Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Geraint Bebb yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Geraint Bebb ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig â chais 12.4 - Ysgol Gyfun Llangefni am ei fod yn Llywodraethwr yn yr ysgol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Fe wnaeth y Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol a rhagfarnus yn gysylltiedig â chais 12.6 - yr A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bŵer yng Nghemaes - gan fod ei wraig yn cael ei chyflogi gan y cwmni. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Ebrill, 2026. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Ebrill, 2026 yn gywir.
|
|
|
Ymweliad Safleoedd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Siaradwr Cyhoeddus yn gysylltiedig â chais 12.6.
|
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau'n Codi Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau'n gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 FPL/2026/61 – Cais llawn ar gyfer addasiadau ac ehangu yn 32 Stryd Fawr, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Swyddog perthnasol, yn unol â’r diffiniad yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 yn y Cyfansoddiad.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod hwn yn gais cynllunio llawn i godi estyniad un llawr â tho fflat yn nghefn y ddeintyddfa a chlinig iechyd yn 32 Stryd Fawr, Porthaethwy. Nododd bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi cymeradwyo’r cais blaenorol i droi’r annedd yn ddeintyddfa a chlinig iechyd a bod y cais hwn yn ymwneud â chodi estyniad pellach i greu mwy o le yn yr adeilad. Bydd yr estyniad yn mesur 2.8m x 1.5m a 2.5m o uchder ac fel arfer byddai estyniad o’r maint hwn y tu ôl i adeilad yn dod o dan hawliau datblygu a ganiateir, fodd bynnag mae’r safle dan sylw mewn Ardal Gadwraeth. Gan mai estyniad bach, o ansawdd uchel yw hwn yng nghefn yr adeilad, ni fydd yn cael effaith andwyol ar gymeriad yr Ardal Gadwraeth nac unrhyw eiddo gerllaw gan fod gan sawl eiddo arall yn y cyffiniau estyniad tebyg. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, aelod o’r pwyllgor ac Aelod Lleol, nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais a chynigodd ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo'r cais gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
|
|
|
12.1 – FPL/2026/7 – Tyn Llan, Ffordd Penmynydd, Penmynydd
12.2 – FPL/2026/34 – Ty Llwyd, Llanfaelog
12.3 – FPL/2026/59 – Enochs, Ffordd Caergybi, Y Fali
12.4 – FPL/2026/66 – Ysgol Gyfun, Llangefni
12.5 - RM/2026/1 – Peboc, Llangefni
12.6 – VAR/2026/14 - A5025 rhwng y Gyffordd ar yr A5 i’r Dwyrain o’r Fali i’r Orsaf Bwer yng Nghemaes
12.7 – HHP/2026/72 – Ardraeth, Lon Traeth Llydan, Rhosneigr
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2026/7 – Cais llawn ar gyfer creu lagŵn slyri ar dir yn Tyn Llan, Ffordd Penmynydd, Penmynydd.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y safle ym mherchnogaeth y Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen y lagŵn slyri arfaethedig i wella’r system rheoli slyri bresennol ar y fferm er mwyn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Yn ogystal â hynny, mae gwaharddiad ar wasgaru slyri yn ystod y gaeaf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu fod rhaid i bob fferm fod â chapasiti i storio slyri am o leiaf pum mis er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau. Mae’r cais, fel yn achos sawl fferm arall ar Ynys Môn, yn cael ei gyflwyno i gydymffurfio â’r rheoliadau hyn. Mae adran 5.6.8 o Bolisi Cynllunio Cymru yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio fabwysiadu ymagwedd adeiladol at gynigion datblygu amaethyddol, yn enwedig y rhai a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion mewn perthynas â newid arferion ffermio neu sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth amgylcheddol, hylendid neu les newydd. Mae’r safle’n ddaliad amaethyddol o thua 170 acer sy’n cadw tua 75 o fuchod sugno a 200 o ddefaid magu. Ar hyn o bryd mae’r ddwy storfa slyri concrit presennol wedi’u lleoli ar ran mwyaf deheuol y fferm. Adeiladwyd y strwythurau hyn cyn 1991 ac mae’r capasiti defnyddiadwy tua 244.7 metr ciwbig. Mae cyfrifiadau slyri a gynhwyswyd yn yr adroddiadau isadeiledd fferm yn nodi bod angen storio 1900 metr ciwbig. Mae hyn yn amlygu diffyg sylweddol yn y capasiti storio slyri ar y daliad, gan olygu bod gofyn uwchraddio er mwyn bodloni gofynion capasiti storio cyffredinol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu’r datblygiad a fydd yn gwella’r trefniadau rheoli slyri presennol ar y fferm. Nododd bod 2 lythyr o wrthwynebiad wedi cael ei dderbyn yn sgil pryderon ynglyn ag arogleuon, effaith weledol ac effaith ar eiddo cyfagos. Bydd y lagŵn arfaethedig tua 120m oddi wrth y terfyn â 4 Glanffrwd i’r de orllewin, a dyma’r eiddo agosaf mewn teras o bedwar tŷ ar hyd y B5420. Bydd y lagŵn bellter tebyg hefyd oddi wrth Tyn Pistyll a Derw Newydd i’r de, a Tyn Refail i’r de orllewin, ar y naill ochr a’r llall i’r briffordd gyhoeddus. Mae nifer o eiddo preswyl eraill i’r gorllewin rhwng 200m a 350m oddi wrth y lagŵn arfaethedig. Cydnabyddir y bydd rhai arogleuon achlysurol yn gysylltiedig â’r lagŵn slyri a gwaith y fferm, ond ystyrir bod hyn yn nodwedd gyfarwydd sy’n gysylltiedig â byw mewn cymuned wledig. Wrth ystyried y lleoliad gwledig a phresenoldeb storfeydd slyri presennol nad ydynt ond 30m ymhellach i ffwrdd na’r lagŵn arfaethedig, ystyrir na fyddai’r datblygiad yn cael dim mwy o effaith ar fwynderau preswyl yn yr ardal. O’r herwydd bernir bod y cynnig yn dderbyniol gan ei fod yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rheoliadau Llywodraeth Cymru, ac argymhellwyd cymeradwyo’r cais Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones bod lagynau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
|
13.1 – DAG/2026/11 – Gwyndy, Ffordd Penmynydd, Penmynydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 DAG/2026/11 – Cais i bennu os oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer codi gorchudd iard yn Gwyndy, Ffordd Penmynydd, Penmynydd.
Nodwyd bod y cais yn cael ei ganiatáu dan Ddosbarth A, Rhan 6 Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredin a Ganiateir) 1995.
|