Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2025 yn gywir.
|
|
|
Ymweliad Safleoedd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Siaradwr Cyhoeddus yn gysylltiedig â chais 12.1.
|
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau'n codi Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau'n gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
12.1 – FPL/2025/108 – Canolfan Penrallt, Plas Arthur, Llangefni
12.2 – LBC/2025/24 – Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi
12.3 – CAC/2025/3 – 97 Stryd y Farchnad, Caergybi
12.4 – ADV/2025/7 – 91-97 Stryd y Farchnad, Caergybi
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2025/108 – Cais llawn ar gyfer ailddatblygu Canolfan Penrallt yn westy bwtîc 13 ystafell wely a lleoliad priodasau ynghyd â gwaith addasu ac ehangu yng Nghanolfan Penrallt, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.
Siarad Cyhoeddus
Dywedodd Mr Owen Evans, a oedd yn cefnogi’r cais, bod y cais ar gyfer creu gwesty bwtîc a lleoliad priodasau yn yr hen ysgol ym Mhenrallt, Llangefni. Mae’r cais yn sicrhau cydbwysedd rhwng treftadaeth, cadwraeth ac adfywio’r economi. Y nod yw dod ag un o’r adeiladau mwyaf adnabyddus yn Llangefni yn ôl i ddefnydd a dathlu ei hanes a’i gymeriad. Mae safle Penrallt wedi bod yn wag ers cau campws Coleg Menai yn 2019. Mae’r safle mewn lle amlwg oddi mewn i Ardal Gadwraeth Llangefni ac mae Cofeb Restredig Gradd II ar y safle a fydd yn cael ei chadw fel rhan o’r prosiect. Bydd y gwaith cadwraeth yn cael ei gynnal gyda’r parch mwyaf, gan sicrhau bod arwyddocâd hanesyddol a chymdeithasol y gofeb yn cael ei gydnabod a’i ddeall o hyd. Bydd y datblygiad yn cynnwys 13 ystafell wely en-suite, neuadd briodasau ac achlysuron i hyd at 200 o bobl, gwelliannau sensitif i’r dirwedd a’r maes parcio, a ffocws cryf ar gynaliadwyedd, gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, storfa beiciau, a systemau ynni effeithlon. Nododd y bydd gan y gwesty le i 26 o westeion dros nos ac y bydd priodasau ac achlysuron yn denu ymwelwyr ychwanegol i’r dref. Bydd hyn yn rhoi hwb i fusnesau lleol megis gwestai, bwytai a siopau. Bydd cydweithio’n digwydd gyda Chanolfan Hamdden Plas Arthur i annog gwesteion i ddefnyddio cyfleusterau lleol. Aeth Mr Evans ymlaen i ddweud y bydd y datblygiad yn creu 14 swydd lawn amser a 6 swydd ran-amser o leiaf, ynghyd â chyfleoedd pellach i gyflenwyr lleol, cogyddion, siopau blodau a ffotograffwyr. Bydd y gwaith adeiladu ac addurno yn rhoi blaenoriaeth i gontractwyr lleol, gan sicrhau bod y buddsoddiad yn cefnogi’r economi leol. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio’n ofalus i barchu a gwella cyd-destun hanesyddol y safle. Bydd strwythur carreg gwreiddiol yr adeilad - gyda’i ffenestri nodedig a’i dalcen arddull Iseldiraidd - yn cael ei gadw a’i adnewyddu. Bydd yr estyniadau arfaethedig yn gymedrol ac yn gydnaws, gan sicrhau bod cymeriad yr adeilad yn parhau i gyfrannu’n gadarnhaol i’r Ardal Gadwraeth. Mae’r cynllun tirwedd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y coed aeddfed o amgylch y safle a’r ardal o amgylch y gofeb. Bydd y gwelliannau yn adfer y berthynas hanesyddol rhwng yr adeilad a’r gofeb yn unol ag arferion gorau ym maes cadwraeth. Aeth ymlaen i ddweud bod y prosiect yn cynnig dyfodol cynaliadwy i adeilad sy’n bwysig i’r gymuned leol, gan ddiogelu hanes Penrallt, creu swyddi yn lleol a helpu’r economi leol.
Adroddodd yr Arweinydd Tîm bod y cais ar gyfer ailddatblygu hen adeilad Ysgol y Sir ym Mhenrallt, Llangefni a gafodd ei ddefnyddio yn ddiweddarach fel campws ategol ar gyfer Coleg Menai cyn dod yn wag. Mae'r adeilad wedi'i leoli o ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
|
13.1 - DEM/2025/2 – Ger y Graig, Llangefni Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 DEM/2025/2 – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdai yn Ger y Graig, Llangefni
Nodwyd bod y cais wedi cael ei ganiatáu o dan Ran 31 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredin a Ganiateir) 1995.
|