliau) o ganiatâd cynllunio rhif 28C354A (dymchwel yr adeilad allanol presennol ynghyd â chodi uned gwyliau yn ei le) a’u disodli gydag amodau deiliadaeth gwyliau sengl ynghyd â’i ddefnyddio fel atodiad i’r annedd yn  Glan y Gors, Llanfaelog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn Aelod Etholedig. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro’n unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn ymwneud â’r drydedd uned ar y safle. Mae’r caniatâd cynllunio cyfredol yn cyfyngu gosod yr uned hon fel llety gwyliau rhwng 1 Mawrth a 31 Ionawr mewn unrhyw flwyddyn ac i gyfnod a fydd dim hwyach na 28 diwrnod yn olynol bob tro y caiff ei gosod. Dywed polisïau cynllunio yn awr fod y cyfnod gwyliau wedi’i ymestyn ac nad oes angen yn awr roddi cyfyngiad ar yr unedau gwyliau. Mae’r ymgeisydd hefyd yn gofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r uned fel atodiad i’r annedd yn Glan y Gors fel y gall gynnig llety i berthynas mewn oed sy’n wael.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Lewis Davies a fyddai cymeradwyo’r cais hwn yn creu cynsail yn y dyfodol i ganiatáu datblygiadau yn y cefn gwlad a throi unedau gwyliau o’r fath yn anheddau. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai’n rhai cadw cofrestr o’r defnydd o’r uned wyliau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Roedd y Cynghorydd Lewis Davies yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi pleidleisio ar y cais hwn oherwydd ei fod o’r farn y gallai cais o’r fath osod cynsail yn y dyfodol gydag ychwaneg o geisiadau’n dod i law i addasu unedau gwyliau’n anheddau. 

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2  30C728B/DEL - Cais dan Adran 73 i dynnu amodau (10), (11) a (12) (Cod Cartrefi Cynhaliadwy) o ganiatâd cynllunio rhif 30C728 (cais amlinellol i godi annedd) ar blot 3, ar dir ger  Meusydd, Llanbedrgoch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod Lleol ac mae’n Swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  11LPA896D/CC – Maes Mona, Amlwch

12.2  15C91D – Ty Canol, Malltraeth

12.3  39C305C – 5 Cambria Road, Porthaethwy

12.4  40C233B/VAR – The Owls, Dulas

12.5  44C311 – 4 Council Houses, Rhosgoch

12.6  44LPA1005/TPO/CC – Ty’n y Ffrwd, Rhosybol

12.7  46C192B/FR – Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  11LPA896D/CC – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 40 o unedau preswyl ar dir ger Maes Mona, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais am 40 o anheddau ac y bydd 30% ohonynt yn rhai fforddiadwy. Gyda’r cais, cafwyd cynllun topograffaidd manwl o’r fynedfa i gerbydau i’r A5025 ‘Ffordd Porth Llechog’ gan gynnwys y lleiniau gwelededd a gynigir; Adroddiad Sgopio Ecolegol; manylion am y modd y bwriedir draenio dŵr budr a dŵr wyneb ac Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg. Mae Adran Dysgu Gydol Oes y Cyngor wedi gofyn am gyfraniad ariannol tuag at gyfleusterau yn Ysgol Gynradd Amlwch.

 

Fel un o’r aelodau lleol, dywedodd y Cynghorydd R O Jones yr hoffai gael cadarnhad ynghylch lleoliad y datblygiad tai a’r cyfleuster gofal ychwanegol arfaethedig cyn y bydd y cynlluniau manwl yn cael eu cyflwyno yn y man.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid cymeradwyo cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2   15C91D – Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi adeilad pwll nofio yn ei le yn Tŷ Canol, Malltraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar Gorchmynion ar gais Ann Griffith, un o’r Aelodau Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cafwyd llythyr o wrthwynebiad ers adeg ysgrifennu’r adroddiad. Nodwyd bod y tir yn yr ardal yn gorsiog ac yn dueddol o gael ei effeithio gan lifogydd ac y bydd angen ymchwilio i wneud yn siŵr na fyddai cael gwared ar y dŵr o’r pwll nofio yn cael effaith ar y tir amaethyddol y tu cefn i’r safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies fod Malltraeth yn yr AHNE a gofynnodd a oeddid wedi ymgynghori gyda’r Swyddog AHNE mewn perthynas â’r cais hwn. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai ffin yr AHNE yw’r lôn o flaen yr eiddo hwn ac nad oeddid wedi ymgynghori gyda Swyddog AHNE y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ohirio’r cais fel y gellid ymgynghori gyda Swyddog AHNE y Cyngor Sir. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn ymgynghori gyda'r Swyddog AHNE a Swyddogion Priffyrdd mewn perthynas â'r cais hwn.

 

12.3  39C305C – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais un o’r Aelodau Lleol.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr J Cole, yr ymgeisydd,  annerch y Pwyllgor.

 

Dywedodd Mr Cole na fu modd iddynt symud i’r eiddo ers mis Ionawr, yn bennaf oherwydd bod Ffordd Cambria wedi dymchwel oherwydd y glaw trwm a gafwyd y gaeaf diwethaf. Mae’r cynnig yn un i wella’r eiddo yng nghyd-destun yr ardal gadwraeth. Mae dwy elfen i’r cais; mae’r ddwy’n ymwneud â throsglwyddo’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 458 KB

13.1  28LPA970A/CC/MIN – Ffordd y Traeth, Rhosneigr

13.2  34C40A/EIA/ECON – Peboc, Stâd Ddiwydiannol, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  28LPA970A/CC/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 28LPA970/CC yn Ffordd y Traeth, Rhosneigr

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais gwreiddiol yn ymwneud â gwella’r fynedfa i’r cyhoedd i’r traeth. Roedd y newidiadau arfaethedig yn golygu newid y deunyddiau yr oeddid am eu defnyddio ac oherwydd mai mân newidiadau yn unig oedd y rhain, ystyriwyd na fyddent yn cael effaith fawr ar y cynllun ac ar yr ardal. Cynigiwyd nad oedd y newidiadau’n rhai sylweddol ac o’r herwydd fe’u cymeradwywyd dan Adran 96A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

13.2  34C40Z/EIA/ECON – Codi Gwaith Ynni Biomas newydd yn cynnwys gwaith peledi pren, gwaith ynni biomas gwres cyfun, peiriannau tynnu rhisgl a naddu pren, iard storio coed ac adeiladu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Peboc, Stad Ddiwydianol, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr ymgeisydd, yn dilyn gwrthod y cais uchod yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 2 Mai 2012, wedi apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor. Yn unol â pharagraff 3.1.1.2 Polisi Cynllunio Cymru (Fersiwn 6, Chwefror 2014), penderfynwyd y byddai’r penderfyniad apêl hwn o ddiddordeb cenedlaethol, felly rhoddodd Llywodraeth Cymru'r grym i’r Gweinidog Tai ac Adfywio wneud y penderfyniad.

 

Cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus i’r apêl ym mis Ionawr 2014 pryd penderfynwyd amddiffyn penderfyniad y Cyngor. Ym mis Awst 2014, cafwyd gohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio yn gwrthod yr apêl.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.