Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Liz Wood ddatgan diddordeb personol yng nghais 12.2 – Maes Carafanau Rynys, Penrhoslligwy, Dulas.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Medi, 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd 6 Medi 2023 fel cofnod cywir.
|
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd 20 Medi, 2023 yn gofnod cywir.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd siaradwyr cyhoeddus ar gyfer ceisiadau 7.1, 7.2, 12.1, 12.2.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw gais yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
7.1 – FPL/2023/155 – Llwyn Onn, Llanfairpwll
7.2 – FPL/2022/186 – Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2023/155 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i uned gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Llwyn Onn, Llanfairpwlll
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi, 2023 penderfynwyd ymweld â'r safle. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 20 Medi, 2023.
Anerchodd Mr Elfed Roberts y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i'r cais a dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi bod y Pwyllgor wedi ymweld â'r safle ac i weld pa mor beryglus yw'r mynediad i briffordd yr A4080. Dywedodd y byddai'n cyfeirio at dri phrif reswm pam y dylid gwrthod y cais. Nododd yn gyntaf y dylid ystyried materion diogelwch a dywedodd y dylai'r Adran Priffyrdd fod wedi cadw at eu penderfyniad blaenorol yn 2016, sef bod angen cynnwys amod y dylai'r A4080 gydymffurfio â safonau cenedlaethol o ran llain welededd. O ganlyniad mae'r gyffordd yn beryglus gan nad yw'n bosibl gweld yn glir am 70 metr wrth yrru ar y briffordd; mae damwain yn siŵr o ddigwydd yn y lleoliad hwn. Byddai cynyddu'r traffig i'r safle arfaethedig yn rhoi mwy o fywydau mewn perygl. Yn ail, cyfeiriodd at or-ddatblygu datblygiad twristiaid sydd eisoes wedi cael effaith negyddol mewn cymunedau fel Rhosneigr a Moelfre. Ystyriodd nad oes cyfiawnhad dros fwy o lety gwyliau yn y maes hwn fel y mynegwyd yn y Cyngor Cymuned a oedd wedi gwrthwynebu'r cais hwn. Dywedodd ymhellach ei fod yn ystyried bod digon o lety gwyliau yn yr ardal fel Plas Coch, Parc Eurach, Bythynnod Plas Newydd a nifer o lety gwyliau eraill; byddai cymeradwyo'r cais hwn yn effeithio ar gydbwysedd yr ardal. Yng nghyffiniau Llwyn Onn, ceir 11 o anheddau preswyl parhaol gyda nifer o'r rhai sy’n byw ynddynt yn dysgu'r Gymraeg. Dywedodd ei bod yn hanfodol datblygu'r Gymraeg a bod y cais hwn yn groes i’r polisïau o ran annog pobl i ddysgu'r Gymraeg. Bydd nifer y cartrefi y mae pobl yn byw ynddynt yn llawn amser o'i gymharu â'r 24 gwely o fewn y llety gwyliau yn Llwyn Onn yn golygu y bydd cymeriad a llonyddwch yr ardal yn cael eu heffeithio gan ymwelwyr yn ystod cyfnod y gwyliau. Yn drydydd, cyfeiriodd at gryfder y gwrthwynebiad i'r datblygiad gan drigolion y gymuned gan eu bod o'r farn y bydd y cais yn gor-ddatblygu'r safle ac y bydd yn effeithio ar natur bywyd gwyllt yng nghyffiniau'r safle. Pwrpas y datblygiad yn bennaf yw creu incwm i'r ymgeisydd sy'n byw yn Swydd Derby.
Anerchodd Mr Rhys Davies y Pwyllgor fel Asiant yr ymgeisydd i gefnogi'r cais gan ddweud ei fod yn dymuno ymateb i'r sylw gan y gwrthwynebydd o ran yr ymgeisydd sy'n byw yn Swydd Derby. Nododd fod y datblygwr, Amos Group Ltd., yn gwmni cofrestredig ar Ynys Môn sy'n cyflogi 70 o bobl leol yn llawn amser ac yn rhan amser ar brosiectau datblygu amrywiol ar draws yr Ynys. Yn ystod yr ymweliad safle, roedd yn amlwg bod gwaith y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw gais yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw gais yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw gais yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr neu Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw gais yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
12.1 – FPL/2023/141 - Egwlys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy.
12.2 – FPL/2022/250 - Parc Carafannau Rynys Caravan Park, Penrhoslligwy, Dulas.
12.3 – FPL/2023/159 - Canolfan Hamdden Biwmares, Biwmares
12.4 – FPL/2023/178 – Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern
12.5 – FPL/2023/204 – Ysgol Gynradd Bodffordd, Bodffordd
12.6 – HHP/2023/154 – Glan Traeth, Rhosneigr
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2023/141 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd Eglwys i fod yn un eiddo preswyl (Defnydd Dosbarth C3) ac un eiddo llety gwyliau tymor byr (Defnydd Dosbarth C6) ynghyd â chodi adeilad sied/garej, creu mynedfa newydd i gerbydau, adeiladu balconi newydd, gwaith tirweddu meddal a chaled, addasiadau i’r adeilad ynghyd â gwaith cysylltiedig Eglwys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.
Siaradwyr Cyhoeddus
Anerchodd Ms Liz Moyle y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i'r cais a dywedodd fod y cais hwn yn dod gerbron y Pwyllgor ar adeg ddiddorol yn natblygiad deddfwriaeth yng Nghymru. Cafodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin a dylid ei weithredu erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, gan ddarparu Cod Cyfraith Cymru ar yr Amgylchedd Hanesyddol. Yn ogystal â symleiddio'r gyfraith mae gwerth yr Amgylchedd Hanesyddol, i'r genedl yn cael ei ailddatgan yn bendant yn y Memorandwm Esboniadol. Rhoddodd ddyfyniad byr: "Mae pobl Cymru wedi etifeddu amgylchedd hanesyddol unigryw, wedi'i lunio gan genedlaethau'r gorffennol, mae'n parhau i wella ansawdd ein bywyd a'n lles heddiw. Mae'r lleoedd hanesyddol sydd o'n cwmpas, yn rhoi ymdeimlad o le i ni ac yn helpu i'n diffinio fel cenedl. Mae'r amgylchedd hanesyddol yn adnodd gwerthfawr, mae hefyd yn un bregus. Rhaid ei ddiogelu fel y gall cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol barhau i gael eu hysbrydoli ganddo, dysgu ohono a mwynhau ei fanteision niferus." Cafodd y datblygwr, yr adeiladwyr a nifer o ddefnyddwyr yr Eglwys Bresbyteraidd eu hysbrydoli gan yr hyn a gyflawnwyd ganddynt a sut y diwallwyd anghenion y cyfnod, ond symudwn ymlaen. Ydi’r cynlluniau a gyflwynwyd ar gyfer newid bellach yn diogelu, yn gwella neu'n wir, yn ysbrydoli? Ydi darparu llety gwyliau, lle parcio ychwanegol a thraffig yn gwella neu'n lleihau'r dreftadaeth fregus honno? A ellir cyfiawnhau gwaith newydd, fel yr ystafell haul, ac ydi hi o ansawdd a dyluniad digonol i ychwanegu gwerth i'r safle. Ydi tynnu rhan o'r wal sy'n wynebu'r ffordd yn lleihau’r gwerth yn hytrach na’i gynyddu? Mae'r traffig ychwanegol yn debygol o achosi problemau ychwanegol ar ffordd sydd eisoes yn brysur. Gan ystyried pob newid o ran cynllunio, yn arbennig ar gyfer adeiladau rhestredig ac o fewn yr Ardal Gadwraeth, p’un ai y rhoddir caniatâd i bob cartref a llety gwyliau ai peidio, dylem ddangos ymrwymiad i gynnal yr ymdeimlad hwnnw o le ac yn wir y ffynhonnell ysbrydoliaeth honno i bawb. Dylai'r hyn a adeiladwyd fwy na chan mlynedd yn ôl i wasanaethu'r gymuned, barhau i wneud hynny mewn ffordd syml iawn, gan ddefnyddio’r cais hwn fel enghraifft ar gyfer y dyfodol, er lles y gymuned, ond yn gartrefi i bobl ac nid cartrefi gwyliau.
Wth i Mr Craig Allison annerch y Pwyllgor i gefnogi ei gais dywedodd fod y cyfle i addasu'r eglwys hon yn gartref yn fraint. Mae'r dogfennau ar y cais yn amlinellu sut rydym yn bwriadu defnyddio'r gofod i greu llety gwyliau i’w osod a fydd yn cyfrannu at ad-dalu’r gost am addasu’r adeilad ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Newid yr amser a ganiateir i Siwaradwyr Cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 Newid yr amser a ganiateir i aelodau o’r cyhoedd siarad yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd mai'r bwriad yw cynyddu’r amser a roddir i aelodau'r cyhoedd siarad â 5 munud yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn y dylid newid yr amser a ganiateir i aelodau’r cyhoedd siarad yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion o 3 munud i 5 munud.
|