Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganid o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd datganiadau o ddiddordeb eu gwneud fel a ganlyn:-
Datganodd y Cynghorydd Richard O Jones ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.1, gan ddatgan y byddai’n aros yn y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar y cais er mwyn siarad fel Aelod Lleol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.4 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Datganodd Mr John A P Rowlands, Peiriannydd Rheoli Datblygu, ddiddordeb yng nghais 7.3 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion:-
· 1 Mai, 2019 · 14 Mai, 2019 (Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel a ganlyn:-
· 1 Mai, 2019 · 14 Mai, 2019 (Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd)
|
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gafwyd ar 15 Mai, 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Mai, 2019.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.3. |
|
Ceisiadau a fydd yn cael ei gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
7.1 FPL/2019/13 – Mast Teleffon,Nebo 7.2 FPL/2018/57 – Parc Tyddyn Bach, Caergybi 7.3 FPL/2018/52 – Clwb Rygbi Caergybi, Ffordd Bryn y Mor, Y Fali 7.4 FPL/2019/31 – Ty Mawr, Pentraeth 7.5 FPL/2019/51 – Preswylfa, Y Fali 7.6 14C257 – Cefn Trefor, Trefor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2019/13 – Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a storio peiriannau a bwyd ynghyd ag adeiladu trac mynediad llain caled ar dir ger Mast Teleffon, Nebo
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Ebrill, 2019, penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac ymwelwyd â’r safle ar 17 Ebrill, 2019. Penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Mai, 2019 gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
Oherwydd iddo ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, safodd y Cynghorydd Richard O Jones i lawr fel Is-gadeirydd ond arhosodd yn y cyfarfod er mwyn cyflwyno sylwadau fel Aelod Lleol. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.
Dangosodd y Cynghorydd Richard O Jones fapiau o hanes cynllunio’r safle i’r Pwyllgor. Dywedodd fod y mast teleffon wedi cael ei ddymchwel ond fod y sylfaeni blociau concrit yn dal i fod yno. Dywedodd ei fod yn ystyried bod safle’r cais yn cydymffurfio â pholisi AMG2. Roedd yn amlwg o’r ymweliad safle a gynhaliwyd na fyddai’r sied amaethyddol arfaethedig i’w gweld o’r briffordd gyfagos os bydd y gwrychyn yn tyfu’n uwch ac y byddai’n cydymffurfio â Pholisi PCYFF 4 a PCYFF 3.
Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio'r prif fater cynllunio mewn perthynas â’r cais hwn. Nododd fod y safle wedi’i leoli o fewn Ardal Tirwedd Arbennig Mynydd Parys a’r AHNE cyfagos a’r argymhelliad oedd gwrthod y cais.
Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes bod digon o gyfiawnhad dros gymeradwyo’r cais gan ei fod yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes fod penderfyniad y pwyllgor blaenorol i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog yn cael ei ail-gadarnhau.
Dywedodd y Cynghorydd John Griffith fod argymhelliad y Swyddog Cynllunio i wrthod y cais yn glir, yn arbennig y sylwadau mewn perthynas â’r effaith ar y dirwedd. Cynigiodd y Cynghorydd John Griffiths fod y cais yn cael ei wrthod. Ni chafodd y cynnig i wrthod y cais ei eilio.
Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r cais i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ac i roi’r awdurdod i’r Swyddog lunio amodau o ran tirlunio’r safle a’r fynedfa iddo.
7.2 FPL/2018/57 – Cais llawn ar gyfer codi 46 o anheddau ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon yn lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2019, penderfynwyd cynnal ymweliad safle ac ymwelwyd â’r safle ar 20 Mawrth, 2019.
Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio'r prif fater cynllunio mewn perthynas â’r cais. Dywedodd fod manylion am y system ddraenio a’r gymysgedd o unedau tai wedi dod i law a bod Dŵr Cymru yn fodlon gyda manylion draenio’r safle a bod yr Adran Dai yn fodlon gyda’r gymysgedd o unedau tai. Disgwylir ymateb gan yr Adain Ddraenio a’r Uned Polisi Cynllunio Lleol ar y Cyd. Ychwanegodd fod pryderon yn bodoli yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am dy fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
10.1 FPL/2019/70 – Glyndaf, Rhoscefnhir 10.2 FPL/2019/43 – Tyn Lon, Llangwyllog Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 FPL/2019/70 – Cais llawn ar gyfer codi annedd sy’n cynnwys balconi ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir ger Glyndaf, Rhoscefnhir
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.
Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygu amlinelliad o’r prif faterion cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 FPL/2019/43 – Cais llawn ar gyfer codi annedd a garej ynghyd â gosod tanc septig yn Tyn Lôn, Llangwyllog
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol ond bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.
Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygu amlinelliad o’r prif faterion cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard O Jones y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 644 KB 11.1 HHP/2019/116 – Plas Newydd, Llanddeusant 11.2 HHP/2019/121 – Ty Rhos, Llanfaethlu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 HHP/2019/116 – Cais llawn ar gyfer codi garej yn Plas Newydd, Llanddeusant
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai perthynas agos i Swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10 y Cyfansoddiad yw’r ymgeisydd. Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi archwilio’r cais.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod ben tan 10 Mehefin, 2019 a gofynnodd i’r Swyddogion gael hawl i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau wedi’u derbyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
11.2 HHP/2019/121 – Cais llawn ar gyfer altro ac ehangu Tŷ Rhos, Llanfaethlu
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10 y Cyfansoddiad yw’r ymgeisydd. Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi archwilio’r cais.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad yw’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dod ben tan 10 Mehefin, 2019 a gofynnodd i’r Swyddogion gael hawl i weithredu yn dilyn y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau wedi’u derbyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
|
|
12.1 FPL/2019/40 – Clwb Golff, Llangefni 12.2 FPL/2018/42 – Stâd Llain Delyn, Gwalchmai 12.3 25C121H – Safle Maryfore, Llannerchymedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2019/40 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd siop golff (Dosbarth Defnydd A1) yn fwyty (Dosbarth Defnydd A3) ynghyd â gosod simnai allanol a ffliw echdynnu a chreu ardal decin y tu allan yng Nghlwb Golff Llangefni, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais wedi’i leoli ar dir sydd ym meddiant y Cyngor.
Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygiad amlinelliad o’r prif fater cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais fel y’i nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod rhan o’r cais yn un ôl-weithredol oherwydd mae drysau wedi cael eu gosod yn lle ffenestr fel y gellir cael mynediad i’r decin ac mae simnai allanol hefyd wedi cael ei hychwanegu at yr adeilad. Bydd angen i’r ymgeisydd gyflwyno manylion am y ffliw allanol cyn y gellir cymeradwyo’r cais. Gwnaed newid i adroddiad y swyddog – y dyddiad hwyraf ar gyfer derbyn sylwadau ydi 12 Mehefin, 2019. Dywedodd y swyddog ymhellach bod y cais yn cael ei gefnogi gan bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol, yn enwedig polisi MAN 6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Holodd y Pwyllgor am y cyfleusterau parcio ar y safle. Dywedodd y Swyddog Priffyrdd y bydd maes parcio cyhoeddus Oriel Ynys Môn ar gael fel y mae yn awr i’r sawl sy’n defnyddio’r Llain Ymarfer Golff.
Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid gwrthod y cais oherwydd ei effaith ar yr ardal leol. Fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.
Yn dilyn y bleidlais:-
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
12.2 FPL/2018/42 – Cais llawn ar gyfer codi 8 o anheddau pris marchnad a 2 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a lôn newydd ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS, Aelod Lleol, am ymweliad safle oherwydd pryderon ynghylch y fynedfa i’r safle.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.3 25C121H – Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd a mynedfa i gerbydau yn Safle Maryfore, Llanerchymedd
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o safle’r cais wedi’i leoli ar dir sydd ym meddiant y Cyngor.
Rhoes y Rheolwr Rheoli Datblygiad amlinelliad o’r prif fater cynllunio sy’n gysylltiedig â’r cais. Dywedodd y bydd angen cytundeb cyfreithiol adran 106 mewn perthynas â chais y Gwasanaeth Addysg am gyfraniad tuag at ddarparu ar gyfer y disgyblion ychwanegol a bod angen un tŷ fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad arfaethedig.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau sydd wedi’i cynnwys ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |