Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb fel y rhestrir uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 609 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod rhithiol blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliad safle rhithiol a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2020. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle rhithwir a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darllenwyd sylwadau a wnaed gan wrthwynebydd a chefnogwr ynglŷn â chais 7.1 a gan gefnogwr ynglŷn â chais 7.2 yn llawn yn y cyfarfod. |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
7.1 FPL/2019/217 – Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H0 0000JsykpUAB/fpl2019217?language=cy
7.2 FPL/2019/322 – Christ Church, Rhosybol
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H0 0000Ixw9OUAR/fpl2019322?language=cy
7.3 FPL/2020/166 – Cymunod, Bryngwran
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H0 0000MiVHYUA3/fpl2020166?language=cy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2019/217 – Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd ar gyfer cerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirweddu meddal a chaled ar dir gerllaw Ystâd Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl i ddau o'r Aelodau Lleol ei alw i mewn i'r Pwyllgor benderfynu arno. Roedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais i alw'r cais i mewn am eu penderfyniad eu hunain ac roedd y cais wedi'i ohirio’n flaenorol tra disgwylid am y penderfyniad hwn. Roedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru bellach wedi adolygu'r cais ac wedi penderfynu peidio â'i alw i mewn.
Darllenodd Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan Tom Woodward, preswylydd o ystâd Craig y Don oedd yn gwrthwynebu'r cais fel a ganlyn -
Diolch am y cyfle i roi sylwadau uniongyrchol i'r Pwyllgor Cynllunio, er efallai bod y rheini ohonoch sydd wedi darllen yr holl lythyrau gwrthwynebu yn ymwybodol eisoes o rai o'r pwyntiau yr wyf yn eu gwneud.
Hoffwn dynnu sylw at y ffaith nad yw'r wybodaeth sy'n cefnogi'r cais yn gywir oherwydd ei bod yn cael ei defnyddio gan y Datblygwr i gefnogi datblygiad cartrefi fforddiadwy arall ym mhentref Benllech o 27 o gartrefi a basiwyd rhai misoedd yn ôl gennych chi eich hunain. Felly, mae'r rhagolygon o ran y galw yn anghywir.
Mae'r datblygiad arfaethedig hwn y tu allan i ardal bresennol y cynllun datblygu ac mae'n cael ei adeiladu ar AHNE. Sylweddolaf fod modd ystyried datblygiadau bach y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol, ond nid oes diffiniad o ddatblygiad bach na'r datblygiad mwyaf y gellid ei wneud yn yr achosion hyn. Mae'n agored i gael ei ddehongli mewn gwahanol leoliadau. Nid cynllunio yw hyn ond erydu ffiniau.
Nifer yr eiddo a geisiwyd yn wreiddiol oedd 29, mae hyn wedi gostwng yn sydyn i 17 – Pam? Os oedd y data ategol ar gyfer y cais yn gywir, roedd angen 29 o dai fforddiadwy - sut y gall y nifer leihau'n sydyn i 17? Mae'n debyg oherwydd bod y trafodaethau sy'n cael eu cynnal gan yr ymgeisydd gyda Swyddogion Cynllunio yn datgelu bod 29 yn ormod i fodloni diffiniad BACH sydd wedi'i ddiffinio'n wael yn TAN 2, felly gwnewch gais datblygu llai i sicrhau bod rhywfaint o ddatblygiad yn cael ei ganiatáu a bod cyfle i godi unedau ychwanegol yn ddiweddarach.
Mae'r datblygwr yn bwriadu darparu mwy o fynedfeydd i'r cae nag a oedd gan y ffermwr o'r blaen, pob giât gyda ffordd darmac at gatiau'r cae. Mae'r lluniadau diwygiedig ar gyfer y 17 eiddo yn datgelu cyfanswm o 3 mynediad i gaeau, wedi'u labelu at ddefnydd fferm, ond mae'n ymddangos yn eithaf amlwg, unwaith eto, mai nod y cais cynllunio hwn yn y pen draw, os yw'n llwyddiannus, yw caniatáu ymestyn y datblygiad ryw ddyddiad yn y dyfodol.
Gyda'r cynnydd mewn tai yn ardal y cynllun newydd sydd wedi'i basio, fe'm harweinir i gredu y bydd 60% yn fwy na’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Forddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 777 KB 12.1 TPO/2020/13 – Cae Isaf, Llansadwrn
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H0 0000NABPvUAP/tpo202013?language=cy
12.2 FPL/2020/150 – Lôn Newydd, Llangefni
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H0 0000MiHp3UAF/fpl2020150?language=cy
12.3 MAO/2020/22 – Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 TPO/2020/13 – Cais i dorri coed a ddiogelir gan Orchymyn Cadw Coed yng Nghae Isaf, Llansadwrn
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Awdurdod Priffyrdd y Cyngor Sir yw'r ymgeisydd.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn cael ei wneud gan y Cyngor er mwyn hwyluso mân waith lliniaru llifogydd arfaethedig a fydd yn newid y cwlfert cerrig presennol yn y lôn am beipen blastig yn ogystal â chlirio'r ffos ddraenio gerllaw'r lôn. Mae'r coed dan sylw’n dangos nodweddion dirywio a chynefinoedd sy'n gymesur â choed aeddfed; mae cynllun ailblannu i fynd i'r afael â cholli amwynder wedi'i gyflwyno a bydd yn amod caniatâd. Ystyrir felly bod y cyfiawnhad dros dorri’r coed yn glir, bod yr effeithiau andwyol ar amwynder yn dderbyniol ac y gellir eu lleihau drwy blannu coed yn eu lle ar y safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Eric Jones, y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amod cynllunio sydd ynddo.
12.2 FPL/2020/150 – Cais Llawn i godi 9 annedd ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir yn Stryd y Bont, Llangefni
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn rhannol ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Galwyd y cais i mewn gan Aelod Lleol i’r Pwyllgor benderfynu arno.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts, a oedd hefyd yn Aelod Lleol yn yr achos hwn, y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir oherwydd pryderon lleol ynghylch materion traffig a draenio. Cafodd y cynnig ei secondio gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.
Wrth egluro nad oedd wedi gallu bod yn bresennol yn ystod yr ymweliad safle rhithwir a gynhaliwyd yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2020, tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at ba mor ddefnyddiol y bu’r recordiad o’r cyfarfod iddo a chynigiodd fod pob ymweliad safle rhithwir a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn cael eu recordio fel mater o arfer/drefn. Cafodd y cynnig ei secondio gan y Cynghorydd Nicola Roberts ac fe'i cefnogwyd gan y Pwyllgor.
Penderfynwyd –
• Cynnal ymweliad safle rhithwir gan y Pwyllgor yn achos y cais. • Bod pob ymweliad safle rhithwir a gynhelir gan y Pwyllgor yn cael eu recordio fel mater o arfer/drefn.
12.3 MAO/2020/22 - Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 19LPA1025E/CC/VAR er mwyn ychwanegu amod i sicrhau bod y datblygiad yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd ynghyd â diwygio dyluniad, lleoliad a deunydd adeiladu’r storfa finiau a’r standiau beics yn Neuadd y Farchnad, Stanley Street, a Chaergybi
Adroddwyd am y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw'r ymgeisydd a'r perchennog tir.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer diwygiadau ansylweddol i'r cynllun a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |