Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu’r Cynghorydd John I Jones ddatgan diddordeb personol (ond nid un a oedd yn rhagfarnu) mewn perthynas â chais 7.2 yr oedd wedi derbyn cyngor mewn perthynas ag ef. |
|
Cyflwyno, i’w cadarhau, gofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel a ganlyn:-
· 9 Mai, 2024; · 21 Mai, 2024 (Ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod a chadarnhawyd eu bod yn gywir:-
· 9 Mai, 2024; 21 Mai, 2024 (Ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd) |
|
Cyflwyno, cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 22 Mai, 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 22 Mai, 2024 fel cofnod cywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.3 a 12.1. |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
7.1 – FPL/2023/328 – Capel Jerusalem, Llangoed
7.2 – FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran
7.3 – FPL/2023/118 – Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 7.1 FPL/2023/328 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y capel i fod yn 3 uned gwyliau ynghyd a addasu ac ehangu yng Nghapel Jerusalem, Llangoed.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn mynd â’r trothwy ar gyfer llety gwyliau yn ardal Llangoed y tu hwnt i’r 15% a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol (ac nad yw niferoedd y llety AirBnB wedi eu cynnwys yn y ffigyrau llety gwyliau ac y byddai eu cynnwys yn mynd â’r ffigwr ymhell y tu hwnt i’r trothwy o 15%).
(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn galluogi Swyddogion i ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.)
7.2 FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newydd defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, addasiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar tir yn Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran.
Penderfynwyd gohirio’r cais i’r cyfarfod nesaf gan fod ystyriaethau materol eraill wedi eu codi mewn gwrthwynebiad i’r cais, sef: byddai’r cais yn achosi niwsans i gymdogion (yn groes i bolisi PCYFF 2); y byddai’r sgrinio ar y safle yn annigonol (yn groes i bolisi PCYFF 3); y byddai’n ychwanegu’n annerbyniol i draffig lleol (yn groes i bolisi PCYFF 4) a bod y fynedfa arfaethedig yn achosi perygl i ddefnyddwyr ffordd.
7.3 FPL/2023/118 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir i leoli 55 o garafanau/cabanau gwyliau sefydlog, newid defnydd yr adeilad allanol i lle golchi dillad, derbynfa a swyddfa ynghyd a adeiladu ffyrdd newydd ar y safle, codi adeilad trin carthffosiaeth, adeiladu maes parcio, gwaith tirlunio meddal a chaled a gwaith cysylltiedig yn Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd nad oedd y fynedfa i’r lleoliad yn ddigonol er mwyn gallu gwasanaethu datblygiad fel hwn ar raddfa fawr ac nad yw’r datblygiad mewn lleoliad cynaliadwy.
(Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad bydd y cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn galluogi Swyddogion i ymateb i’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais.) |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dai Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Development Proposals submitted by Councillors and Officers Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
12.1 - FPL/2023/339 – Lane Ends, Llaneilian
12.2 – FPL/2024/43 – Mynwent y Rhyd, Cemaes
12.3 – VAR/2024/26 - Egwlys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy.
12.4 – FPL/2023/181 - Shirehall, Lon Glanhwfa, Llangefni.
12.5 – FPL/2024/64 - Tyddyn Dylifws, Tyn y Gongl
12.6 – HHP/2024/56 - 2 Saith Lathen, Ty Croes
12.7 – FPL/2024/40 - Anglesey Golf Club, Station Road, Rhosneigr.
12.8 – FPL/2024/60 - Cae Pêl Droed Bae Trearddur
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 12.1 FPL/2023/339 – Cais llawn ar gyfer newid dyluniad yr adeilad a cais ôl-weithredol ar gyfer gosod paced trin carthffosiaeth yn y storfa gychod ar dir ger Lane Ends, Llaneilian
Penderfynwyd gohirio’r cais er mwyn galluogi’r Pwyllgor i weld yr adroddiad PEDW cyn gwneud penderfyniad.
12.2 FPL/2024/43 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i greu estyniad i'r fynwent bresennol ym Mynwent Y Rhyd, Cemaes.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 VAR/2024/26 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (03) (Ecolegol), (05) (Dylunio tirlunio) a (09) (Cynlluniau Cymeradwyd) o caniatâd cynllunio rhif FPL/2023/141 (newid defnydd Eglwys i fod yn un eiddo preswyl (Defnydd Dosbarth C3) ac un eiddo llety gwyliau tymor byr (Defnydd Dosbarth C6) ynghyd â chodi adeilad sied/garej) er mwyn caniatáu diwygio lleoliad y sied sydd wedi ei ganiatáu a torri coed tu cefn i'r adeilad yn Egwlys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2023/181 – Cais llawn ar gyfer codi 6 uned preswyl ynghyd a gwaith cysylltiedig yn Lleoliad: Shirehall, Lôn Glanhwfa, Llangefni.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.5 FPL/2024/64 – : Cais llawn i ddymchwel y tŷ presennol ynghyd â chodi annedd yn ei le a chadw y fynedfa newydd i gerbydau yn Tyddyn Dylifws, Tyn y Gongl.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.6 HHP/2024/56 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Lleoliad: 2 Saith Lathen, Tŷ Croes
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.7 FPL/2024/40 – Cais llawn ar gyfer defnyddio y iard presennol i leoli gynwysyddion storio ar dir yng Nghlwb Golff Ynys Môn/Anglesey Golf Club, Ffordd yr Orsaf/Station Road, Rhosneigr.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.8 FPL/2024/60 – Cais llawn ar gyfer lleoli caban lluniaeth yng Nghae Pêl Droed Bae Trearddur
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |