Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Jackie Lewis.
Cyfeiriodd y Cadeirydd gyda thristwch mawr at brofedigaeth ddiweddar y Cynghorydd Jackie Lewis yn dilyn marwolaeth ei ŵyr ifanc. Cydymdeimlodd yn ddwys â’r Cynghorydd Lewis a’i theulu ar ran y Pwyllgor ar yr adeg anodd hon. Hefyd, cydymdeimlodd y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor â theulu’r cyn-gynghorydd a chyn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, Vaughan Hughes a fu farw yn ddiweddar.
Cydymdeimlodd y Cynghorydd Nicola Roberts â’r teuluoedd uchod hefyd a thalodd deyrnged i’r cyn-gynghorydd Vaughan Hughes fel aelod brwd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac fel aelod ward. Roedd hefyd yn angerddol dros y Gymraeg a diwylliant Cymru. Dywedodd ei bod wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â Vaughan Hughes dros gyfnod o ddeg mlynedd a’i bod wedi dysgu llawer ganddo yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd colled fawr ar ei ôl.
Safodd pawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Ken Taylor ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â chais 11.1 ar yr agenda, gan fod yr ymgeisydd yn chwaer iddo.
Bu i’r Cynghorydd John I. Jones ddatgan diddordeb personol yn unig mewn perthynas â chais 7.1 ar yr agenda a bu iddo hefyd ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â chais 12.4 gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 306 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
Ymweliadau Safle Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 1 Tachwedd, 2023 penderfynodd yr aelodau ymweld â’r safle a chynhaliwyd ymweliad safle ar 15 Tachwedd 2023. Yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr 2023 penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan nad oedd digon o wybodaeth wedi cael ei ddarparu ynglŷn â’r system ddraenio er mwyn galluogi’r Aelodau i ddod i benderfyniad.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y datblygwr, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr, wedi cytuno i gomisiynu gwaith draenio ac ar adeg ysgrifennu’r adroddiad roedd manylion y profion mandylledd er mwyn canfod pa mor dderbyniol yw’r ffosydd cerrig arfaethedig wrthi’n cael eu hystyried. Oherwydd hyn argymhellodd y Swyddog bod y cais yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu i dîm draenio arbenigol yr Awdurdod asesu’r wybodaeth yn llawn.
Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei ohirio yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
Penderfynwyd gohirio’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dai Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 VAR/2023/70 - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (16) (Manylion yr ardal chwarae) a (44) (Manylion yr ardal chwarae) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2022/44 (Cais hybrid i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd a lle parcio) er mwyn cyflwyno gwybodaeth a chwblhau'r gwaith ar y llecyn chwarae cyn meddiannu annedd rhif 61 yng Ngholeg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni
Cyflwynwyd y cais cynllunio hwn i’r Pwyllgor Cynllunio gan fod y cais gwreiddiol a gymeradwywyd ganddo yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud â diwygio geiriad amod (16) ac amod (44) (Manylion y Lle Chwarae) o gais cynllunio VAR/2022/44 a gwneud cyfraniad ariannol er mwyn darparu lle agored. Dyma gais gan gymdeithas dai Clwyd Alyn i ddiwygio geiriad amod (16) a (44) o ganiatâd cynllunio VAR/2022/44 fel y gellir cydymffurfio â hwy gan eu bod yn cael eu torri ar hyn o bryd. Yn 2017 rhoddwyd caniatâd hybrid i Goleg Menai i adeiladu Canolfan Beirianneg a rhoddwyd caniatâd amlinellol i ddatblygu 153 o unedau preswyl a gwesty. Cafodd cais materion a gadwyd yn ôl ei gymeradwyo yn 2021 ar gyfer y safle y mae’r cais hwn yn ymwneud ag o ar gyfer datblygu 60 o unedau preswyl. Yn y cyfamser gwerthodd Coleg Menai safle 2 a 3 i gymdeithas dai Clwyd Alyn ar gyfer datblygu 60 o unedau preswyl. Fodd bynnag, mae’r lle chwarae i blant ar safle 1, sef tir sydd ym meddiant Coleg Menai, ac nid yw’r gwaith i ddatblygu’r 23 uned breswyl ar y safle yma wedi cychwyn eto. Fe ddylai’r lle chwarae fod wedi cael ei gwblhau cyn i’r annedd gyntaf gael ei meddiannu, sydd yn cynnwys yr unedau fforddiadwy ar safle 2 a 3, sydd ym meddiant Clwyd Alyn. Mae rhai o’r anheddau sydd wedi cael eu datblygu gan gymdeithas dai Clwyd Alyn ar safle 2 a 3 eisoes wedi cael eu meddiannu ac felly mae’r amodau hyn wedi cael eu torri. Gan fod y lle chwarae i blant ar dir ym meddiant Coleg Menai, mae Clwyd Alyn wedi gofyn i eiriad yr amodau gael eu newid er mwyn caniatáu i’r lle chwarae gael ei adeiladu pan fydd y 61ain annedd fel y gellir meddiannu’r 60 uned fforddiadwy ar safle 2 a 3 gael eu meddiannu heb dorri amod (16) a (44). Mae Clwyd Alyn wedi cadarnhau y byddant yn cyfrannu £18,164.13 tuag at ddarparu lle chwarae yn nhref Llangefni. Mae’r swm yma’n seiliedig ar anghenion y 60 o unedau fforddiadwy a fydd yn cael eu datblygu gan gymdeithas dai Clwyd Alyn ar safle 2 a 3. Mae’r lle chwarae i blant yn dal i fod yn rhan o’r cynllun ehangach ar safle 1, sydd ym meddiant Coleg Menai ac mae’r cyfraniad ariannol yn berthnasol i’r 60 o unedau sy’n cael eu datblygu gan gymdeithas dai Clwyd Alyn yn unig. Mae disgwyl i Goleg Menai ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 321 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 FPL/2023/228 – Cais llawn ar gyfer ymestyn cwrtil preswyl yn Nhyn Lleiniau, Llanfigael
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i un o’r cynghorwyr presennol yn unol â’r diffiniad yn adran 4.6.10.2 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â gofynion adran 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.
Ar ôl datgan diddordeb personol a rhagfarnus, bu i’r Cynghorydd Ken Taylor adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad. Cadeiriwyd yr eitem gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Glyn Haynes.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y safle eisoes yn cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl fel estyniad i’r ardd. Mae gan yr eiddo drws nesaf, Trem y Mynydd, ardd fawr sy’n ymestyn i’r dwyrain o’r annedd. Byddai’r estyniad arfaethedig yn golygu bod cwrtil preswyl yr eiddo'r un fath â gardd yr eiddo drws nesaf o ran ei hyd a’i faint. Ni fyddai newid defnydd y tir yn cael effaith andwyol ar yr annedd bresennol, byddai’n debyg i ardd yr eiddo drws nesaf o ran ei faint ac ni fyddai’n effeithio ar yr ardal leol. Hefyd, mae’r cynllun wedi cael ei ddiwygio i gynnwys gwelliannu ecolegol, sef plannu gwrych brodorol a darparu tyllau draenogod yn y ffens er mwyn cydymffurfio â sylwadau’r ymgynghorydd ecolegol. Argymhellir felly bod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Robin Williams a oedd yn dymuno cael gwybod a fyddai’r cais wedi dod gerbron y Pwyllgor pe na fyddai’r ymgeisydd yn perthyn un o’r cynghorwyr presennol, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai’r cais wedi cael ei gymeradwyo gan Swyddogion dan bwerau dirprwyedig fel arall.
Oherwydd yr uchod cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John I. Jones,
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
|
|
12.1 FPL/2023/303 - Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch
12.2 FPL/2023/146 – Cae Graham,Pentraeth
12.3 FPL/2023/232– Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni
12.4 FPL/2023/227 – Ty Coch Farm, Rhostrehwfa
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir ym meddiant Cyngor Sir Ynys Môn.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y datblygiad arfaethedig yn galluogi i nifer o bynciau gael eu dysgu mewn ffordd amgen yn ogystal â darparu man diogel ar gyfer disgyblion yr ysgol. Cyfeiriodd at ddimensiynau’r gasebo ffrâm bren a’r canopi awyr agored fel y nodir yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog a dywedodd bod Ysgol Syr Thomas Jones yn adeilad rhestredig gradd II ac felly mae’n rhaid ystyried effaith y cynnig ar osodiad yr ased hanesyddol pwysig hwn. Roedd yr ymgynghorydd treftadaeth yn bresennol mewn cyfarfod safle gyda’r ymgeisydd i drafod y cynigion a chytuno ar leoliadau addas ar gyfer y nodweddion arfaethedig ac mae’r cynlluniau a gyflwynwyd a’r wybodaeth ategol yn cyd-fynd â’r hyn y cytunwyd arno yn y cyfarfod. O ganlyniad, nid oes gwrthwynebiad o safbwynt treftadaeth adeiledig. Gan fod y safle oddi mewn i gwrtil yr ysgol ac wedi’i guddio gan goed a gwrychoedd a chan ei fod eisoes yn cael ei ddefnyddio fel cael chware/iard ysgol bernir na fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar eiddo gerllaw. Argymhellir bod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Cynigodd y Cynghorydd Liz Wood bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2023/146 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yng Nghae Graham, Pentraeth
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Margaret M. Roberts, sy’n Aelod Lleol, am ymweliad safle ffisegol fel y gall aelodau gael gwell dealltwriaeth o’r safle a’r olygfa o’r traeth.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd yn gwrthwynebu ymweliad safle, ond, oherwydd bod y llwybr i lawr i’r safle mor gul, cynghorydd y byddai fideo o’r ymweliad safle’n helpu’r rheiny a fyddai’n cael anhawster cerdded i lawr y llwybr ac ar y traeth.
Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod ymweliad safle’n cael ei gynnal, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John I. Jones.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.
12.3 FPL/2023/232 – Cais llawn ar gyfer codi strwythurau paneli solar ffotofoltäig a chreu cysgodfa ceir oddi tanynt yng Nghyngor Sir Ynys Môn, Llangefni
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais cynllunio gan Gyngor Sir Ynys Môn ar dir ym meddiant y Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod hwn yn gais ar gyfer codi strwythurau paneli solar ffotofoltäig a chreu cysgodfa ceir oddi tanynt mewn dau faes pacio i’r Dwyrain ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|