Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaethpwyd datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn -
Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.1 ar y rhaglen. Datganodd y Cynghorydd Bryan Owen ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 7.2 ar y rhaglen; arhosodd yn y cyfarfod i siarad fel Aelod Lleol ond ni phleidleisiodd ar y cais. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 97 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd fod Siaradwyr Cyhoeddus wedi cael eu cofrestru i siarad mewn perthynas â chais 7.1
|
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
7.1 OP/2019/5 – Huws Grey, Stryd y Bont , Llangefni
7.2 FPL/2019/226 – Fronwen, Niwbwrch Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
7.1 OP/2019/5 - Cais cynllunio amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 o anheddau fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â manylion llawn y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Gray, Stryd y Bont, Llangefni
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2019, penderfynwyd bod angen ymweld â’r safle a gwnaed hynny wedyn ar 16 Hydref 2019.
Gan ei bod wedi datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Nicola Roberts (Cadeirydd) y cyfarfod pan gafodd y mater ei gyflwyno. Cadeiriodd y Cynghorydd Richard Owain Jones (Is-Gadeirydd) y cyfarfod ar gyfer yr eitem.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai gohirio ystyried y cais oedd argymhelliad y Swyddog bellach, a hynny oherwydd bod materion technegol wedi codi.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliodd y Cynghorydd Bryan Owen, y dylid gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
7.2 FPL/2019/226 - Cais llawn ar gyfer lleoli tri siale gwyliau, ffurfio trac mynediad newydd, newidiadau i fynediad cyfredol ynghyd â gosod gwaith trin newydd ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi ei alw i mewn i'r pwyllgor gan Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Hydref, 2019 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle a gwnaed hynny wedyn ar 16 Hydref, 2019.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais blaenorol i leoli tri siale gwyliau ac i greu trac mynediad newydd yn y lleoliad wedi ei wrthod ym mis Mehefin, 2019 ar y sail nad oedd y datblygiad yn cydymffurfio â Pholisi TWR3 (Safleoedd Carafanau Sefydlog a Siales a Gwersylla Amgen Parhaol) a Pholisi PS4 (Trafnidiaeth Gynaliadwy, Datblygu a Hygyrchedd) oherwydd ystyrir ei fod mewn lleoliad ynysig anghynaliadwy yn y cefn gwlad agored a hefyd oherwydd na chredir ei fod wedi ei leoli'n dda nac o ansawdd uchel. Ystyriwyd ymhellach nad oedd gan y cynnig gwreiddiol lain welededd ddigonol ar gyfer y fynedfa arfaethedig, a hynny’n groes i ofynion polisi. Mae'r cais hwn yn cynnwys cynllun i wella’r llain welededd ac mae'r Adain Briffyrdd wedi cadarnhau bod y cynllun hwnnw’n dderbyniol. Y materion cynllunio allweddol wrth ystyried y cais felly, fel o’r blaen, yw cynaliadwyedd y datblygiad dan ddarpariaethau Polisi PS4 ac a ellir ystyried ei fod yn ddatblygiad o safon uchel o dan ddarpariaethau Polisi TWR3.
Dywedodd y Swyddog fod Polisi PS4 yn nodi y bydd datblygiadau’n cael eu lleoli er mwyn lleihau'r angen i deithio, yn enwedig mewn cerbydau modur. Mae Polisi TWR 3 yn cefnogi datblygiadau twristiaeth ar yr amod eu bod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad. Nid yw'r cynnig fel y cyflwynwyd ef yn cynnwys unrhyw gyfleusterau cysylltiedig ac eithrio'r siales eu hunain. Mae'r CCA drafft ar Gyfleusterau a Llety Twristiaeth yn nodi’n eglur ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 1000 KB 12.1 OP/2019/14 – Gelli Aur, Brynsiencyn
12.2 DEM/2019/14 – Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi
12.3 FPL/2019/207 – Cyn safle Tafarn y Marquis, Rhosybol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 OP / 2019/14 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw’n ôl ar dir ger Gelli Aur, Brynsiencyn
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod safle’r cais yn ddarn o dir gwag rhwng 2 annedd ar stad Trefenai, Brynsiencyn. Mae amlinelliad o faint yr annedd o ran terfynau uchaf ac isaf wedi'i ddarparu fel rhan o'r cais ac os caiff y cais ei gymeradwyo, rhoddir amod ar y caniatâd (amod 08) i gyfyngu ar hyd a lled yr eiddo i'r meintiau a ddangosir ar y cynllun safle er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â’r canllawiau perthnasol ynghylch pellter o eiddo cyfagos. Dywedodd y Swyddog fod ymgyngoreion yn fodlon â'r cynnig ac wedi rhoi cymeradwyaeth amodol a chadarnhaodd hefyd fod yr Adain Ddraenio wedi cyflwyno sylwadau safonol ers hynny ynghylch y system ddraenio ar y safle. Er na dderbyniwyd unrhyw sylwadau hyd yma, nid yw'r cyfnod ar gyfer derbyn sylwadau yn dod i ben tan 6 Tachwedd; felly ar yr amod na dderbynnir unrhyw sylwadau sy'n codi materion newydd cyn i'r cyfnod cyhoeddusrwydd ddod i ben, yr argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliodd y Cynghorydd Eric Jones, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad a chyhyd na dderbynnir sylwadau sy'n codi materion newydd cyn i'r cyfnod cyhoeddusrwydd ddod i ben.
12.2 DEM / 2019/14 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel yr ysgol bresennol yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi.
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â thir sy'n eiddo i'r Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu a Ganiateir yn Gyffredinol) 1995, nad oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith adfer ar y safle. Yn unol â'r broses hon, rhoddwyd cyfnod o 28 diwrnod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y gwaith dymchwel arfaethedig a chadarnhaodd yn ystod y cyfnod hwnnw y byddai angen caniatâd ymlaen llaw er mwyn cael Cynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer y Gwaith Dymchwel (CRhAGD) sy'n manylu ar fesurau rheoli i leihau effeithiau’r gwaith dymchwel gan gynnwys ar fwynderau preswyl, a Chynllun Rheoli Amgylcheddol ar gyfer Trafnidiaeth Gwaith Dymchwel (CRhATGD) sy'n rhoi manylion am y mesurau rheoli i leihau effeithiau trafnidiaeth wrth ddymchwel yr adeilad. Mae'r cynlluniau hyn bellach wedi dod i law ac yn cael sylw. Darparwyd asesiad ecolegol fel rhan o'r cais sy'n cynnwys datganiad dull a chamau lliniaru ar gyfer dymchwel yr adeilad ar sail ragofalus rhag ofn bod ystlumod ar y safle. Mae'r manylion a gyflwynwyd yn yr asesiad ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim ceisiadau o’r fath i’w hystyried yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |