Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Rhagfyr, 2013 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth dim i law.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn

Y Cynghorydd Nicola Roberts yng ngheisiadau 6.1, 10.1 ac 11.2

Y Cynghorydd Victor Hughes yng nghais 7.5

Y Cynghorydd Richard Owain Jones yng nghais 10.1

Datganodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes, a Nicola Roberts ddatganiadau o ddiddordeb personol yng nghyswllt cais 7.5 oherwydd y cyfeiriad at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru ond gan ddweud y buasent yn ystyried y cais yn ôl ei rinweddau.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 212 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2013 a chadarnhawyd eu bod yn gywir ar yr amod bod anerchiad y Cynghorydd Ann Griffith yng nghyswllt cais rhif 7.4 ar dudalen 14 yn cynnwys sylwadau yr oedd wedi eu gwneud wrth egluro’r pwysau gwleidyddol yr oedd yn teimlo dano wrth arwain at ystyried y cais a, hefyd, sylwadau ynghylch ymyrraeth gan gorfforaethau rhyngwladol.  Yn ogystal, roedd wedi cyfeirio at yr hyn y credai oedd yn ddiffyg gofal a ddangoswyd at Gynghorwyr a’r hyn yr oedd yn ei deimlo ynghylch y broses.  

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 20 November 2013 a chawsant eu cadarnhau’n gofnod cywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y buasid Siaradwyr Cyhoeddus ar gyfer ceisiadau 7.1, 7.6, 8.1, 11.1 ac 11.3.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 701 KB

6.1 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

 

6.2 41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

 

6.3 42C114A – Tai’n Coed, Pentraeth

 

6.4 44C294B – Plas Newydd, Rhosybol

Cofnodion:

6.1         34C553A - Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd a rhwydwaith cysylltiol yn Nhy’n Coed, Llangefni

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb yn y cais hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio arno.

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

6.2         41C125B/EIA/RE - Cais llawn i godi tri thyrbin gwynt 800kw - 900kw gydag uchder hwb o ddim mwy na 55m, diameter llafn hyd at 52m ac uchder o ddim mwy na 81m ar y blaen fertigol, gwella’r fynedfa i’r A5025 ynghyd â chodi tri blwch i gadw offer ar dir ym Mryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais fel bod modd ymweld â’r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

6.3         42C114A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod tanc septig yn Nhai’n Coed, Pentraeth

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

6.4         44C294B – Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 20kw gydag uchder hwb o ddim mwy nag 20.5m, diameter llafn o 13.1m ac uchder o ddim mwy na 27.1m ar y blaen fertigol ar dir ym Mhlas Newydd, Rhos-y-bol

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

7.

Ceisiadau yn Codi pdf eicon PDF 1 MB

7.1 10C118A/RE – Bryn yr Odyn, Soar

 

7.2 14C135A – Glasfryn, Ty’n Lon

 

7.3 19C1052C – Clwb RNA, Ffordd Dewi Sant, Caergybi

 

7.4 28C483 – Sea Forth, Ffordd Warren, Rhosneigr

 

7.5 30C713 – Bryn Mair, Llanbedrgoch

 

7.6 45C438 – Bryn Gwyn, Niwbwrch

Cofnodion:

7.1 10C118A/RE – Cais llawn i osod ffarm arae heulol 15MW ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar

Yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2013, dewisodd yr Aelodau ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad.  Ymwelwyd â’r safle ar 20 Tachwedd 2013.

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr Berwyn Owen, fel gwrthwynebydd i’r bwriad, annerch y Pwyllgor.

Cyfeiriodd Mr Owen at –

·         Raddfa’r datblygiad, sef 74 erw.

·         Effaith andwyol bosib y datblygiad ar Ardal o Dirwedd Arbennig, ar y llwybr seiclo cenedlaethol ac ar dwristiaeth.

·         Effaith weledol y bwriad.

·         Effaith gronnol y bwriad hwn ynghyd â chynllun Tai Moelion.

·         Sylwadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

·         Bod polisïau ynni gwyrdd yn cyfeirio’n benodol at banelau heulol ar brosiectau preswyl/domestig yn hytrach nag at brosiectau ar y raddfa hon.

·         Gofynnir i’r Pwyllgor wrthod y cais yn bennaf oherwydd ei effaith ar y tirwedd ac ar gymeriad y rhan hon o’r cefn gwlad ond, hefyd, oherwydd nad oes cyfarwydd polisi ar gyfer ffermydd heulol ar y raddfa hon neu i’r Pwyllgor o leiaf ohirio ystyried ceisiadau o’r fath hyd oni fabwysiadir polisi penodol.

 

Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i Mr Berwyn Owen.

Yna gofynnodd y Cadeirydd i Mr George Meyrick annerch y Pwyllgor o blaid y cais.

Cyflwynodd Mr Meyrick ei hun fel Cadeirydd Stad Bodorgan sy’n fuddsoddwr tymor hir yn economi Môn ac aeth yn ei flaen i danlinellu manteision y bwriad fel a ganlyn:

·         Dylai’r Stad gadw rheolaeth sylweddol dros y ffarm heulol er y bydd gofyn cael arian allanol hefyd.

·         Roedd Stad Bodorgan yn gwario oddeutu £1,000,000 y flwyddyn ar waith trwsio a chynnal a chadw’n unig ar dai a ffermydd pobl, yn ogystal ag ar asedau diwylliannol a threftadaeth.

·         Hon fuasai un o’r ychydig bach o ffermydd heulol yn y Deyrnas Gyfunol fuasai’n gweithredu fel cwmni creu trydan y mae perchenogaeth leol arno.

·         Roedd yn brosiect da o ran budd i’r gymuned.

·         Roedd prosiect yn y lleoliad cywir lle na fuasai effaith annerbyniol ar y tirwedd nag effaith weledol yn lleol yn y cyd-destun ehangach nag yn gronnol. 

·         Roedd y bwriad yn adlewyrchu’r polisi cynllunio lleol a chenedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy mewn modd cyfrifol gydag ychydig iawn o effaith yn lleol.

·         Roedd y Swyddogion Cynllunio’n cefnogi’r bwriad ac nid oedd y cyrff statudol yr ymgynghorwyd â nhw wedi gwrthwynebu.

 

Holodd aelodau’r Pwyllgor Mr Meyrick ar y materion a ganlyn -

 

·         Effaith y datblygiad hwn ar dreftadaeth amaethyddol Môn ac ar dwristiaeth

·         Yr effaith aflonyddol bosib ar ffyrdd cul ac ar fwynderau lleol wrth ddanfon yr offer ac yn ystod cyfnod adeiladu’r datblygiad arfaethedig.

·         Y ffaith nad oedd Gwalchmai yn gymuned a fuasai’n cael budd o’r cynllun.

·         Oedd Stad Bodorgan yn bwriadu gwneud cais am ragor o ddatblygiadau tebyg yn yr ardal oherwydd bod pryder ynghylch effaith gronnol hwn a datblygiadau tebyg eraill ar yr ardal honno.

 

Dywedodd Mr Meyrick bod yn rhaid i’r datblygiad fod ar raddfa fawr oherwydd y cysylltiad â’r grid o ran y gwaith a’r offer yr oedd yn rhaid  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 356 KB

8.1 46V149N/ECON/FR –  Gwesty’r Trearddur, Lôn Isallt, Trearddur

Cofnodion:

8.1  46149N/ECON/FR – Cais llawn i godi 27 o fythynnod gwyliau, naw o ystafelloedd gardd fel estyniad i’r llety, adeilad i’r dderbynfa, creu mynedfa newydd i gerbydau ac i gerddwyr ynghyd â thirlunio Gwesty Bae Trearddur, Lôn Isallt, Trearddur

Cafodd y cais ei alw i mewn gan yr Aelod Lleol.

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr David Middleton annerch y Pwyllgor o blaid y cais.

CyflwynoddMr David Middleton ei hun fel yr asiant a benodwyd ar ran yr ymgeisydd ac anerchodd y Pwyllgor fel a ganlyn:

·         Roedd y bwriad yn golygu darparu 27 o fythynnod gwyliau a naw ystafell gardd yn y gwesty ac a fydd yn cael eu datblygu mewn lleoliad cynaliadwy o fewn pellter cerdded hawdd i ganol Trearddur ac i’r holl siopau, gwasanaethau a’r cyfleusterau oedd ar gael.

·         Roedd Asesiad o’r Effaith ar y Tirwedd a’r Effaith Weledol yn dod i’r casgliad na fuasai’r datblygiad yn tarfu ar y tirwedd ehangach ac, wedi trafodaeth gyda Chyngor Môn cyn cyflwyno’r cais, buasai dyluniad a gosodiad y bythynnod gwyliau a’r ystafelloedd gardd yn cael eu tirlunio.

·         Roedd Swyddogion Tirlunio a Chynllunio yng Nghyngor Môn wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o ddylanwadu gosodiad y datblygiad ac roeddynt wedi cael mewnbwn uniongyrchol i fás a dyluniad cyffredinol y llety.

·         Nid oedd yr un o’r cyrff yr ymgynghorwyd â nhw wedi gwrthwynebu’r cais

·         Buasai’r budd economaidd a ddeuai o’r datblygiad yn sylweddol ac yn ystyriaeth o bwys o blaid y cais. Amcangyfrifwyd y buasai’r datblygiad yn cyfrannu 700k y flwyddyn i economi lleol Trearddur.

·         Buasai’r sgil-effaith ariannol hon yn dod â manteision uniongyrchol i fusnesau lleol yn Nhrearddur ac yn cynnal y gwesty fel un o’r prif ddarparwyr llety gwyliau a chyflogwyr mwyaf yn yr ardal. 

·         Fel rhan o’r cais, roedd yr ymgeisydd wedi cytuno i wneud cyfraniad £30k adran 106 i wella’r cyfleuster parcio yn Nhrearddur a rhoi croesfan ar gyfer cerddwyr yng nghanol y pentref.

·         Roedd y cais yn cael ei gefnogi gan y ddau bolisi cynlluniocenedlaethol a lleol – ac roedd adroddiad y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd yn tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu nac i’r polisïau sy’n berthnasol yn hyn o beth.

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor nifer o gwestiynau i Mr Middleton am ddyluniad y bythynnod gwyliau a’r defnydd a wneid ohonynt trwy gydol y flwyddyn; a oedd hwn yn orddatblygiad; a fyddid yn recriwtio’n lleol ar gyfer y pum swydd parhaol ychwanegol, a chydymffurfio gyda’r polisi iaith.

Wrth ymateb, eglurodd Mr Middleton ei fod yn ymwybodol o wrthwynebiadau lleol yng nghyswllt gorddatblygu a dywedodd bod y cynllun wedi ei drafod yn fanwl gyda Swyddogion a ddylanwadodd yn fawr ar osodiad a dyluniad y safle. Canolbwyntiwyd ar ddatblygu’r bythynnod gwyliau mewn man llai ymwthiol i’r de-orllewin o’r safle. Câi gwelliannau amgylcheddol ac ecolegol eu gwneud i’r safle.  Roedd unedau’r bythynnod gwyliau wedi eu dylunio fel nad oeddynt  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Nid ystyriwyd yr un yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 271 KB

10.1 24C288A – Hafod y Grug, Cerrigman

Cofnodion:

10.1 24C288A - cais llawn i godi annedd, ynghyd â gosod gwaith trin preifat yn Hafod y Grug, Cerrig mân

 

Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel cais oedd yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn a fabwysiadwyd ond y gellid ei gefnogi dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

Gan eu bod wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a Richard Owain Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y derbynnid yr egwyddor o ddatblygu gan y caniateid y bwriad dan ddarpariaeth polisi PT5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. At hyn, roedd caniatâd cynllunio eisoes ar y tirrhywbeth oedd yn sefydlu ymhellach yr egwyddor o ddatblygu. 

Cynigiodd y Cynghorydd Councillor Kenneth Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo. (Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd W.T.Hughes ar y mater).

 

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 755 KB

11.1 18C215 – Swn yr Afon, Llanrhwydus

 

11.2 34C655 – 2 Ty’n Coed Uchaf, Llangefni

 

11.3 37C187 – Bryn Garth, Brynsiencyn

 

11.4 47C121A – Hen Blas, Llanddeusant

Cofnodion:

11.1  18C215 - Cais amlinellol gyda mynedfa wedi ei chynnwys i godi annedd fforddiadwy, creu mynedfa newydd ynghyd â gosod  gwaith trin carthion ar dir ger Sŵn yr Afon, Llanrhwydrus, LL68 0SR

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y cais gan fod yr ymgeisydd yn ffrind i swyddog perthnasol ac roedd y Swyddog Monitro wedi cael golwg ar y ffeil.

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Sioned Roberts roi ei safiad i’r Pwyllgor.

Tanlinellodd Miss Roberts y pwyntiau a ganlyn i gefnogi’r cais–

·         Disgrifiodd ei hamgylchiadau personol a’i chysylltiadau teuluol â Sŵn yr Afon a Llanrhwydrus.

·         Cyfeiriodd at yr anawsterau o brynu tŷ gan fod pob tŷ ar y farchnad leol, i bob pwrpas y tu draw i’w gallu’n ariannol. Rhoes enghreifftiau o nifer y tai oedd ar werth ar hyn o bryd, a’u prisiau.

·         Oherwydd nad oedd tai lleol yn fforddiadwy, roedd yr ardal wedi gweld pobl hŷn yn dod i mewn ac roedd hyn yn drist i’r gymuned wledig.  Roedd yn ddigon ffodus o fod wedi cael darn o dir gan ei rhieni yr oedd yn dymuno codi tŷ fforddiadwy arno.

·         Ei dymuniad ar gyfer y dyfodol oedd aros yn lleol a magu teulu.  Buasai o gymorth iddi hi ac i’w rhieni eu bod yn byw’n agos.

·         I gloi, roedd yn dymuno aros yn ei chymuned, yn agos at deulu a ffrindiau a dechrau teulu. Nid oedd yn gofyn am ganiatâd cynllunio i godi tŷ mawr - dim ond am gartref yn y clwstwr bychan o dai o amgylch cartref ei phlentyndod.

 

Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i Miss Sioned Roberts.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn tynnu’n groes i bolisi’r Cynllun Datblygu ac mai’r unig reswm yr oedd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oedd bod yr ymgeisydd yn ffrind i swyddog perthnasol. Fel y’i bwriedid, roedd y cais mewn cefn gwlad agored lle'r oedd polisïau caeth yn berthnasol a rhaid oedd dangos bod cyfiawnhad dros godi tŷ.  Ac eithrio fforddiadwyedd, ni chynigiwyd cyfiawnhad arall dros gefnogi’r cais y gellid ei ystyried dan bolisïau perthnasol tai yn y cefn gwlad. At hyn, roedd safle’r cais mewn man amlwg lle credid y buasai codi tŷ newydd yno’n cael effaith andwyol ar gymeriad y tirwedd o’i amgylch.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd Kenneth Hughes ei fod yn cefnogi’r cais am resymau polisi yn ogystal ag am resymau’n ymwneud â’r Gymraeg a dyfynnodd baragraff 9.2.13 Polisi Cynllunio Cymru i gyfiawnhau ei farn.  Roedd y paragraff hwn yn darparu ar gyfer mewnlenwi’n sensitif fylchau bychain mewn grwpiau bychain o dai neu estyniadau bychain i grwpiau. Roedd o’r farn bod y polisi’n berthnasol yn yr achos hwn o gofio bod tri thŷ gerllaw ac nid oedd yn credu y buasai annedd arall yn cael effaith andwyol ar yr ardal. Nid oedd dim gwrthwynebiadau’n lleol i’r bwriad.  At hyn, roedd y bwriad yn rhoi cyfle i sicrhau parhad y teulu yn ogystal â chadw’r to ifanc ar yr Ynys ac yn eu cymunedau. Fel  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 909 KB

12.1 10LPA980A/FR/CC – Pont Ganol, Aberffraw

 

12.2 11LPA533C/AD/CC – Canolfan Hamdden Amlwch, Amlwch

 

12.3 19C693A – Yr Hen Safle Depo, Stryd Cross, Caergybi

 

12.4 19LPA988/TPO/CC – Llys Mair, Ty’n y Parc, Mill Bank, Caergybi

Cofnodion:

12.1 10LPA980A/FR/CC – Cais llawn i newid llinell y ffordd a chreu pont newydd yn y Bont Ganol, Aberffraw

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gan mai’r Cyngor oedd yn ei gyflwyno.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo. (Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd Ann Griffith ar y mater).

12.2 11LPA533C/AD/CC – Codi chwe baner o amgylch Canolfan Hamdden Amlwch, Amlwch.

 

Gwnaed y cais ar dir oedd yn perthyn i’r Cyngor.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo.

12.3 19C693A – Cais llawn i godi pum teras deulawr gyda pharcio cysylltiedig oddi ar y ffordd ar dir ger y safle yn yr hen ddepo, Cross Street, Holyhead

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Roedd y Swyddog Monitro wedi edrych ar y cais yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais y tu mewn i ffin ddatblygu Caergybi ac yn safle ailddatblygu tir llwyd.  Roedd polisi cynllunio’n cefnogi ei ailddatblygu at ddefnydd preswyl.  Nid oedd gwrthwynebiadau technegol i’r datblygiad.

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad oedd yn ymwybodol o unrhyw wrthwynebiadau i’r cais a’i fod o’r farn mai dim ond elwa o’r bwriad y gallai man fel hwn oedd yn mynd â’i ben iddo.

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd  Richard Owain Jones.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo.

12.4 19LPA988/TPOCC – Cais am waith i dorri coed a ddiogelir dan Orchymyn Gwarchod Coed yn Lays Mai (o flaen Banc y Felin), Tyn –y –Parc, Banc y Felin, Caergybi

 

Gwnaed y cais ar dir yr oedd y Cyngor yn berchen arno.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog gyda’r amodau a restrir ynddo.

 

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 154 KB

13.1 13C183 – Seren Las, Bodedern

Cofnodion:

13.1 13C183 – Cais i benderfynu a oes angen rhoi gwybod ymlaen llawn am godi sied amaethyddol i storio bwyd anifeiliaid a pheiriannau ar dir Seren Las, Bodedern

 

Rhoddwyd gwybod i aelodau y penderfynwyd nad oedd yn rhaid wrth ganiatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer y datblygiad hwn a’i fod yn ddatblygiad a ganiateir.

Penderfynwyd nodi’r adroddiad fel gwybodaeth.

 

 

14.

Gorchmynion pdf eicon PDF 30 KB

14.1  Gorchymyn Cyngor Sir Ynys Môn (Lleoedd Parcio oddi ar y Stryd) (Amryfal Feysydd Parcio ym Môn) 2013 – Adroddiad ynghlwm

Cofnodion:

14.1 Gorchymyn Cyngor Sir Ynys Môn (Llefydd Parcio oddi ar y Stryd) (Meysydd Parcio Amrywiol yn Ynys Môn)(1) 2013

 

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Beiriannydd (Priffyrdd a Rheoli Gwastraff) i’r Pwyllgor ei ystyried.

Penderfynwyd cefnogi’r weithred o gyflwyno gorchymyn parcio oddi ar y stryd ar yr amod bod unrhyw safle parcio ac arddangos newydd yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.