Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydion'n Fyw
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofonodion y cyfarfod blaenorol rhithiol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 15 Mehefin, 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod rhithwir blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle rhithiol fel a ganlyn:-
· Cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 15 Mehefin, 2022. · Cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 29 Mehefin, 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 15 a 29 Mehefin 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: |
|
Ceisiadau fydd yn cael ei gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
7.1 – OP/2021/10 - Tir gerllaw a Tyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd
7.2 – FPL/2021/370 – Chwarelau, Brynsiencyn
7.3 – FPL/2021/349 - Caerau, Llanfairynghornwy
7.4 FPL/2021/160 - Bryn Bela, Lon St Ffraid, Bae Trearddur
7.5 – FPL/2021/266 - Ffordd Garreglwyd, Caergybi
7.6 – FPL/2021/361 – Ysgol y Graig, Llangefni
7.7 – FPL/2021/267 - Plot 13, Pentre Coed, Porthaethwy
7.8 - FPL/2021/317 - Cumbria & High Wind, Stryd Fawr , Rhosneigr
7.9 – FPL/2022/7 - Parc Carafanau Mornest, Pentre Berw
7.10 - FPL/2022/63 - Ocean's Edge, Lon Isallt, Bae Treaddur
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 7.1 OP/2021/10 - Cais amlinellol ar gyfer adeiladu 10 annedd gyda mynediad, ffordd fynediad fewnol a pharcio cysylltiedig, yn ogystal â manylion llawn y mynediad a’r gosodiad yn Nhyn y Ffynnon, Llannerch-y-medd
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad a chwblhau cytundeb Adran 106 i sicrhau rhwymedigaethau mewn perthynas â darparu tai fforddiadwy a chyfraniad ariannol tuag at ddarparu man chwarae priodol oddi ar y safle, yn hytrach na’i ddarparu’n uniongyrchol o fewn y safle.
7.2 FPL/2021/370 – Cais llawn ar gyfer newidiadau i ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/212 ar gyfer newid defnydd yr adeilad allan yn llety gwyliau yn Chwarelau, Brynsiencyn
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
7.3 FPL/2021/349 - Cais llawn ar gyfer creu manège marchogaeth preifat ynghyd â newid defnydd tir amaethyddol yn safle gwersylla trwy’r flwyddyn yn Caerau, Llanfairynghornwy
Penderfynwyd gohirio’r cais er mwyn rhoi amser i Swyddogion gymharu’r cais â chais FPL/2019/223 a chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor. 7.4 FPL/2021/160 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd annedd preswyl (Dosbarth Defnydd C3) i fod yn fusnes tecawê bwyd poeth (Dosbarth Defnydd A3) ynghyd ag addasiadau i’r fynedfa i gerbydau yn Bryn Bela, Lôn Sant Ffraid, Trearddur Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. 7.5 FPL/2021/266 - Cais llawn ar gyfer adeiladu 8 fflat preswyl fforddiadwy, adeiladu mynedfa i gerbydau, adeiladu lôn newydd ar y safle ynghyd â thirlunio meddal a chaled ar dir ger Ffordd Garreglwyd, Caergybi Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd. 7.6 FPL/2021/361 – Cais llawn ar gyfer codi uned cyfnod sylfaen ac uned gofal plant newydd, mannau chwarae tu allan, maes parcio, ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. 7.7 FPL/2021/267 – Cais llawn ar gyfer codi caban gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ym Mhlot 13, Pentre Coed, Porthaethwy Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. 7.8 FPL/2021/317 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad tri llawr presennol sy’n cynnwys dau fflat preswyl a storfa breswyl ategol ar y llawr gwaelod ac adeiladu adeilad tri llawr newydd yn cynnwys dau fflat preswyl a gwesty 10 ystafell wely gyda bwyty a chyfleuster chwaraeon dŵr cysylltiedig ar gyfer gwesteion a maes parcio cysylltiedig yn Cumbria and High Wind, Stryd Fawr, Rhosneigr Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. 7.9 FPL/2022/7 – Cais llawn ar gyfer ailddatblygu’r Maes Carafanau presennol i letya carafanau sefydlog ac ymestyn y safle i osod carafanau teithiol, ynghyd ag adeiladu bloc toiledau/cawodydd ym Maes Carafanau Mornest, Pentre Berw ... view the full Penderfyniad text for item 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 384 KB 11.1 – HHP/2022/163 - Tan y Garnedd, Lon Fferam Uchaf, Pentraeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 11.1 HHP/2022/163 – Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau yn Tan y Garnedd, Lôn Fferam Uchaf, Pentraeth
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau cynllunio yn yr adroddiad. |
|
12.1 – VAR/2022/36 – Peboc, Llangefni
12.2 – FPL/2022/87 – Ysgol Gynradd Llangaffo, Llangaffo
12.3 – VAR/2022/3 – Cae Mawr, Llanerchymedd
12.4 – FPL/2021/336 - Canolfan Iechyd Llanfairpwll, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll
12.5 – FPL/2022/46 - Tir ger Stad Bryn Glas, Brynsiencyn
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 12.1 VAR/2022/36 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (caniatâd materion a gadwyd yn ôl) o ganiatâd cynllunio rhif OP/2019/6 (dymchwel hen weithle cemegol a chodi 7 uned fusnes) er mwyn caniatáu amser ychwanegol i gyflwyno’r cais materion a gadwyd yn ôl yn Hen Safle Peboc, Llangefni
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2022/87 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd rhan o hen gae chwarae’r ysgol yn fan chwarae i blant yn Ysgol Gynradd Llangaffo, Llangaffo
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amod cynllunio yn yr adroddiad.
12.3 VAR/2022/3 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (05) (Cynllun Rheoli Tail), (08) (Cynllun Tirlunio), (10) (Strategaeth Lliniaru Goleuadau), (11) (Cynllun Rheoli Coetir), (12) (Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu), (17) (Gwaith Archeolegol), ac (18) (Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu) o gais cynllunio rhif FPL/2019/251/EIA (codi uned ddofednod) er mwyn caniatáu cyflwyno a chymeradwyo manylion ar ôl cychwyn gwaith datblygu yng Nghae Mawr, Llannerch-y-medd
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.4 FPL/2021/336 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu'r ganolfan iechyd, adeiladu mannau parcio newydd ynghyd â thirlunio meddal yng Nghanolfan Iechyd Llanfairpwll, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.
12.5 FPL/2022/46 – Cais llawn ar gyfer adeiladu 12 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad fewnol ar dir ger Stad Bryn Glas, Brynsiencyn
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |