Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 3ydd Rhagfyr, 2025 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 221 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd, 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd, 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw ymweliadau safle yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 12.1 a 12.2.

 

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 798 KB

11.1 – FPL/2025/240 – 11 Stryd Fawr, Porthaethwy

FPL/2025/240

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  FPL/2025/240 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd annedd (Dosbarth Defnydd C3) i fod yn ddeintyddfa a chlinig iechyd (Dosbarth Defnydd D1) yn 32 Stryd Fawr, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais cynllunio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol, yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.2 o’r Cyfansoddiad. Mae’r cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr eiddo wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Porthaethwy a ffin canol y dref, ond mae tu allan i Brif Ardal Fanwerthu a Chanolfan Gwasanaeth Leol Porthaethwy, fel y caiff ei ddiffinio yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Mae’r safle hwn o fewn yr Ardal Gadwraeth ddynodedig hefyd. Mae Polisi Strategol PS 15 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn ceisio gwarchod a gwella bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi a’u swyddogaethau manwerthu, gwasanaeth a chymdeithasol. Mae cymysgedd eang o ddefnyddiau addas yn cael eu hannog mewn canolfannau trefol o ansawdd uchel ac mae’n denu amrywiaeth o bobl ar wahanol adegau o’r dydd. Ystyrir bod Deintyddfa a Chlinig Iechyd yn cydymffurfio â Pholisi MAN 1, fel y noda adroddiad y Swyddog. Bydd defnyddiau canol tref (B1, D1 a D2) yn cael eu hannog i sefydlu o fewn canol trefi diffiniedig, ond tu allan i’r Prif Ardaloedd Manwerthu. Ymgynghorwyd â’r Adran Briffyrdd ac nid oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r cais oherwydd bod y cynnig mewn lleoliad cynaliadwy a chan fod meysydd parcio cyhoeddus gerllaw. Ystyrir bod y cais yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol yn y cynllun datblygu perthnasol. Roedd y Swyddog yn argymell caniatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylai’r cais gael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Neville Evans y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – HHP/2025/93 - Capel Smyrna, Lon Glanhwfa, Llangefni.

HHP/2025/93

 

12.2 – HHP/2025/151 – Ty Hen Efail, Llanddona

HHP/2025/151

 

12.3 – LUE/2025/30 – Cyffordd Star, Star

LUE/2025/30

 

12.4 – VAR/2025/42 – Cyffordd Star, Star

VAR/2025/42

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  HHP/2025/93 – Cais llawn ar gyfer adeiladu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â lle parcio yng Nghapel Smyrna, Ffordd Glanhwfa, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol a materion yn ymwneud â diogelwch y briffordd.

 

Siarad Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Ynyr Berry o blaid y cais a dywedodd mai ef a’i frawd sydd berchen Capel Smyra a nhw yw’r datblygwyr hefyd. Dywedodd fod ei frawd ag ef wedi cael eu magu yma ar Ynys Môn a’u bod wedi dychwelyd i’r ardal ar ôl treulio nifer o flynyddoedd dramor. Gofynnir am ganiatâd i osod cwrb isel er mwyn creu dreif ar hyd ochr yr Ysgoldy yng Nghapel Smyrna. Buddsoddwyd amser, arian ac adnoddau sylweddol er mwyn dod â’r adeiladau hanesyddol hyn yn ôl i ddefnydd ystyrlon, a’r bwriad yw gwella’r ardal leol, gwarchod cymeriad diwylliannol a chyfrannu’n bositif at gyflenwad tai yn Llangefni. Mae’r bwriadau’n alinio â’r weledigaeth strategol ar gyfer Llangefni a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd ar Ynys Môn a Gwynedd, sef “cynnal a chryfhau ei rôl fel tref sy’n darparu cartrefi, swyddi a chyfleusterau cymunedol”. Mae’r safle’n ffurfio rhan o brosiect adfywio treftadaeth ehangach yng Nghapel Smyrna. Bydd yr ysgoldy’n cael ei droi’n annedd yn ystod Cam 1 y gwaith. Nod Cam 2 fydd creu datblygiad defnydd cymysg sy’n cynnwys Gofod Rhannu Mannau Gwaith a Gwasanaethau Ieuenctid, a bydd hyn yn cyd-fynd â nifer o bolisïau strategol a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ni ellir bwrw ymlaen â Cham 2 heb adnewyddu’r Ysgoldy yn gyntaf. Mae’r cwrb isel yn hanfodol am sawl rheswm: -

1. Mae’n darparu mynediad diogel ac ymarferol i le parcio oddi ar y stryd. Mae Cynllun Datblygu Lleol Ynys Môn yn nodi, “Bydd disgwyl i gynigion datblygu ymgorffori nifer ddigonol a phriodol o leoedd parcio ar y safle”. Mae Polisi Cenedlaethol wedi mabwysiadu egwyddor o safonau parcio uchaf fel modd o hyrwyddo datblygiad cynaliadwy. Y safon ar gyfer annedd 2 ystafell wely yw 1.5 i 2 lle parcio ar gyfer pob uned. Yn ogystal, mae’r rheol aur yn blaenoriaethu “ansawdd y stryd o flaen popeth arall” a’r nod yw “gwneud y mwyaf o weithgarwch rhwng y stryd a’r tŷ er mwyn cael strydoedd mwy diogel a chyfeillgar”.

2. Mae’n caniatáu i’r Ysgoldy gael ei adnewyddu; aseswyd mai dyma’r dull mwyaf diogel o ran adeiladu. Gofynnwyd am gadarnhau ysgrifenedig fod yr adran Briffyrdd wedi asesu bod yr opsiynau eraill (troi cerbydau ar y stryd neu ddefnyddio meysydd parcio’r Cyngor dros y ffordd) yn fwy diogel ar gyfer traffig adeiladu, gweithwyr safle a phreswylwyr.

3. Mae’n lleihau pwysau parcio ar y stryd trwy ddarparu lleoedd parcio pwrpasol oddi ar y stryd a bydd y baich ar yr ardal leol yn lleihau yn hytrach na’n cynyddu. Nid yn unig fydd hyn yn fanteisiol i breswylwyr, ond mae’n cyd-fynd hefyd â nodau’r Cyngor o geisio gwella’r ddarpariaeth barcio a lleihau tagfeydd.

4. Mae’n cefnogi hyfywedd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.