Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd John I Jones ddiddordeb personol (ond nid un a oedd yn rhagfarnu) mewn perthynas â chais 7.2 a dywedodd ei fod wedi derbyn cyngor.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarhau, gofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel a ganlyn:-
· 9 Mai, 2024; · 21 Mai, 2024 (Ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn gywir:-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mai, 2024; · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2024 (Ethol Cadeirydd / Is-gadeirydd)
|
|
Cyflwyno, cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 22 Mai, 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 22 Mai, 2024 yn gywir.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Siaradwyr Cyhoeddus yn gysylltiedig â chais 7.3 a 12.1.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
7.1 – FPL/2023/328 – Capel Jerusalem, Llangoed
7.2 – FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran
7.3 – FPL/2023/118 – Wern Farm, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2023/328 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd y capel i fod yn 3 uned wyliau ynghyd ag addasu ac ehangu yng Nghapel Jerwsalem, Llangoed
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais Aelodau Lleol oherwydd pryderon ynglŷn â phroblemau parcio a thraffig a gorgrynhoad o lety gwyliau yn yr ardal.
Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod safle’r cais wedi’i leoli y tu mewn i ffin ddatblygu Llangoed ac roedd yr adeilad yn arfer cael ei ddefnyddio fel Capel, sy’n dod o dan Ddosbarth Defnydd D1. Nododd bod nifer uchel o wrthwynebiadau wedi dod i law mewn perthynas â’r cais ac 1 llythyr o blaid. Gwrthodwyd cynllun tebyg ar gyfer pedair uned wyliau yn 2022. Mae’r cynllun wedi cael ei ddiwygio i ddarparu 3 uned yn lle 4 ac mae Nodiadau Technegol ynglŷn â’r briffordd wedi cael eu darparu sy’n cadarnhau bod digon o le parcio ger y safle ar gyfer y datblygiad hwn. Hefyd, mae’r cais yn cynnwys achos busnes manwl sy’n dangos bod y cynnig yn hyfyw. Cydnabyddir bod y cynnig yn rhagori fymryn ar y trothwy o 15% a osodwyd ar gyfer cartrefi gwyliau, sy’n 15.36% ar hyn o bryd, fodd bynnag bydd y cynnig yn helpu i ddod ag eiddo gwag yng nghanol y pentref yn ôl i ddefnydd. Mae hefyd yn hanfodol ystyried y defnydd cyfreithiol y gellir ei wneud o’r adeilad, sef defnydd D1. Gellid defnyddio’r adeilad fel neuadd gymunedol neu fel crèche, ac fe allai hynny gael mwy o effaith ar draffig a pharcio na thair uned gwyliau. Bydd amodau ynghlwm ag unrhyw ganiatâd a roddir yn ogystal. O ran y pryderon ynglŷn â’r briffordd mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi ystyried y cynnig ac mae Nodiadau Technegol ynglŷn â’r briffordd wedi cael eu cyflwyno gyda’r cynnig diweddaraf. Gan fod y cynnig diweddaraf ar gyfer 3 uned yn hytrach na 4 mae’r Awdurdod Priffyrdd bellach yn fodlon y gellir hwyluso parcio sy’n gysylltiedig â’r datblygiad drwy ddefnyddio’r ardal a nodir fel Parth A. Pe byddai problem yn codi’i ben yn sgil cymeradwyo’r cais hwn byddai’r Awdurdod Priffyrdd yn adolygu’r sefyllfa ac yn ystyried gorchymyn rheoli traffig er mwyn rheoli’r parcio y tu allan i’r siop. O ran mwynderau preswyl, mae'r cynnig wedi cael ei ddiwygio yn ystod cyfnod y cais i sicrhau na fydd y datblygiad yn edrych dros yr eiddo cyfagos i gyfeiriad y de. Bydd pob ffenestr ar yr ochr ddeheuol a chefn yn defnyddio gwydr aneglur. Hefyd, mae’r cynnig yn dderbyniol ac yn cyd-fynd â gofynion Polisi AMG 5, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a’r newidiadau diweddaraf i bennod 6 o Bolisi Cynllunio Cymru sy’n trafod cynnal a gwella bioamrywiaeth.
Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol, a oedd methu â bod yn bresennol. Roedd y datganiad yn cyfeirio at y gwrthwynebiad i’r datblygiad yn lleol a chan y Cyngor Cymuned. Mae diffyg parcio ar gyfer y datblygiad ac mae’r ymgeisydd wedi ceisio mynd i’r afael â’r mater yn y dogfennau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dai Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Development Proposals submitted by Councillors and Officers Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
12.1 - FPL/2023/339 – Lane Ends, Llaneilian
12.2 – FPL/2024/43 – Mynwent y Rhyd, Cemaes
12.3 – VAR/2024/26 - Egwlys Bresbyteraidd Saesneg, Ffordd Telford, Porthaethwy.
12.4 – FPL/2023/181 - Shirehall, Lon Glanhwfa, Llangefni.
12.5 – FPL/2024/64 - Tyddyn Dylifws, Tyn y Gongl
12.6 – HHP/2024/56 - 2 Saith Lathen, Ty Croes
12.7 – FPL/2024/40 - Anglesey Golf Club, Station Road, Rhosneigr.
12.8 – FPL/2024/60 - Cae Pêl Droed Bae Trearddur
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2023/339 – Cais llawn ar gyfer newid dyluniad yr adeilad a chais ôl-weithredol ar gyfer gosod cyfleuster parod i drin carthffosiaeth yn y storfa gychod ar dir ger Lane Ends, Llaneilian
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol oherwydd pryderon am orddatblygu a phryderon lleol am y cais .
Siaradwyr Cyhoeddus Siaradodd Mr Dafydd Griffiths, a oedd yn cynrychioli Cyngor Cymuned Llaneilian, yn erbyn y cais. Dywedodd nad oedd gan y Cyngor Cymuned wrthwynebiad i’r cais gwreiddiol i godi storfa gychodd i’w defnyddio’n gysylltiedig â’r eiddo domestig yn Lane Ends. Roedd yr adeilad i fod yn adeilad o ansawdd uchel gyda storfa gychod deulawr a gweithdy a lle storio uwch ben. Pan adeiladwyd yr adeilad nid oedd yn edrych fel ‘storfa gychod’ o gwbl ac roedd yn edrych yn wahanol iawn i’r cynlluniau a ganiatawyd yn wreiddiol. Mae’r Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r ddau gais a gyflwynwyd i gadw’r newidiadau. Cyflwynodd y Cyngor Cymuned sylwadau i PEDW (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru) fel rhan o’r broses apêl. Gwrthodwyd apêl yr ymgeisydd i gadw’r newidiadau i’r cais cynllunio gwreiddiol. Ar ôl derbyn y cais cynllunio hwn i newid y dyluniad fe aeth y Cyngor Cymuned ati i baratoi dwy ddogfen fanwl. Roedd yr ail ddogfen yn cael ei defnyddio i ddiweddaru’r gyntaf wrth i fwy o wybodaeth ddod i law. Roedd y ddogfen yn cynnwys sylwadau, gwrthwynebiadau i rai agweddau penodol, newidiadau a oedd yn dderbyniol, dau amod i’w hystyried, a cheisiadau’n gofyn am eglurhad a sicrwydd. Gofynnodd y Cyngor Cymuned pe byddai modd i’r holl sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r cais gael eu rhannu’n llawn â’r Pwyllgor Cynllunio, yn hytrach na dim ond crynodeb. Roedd y Cyngor Cymuned yn deall nad yw hyn yn digwydd fel arfer a bod aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael gweld crynodeb o’r sylwadau yn y pecyn adroddiadau. Fel ymgynghorai statudol mae’r Cyngor Cymuned yn siomedig nad yw’r Pwyllgor Cynllunio wedi cael gweld y ddogfen yn llawn. Mae’r Cyngor Cymuned yn poeni am ddwy agwedd yn gysylltiedig â’r newidiadau i ddyluniad yr adeilad – yr ardal storio cychod a’r ramp i’r adeilad. Er bod crynodeb cyffredinol y Cyngor Cymuned yn nodi’r materion a’r sylwadau a godwyd nid yw’n cynnwys agwedd bwysig ar ymateb y Cyngor Cymuned i’r ardal storio cychod. Mae ymateb ffurfiol y Cyngor Cymuned i’r Cais Cynllunio yn nodi:- “Yn weledol roedd cael prif ddrws mor fawr a llydan i’r storfa gychod yn elfen bwysig o’r cais gwreiddiol. Mae’r Cyngor Cymuned o’r farn nad yw’n dderbyniol, yn weledol nac yn ymarferol, lleihau maint y drws a chael gwared ar y gofod am y rhesymau a amlinellwyd gan yr arolygydd cynllunio yn ystod yr apêl.”
Nid yw’r crynodeb yn nodi bod y Cyngor Cymuned wedi dyfynnu o ddogfen penderfyniad apêl PEDW i gefnogi gwrthwynebiad y Cyngor Cymuned mewn perthynas â’r elfen hon. Mae’r Cyngor Cymuned o’r farn y dylai’r Swyddogion a’r Pwyllgor Cynllunio roi cryn bwys ar sylwadau Arolygydd PEDW, Claire MacFarlain ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|