Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr John I. Jones, R. Llewelyn Jones, Jackie Lewis, ac Alwen Watkin.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o funes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Hydref, 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Hydref, 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Ymweliad Safleoedd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ymweliad ei ystyried gan y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 12.6 a 12.9.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2022/186 – Change of use of agricultural land into touring caravan park, change of use of existing building to use ancillary to the caravan park together with the installation of a package treatment plant at Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch.
The application was withdrawn.
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.
|
|
12.1 – DIS/2023/17 – Cyn Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi
12.2 – VAR/2022/71 - Cyn Safle Roadking, Parc Cybi, Caergybi
12.3 – FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran
12.4 – FPL/2023/42 – Treiddon, Ffordd y Traeth, Porthaethwy
12.5 – FPL/2023/235 – Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni
12.6 – VAR/2023/59 – Safle Carafannaau Teithio Bryn Goleu, Bryngwran
12.7 – VAR/2023/41 - A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes
12.8 – VAR/2023/40 – Stad y Bryn, Llanfaethlu
12.9 – FPL/2021/124 – Bodwina Bellaf, Gwalchmai
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 DIS/2023/17 – Cais i ryddhau amod (16) (asesiad risg) o gais cynllunio FPL/2021/337 (cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai cais ydyw i ryddhau amod a osodwyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wrth benderfynu ar gais cynllunio rhif FPL/2021/337- Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffin Mewndirol (IBF) yn yr hen safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod amod (16) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno asesiad risg gan gynnwys mesurau lliniaru pe na fyddai’r safle’n gallu cynnal y gwiriadau gofynnol neu pe na fyddai’r safle’n gallu gweithredu oherwydd bod rhaid cau’r safle’n annisgwyl. Mae'r manylion a gyflwynwyd wedi cael eu hanfon ymlaen i'r Adran Briffyrdd ac i Adran yr Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad. Felly, ystyrir bod y wybodaeth a dderbyniwyd yn ddigonol i ryddhau amod (16) (asesiad risg/mesurau lliniaru).
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Geraint Bebb.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gan felly ryddhau amod (16).
12.2 VAR/2022/71 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (15) (arolwg cyflwr ar gyfer graddau'r ffyrdd ymuno/ymadael) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/337 (Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) er mwyn caniatáu cyflwyno a chymeradwyo manylion yn dilyn cychwyn gwaith datblygu yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud o dan Adran 73 i amrywio cais FPL/2021/337 – Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffin Mewndirol (IBF) yn yr hen safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi a benderfynwyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2022.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod amod (15) yn ei gwneud yn ofynnol i'r datblygwr o fewn 6 mis i ddyddiad y caniatâd fod wedi cyflwyno arolwg amod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer y ffyrdd ymadael yng Nghyffordd 2 yr A55 i sicrhau nad oedd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y rhwydwaith priffyrdd ehangach. Gosodwyd yr amod hwn gan Adran Priffyrdd Llywodraeth Cymru ac er nad oedd y wybodaeth yn yr arolygon a ddarparwyd gan y datblygwr yn bodloni Priffyrdd Llywodraeth Cymru i ddechrau, yn dilyn trafodaethau pellach, codwyd y cyfarwyddyd atal a gyhoeddwyd gan Adran Priffyrdd Llywodraeth Cymru ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad i ryddhau’r amod (15). Felly, mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon y gellir amrywio'r amod yn unol â hynny a'r argymhelliad yw cymeradwyo'r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd yr un ei ystyried yn ystod y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymyn.
|