Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim wedi’u derbyn.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd y datganiadau o ddiddordeb canlynol:-
Bu i’r Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 12.6.
Bu i’r Cynghorydd Llinos Medi ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.2.
Bu i’r Cynghorydd John I Jones ddatgan fod cynrychiolwyr yr ymgeisydd wedi cysylltu ag ef mewn perthynas â chais 12.3.
Bu i’r Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.1.
Bu i’r Cynghorydd Ken Taylor ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 12.6.
Bu i’r Cynghorydd Alwen Watkin ddatgan bod yr ymgeisydd wedi cysylltu â hi mewn perthynas â chais 12.2.
Bu i’r Cynghorydd Liz Wood ddatgan diddordeb personol ac un a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.6.
|
|
Cyflwyno cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o Bwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar y dyddiadau canlynol:-
· Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Ebrill, 2022 · Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 31 Mai, 2022 (Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn gofnod cywir:-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ebrill, 2022 · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Mai, 2022 (Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd)
|
|
Ymweliad Safleoedd Cynhelir yr ymweliadau safle rhithiol ar fore'r cyfarfod mewn perthynas a'r ceisiadau canlynol :-
FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn
HHP/2021/303 – Pant y Bwlch, Llanddona
FPL/2021/61 – Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch
Bydd adroddiad llafar gan y Rheolwr Datblyu Cynllunio yn y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodir y cynhaliwyd yr ymweliadau safle ar fore’r cyfarfod mewn perthynas â’r ceisiadau canlynol:-
FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn HHP/2021/303 – Pant y Bwlch, Llanddona FPL/2021/61 – Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.2 a 12.13. |
|
Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio PDF 507 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 FPL/2021/361 - Cais llawn ar gyfer codi uned cyfnod sylfaen ac uned gofal plant newydd, man chwarae allanol, maes parcio ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y Swyddogion yn argymell bod yr Aelodau’n ymweld â’r safle.
|
|
7.1 – FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn
7.2 – HHP/2021/303 – Pant y Bwlch, Llanddona
7.3 – FPL/2021/61 – Tyddyn Dai, Pentrefelin, Amlwch
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2021/370 – Cais llawn ar gyfer newidiadau i ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/212 (newid defnydd yr adeilad allanol yn llety gwyliau), yn Chwarelau, Brynsiencyn.
(Ar ôl datgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y cyn aelod lleol oherwydd pryderon ynglŷn â’r briffordd. Yn ei gyfarfod ar 6 Ebrill, 2022 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais. O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 15 Mehefin, 2022.
Siaradwyr Cyhoeddus
Siaradodd Dr Siôn Morris Williams yn erbyn y cais. Dywedodd ei fod yn cynrychioli ei deulu, ffrindiau a’r cyhoedd sy’n defnyddio’r ffordd i Ynys Wen o briffordd y B4419. Dywedodd bod ei deulu wedi ffermio’r tir yn Ynys Wen ers tair cenhedlaeth ers i’w hen daid ddychwelyd o’r Rhyfel yn 1918 a dechrau tenantiaeth drwy Gyngor Ynys Môn. Yn y dyfodol, mae’n gobeithio mai ef fydd y bedwaredd genhedlaeth i ffermio’r tir yn Ynys Wen. Aeth Dr Morris Williams ymlaen i ddweud bod y ffordd o briffordd y B4419 i Ynys Wen bellach yn gwasanaethu 3 eiddo; Fferm Chwarelau, Tŷ Fron Goch a Fferm Ynys Wen. Yn y 1970au cynnar cafodd y ffordd ei mabwysiadu gan Gyngor Sir Ynys Môn yn dilyn cytundeb gyda pherchennog Fferm Chwarelau, Mr John Jones. Roedd y ffordd mewn cyflwr gwael ar y pryd ac roedd yn gwasanaethu dau o ffermydd y Cyngor sef Ynys Wen a Fron Goch yn ogystal â’r fferm gyntaf (Fferm Breifat) ar hyd y ffordd, sef Chwarelau. Gosodwyd tarmac ar hyd y ffordd gan y Cyngor ac mae’r ffordd wedi cael ei chynnal a’i chadw ganddo ers dros hanner canrif. Nododd ei fod ef a’i deulu’n gwrthwynebu’r cais cynllunio oherwydd diogelwch. Mae 3 rhan o’r cais cynllunio, yn ymwneud â diogelwch y cyhoedd a’r briffordd (y ffordd i Ynys Wen o’r B4419), yn destun pryder iddynt. Mae cerbydau, peiriannau amaethyddol trwm, cerbydau nwyddau a cherddwyr yn defnyddio’r ffordd yn ddyddiol. Mae man pasio wedi cael ei greu erbyn hyn ond mae wedi’i leoli yn y man anghywir ac mewn lle peryglus iawn ar dro cas ac nid yw’r man pasio wedi ei wneud o’r un deunyddiau â’r ffordd. Cyfeiriodd at gynllun lleoliad cais FPL/2019/212. Yn y cynllun lleoliad mae’r man pasio wedi’i leoli mewn man diogel ac addas yn unol ag amod rhif 6 a oedd yn caniatáu cymeradwyo’r cais ‘yn unol â diogelwch y briffordd’. Roedd wedi’i leoli ar ddarn syth o’r ffordd rhwng y B4419 a Chwarelau, gyda gwelededd clir a fyddai’n galluogi i gerbyd i dynnu i mewn yn ddiogel pe byddai traffig yn dod i’r cyfeiriad arall. Nid oedd yn ymwybodol o fan pasio arall sydd wedi cael ei leoli ar droad mor beryglus â hon, ond roedd yn ymwybodol o fannau pasio ar ffyrdd syth, gyda gwelededd er mwyn cynnal diogelwch. Yn anffodus, nid yw’r man pasio sydd wedi cael ei greu yn helpu i ddiogelu’r briffordd. Cyfeiriodd yn ôl at gais ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn y cyfarfod hwn. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn y cyfarfod hwn. |
|
10.1 – FPL/2021/243 - Ty Ni, Plot 1 Glan Llyn, Cerrigman, Amlwch Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 FPL/2021/243 -Cais llawn ar gyfer cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd a ganiatawyd yn flaenorol dan ganiatâd cynllunio rhif 24C268J/DA yn Nhŷ Ni, Plot 1, Glan Llyn, Cerrigman, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd cynllunio amlinellol wedi’i roi ym mis Medi 2008 ar gyfer datblygu’r plot hwn. Adnewyddwyd y cais ddwywaith, yn 2011 a 2015, a rhoddwyd caniatâd materion a gadwyd yn ôl ym mis Mawrth 2018dan gyfeirnod 24C268J/DA. Mae'r datblygiad wedi dechrau ac mae wedi cyrraedd cam datblygedig o’r gwaith adeiladu. Mae’r datblygiad ar y safle yn cynnwys ystafell haul a garej ar wahân nad oedd yn rhan o’r caniatâd gwreiddiol. Er bod y datblygiad sy'n cael ei adeiladu yn cynnwys yr ystafell haul a garej, mae fel arall yn cyd-fynd â'r cynlluniau a ganiatawyd yn wreiddiol. O ganlyniad, ystyrir bod y datblygiad a gymeradwywyd wedi'i weithredu a'i fod yn darparu sefyllfa wrth gefn ddilys. Mae’r cais yn groes i ddarpariaethau polisi TAI 6 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fodd bynnag mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod y caniatâd gwreiddiol wedi’i weithredu ac mae’r gwaith adeiladu bron â’i gwblhau. Argymhellwyd bod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Cynigodd y Cynghorydd Liz Wood bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
Cynigion datblgu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn y cyfarfod hwn.
|
|
12.1 – FPL/2021/267 - Plot 13, Pentre Coed, Porthaethwy
12.2 – FPL/2022/7 - Mornest Caravan Park, Pentre Berw
12.3 – FPL/2021/317 - Cumbria & High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr
12.4– FPL/2021/349 - Caerau, Llanfairynghornwy, Cemaes
12.5 – FPL/2022/63 - Ocean's Edge, Lon Isallt, Treaddur
12.6 – MAO/2022/11 – Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi
12.7 – FPL/2022/65 - Plot 9 (Hanner Dwyreiniol), Parc Cybi, Caergybi
12.8 – FPL/2021/266 – Ffordd Garreglwyd, Caergybi
12.9 – VAR/2020/20 - Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni
12.10 – FPL/2021/160 - Bryn Bela, Lon St Ffraid, Trearddur
12.11 – TP/2022/8 – 12 Brig y Nant, Llangefni
12.12 – OP/2021/10 - Tir gerllaw a Tyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd
12.13– FPL/2021/198 - Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: FPL/2021/267 - Cais llawn ar gyfer codi llety gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ym Mhlot 13, Pentre Coed, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Alun Mummery, aelod lleol, am ymweliad safle gan fod y cais gwreiddiol wedi’i gyflwyno yn 2010. Nododd bod pryderon wedi cael eu codi’n lleol am y cais.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.2 FPL/2022/7 – Cais llawn i ail ddatblygu’r maes carafanau presennol i letya carafanau sefydlog ac ymestyn y safle i gynnwys carafanau symudol, ynghyd â chodi bloc toiledau/cawodydd llawn ym Mharc Carafanau Mornest, Pentre Berw
Bu i’r Cynghorydd Alwen Watkin ddatgan bod yr ymgeisydd wedi cysylltu â hi mewn perthynas â chais rhif 12.2.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, y Cynghorydd Dafydd Roberts.
Nododd y Cynghorydd Alwen Watkin, aelod lleol, y byddai’n fanteisiol pe byddai’r Pwyllgor yn ymweld â’r safle gan fod yr adroddiad yn argymell gwrthod un elfen o’r cais a derbyn elfen arall ohono.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.3 FPL/2021/317 - Cais llawn i ddymchwel yr adeilad tri llawr presennol yn cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell gyda bwyty cysylltiedig ar y llawr gwaelod, cyfleuster chwaraeon dŵr ar gyfer gwesteion a pharcio cysylltiedig yn Cumbria and High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais cyn Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorwyr Geraint Bebb a Ken Taylor am ymweliad safle gan fod pryderon ynglŷn â gorddatblygu’r safle a materion yn ymwneud â pharcio a mynediad.
Bu i’r Cynghorydd Neville Evans, aelod lleol, hefyd ofyn am ymweliad safle oherwydd bod Cyngor Cymuned Llanfaelog wedi mynegi pryder ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelodau Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.4 FPL/2021/349 - Cais llawn ar gyfer creu 'menage' marchogaeth preifat ynghyd â newid defnydd tir amaethyddol yn safle gwersylla trwy'r flwyddyn yng Nghaerau, Llanfairynghornwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol. Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi am ymweliad safle oherwydd pryderon yn lleol y byddai’r cynllun yn arwain at orddatblygu’r safle a materion yn ymwneud â diogelwch priffyrdd.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
12.5 FPL/2022/63 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y sied storio bresennol i fod yn giosg gwerthu bwyd a diod ar gyfer hufen ia, wafflau a diodydd meddal yn Ocean’s Edge, Lon Isallt, Bae Trearddur
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y ciosg yn elfen israddol i'r bwyty presennol ar y safle. Bydd gan y ciosg ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 DEM/2022/3 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdai yn Ffordd Corn Hir, Pennant, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â thir sydd ym meddiant y Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais ar gyfer dymchwel tri bloc o fodurdai domestig i gerbydau sydd wedi dechrau mynd â’u pen iddynt yn Ffordd Corn Hir, Llangefni. Nid oes angen am y modurdai bellach, ac nid oes modd eu datblygu oherwydd bod ganddynt doeau asbestos bregus.
Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|