Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Wedi’i Ffrydio’n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i’r cyhoedd fynychu)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Eric Jones ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu â chais 11.1.
Bu i’r Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu â chais 11.1.
|
|
Cyflwyno cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 7 Ebrill, 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd John Griffith yn yr aelodau a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.
|
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gafwyd ar 21 Ebrill, 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle rhithwir a gynhaliwyd ar 21 Ebrill, 2021 ac fe'u cadarnhawyd yn gywir.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2 a 11.1.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un cais ei ystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
7.1 – FPL/2020/164 – Bwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpVUAV/fpl2020164?language=cy
7.2 – FPL/2021/10 – Bron Castell, Llanfairynghornwy https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgwKXUAZ/fpl202110?language=cy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2020/164 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i fod yn llety gwyliau ynghyd ag addasu ac ehangu ym Mwthyn Lleiniog, Penmon, Biwmares
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2021, penderfynwyd bod angen ymweld â’r safle. Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 17 Mawrth, 2021. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2021 penderfynwyd gohirio penderfynu ar y cais er mwyn i'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y lleiniau gwelededd o’r mynediad i safle'r cais.
Darllenodd y Cadeirydd ddatganiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod fel a ganlyn:-
Dymunodd y Cynghorydd Alun Roberts ddiolch i'r Adrannau Priffyrdd a Chynllunio am ymdrin â materion yn ymwneud â mynediad i'r safle datblygu a nododd fod y cynlluniau diwygiedig yn welliant i'r cynlluniau gwreiddiol a gyflwynwyd. Fodd bynnag, mae pryderon o hyd ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd sy'n arwain at y safle o droad Llangoed sy'n arwain at Benmon. Mynegodd y Cynghorydd Roberts fod y ffordd yn anaddas i ddefnyddwyr y ffordd ac yn enwedig i gerddwyr sy'n cerdded ar ochr y ffordd. Mae'r llwybr troed cyhoeddus sy'n arwain ar hyd rhan o'r ffordd mewn cyflwr gwael a hefyd ceir llifogydd yma. Er ei fod yn derbyn bod y cyfarfod yn ymdrin â'r cais gerbron y Pwyllgor, mae gan ran o'r datblygiad ddau gais cynllunio arall gyda rhyw ran o'r safle o dan faterion gorfodi ar hyn o bryd. Nododd y Cynghorydd Roberts ei fod ef a'r gymuned leol o'r farn y byddai'n well aros am ganlyniad y materion gorfodi ar y safle cyn i'r Pwyllgor wneud penderfyniad ar y cais hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Lleol ei fod yn cytuno â'r datganiad gan ei gyd-Aelod Lleol ynglŷn â'r cais hwn. Nododd fod safle’r cais yn ddatblygiad gwyliau sylweddol ac roedd o'r farn y dylai un cais cyfansawdd fod wedi'i gyflwyno yn hytrach na cheisiadau cam wrth gam tameidiog. Mynegodd y Cynghorydd Jones fod materion diogelwch y briffordd yn peri pryder lleol o ran y datblygiad.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i ohirio yn y cyfarfod diwethaf er mwyn i'r Pwyllgor gael gwybodaeth am y lleiniau gwelededd o’r mynediad i safle'r cais. Nododd fod yr Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau bod mynediad i'r safle yn dderbyniol o ran y datblygiad ar y safle. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau yn dilyn proses gyhoeddusrwydd y cais, ond mynegwyd pryderon lleol drwy'r Aelodau Lleol a gan y Cyngor Cymuned. Mae llythyr wedi'i gyflwyno gan yr ymgeisydd i gefnogi ei gais. Dywedodd ymhellach fod safle’r cais wedi'i leoli mewn cefn gwlad agored mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig. Rhestrir yr adeilad allanol dan sylw gan ei fod yn adeilad cwrtil sydd wedi'i leoli y tu ôl i'r prif Adeilad Rhestredig, Maenordy Lleiniog. Cydnabyddir pryderon y gymuned leol ynghylch gweithgareddau ar y safle gan gynnwys gwaith ar strwythurau y gallai fod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
10.1 – VAR/2020/76 – Brynteg, Llansadwrn https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NBjZDUA1/var202076?language=cy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 VAR/2020/76 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o benderfyniad apêl rhif APP/L6805/A/17/3167404 (Codi annedd) er mwyn newid lleoliad yr annedd a'r fynedfa i gerbydau ar dir ger Brynteg, Llansadwrn
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu ei gymeradwyo.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cais yn cael ei wneud o dan Adran 73A a'i fod yn ymwneud â thŷ annedd marchnad agored cymeradwy a'i fod yn groes i bolisïau'r cynllun datblygu. Mae’r egwyddor o godi annedd eisoes wedi'i sefydlu yn y lleoliad hwn o dan benderfyniad apêl ac mae caniatâd yn parhau i fodoli. Fodd bynnag, ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, nodir Llansadwrn bellach fel clwstwr o dan bolisi cynllunio TAI 6 o'r CDLl ar y Cyd lle mae'n rhaid i unrhyw annedd newydd fod ar gyfer angen lleol fforddiadwy ar safle mewnlenwi. Serch hynny mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod gan y safle ganiatâd sy'n bodoli sy'n gallu cael ei weithredu. Nododd na dderbyniwyd unrhyw sylwadau yn dilyn cyfnod cyhoeddusrwydd y cais diwygiedig. Ystyrir bod y gwelliannau arfaethedig yn dderbyniol ac yn cynrychioli gwelliant cyffredinol i'r cynlluniau a gymeradwywyd yn flaenorol. Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod angen diwygio Amod 1 yn adroddiad y Swyddog i nodi y bydd y datblygiad yn dechrau 11 Mai 2022 fan bellaf i gydymffurfio â'r caniatâd sy'n bodoli eisoes. Bydd angen gosod amod ychwanegol sy'n atal gweithredu'r caniatâd gwreiddiol os caiff y cais diwygiedig ei gymeradwyo i sicrhau mai dim ond un annedd y gellir ei hadeiladu ar safle'r cais. Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo'r cais ac eiliodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y cynnig. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog yn ddarostyngedig i’r amodau ynddo, ynghyd ag amod ychwanegol yn atal gweithredu'r caniatâd gwreiddiol. |
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 421 KB 11.1 – FPL/2020/98 – Cae Prytherch, Llanfairpwll https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MgQp8UAF/fpl202098?language=cy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 FPL/2020/98 - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw gwaith peirianyddol o greu wyneb caled at ddefnydd storio amaethyddol a defnydd datblygiad a ganiateir fel safle cist car ynghyd â chadw’r addasiadau a wnaed i’r fynedfa i gerbydau ar dir yng Nghae Prytherch, Llanfairpwll
Bu i’r Cynghorydd Eric Jones ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu ynghylch y cais a gadawodd y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod ac yn pleidleisio ar y mater.
Bu i’r Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu ynghylch y cais a gadawodd y cyfarfod tra bod aelodau’n trafod ac yn pleidleisio ar y mater.
Gan fod yr ymgeisydd yn aelod etholedig, gofynnodd y Cadeirydd am gyngor cyfreithiol p’un ai a oedd angen i'r aelodau ddatgan diddordeb. Mewn ymateb dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad yw'n fuddiant o dan y Cod os yw'r ymgeisydd yn aelod etholedig nac os yw aelod yn aelod o'r un grŵp gwleidyddol neu'n aelod ar gyfer yr un ward etholiadol.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn aelod etholedig. Mae'r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 o Gyfansoddiad.
Siaradwr Cyhoeddus (asiant yr ymgeisydd)
Dywedodd Ms Sioned Edwards fod a wnelo’r cais dan sylw â chadw gwaith peirianyddol i greu wyneb caled ar y safle er mwyn i'r safle allu cael ei ddefnyddio at ddau ddiben; sef ar gyfer storio amaethyddol ac fel safle sêl cist car. Mae'r cais hefyd yn gofyn am ganiatâd i gadw'r newidiadau a wnaed i'r mynediad. Dylai fod yn glir nad yw'r cais hwn yn golygu newid defnydd o'r tir o gwbl - dim ond gosod yr wyneb caled. Defnyddid y safle arfaethedig ar gyfer sêl cist car, sydd wedi bod yn boblogaidd yn lleol. Yn flaenorol, fe’i defnyddid fel safle sêl cist car am hyd at 14 diwrnod y flwyddyn o dan hawliau datblygu cyffredinol a ganiateir. Gan fod y safle'n tueddu i fod yn wlyb, roedd angen gwella'r safle i fod yn addas i'r diben ac felly darparwyd wyneb caled er mwyn sicrhau bod y safle'n addas ar gyfer y defnyddwyr a'r ymwelwyr, a hefyd i sicrhau nad oedd unrhyw fwd o'r safle yn cael ei gario i'r briffordd gyfagos. Mae creu safle sy'n addas ac yn ddiogel i bob defnyddiwr yn eithriadol o bwysig. Mae adroddiad y Swyddog yn nodi bod cadw'r wyneb caled i ddarparu safle cist car addas i'r diben yn afresymol. Er nad yw'r safle wedi bod yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y pandemig, mae hawliau datblygu dros dro newydd a ganiateir i gefnogi adferiad economaidd o ganlyniad i Coronafeirws bellach yn caniatáu i'r safle gael ei ddefnyddio am hyd at 28 diwrnod mewn blwyddyn. Dyma fyddai bwriad yr ymgeisydd unwaith y bydd canllawiau'r Coronafeirws yn caniatáu hynny. Roedd hyn yn ffordd o arallgyfeirio i'r ymgeisydd, gan ei alluogi i ddarparu arwerthiant cist car mewn lleoliad hygyrch a chynaliadwy ar gyrion Llanfairpwll, gan wneud gwell defnydd o'r safle. Ers diwedd 2019, mae'r ymgeisydd wedi talu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 417 KB 12.1 – FPL/2021/38 – Gwel y Mor, Bae Trearddur https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCsEOUA1/fpl202138?language=cy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2021/38 – Cais llawn ar gyfer gosod 2 pod glampio ynghyd â chreu mynedfa newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir ger Gwêl y Môr, Bae Trearddur
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd J Arwel Roberts, Aelod Lleol bod angen diwygio cyfeiriad y cais gan fod yr eiddo ym Mhenrhosfeilw, Caergybi. Gofynnodd y Cynghorydd Roberts i'r Pwyllgor gynnal ymweliad rhithwir â safle'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cynnal ymweliad rhithwir â'r safle ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad rhithwir â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
|
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un mater arall ei hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|