Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe y nodwyd uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd John Ifan Jones ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yng nghais 7.3 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfodydd canlynol :-
· Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 7 Mai, 2025; · Cofnodion Ethol Cadeirydd a’r Is-gadeirydd a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir :-
|
|
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2025 yn gywir, yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd Dafydd Roberts yn y rhestr o ymddiheuriadau.
|
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw Siaradwyr Cyhoeddus.
|
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
7.1 HHP/2024/169 - The Old Crown, Moelfre
7.2 HHP/2025/7 - 39 Parc Tyddyn Bach, Caergybi
7.3 FPL/2024/360 - Ty Coch Farm, Rhostrehwfa
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 HHP/2024/169 – Cais llawn ar gyfer codi anecs atodol yn The Old Crown, Moelfre
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, gan ei bod o'r farn y byddai'r datblygiad yn cael effaith weledol negyddol. Yn ei gyfarfod ar 7 Mai, 2025 penderfynodd y pwyllgor gynnal ymweliad safle, ac fe’i cynhaliwyd ar 21 Mai, 2025.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr annedd bresennol yn eiddo teras deulawr wedi'i leoli o fewn ffin datblygu Moelfre a’i fod hefyd wedi'i leoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r cynnig yn cynnwys codi anecs atodol y tu ôl i’r annedd bresennol. Fel y gwelwyd yn ystod yr ymweliad â'r safle, mae gan y safle lefelau topograffig gwahanol, felly mae'r safle ar raddiant i fyny o'r brif ffordd, a bydd yr anecs wedi'i leoli mewn safle uwch ger Lôn Tŷ Powdwr sy'n edrych dros arfordir Moelfre. Mae yna eisoes ganiatâd i godi tŷ ar yr un ôl troed â'r anecs arfaethedig, sydd wedi ei warchod trwy gais cynllunio defnydd cyfreithlon yn 2023. Bydd yr anecs yn llai o ran maint na'r cais a gymeradwywyd yn flaenorol. Mae'r datblygiad arfaethedig yn dangos dyluniad o ansawdd uchel ac mae’n ategu ac yn gwella cymeriad ac edrychiad y safle. Nid yw'n cael ei ystyried y bydd y cynnig yn niweidio nodweddion arbennig y dirwedd, yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, nac unrhyw eiddo cyfagos. Mae'r caniatâd cynllunio a roddwyd eisoes ar gyfer annedd yn cael mwy o effaith weledol ar y dirwedd o'i gymharu â'r anecs arfaethedig. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am i drefniadau parcio gael eu sicrhau oherwydd bod bwriad cael tair ystafell wely yn yr anecs. Yn sgil yr ystafelloedd gwely hyn, byddai gofyn creu tri llecyn parcio arall, yn ychwanegol at y tri presennol sydd ar gyfer y tŷ presennol a'r llety gwyliau sy'n gysylltiedig â'r safle. Er gallu dangos bod digon o le i barcio yng nghwrtil y safle, gofynnwyd am ragor o fanylion ynglŷn â defnyddioldeb y llecynnau. Cyflwynwyd dadansoddiad o symudiadau troi ceir ar y safle er mwyn lleddfu pryderon yr Awdurdod Priffyrdd, ac roedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn y dadansoddiad yn dderbyniol. Mae Dŵr Cymru wedi gofyn am amod yn datgan na chaniateir i unrhyw ddŵr wyneb ddraenio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i’r system garthffosiaeth gyhoeddus. Yn ogystal â'r amod hwn, bydd amod arall yn cael ei weithredu fel rhan o'r penderfyniad sy'n nodi cyn dechrau'r gwaith ar y safle, bydd manylion llawn am sut y bydd dŵr wyneb yn cael ei ollwng yn y safle yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo ganddo. Nododd ymhellach mai cyfrifoldeb SAB yw materion dŵr wyneb fel arfer, fodd bynnag, gan fod Dŵr Cymru wedi gofyn yn benodol nad yw'r dŵr wyneb yn cysylltu â'r brif garthffos, mae amod wedi’i osod cyn y gellir cymeradwyo'r cais i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chyflwyno cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle. Er ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau'n gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
12.1 VAR/2025/18 – Uned 2a Gwasanaethau Herron, Glanhwfa Road, Llangefni
12.2 VAR/2024/35 – Y Tithe Barn, Llangristiolus
12.3 FPL/2023/81 – Shire Hall, Ffordd Glanhwfa, Llangefni
12.4 FPL/2025/84 – Adeilad Terfynell Morol, Porth Amlwch, Amlwch
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 VAR/2025/18 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (gwerthu nwyddau difwyd yn unig) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 (Cais ôl-weithredol ar gyfer isrannu uned manwerthu sengl yn 2 uned manwerthu ar wahân) er mwyn caniatáu gwerthu bwyd yn Uned 2a, Herron Services, Ffordd Glanhwfa, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 (amod 13) yn y caniatâd gwreiddiol cyfeirnod 34C72Q/ECON) yn nodi ‘Bydd yr unedau a ganiateir yma yn cael eu defnyddio i werthu nwyddau nad ydynt yn fwyd yn unig ac nid ar gyfer unrhyw ddefnydd arall a nodir ar gyfer unedau Dosbarth Defnydd A1’. O edrych ar ganiatâd cynllunio 34C72Q/ECON gwelir bod y cais gwreiddiol yn gysylltiedig â’r unedau manwerthu yn ymwneud yn benodol â gwerthu nwyddau ‘difwyd’, ac mae’n debyg bod yr amod sy’n cyfyngu’r defnydd wedi’i roi yn seiliedig ar ofynion yr ymgeisydd gan nad yw adroddiad y swyddog yn rhoi unrhyw gyfiawnhad cynllunio dros gyfyngu’r defnydd i werthu nwyddau difwyd yn unig. O ystyried y ffaith nad oes unrhyw newid sylweddol mewn defnydd yn cael ei gynnig ystyrir ei bod yn dderbyniol diwygio amod (2) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/18 i ganiatáu gwerthu bwyd yn Uned 2a. Mae Garej Herron wrth ymyl y cais arfaethedig yn gwerthu bwyd, ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ynglŷn â'r cynnig ac ymgynghorwyd â'r Awdurdod Priffyrdd ac nid ydynt wedi lleisio unrhyw wrthwynebiad.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Aelod Lleol fod sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol a'r Cyngor Tref yn awgrymu bod gormod o lefydd bwyd cyflym a siopau trin gwallt yn Llangefni. Dywedodd fod problem eisoes gyda sbwriel o'r lle bwyd cyflym Subway yng Ngarej Herron a byddai cymeradwyo'r cais hwn yn cynyddu'r problemau sbwriel. At hyn, dywedodd fod llawer iawn o draffig yn mynd i mewn i garej Herron eisoes a byddai'r cais hwn yn cynyddu traffig ar Ffordd Glanhwfa. Cynigiodd y Cynghorydd Bebb eu bod yn gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion gan ei fod yn groes i amodau cynllunio MAN 3 a MAN 7.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw hwn yn gais newid defnydd ac mae'n dal i fod yn ddiffiniad Dosbarth A1. Roedd o'r farn bod digon o le parcio ar gael o flaen yr Unedau ar y safle a'i fod o fewn ffin datblygu Llangefni ac o fewn pellter cerdded o ganol y dref. Ar ben hyn, dywedodd nad oedd o'r farn y bydd cynnydd mewn traffig sy'n cyfiawnhau gwrthod y cais ac nid oedd o'r farn bod y cynnig yn groes i amodau cynllunio MAN 3 a MAN 7.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod sbwriel tecawê/bwyd cyflym yn cael ei daflu i'r briffordd a'r tu allan i'r adeiladau hyn. Holodd a fyddai modd gosod amod ar lefydd bwyd cyflym i sicrhau eu bod yn cyfrannu at glirio'r sbwriel gan fod enw'r llefydd bwyd cyflym ar y sbwriel.
Mewn ymateb, ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|