Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 168 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Yn codi o’r cofnodion -
Siaradodd y Cynghorydd Bryan Owen ar ran y Cynghorydd Peter Rogers nad oedd wedi gallu mynychu'r cyfarfod uchod fel Aelod Lleol ar gyfer cais 12.16 gan ei fod yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ben-glin, i gyfleu siom y Cynghorydd Rogers nad oedd y penderfyniad ar y cais wedi'i ohirio fel y gofynnodd er mwyn rhoi cyfle iddo annerch y Pwyllgor yn y Flwyddyn Newydd i ddarparu rhagor o wybodaeth mewn perthynas â'r cynnig.
Nododd y Pwyllgor sylwadau'r Cynghorydd Rogers ar y mater. |
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd fod Siaradwyr Cyhoeddus wedi eu cofrestru i siarad ar geisiadau 7.15 a 12.5. |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 281 KB 6.1 19C1231 – Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 19C1231 - Cais amlinellol ar gyfer codi 32 o anheddau marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a llecynnau agored ynghyd â manylion llawn ynghylch mynediad a gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod materion priffyrdd ac ecolegol mewn perthynas â'r cais yn cael sylw ar adeg ysgrifennu'r adroddiad. Yng ngoleuni'r pryderon priffyrdd a godwyd gan yr Aelodau Lleol, mae Swyddogion o'r farn y byddai o fantais i'r Pwyllgor weld safle'r cais a'r rhwydwaith priffyrdd o'i amgylch cyn iddo ystyried y cais.
Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a nodwyd. |
|
7.1 DEM.2019/2 – Bryn Glas Close, Caergybi
7.2 DEM/2019/3 – Bryn Glas Close, Caergybi
7.3 DEM/2019/4 - Ffordd Corn Hir & Pennant, Llangefni
7.4 DEM/2019/5 – Ffordd Lligwy, Moelfre
7.5 DEM/2019/6 – Craig y Don, Amlwch
7.6 DEM/2019/7 – Hampton Way, Llanfaes
7.7 DEM/2019/8 – Maes Llwyn, Amlwch
7.8 DEM/2019/9 – Maes Hyfryd, Llangefni
7.9 DEM/2019/10 – New Street, Biwmares
7.10 DEM/2019/11 – Pencraig, Llangefni
7.11 DEM/2019/12 – Tan yr Efail, Caergybi
7.12 DEM/2019/13 – Thomas Close, Biwmares
7.13 DEM/2019/15 – Maes yr Haf, Caergybi
7.14 DEM/2019/16 – Pencraig Mansion, Llangefni
7.15 FPL/2019/249 – Y Bedol, Tyn Rhos, Penysarn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 DEM / 2019/2 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2019, wedi penderfynu gohirio penderfynu ar y cais er mwyn caniatáu ymgynghoriad lleol ar y cynigion i ddymchwel. Mae'r cais bellach wedi'i dynnu'n ôl hyd nes i'r broses honno ddod i ben.
Dywedodd y Swyddog fod ceisiadau 7.2 i 7.14 ar y rhaglen hefyd wedi'u tynnu'n ôl am yr un rheswm.
Nodwyd bod y cais bellach wedi ei dynnu’n ôl.
7.2 DEM / 2019/3 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Bryn Glas Close, Caergybi
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.3 DEM / 2019/4 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis (tri bloc ar wahân) yn Ffordd Corn Hir a Pennant, Llangefni
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.4 DEM / 209/5 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Ffordd Llugwy, Moelfre
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.5 DEM / 2019/6 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Craig y Don, Amlwch
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.6 DEM / 2019/7 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Hampton Way, Llanfaes
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.7 DEM / 2019/8 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis ym Maes Llwyn, Amlwch
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.8 DEM / 2019/9 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis ym Maes Hyfryd, Llangefni
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.9 DEM / 2019/10 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn New Street, Biwmares
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.10 DEM / 2019/11 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Pencraig, Llangefni
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.11 DEM / 2019/12 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Tan yr Efail, Caergybi
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.12 DEM / 2019/13 - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel garejis yn Thomas Close, Biwmares
Adroddwyd fod y cais bellach wedi'i dynnu'n ôl, a nodwyd hynny gan y Pwyllgor.
7.13 DEM / 2019/15 - Cais ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd PDF 342 KB 8.1 DIS/2019/114 – Stâd Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni
8.2 RM/2019/11 – Stâd Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 8.1 DIS/2019/114 – Cais i ddileu amodau (06) (Gwaith archeolegol), (08) (Manylion goleuo), (10) (Manylion draenio) o ganiatâd cynllunio 34LPA1034 / CC / ECON ar dir ym Mharc Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gais a wnaed gan y Cyngor Sir.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais amlinellol cyfeirnod 34LPA1034 / CC / ECON wedi'i gymeradwyo fel estyniad i'r parc busnes cyfredol ym mis Mehefin, 2017 ar gyfer 7 uned at ddefnydd busnes cyffredinol (Dosbarth B1), defnydd diwydiannol cyffredinol (Dosbarth B2), defnydd warysau a dosbarthu (Dosbarth B8). Er mwyn cwrdd ag amodau’r caniatâd, mae manylion bellach wedi'u cyflwyno mewn perthynas ag archeoleg, goleuadau a draenio dŵr wyneb; ystyrir bod y manylion mewn perthynas ag archeoleg a goleuadau yn dderbyniol. Derbyniwyd manylion draenio diwygiedig ers hynny ac er yr ystyrir eu bod yn dderbyniol mewn egwyddor, maent yn dal i gael sylw. Argymhelliad y Swyddog felly yw y gellir dileu’r amodau os cadarnheir bod y manylion draenio yn dderbyniol.
Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar dderbyn cadarnhad bod y manylion draenio yn dderbyniol.
8.2 DRM/2019/11 – Cais materion a gadwyd yn ôl i godi 7 uned fusnes ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau a datblygiad cysylltiedig ar dir ym Mharc Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei gyflwyno ar ran y Cyngor Sir.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y bydd safle'r cais wedi'i leoli ar dri darn o dir ar wahân sy'n cael eu croesi gan ffordd gyswllt Llangefni. Yn unol â'r cais amlinellol a gymeradwywyd ym mis Mehefin 2017, bydd pum uned wedi'u lleoli ar dir i'r gogledd o'r ffordd gyswllt a bydd y ddwy uned arall wedi'u lleoli i'r de. Bydd ffyrdd mewnol yn gwasanaethu pob uned a gellir cael mynediad iddynt o'r ffordd gyswllt. Dywedodd y Swyddog, o ran cynllun, graddfa, golwg a deunyddiau, fod yr unedau'n adlewyrchu adeiladau eraill yn yr ardal ac o gofio’r gwaith tirlunio arfaethedig fel y disgrifir ef yn yr adroddiad, ystyrir y bydd y cynnig yn cydweddu â'r ardal gyfagos. Mae'r Gwasanaeth Priffyrdd yn fodlon â'r trefniadau mynediad ac ers hynny mae'r Cyngor Tref wedi cadarnhau ei fod yn cefnogi'r cais. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Vaughan Hughes, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau a gynhwysir ynddo. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd yr un cais o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd yr un cais o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 314 KB 11.1 HHP/2019/287 – 12 Stryd Wesley, Bodedern Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 HHP/2019/287 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau yn 12 Stryd Wesley, Bodedern
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn. Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu yr ystyrir bod maint a dyluniad y cynnig fel y cafodd ei gyflwyno yn dderbyniol yn ei amgylchedd ac na fydd yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau eiddo cyfagos. Felly, argymhellir cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd John Griffith, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn ddarostyngedig i'r amodau a gynhwysir ynddo. |
|
12.1 FPL/2019/300 – 15/16 Coedwig Terrace, Penmon
12.2 DEM/2019/17 – Ysgol Parch. Thomas Ellis, Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi
12.3 DEM/2019/18 – Llyfrgell Caergybi, Stryd Newry, Caergybi
12.4 DEM/2019/19 – Ysgol Gynradd y Parc, Maes Yr Haf, Caergybi
12.5 22C197E/VAR – Tan y Coed, Biwmares
12.6 FPL/2019/258 – Beaumaris Social Club, Steeple Lane, Biwmares
12.7 FPL/2019/299 – Ysgol Y Tywyn, Ffordd Minffordd, Caergeiliog Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2019/300 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau ynghyd â chreu man parcio newydd yn 15/16 Coedwig Terrace, Penmon
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan Wasanaeth Tai'r Cyngor ac mae ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cynnig yw hwn i ddymchwel yr estyniadau unllawr yng nghefn rhifau 15 ac 16 Coedwig Terrace, ynghyd â chodi estyniadau deulawr yn eu lle yng nghefn y ddau eiddo. Mae'r safle o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Arfordir Ynys Môn. Bydd cynllun mewnol y ddau eiddo yn cael ei newid i wneud gwell defnydd o'r gofod ac i ddarparu annedd dwy ystafell wely yr un. O dan y cynllun, bydd yr holl agweddau ar y gorffeniadau allanol yn cael eu newid am rai modern sy'n golygu y bydd y datblygiad arfaethedig yn adlewyrchiad gwell o sut mae’r stryd yn edrych ac yn integreiddio’n well â’r stryd oherwydd bod y rhan fwyaf ohoni eisoes wedi'i huwchraddio i ddeunyddiau modern. Nid ystyrir y bydd y cynllun yn arwain at unrhyw effaith annerbyniol ar fwynderau deiliaid eiddo cyfagos. Ers hynny mae'r Gwasanaeth Priffyrdd wedi cadarnhau ei fod yn fodlon â'r cynnig yn ddarostyngedig i amodau safonol sy'n ychwanegol at y rhai a nodir yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir ynddo ac amodau safonol ychwanegol mewn perthynas â phriffyrdd.
12.2 DEM/2019/17 – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel yr hen Ysgol Parch.Thomas Ellis, Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel y cafodd ei gyflwyno gan y Cyngor Sir ac mae ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu, o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, nad oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau ar yr amod bod y datblygwr yn gwneud cais yn gyntaf i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i gadarnhau a oes angen ei gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith adfer ar y safle. Mae dau o'r Aelodau Lleol wedi cadarnhau nad oes ganddynt wrthwynebiadau i'r cynnig; nid oes gan y Cyngor Tref unrhyw wrthwynebiadau ychwaith ar yr amod bod y cae chwarae yn cael ei gadw at ddefnydd y gymuned a bod y safle'n cael ei ystyried i'w ddefnyddio yn y dyfodol fel canolfan feddygol newydd. Fodd bynnag, o dan ddarpariaethau'r Gorchymyn, dim ond y dull o ddymchwel ac adfer y safle y gellir eu hystyried, nid yw cadw'r safle a'r defnydd a wneir ohono yn y dyfodol yn ystyriaethau wrth benderfynu ar y cais. Yn unol â'r broses hon, rhoddwyd cyfnod o 28 diwrnod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y gwaith dymchwel arfaethedig a chadarnhaodd yn ystod y cyfnod hwnnw y byddai angen cymeradwyaeth ymlaen llaw er mwyn cael Cynllun ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 42C188E/ENF – 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 42C188E/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi uned wyliau newydd yn 4 Tai Hirion, Rhoscefnhir
Yn ei gyfarfod ar 7 Tachwedd, 2018, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog yn amodol ar lofnodi cytundeb Adran 106. Adroddir ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er mwyn cadarnhau telerau'r cytundeb Adran 106.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor ar 7 Tachwedd, 2018 yn nodi “Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog yn amodol ar gytundeb adran 106 i ymgorffori’r gweithgareddau yn 4 Tai Hirion a’r gweithgareddau yn Rhyd y Delyn yn un uned fusnes a chydag amodau i’w penderfynu gan y Swyddogion.” Yn ei gyfarfod ym mis Hydref, 2018 roedd y Pwyllgor wedi trafod ymgorffori'r holl fusnesau yn Rhyd y Delyn a Tai Hirion gyda'i gilydd, gan gynnwys y safle carafanau teithiol a leolir yn Tai Hirion; dyma sut roedd Swyddogion wedi dehongli dymuniadau'r Pwyllgor wrth ddrafftio cytundeb Adran 106. Fodd bynnag, mae llythyr dyddiedig 8 Ionawr, 2020 gan asiant yr ymgeisydd yn nodi bod y cofnodion yn glir mai dymuniadau'r Pwyllgor oedd na ddylai'r cytundeb Adran 106 ond gynnwys yr uned wyliau yn 4 Tai Hirion, sef testun y cais, a hefyd y busnesau yn Rhyd y Delyn.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones ei fod, wrth gynnig y cytundeb Adran 106 yn wreiddiol, wedi bwriadu iddo gynnwys y busnesau yn 4 Tai Hirion a Rhyd y Delyn ond nid y safle carafanau teithiol gan mai’r mab oedd perchennog y safle hwnnw. ‘Roedd o’r farn fod y cofnodion yn adlewyrchiad cywir o'r hyn a benderfynwyd a chynigiodd y dylid eu hailgadarnhau felly. Eiliodd y Cynghorydd Eric Jones y cynnig.
Penderfynwyd cadarnhau y bydd amodau’r Cytundeb Adran 106 yn golygu’r uned wyliau sydd wedi’i lleoli yn 4 Tai Hirion a’r busnesau Gwely a Brecwast a chynhyrchu caws yn Rhyd y Delyn.
|