Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Wedi’i Ffrydio’n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i’r cyhoedd fynychu)
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel a nodwyd uchod. |
||||||||
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd John Griffith ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.5.
|
||||||||
Cyflwyno cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 2 Mehefin, 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
||||||||
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gafwyd ar 16 Mehefin, 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau rhithwir â safleoedd a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
||||||||
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.2.
|
||||||||
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un cais ei ystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
||||||||
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCnVPUA1/hhp202135?language=cy
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I2AJgUAN/fpl202171?language=cy
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NCsEOUA1/fpl202138?language=cy
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I28EkUAJ/var202127?language=cy
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NB0iuUAD/fpl2020247?language=cy
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAFcQUAX/hhp2020253?language=cy
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MiUpaUAF/fpl2020165?language=cy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 HHP/2021/35 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 54 Pennant, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Mehefin, 2021, penderfynwyd cynnal ymweliad rhithwir â safle’r cais.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais wedi'i dynnu'n ôl cyn yr ymweliad rhithwir â’r safle.
Roedd y cais wedi'i dynnu'n ôl.
7.2 FPL/2021/71 – Cais llawn ar gyfer cadw'r strwythur presennol a pharhau â'r gwaith o godi uned wyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ym Mryn Gollen Newydd, Llannerch-y-medd
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Mehefin, 2021 penderfynwyd cynnal ymweliad rhithwir â’r safle cyn penderfynu ar y cais. Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle ar 16 Mehefin, 2021.
Siaradwr Cyhoeddus (asiant yr ymgeisydd)
Dywedodd Ms Sioned Edwards fod yr ymgeisydd wedi prynu'r eiddo gyda chaniatâd cynllunio a roddwyd eisoes ar gyfer addasu adeilad allanol yn annedd. Cafodd y caniatâd ei roi’n gyntaf ym mis Awst 2016 a chymeradwywyd fersiwn wedi'i diweddaru yn ddiweddarach ym mis Ionawr 2018. Roedd yr ymgeisydd wedi tybio bod y caniatâd a roddwyd yn benderfyniad cadarn a oedd wedi'i asesu'n drylwyr ac yn gywir gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i benderfyniad gael ei wneud. Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod y cynlluniau a'r adolygiad strwythurol a gyflwynwyd gyda'r cais yn gwrth-ddweud ei gilydd. Felly rhoddwyd caniatâd ar gyfer cynllun amwys a oedd yn amhosibl ei weithredu gyda'r wybodaeth a gyflwynwyd ac a gymeradwywyd. Cysylltodd yr ymgeisydd â Swyddogion Cynllunio a threfnu i’w cyfarfod, cyn gwneud unrhyw waith ar y safle. Mae'r ymgeisydd wedi cyfarfod ac wedi ceisio rhesymu gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Cynhaliwyd y trafodaethau hyn dros nifer o fisoedd a gydag uwch swyddogion cynllunio ond nid oedd yr Awdurdod yn derbyn bod y caniatâd cynllunio yn amwys.
Mae methiant yr Awdurdod i roi ystyriaeth briodol i oblygiadau argymhellion yr Adolygiad Strwythurol ar y datblygiad arfaethedig wedi arwain at roi cymeradwyaeth sy'n amwys ac sy'n agored i gael ei ddehongli, sydd wedi peri i'r ymgeisydd fuddsoddi llawer o arian ac amser yn y datblygiad. Mae wedi ceisio rheoleiddio’r ffaith bod rheoliadau cynllunio wedi’u torri drwy gais ôl-weithredol rhannol ar gyfer codi annedd newydd. Bellach mae mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddo ystyried opsiynau pellach ar gyfer datblygu'r safle er mwyn osgoi colled ariannol sylweddol oherwydd sefyllfa sydd y tu hwnt i'w reolaeth. Felly, mae'r ymgeisydd wedi prynu eiddo yn ddiarwybod gyda chaniatâd cynllunio nad yw'n gallu ei weithredu. O ystyried y camgymeriad a wnaed gan y Cyngor, y gobaith yw y gall y Pwyllgor sicrhau canlyniad cadarnhaol er mwyn rheoleiddio'r mater. Ystyrir y byddai defnyddio'r safle fel uned wyliau yn ddefnydd mwy addas o'r safle na'r cais a wrthodwyd yn flaenorol ar gyfer annedd breswyl. Mynegwyd pryderon gan y Cyngor ynglŷn â chynaliadwyedd lleoliad y safle, ond mae bythynnod gwyliau eisoes wrth ymyl y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
||||||||
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
||||||||
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
||||||||
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ohonynt eu hystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
||||||||
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 182 KB 11.1 – DAG/2021/12 - Tre Angharad, Ffordd Llundain, Bodedern https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKA3rUAH/dag202112?language=cy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 DAG/2021/12 – Cais i benderfynu a oes angen cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer codi sied amaethyddol ar dir yn Nhre Angharad, Ffordd Llundain, Bodedern
Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 o'r Cyfansoddiad.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod gan yr ymgeisydd hawliau datblygu a ganiateir o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Ystyrir bod dyluniad ac edrychiad y sied yn cyd-fynd â'r ardal gyfagos ac na fyddai'n cael effaith negyddol ar y safle presennol na'r ardal gyfagos. Byddai lleoliad y sied yn addas wrth ymyl siediau amaethyddol presennol ar y fferm. Nododd fod gan yr Awdurdod 28 diwrnod i benderfynu a oes angen cymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer manylion ynghylch lleoliad, dyluniad ac edrychiad allanol yr adeilad. Gan na chodwyd unrhyw bryderon gan ymgyngoreion, mae'n ofynnol felly cadarnhau'r datblygiad a ganiateir gan y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref.
Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid cymeradwyo'r cais. Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio sydd ynddo. |
||||||||
Gweddill y Ceisiadau PDF 579 KB 12.1 – FPL/2021/56 – Cae Llechwen, Llangristiolus, Bodorgan https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I1tpMUAR/fpl202156?language=cy
12.2 – FPL/2019/338 – Cerrig, Penmon https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000IxyHqUAJ/fpl2019338?language=cy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2021/56 - Cais llawn am estyniad i'r annedd, creu anecs, ymestyn y cwrtil a dargyfeirio’r llwybr cyhoeddus yng Nghae Llechwen, Llangristiolus
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol gan yr ystyrir na fyddai'r cynnig yn cael effaith negyddol ar yr ardal nac ar unrhyw anheddau cyfagos.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai annedd unllawr yw'r eiddo presennol ac mai cais yw hwn i godi estyniad deulawr i'r brif annedd. Mae'r cais yn cyfeirio at y ffaith y codir estyniad i'r annedd bresennol ac y crëir anecs, fodd bynnag, mae'r estyniad yn amlwg o raddfa annedd newydd a bwriad yr ymgeisydd yw symud o Rhostrehwfa i Gae Llechwen i barhau i redeg y fferm a gofalu am berthynas oedrannus. Mae gan yr annedd bresennol arwynebedd llawr o 93.81 metr sgwâr tra bydd gan yr estyniad arfaethedig arwynebedd llawr o tua 185.23 metr sgwâr. At hyn, dywedodd fod safle’r cais mewn ardal o gefn gwlad agored lle mae datblygiadau newydd yn groes i bolisïau cynllunio. Fodd bynnag, mae eithriadau i'r polisïau hyn os oes angen anheddau i gynnal menter cefn gwlad. Byddai angen tystiolaeth i ddangos y cydymffurfir â pholisïau cynllunio o'r fath a'u bod yn bodloni'r eithriadau ar gyfer anheddau mentrau gwledig.
Rhoddodd y Cynghorydd a’r Aelod Lleol, Eric W Jones, gefndir a hanes teuluol yr ymgeisydd ac anghenion y teulu am annedd o'r fath yng Nghae Llechwen rhag gorfod teithio bob dydd yn ôl a blaen i'r fferm. Roedd o'r farn y byddai'r estyniad i'r annedd yn gydnaws â'r ardal gan nad oes cymdogion yn agos at y safle ac na fyddai'n cael effaith negyddol ar unrhyw eiddo preswyl. Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes nad oedd yn cytuno ag argymhellion y Swyddogion gan nad oedd yn ymwybodol fod cyfyngiadau na chanllawiau o ran maint estyniad. Nododd na fyddai'r estyniadau'n cael unrhyw effaith andwyol ar anheddau cyfagos a dywedodd y dylid cefnogi teuluoedd ifanc fel y rhain. Eiliodd y Cynghorydd Hughes y cynnig i’w gymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd John Griffith y byddai'r cais yn golygu annedd newydd yng nghefn gwlad a chynigiodd y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, os ystyrir bod yr estyniad i'r annedd yn hanfodol, bod prosesau perthnasol i gael caniatâd cynllunio drwy'r polisïau cynllunio perthnasol. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod polisïau cynllunio yn gwrthwynebu adeiladu annedd yng nghefn gwlad, ond fod eithriadau os oes angen i berson fyw ar y safle a'i fod yn bodloni'r eithriadau ar gyfer anheddau mentrau gwledig.
Eiliodd y Cynghorydd Roberts y cynnig i wrthod.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
12.2 FPL/2019/338 - Cais llawn ar gyfer tynnu rhan o'r morglawdd concrid presennol a chodi morglawdd newydd yn ei le ar y ffin yng Ngherrig, Penmon
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelodau Lleol.
Dywedodd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
||||||||
13.1 – HHP/2020/278 – Pen y Gaer, Llanddaniel https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000NAyYDUA1/hhp2020278?language=cy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 HHP/2020/278 – Cais llawn ar gyfer codi garej ddwbl ym Mhen y Gaer, Llanddaniel
Cyflwynwyd – adroddiad, er gwybodaeth, mewn perthynas â'r cais uchod.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ym Mhen y Gaer, Llanddaniel wedi'i gymeradwyo o dan bŵer dirprwyedig ym mis Ionawr, 2021. Nododd ei bod wedi dod i sylw'r Awdurdod fod yr ymgeisydd yn briod ag aelod o staff yr Awdurdod a'i bod yn ferch i aelod etholedig ac y dylai fod wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i'w benderfynu. Mae'r Dirprwy Swyddog Monitro wedi adolygu'r cais ac wedi cadarnhau bod y cais wedi'i benderfynu yn y modd arferol er nad oedd y swyddogion cynllunio yn ymwybodol o'r berthynas wrth benderfynu ar y cais. Ystyrir bod angen i'r geiriad perthnasol yng Nghyfansoddiad y Cyngor gael ei wneud yn gliriach i Swyddogion y Cyngor a’i hysbysu er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Eric W Jones nad oedd yn erbyn cymeradwyo'r cais nac yn beio unrhyw swyddog cynllunio a ddaeth i'r penderfyniad dirprwyedig i gymeradwyo'r cais. Fodd bynnag, roedd o'r farn y dylai'r Aelod Etholedig sy'n dad yng nghyfraith i’r ymgeisydd fod wedi datgan diddordeb mewn perthynas â'r cais hwn.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad er gwybodaeth.
|