Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
(Yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Neville Evans fel Cadeirydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Ken Taylor yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a diolchodd i'w gyd-aelodau yn y pwyllgor am yr anrhydedd, a'u hymddiriedaeth ynddo. Diolchodd hefyd i'w ragflaenydd, y Cynghorydd Neville Evans am ei gyfraniad yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn datgan diddordeb o ran ceisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 a hefyd yn gofyn i’r pwyllgor ohirio’r cam o ystyried yr eitemau hyn gan nad oedd yn ystyried ei bod yn iawn, yn deg nac yn gyfiawn i unrhyw barti dan sylw fod penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch y ceisiadau cyn i’r materion cyfreithiol gael eu datrys.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Aelodau'n cael cyfle i fynegi barn ar y ceisiadau hynny ar yr adeg briodol yn nhrefn busnes.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 522 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Mawrth, 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Mawrth, 2023 eu cyflwyno a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar ddiwygio brawddeg gyntaf y pedwerydd paragraff ar dudalen 10 o dan gais 7.2 i ddarllen, “Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb yn ystod yr ymweliad safle â’r tir bod y tir i weld yn wlyb iawn."
|
|
Ymweliadau Safle Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chynhaliwyd unrhyw ymweliadau safle ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 13.4 a 13.6 ar yr agenda. |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Copi o lythyr i Richard Buxton Solicitors er gwybodaeth
8.1 46C427L/COMP - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
8.2 S106/2020/3 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
8.3 COMP/2021/1 - Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi
8.4 HHP/2022/342 - Islwyn, Ffordd Caergybi, Llanfairpwll
8.5 FPL/2022/173 - Lôn Penmynydd, Llangefni
8.6 FPL/2020/247 – Stad Y Bryn, Llanfaethlu
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Er gwybodaeth i’r Pwyllgor cyflwynwyd copi o lythyr at Richard Buxton Solicitors dyddiedig 28 Mawrth, 2023 gan Burges Salmon LLP a oedd yn mynd i'r afael â materion a godwyd o ran gweithredu caniatâd Land and Lakes o dan gyfeirnod 46C427K/TR/EIA/CON.
Cafodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol wahoddiad gan y Cadeirydd i egluro'r cyd-destun i'r llythyr gan Burges Salmon LLP.
Cododd y Cynghorydd Jeff Evans bwynt o drefn yn dweud ei fod eisiau siarad am ohirio ceisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 a'i fod yn credu y dylid clywed hyn cyn i unrhyw un arall siarad ar y mater yn enwedig gan ei fod wedi datgan diddordeb yn y ceisiadau hynny ac felly y byddai'n ymneilltuo o'r cyfarfod pe baen nhw'n cael eu trafod.
Dyfarnodd y Cadeirydd y byddai'r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn siarad cyn ystyried ceisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 ac fe sicrhaodd y Cynghorydd Evans ac aelodau eraill o'r Pwyllgor y byddent yn gallu siarad pan fyddai'r eitemau sylweddol hynny yn cael eu hystyried.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod Land and Lakes wedi cael caniatâd cynllunio i ddatblygu safleoedd Penrhos, Cae Glas a Kingsland sawl blwyddyn yn ôl. Ym mis Ionawr, 2023 derbyniodd y Cyngor lythyr gan Richard Buxton Solicitors ac roedd ar ddeall ei fod ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol a’i fod felly'n gyhoeddus, a oedd yn herio’r caniatâd. I gydnabod arwyddocâd y cais i drigolion lleol, ceisiodd y Cyngor ymateb i'r llythyr mewn ffordd oedd yn dryloyw ac ar gael i bawb oedd â diddordeb. Gan weithio gyda Burges Salmon sydd wedi cael eu cyflogi gan y Cyngor ers blynyddoedd lawer i roi cyngor ar gais Land and Lakes, cafodd y llythyr sydd wedi'i gyhoeddi fel rhan o ddogfennau’r cyfarfod hwn, ei ddrafftio. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol na fyddai'n trafod y llythyr yn fanwl, yn hytrach dywedodd fod ei gynnwys yn dechnegol a'i fod yn ymateb i faterion a oedd hefyd yn dechnegol eu natur. Fodd bynnag, mae'r casgliadau a nodir ar ddiwedd llythyr Burges Salmon yn cael eu geirio mewn termau llai technegol ac maen nhw'n glir, ac yn cynrychioli safbwynt y Cyngor ar y mater. Derbyniwyd llythyr pellach gan Richard Buxton Solicitors ar 3 Ebrill, 2023 ac roedd yn deall bod hwn hefyd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol; mae'r llythyr hwn wedi cael ei ystyried gan Swyddogion ac mae wedi cael ei drafod gyda Burges Salmon ac mae'r Swyddogion yn fodlon nad yw'n codi unrhyw faterion newydd o bwys nac yn newid y casgliadau a nodir yn y llythyr gan Burges Salmon.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol nad yw'r materion a godwyd yn y llythyrau yn cynnwys ceisiadau 8.1, 8.2 ac 8.3 ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod hwn, gan fod y rhain yn ymwneud â materion penodol, manwl o dan y caniatâd cynllunio a chytundeb Adran 106. Eglurodd nad oedd y Cyngor wedi cyhoeddi'r ohebiaeth gan Richard Buxton Solicitors gan nad oedd ganddo berchnogaeth o'r ohebiaeth ac felly nid oedd ganddo’r hawl i wneud hynny, beth bynnag, mae’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 FPL/2023/30 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chodi anecs (er mwyn diwygio dyluniad a gosodiad a ganiateir o dan gais cyfeirnod FPL/2022/116) yn Wylfa, Pencarnisiog, Tŷ Croes
Adroddwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gwyro ac yn groes i Bolisi PCYFF 1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn ond, roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu oherwydd bod caniatâd wrth gefn dilys yn bodoli.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod egwyddor annedd yn y lleoliad hwn wedi'i sefydlu o dan ganiatâd cynllunio blaenorol 28C108D a ddiogelwyd trwy gychwyn gwaith perthnasol ac felly mae'n ddilys am byth. Cyfeiriodd at ddimensiynau'r datblygiad arfaethedig o'i gymharu â rhai'r cynnig o dan y caniatâd a ddiogelwyd gan gadarnhau, er gwaethaf y maint mwy sy'n deillio o'r arwynebedd llawr mwy, bydd gostwng yr uchder fel y'i cyflwynir yn y cais hwn yn sicrhau nad yw'n fwy amlwg o safbwynt gweledol. Mae'r eiddo cyfagos agosaf 25 metr i'r de-ddwyrain o'r safle ac o'r herwydd ni ystyrir y byddai'n cael effaith sylweddol waeth nag effaith y cynllun a ddiogelwyd. Hefyd mae’r briffordd yn gwahanu’r ddau eiddo. Mae'r cynllun fel y'i cyflwynir hefyd yn wahanol i'r caniatâd gwreiddiol a ddiogelwyd gan fod bwriad i godi ystafell ardd/adeilad anecs. Bydd yr anecs yn rhannu'r un ardd a'r lle parcio â'r prif annedd ac nid yw ei faint/lefel y ddarpariaeth yn golygu y gellid ei rannu’n hawdd yn uned gynllunio ar wahân. Bwriedir gosod amod sy'n sicrhau y bydd at ddibenion ategol i’r defnydd preswyl a wneir o’r prif annedd. Cynigir gwelliannau ecolegol hefyd fel rhan o'r cynllun a bydd y cynnig yn defnyddio'r un trefniadau mynediad â'r hyn sydd yn y caniatâd blaenorol sy'n golygu nad oes gwrthwynebiadau gan yr Awdurdod Priffyrdd. Ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol ac yn welliant ar y caniatâd presennol ac felly argymhellir ei gymeradwyo.
Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans y dylid ei gymeradwyo, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Geraint Bebb yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
13.1 LBC/2023/1 – Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi
13.2 FPL/2023/6 – Maes Parcio Iard yr Hen Orsaf, Stryd Fawr, Llangefni
13.3 FPL/2023/24 – Bryn Fedwen Cottage, Gaerwen
13.4 HHP/2022/291 – Monfa, Ffordd Caergybi, Mona
13.5 FPL/2022/256 – Crown Street, Gwalchmai
13.6 FPL/2022/85 – Clwb Golff LLangefni
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 LBC/2023/1 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer addasu adeilad rhestredig sydd wedi’i adael i fod yn 4 fflat llety cymdeithasol, ynghyd â gwaith allanol a mewnol ym Mhlas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi
Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar gyfer datblygu ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr adeilad dan sylw wedi bod yn wag ers dechrau'r 1970au a’i fod ar hyn o bryd mewn cyflwr gwael. Gwnaed difrod strwythurol iddo yn sgil dŵr yn mynd i mewn i’r adeilad a baw colomennod. Mae achosion o losgi bwriadol a fandaliaeth hefyd wedi arwain at ddifrod gan dân. Mae Plas Alltran ar Gofrestr Adeiladau Cadw sydd mewn Perygl ers 2001, a nodwyd ei fod mewn cyflwr gwael iawn mewn Asesiad Risg Asedau Hanesyddol ym mis Rhagfyr 2020. Yn ogystal â hyn, mae'r adeilad ymysg 20 prif adeilad y Gymdeithas Fictoraidd sydd mewn perygl yn y DU. Rhoddwyd caniatâd adeilad rhestredig i'w drawsnewid, dymchwel rhan o'r adeilad a chodi estyniad fel rhan o’r gwaith allanol a mewnol ar Hydref, 2021 ond oherwydd yr angen i sicrhau arbedion cost, mae'r contractwyr yn ceisio gwneud newidiadau i'r cynllun fel y disgrifir yn yr adroddiad. Ar ôl bod yn wag am bron i 50 mlynedd, bydd yr adeilad rhestredig hwn sydd wedi'i leoli mewn llecyn amlwg yn parhau i ddirywio nes y bydd gwaith adfer yn cael ei wneud. Byddai caniatâd adeilad rhestredig a chaniatâd cynllunio a gweithredu'r cynigion yn diogelu dyfodol yr adeilad; felly, yr argymhelliad yw ei gymeradwyo.
Gan siarad fel Aelod Lleol, cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at Blas Alltran fel adeilad gwych a oedd bellach mewn cyflwr adfeiliedig ac a oedd wedi'i leoli ar gornel lletchwith ger y prif gylchfan i mewn i'r Porthladd. Er ei fod yn croesawu'r posibilrwydd o ailddefnyddio’r adeilad unwaith eto, gan nodi bod gwaith adfer wedi bod yn digwydd ers rhai misoedd, roedd ganddo rai amheuon ynghylch y ddarpariaeth barcio gan fod problemau wedi codi yn y cyffiniau gyda cherbydau’n parcio ar balmentydd.
Eglurodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais dan ystyriaeth am ganiatâd adeilad rhestredig yn cynnwys gwaith mewnol ac allanol i'r adeilad. Dywedodd fod y cynnig eisoes wedi sicrhau caniatâd cynllunio a bod lle parcio wedi'i ystyried fel rhan o'r broses honno. Felly nid yw egwyddor y datblygiad yn fater i'w drafod.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylai'r cais gael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Jackie Lewis.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a’r adroddiad yn amodol ar yr amodau cynllunio a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
13.2 FPL/2023/6 - Cais llawn i gadw cynhwysydd storio ar gyfer defnydd storio offer ym Maes Parcio Iard yr Hen Orsaf, Stryd Fawr, Llangefni.
Cafodd y cais ei adrodd i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn wnaeth y cais.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un mater arall ei ystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|