Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i Ffrydio'n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 1 Medi, 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, a gynhaliwyd yn rhithwir, yn gywir.
|
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gafwyd ar 15 Medi, 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021, yn gywir.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.3, 12.4 a 12.5.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
7.1 – FPL/2021/144 - Llys Y Gwynt, Llanfawr Close, Caergybi https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKiIlUAL/fpl2021144?language=cy
7.2 FPL/2019/338 – Cerrig, Penmon https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000IxyHqUAJ/fpl2019338?language=cy
7.3 HHP/2021/183 – Dirion Dir, Llangefni https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKYIXUA5/hhp2021183?language=cy
7.4 - FPL/2021/145 – Rhosydd, Brynteg https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKjboUAD/fpl2021145?language=cy
7.5 – HHP/2021/157 – The Old Smithy, Marianglas https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKIeLUAX/hhp2021157?language=cy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2021/144 – Cais llawn ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau er mwyn creu unedau ychwanegol yn Llys y Gwynt, Llanfawr Close, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Medi 2021 penderfynwyd ymweld â’r safle. Cynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 15 Medi 2021.
Siaradwr Cyhoeddus
Dywedodd Mr Gwyndaf Williams, a oedd yn siarad o blaid y cais, fod y cais ar gyfer moderneiddio ac adeiladu unedau ychwanegol ar gyfer pobl ifanc ddigartref yn Llys y Gwynt. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y datblygiad hwn yn hwb enfawr i wella ansawdd bywyd a chyfleoedd i’r bobl ifanc dan sylw. Nododd ei bod yn bwysig i’r pwyllgor Cynllunio dderbyn y wybodaeth a ganlyn wrth iddynt ystyried y cais cynllunio i wella a chynyddu maint y cynllun.
Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer dymchwel rhan o’r adeilad a’i addasu a’i ymestyn i greu 6 uned ychwanegol fel hostel i ddarparu llety â chymorth i ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau am dŷ fforddiadwy yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw gynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
12.1 – FPL/2021/220 - Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn /, Llangefni https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O2kh1UAB/fpl2021220?language=cy
12.2 – FPL/2021/163 – Canolfan Ucheldre, Caergybi https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKxRLUA1/fpl2021163?language=cy
12.3 – LBC/2021/24 – Canolfan Ucheldre, Caergybi https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OLC9KUAX/lbc202124?language=cy
12.4 – FPL/2201/108 - Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKKltUAH/fpl2021108?language=cy
12.5 – FPL/2021/106 – Neuadd, Cemaes https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKHJzUAP/fpl2021106?language=cy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2021/220 – Cais llawn i gadw’r adeilad parod am gyfnod dros dro hyd at fis Mawrth 2022 i gartrefu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau i’w defnyddio gan ddisgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i’r Cyngor.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais ar gyfer cadw adeilad parod ar y tir tan fis Mawrth 2022 oherwydd bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol helaeth ar do Canolfan Addysg y Bont. Dywedodd y byddai angen dileu Amod 1 yn adroddiad y swyddog gan fod y cais am gyfnod dros dro yn unig.
Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod Amod 1 yn cael ei ddileu.
12.2 FPL/2021/163 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ymestyn yr adeilad rhestredig ynghyd â gwaith tirlunio yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y Cyngor yn berchen ar ran o’r safle.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cais ar gyfer estyniad ochr i greu siop/cyntedd, codi estyniad cefn er mwyn creu gweithdy celf, stiwdio ddawns, cyfleusterau storio a newid ar gyfer Canolfan Ucheldre, sydd yn adeilad rhestredig, addasu’r gosodiad mewnol ynghyd â dymchwel rhai waliau mewnol a gwneud gwaith tirlunio meddal a chaled. Nododd yr ystyrir na fyddai’r estyniad yn gorbwyso cymeriad neu edrychiad yr adeilad presennol. Nodwyd hefyd y cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig ar 17 Medi 2021 a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 14 Hydref 2021.
Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffiths.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r hawl i’r swyddog weithredu trwy gymeradwyo’r cais yn unol â’r argymhelliad ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.
12.3 LBC/2021/24 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau, ynghyd ag addasiadau mewnol ac allanol i’r adeilad yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y Cyngor yn berchen ar ran o’r safle.
Dywedodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cais ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2021/108 – Cais llawn ar gyfer troi’r adeilad allanol yn annedd fforddiadwy ynghyd a’i addasu a’i ymestyn yn Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Siaradwr Cyhoeddus
Dywedodd Mr Rhys Davies, a oedd yn siarad o blaid y cais, fod y cais ar gyfer trosi adeilad ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|