Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim wedi eu derbyn. |
|
Datganiad o Ddiddordeb To receive any declaration of interest by any Member or Officer in respect of any item of business. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb a ganlyn:-
Gwnaeth y Cynghorydd Ann Griffith ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.2 ar y rhaglen.
Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.4 ar y rhaglen.
Gwnaeth y Cynghorydd Richard O. Jones ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1 ar y rhaglen.
Gwnaeth y Cynghorydd W.T. Hughes ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1 ar y rhaglen.
|
|
To submit, for confirmation, the minutes of the Planning and Orders Committee held on 1st March, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar1 Mawrth, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar newid o dan eitem 7.4, tudalen 5 ‘Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yn ymwybodol o’r cais.’ Ymddiheurodd y Cadeirydd, roedd y Cynghorydd R.O. Jones wedi gofyn am ymweliad safle cyn y cyfarfod ar ran y Cynghorydd A.M. Jones, Aelod Lleol.
|
|
To present the minutes of the Planning Site Visits held on 15 March, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2, 7.5, 7.7, 7.8 a 7.9.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 372 KB 6.1 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch 6.2 34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 20C310B/EIA/RE –Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, aeth y Cynghorwyr W.T. Hughes a R.O. Jones allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.2 34C304K/1/EIA/ECON - Cais hybrid am ganiatâd cynllunio llawn i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a gwaith cysylltiedig â chais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd a lle parcio cysylltiedig â gwaith ar dir yng Ngholeg Menai, Ffordd y Coleg, Langefni.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
7.1 15C30H/FR – Fferm Pen y Bont, Malltraeth 7.2 18C225B – Bron Castell, Llanfairynghornwy 7.3 21C58H – Parc Eurach, Llanddaniel Fab 7.4 23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch 7.5 25C242 – Tyn Cae, Coedana, Llanerchymedd 7.6 38C324 – Alma Hall, Carreglefn 7.7 45C84R/ECON – Caffi’r Marram Grass, White Lodge, Niwbwrch 7.8 47C153 – Plas Newydd, Llanddeusant 7.9 47C154 – Plas Newydd, Llanddeusant
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 15C30H/FR - Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm, Touring and Camping, Malltraeth.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor yn ystod y drafodaeth ar y cais hwn er mwyn siarad fel Aelod Lleol. Aeth y Cynghorydd Richard O. Jones, Is-gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem.
Yn ei gyfarfod ar 2 Tachwedd, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaethpwyd hynny ar 16 Tachwedd, 2016. Yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y rheswm nad oedd yn teimlo bod y risg o lifogydd ar raddfa a oedd yn cyfiawnhau ei wrthod ac oherwydd na fyddai’r cais yn cael effaith andwyol ar ecoleg Cors Ddyga. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017, dywedwyd wrth yr Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwydd i ohirio’r cais tra yr oedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn penderfynu a fyddent yn galw’r cais i mewn ar gyfer penderfynu arno ai peidio. Yn y cyfarfod hwnnw, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod ganddynt ddau opsiwn, naill ai i ohirio’r cais neu ei wrthod yn unol ag argymhelliad y swyddog; penderfynodd y Pwyllgor ohirio’r cais hyd oni fyddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi penderfynu a fyddai’n galw’r cais i mewn ai peidio.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai dyma yw’r sefyllfa o hyd, mae’n agored i’r Pwyllgor yn y cyfarfod hwn ohirio’r cais neu ei wrthod yn unol ag argymhelliad y swyddog.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd W.T. Hughes.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rheswm a roddwyd.
7.2 18C225B - Cais llawn i godi annedd newydd, chreu mynedfa ynghyd â gosod paced trin carthffosiaeth ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod ar 1 Mawrth 2017, penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 15 Mawrth 2017.
Siaradodd Mrs. Elen Pritchard, yr ymgeisydd, o blaid ei chais. Dywedodd Mrs. Pritchard eu bod, fel teulu ifanc, yn dymuno dychwelyd i Lanfairynghornwy lle cawsant eu magu ac i fagu eu teulu eu hunain yn niwylliant gwledig y cefn gwlad.
Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn dymuno ymddiheuro i’r Cynghorydd Llinos M. Huws, Aelod Lleol, bod yr ymweliad safle ar gyfer y cais hwn wedi’i gynnal awr yn gynt na’r disgwyl ar ddiwrnod yr ymweliadau safle ar 15 Mawrth 2017. Rhoes i’r Aelod Lleol y cyfle i egluro’r cais yn fanwl petai’n dymuno gwneud hynny.
Dywedodd y Cynghorydd Llinos M. Huws bod y cais hwn, yn ei barn hi, yn un mewnlenwi ym mhentref Llanfairynghornwy. Cyfeiriodd at yr anheddau a’r eglwys yn ymyl safle’r cais ac roedd o’r farn bod adroddiad y Swyddog yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am dy fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 343 KB
11.1 14C164F – Tryfan, Trefor 11.2 15C108B – Dryll, Bodorgan 11.3 47C157 – Plas Newydd, Llanddeusant Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 14C164F – Cais i ymestyn cwrtil preswyl y tai newydd ger Tryfan, Trefor.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a
Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn ffrind i
'swyddog perthnasol'. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog
Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y
Cyfansoddiad.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 15C108B – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol yn annedd ynghyd ag addasu ac ehangu a chreu mynedfa newydd i geir yn Dryll, Bodorgan
Cyflwynwyd
y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod
yr ymgeisydd yn ffrind i 'Gynghorydd cyfredol'. Mae'r cais wedi
cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff
4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.3 47C157 – Cais ôl-weithredol i greu mynedfa newydd i geir ynghyd â chau’r fynedfa bresennol yn Plas Newydd, Llanddeusant.
Cyflwynwyd
y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod
yr ymgeisydd yn ffrind i 'swyddog perthnasol'. Mae'r cais wedi cael
sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff
4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 590 KB 12.1 12C49P/DEL – Casita, Biwmares 12.2 33C190Q/VAR – Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen 12.3 34LPA1033/CC – 6-29 Llawr y Dref, Llangefni 12.4 48C203 – 31 Maes Meurig, Gwalchmai Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 12C49P/DEL –Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a
Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyriwyd nad yw’r cais yn bodloni anghenion yr ardal leol a bod angen datblygiad o’r fath ar gyfer pobl dros 55 oed.
(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).
12.2 33C190Q/VAR –Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (03) o ganiatâd cynllunio cyf 33C190 (Adolygiad o amodau cynllunio yn unol á Deddf yr Amgylchedd 1995) er mwyn cael defnyddio’r fynedfa wreiddiol ar gyfer cerbydau i'r safle yn Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 21LPA727A/CC – Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel 13.2 48C202 – Penrallt Bach, Gwalchmai
Gweddill y Ceisiadau
CAIS HWYR A GYMERADWYD I’W DRAFOD GAN Y CADEIRYDD
13.5 10LPA1031/CC – Maes Llewelyn, Aberffraw Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 21LPA727A/CC – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu i greu adnoddau newydd yn cynnwys dosbarth; creu man parcio newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â newid gosodiad a man parcio presennol a chreu cilfan yn Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y cais hwn wedi ei gymeradwyo’n flaenorol yn y cyfarfod ym mis Ionawr, 2017. Dygwyd y cais yn ôl i'r Pwyllgor i roi gwybod iddo fod cynlluniau diwygiedig wedi dod i law. Mae'r cynlluniau’n dangos llwybr cerdded cyson sy’n 1.8m o led, ynghyd â chroesfan i gerddwyr a chadarnhad y bydd polyn telegraff ger y fynedfa yn aros lle mae. Nid oes unrhyw newidiadau i'r estyniadau a gymeradwywyd.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.
13.2 48C202 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Penrallt Bach, Gwalchmai.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod y cais uchod wedi ei dynnu’n ôl.
Nodi fod y cais wedi ei dynnu’n ôl.
CAIS HWYR A GYMERADWYWYD I’W DRAFOD GAN Y CADEIRYDD
Gweddill y Ceisiadau
13.3 10LPA1031/CC – Cais llawn ar gyfer gosod deunydd inswleiddio waliau allanol yn 3, 16, 27, 28, 29, 30, 32, 33, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41 a 42 Maes Llewelyn, Aberffraw
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr eitem wedi ei chyflwyno gan y Cadeirydd i'w hystyried fel eitem frys. Nid oedd rhywfaint o'r gwaith a gontractiwyd sydd eisoes wedi ei wneud angen caniatâd cynllunio ond mae angen caniatâd ar gyfer gwaith arall sydd heb ei wneud hyd yma ar gladin allanol yr anheddau a byddai unrhyw oedi yn golygu costau uwch i bwrs y wlad.
Cytunodd y Cadeirydd i ganiatáu
cyflwyno’r adroddiad fel eitem hwyr a brys gan y byddai oedi
cyn gwneud penderfyniad yn arwain at gostau ychwanegol i'r pwrs
cyhoeddus.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|