Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 474 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod rhithiol blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 6 Gorffennaf, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod rhithiol blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 185 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle rhithiol a gafwyd ar 20 Gorffennaf, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle rhithiol a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.4 a 10.2.

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 3 MB

7.1 – FPL/2021/349 - Caerau, Llanfairynghornwy

FPL/2021/349

 

7.2 - FPL/2022/7 - Parc Carafanau Mornest, Pentre Berw

FPL/2022/7

 

7.3 - FPL/2022/63 - Ocean's Edge, Lon Isallt, Bae Treaddur

FPL/2022/63

 

7.4 – FPL/2021/266 - Ffordd Garreglwyd, Caergybi

FPL/2021/266

 

7.5 - FPL/2021/336 - Canolfan Iechyd Llanfairpwll, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

FPL/2021/336

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2021/349 - Cais llawn ar gyfer creu manège marchogaeth preifat ynghyd â newid defnydd tir amaethyddol i fod yn safle gwersylla trwy'r flwyddyn yng Nghaerau, Llanfairynghornwy, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol a fynegodd bryder y byddai’r cynllun yn gyfystyr â gor-ddatblygu'r safle.  Yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin, 2022 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle. Cynhaliwyd yr ymweliad safle rhithiol ar 29 Mehefin, 2022.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022, penderfynodd yr aelodau ohirio’r cais er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion ailymweld â’r cais a’i gymharu â chais rhif FPL/2019/223.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Marc Whyatt, a oedd yn siarad o blaid y cais, bod rhai o’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y gwrthwynebwyr yn ffeithiol anghywir, camarweiniol ac yn peri dryswch. Roedd yn dymuno cael cyfle i fynd i’r afael ag unrhyw ddryswch neu ansicrwydd a achoswyd yn sgil y sylwadau hyn a allai arwain at wneud y penderfyniad anghywir yn anfwriadol. Roedd yn gobeithio bod aelodau’r pwyllgor wedi cael digon o amser erbyn hyn i wneud penderfyniad proffesiynol a theg ac o safbwynt cynllunio. Cyflwynwyd y cais ym mis Hydref y llynedd, 9 mis yn ôl, a dywedodd ei fod wedi gweithio’n agos  gyda staff y cyngor i ddelio â’r meysydd pryder. Cyn cyflwyno’r cais, crëwyd 2 fan pasio ar y ffordd ac mae’r rhain wedi’u cymeradwyo, eu derbyn  a’u mabwysiadu gan y cyngor erbyn hyn - roedd y gwaith hwn yn rhan o gais blaenorol. Cynhaliwyd arolwg traffig yn ogystal, ar draul yr ymgeisydd - yn unol ag argymhelliad y cyngor - er mwyn bodloni unrhyw bryderon yn ymwneud â llif traffig ar y ffyrdd. Cododd y Cynghorydd Llinos Medi bryder ynglŷn â’r lefelau traffig yn sgil ceisiadau blaenorol sydd heb gael eu datblygu eto. Fel teulu lleol gyda phlant ifanc sydd yn mynychu ysgolion Cymraeg lleol, dywedodd yr ymgeisydd bod lefelau traffig hefyd yn ei boeni yntau.  Cadarnhaodd bod yr arolwg traffig boddhaol yn cynnwys y llif traffig ar gyfer yr holl geisiadau - nid dim ond y safle gwersylla.  Mewn cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor ar 6 Gorffennaf, dywedwyd bod y cais yn “gopi carbon” o gais a wrthodwyd yn ddiweddar a arweiniodd at y syniad y dylid gwrthod y cais hwn am yr un rheswm. Ni ellir cymharu’r cais cynllunio y cyfeiriwyd ato â’r cais hwn. Yn wahanol i gais rhif FPL/2019/223, mae’r datblygiad dan sylw wedi cael ei ystyried gan yr awdurdodau perthnasol a nodir mewn adroddiadau proffesiynol na fydd yn niweidiol i’r AHNE. Lluniwyd  yr adroddiad gan yr Uwch Swyddog Cynllunio a’r Uwch Swyddog Tirwedd a Choed. Rheswm arall dros wrthod cais rhif FPL/2019/223 oedd ei effaith negyddol ar yr eiddo preswyl gyferbyn a gerllaw’r datblygiad. Unwaith eto, ni ellir ei gymharu â’r cais dan sylw gan nad oes eiddo preswyl yn agos at y safle gwersylla.   Mae’r cais cynllunio a gyflwynwyd yn bodloni’r pryderon a godwyd gan y pwyllgor lleol, yn wahanol i gais rhif FPL/2019/223. Holwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 1 MB

10.1 – FPL/2022/116 – Gallt y Mwg (Wylfa) Ty Croes, Pencarnisiog

FPL/2022/116

 

10.2 – FPL/2020/149 – Stad y Felin, Llanfaelog

FPL/2020/149

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  FPL/2022/116 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â datblygiadau cysylltiedig (er mwyn diwygio dyluniad a ganiatawyd o dan apêl cyfeirnod APP/L6805/A/11/2158396 ) yng Ngallt y Mwg (Wylfa), Pencarnisiog, Tŷ Croes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r argymhelliad yw ei gymeradwyo er ei fod yn groes i bolisi PCYFF1 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod gan y safle ganiatâd sydd wedi ei ddiogelu ar gyfer annedd newydd i gymryd lle annedd sy’n bodoli’n barod, a

dderbyniodd ganiatâd cynllunio o dan gais rhif 28C108D ac mae

wedi cael ei ddiogelu trwy ddechrau gwaith perthnasol gan olygu fod y caniatâd yn ddilys am byth. Mae’r cais ar gyfer newid dyluniad yr annedd; mae’r caniatâd sydd wedi’i ddiogelu ar gyfer codi byngalo 1.5 llawr ac mae’r cynnig yn ceisio derbyn caniatâd ar gyfer eiddo 2 lawr gyda tho llai. Bydd arwynebedd llawr yn cynyddu o 120m2 i 165m2 a chynigir defnyddio gorffeniadau mwy modern. Ar ôl ystyried y cynllun yn erbyn y caniatâd a ddiogelwyd a pholisïau perthnasol yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol, bernir bod y cynnig yn dderbyniol gan ei fod yn gweddu â’r eiddo cyfagos a chymeriad yr ardal ac yn welliant ar y caniatâd sy’n bodoli’n barod. Argymhellwyd cymeradwyo’r cais.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo gan y Cynghorydd Ken Taylor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  FPL/2020/149 – Cais llawn ar gyfer codi 8 annedd fforddiadwy ynghyd â chreu mynedfa cerbydau newydd a datblygiadau cysylltiedig ar dir yn Stad y Felin, Llanfaelog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r argymhelliad yw ei gymeradwyo er ei fod yn groes i bolisi TAI 16 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Rhys Davies, Cadnant Planning, o blaid y cais a dywedodd bod llwyddiant y cynllun gwreiddiol yn Stad y Felin wedi annog Grŵp Cynefin i edrych ar ymestyn y stad i ddarparu ragor o gartrefi fforddiadwy i bobl leol sydd mewn angen. Grŵp Cynefin sydd berchen ar y tir a’r bwriad yw gosod y tai ar rent cymdeithasol, tebyg i’r tai eraill ar y safle. Mae adeiladu tai cymdeithasol yn galluogi i Grŵp Cynefin ymgeisio am grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn adeiladu a chadw rhenti’n fforddiadwy ar hyd oes y tai. Yn sgil hyn, mae’r cynllun yma wedi ei gynnwys yn rhaglen datblygu tai fforddiadwy Ynys Môn, sy’n cael ei weinyddu gan y Tîm Strategol Tai, gyda chyllid wedi’i glustnodi ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cynllun wedi derbyn adborth cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru o ran ei ddyluniad - sydd yn gorfod cwrdd â’r gofynion ansawdd datblygu ar gyfer cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol (2021). Fodd bynnag mae Bryn Du wedi’i ddynodi’n setliad clwstwr sydd yn groes i ddarpariaethau polisi Cynllunio TAI 16. Mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 – MAO/2022/13 – Bryn Meurig, Llangefni

MAO/2022/13

 

12.2 – MAO/2022/16 – Ysgol y Graig, Llangefni

MAO/2022/16

 

12.3 – FPL/2022/51 – Plas Rhianfa, Glyn Garth, Porthaethwy

FPL/2022/51

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  MAO/2022/13 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2019/7 (codi ysgol gynradd newydd a chreu mynedfa i gerbydau) er mwyn creu llwybr 2.5m o led i ddarparu mynediad gwell i'r ysgol newydd, dymchwel y wal bresennol, codi ffens/wal yn ei lle ynghyd â thorri coeden Onnen ar dir gyferbyn â Bryn Meurig, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor Sir.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais ar gyfer creu llwybr troed 2.5m o gyffordd y B5109 a B4422 ar Ffordd Cildwrn tuag at y fynedfa

amaethyddol a adleoliwyd. Bydd hyn yn cynnwys dymchwel y wal garreg bresennol ynghyd ag ail-godi’r wal â blociau/gro chwipio yn ôl 1m.  Mae caniatâd eisoes wedi’i roi ar gyfer llwybr troed 2m o led yn yr

ardal hon o dan ganiatâd a gymeradwywyd yn flaenorol. Mae’r cais hefyd ar gyfer creu llwybr 2.5m o led o’r fynedfa amaethyddol i’r ysgol newydd drwy dynnu’r wal garreg, gwrych a choed a gosod ffens rhwyll weld 1.2m o uchder a phlannu gwrych o blanhigion brodorol cymysg y tu ôl iddi, a chodi wal carreg galch newydd ynghyd â phlannu 2 goeden. Bydd y polyn lamp yn cael ei symud at y ffens newydd. Roedd y cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol yn nodi llwybr troed 2.5m o led yn yr ardal hon; fodd bynnag, roedd rhywfaint o anghysondeb yn y cynlluniau gwreiddiol ac nid yw’n bosibl creu’r llwybr troed 2.5m heb dynnu’r wal bresennol a thorri’r goeden Onnen, gwaith nad oedd yn rhan o’r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol. Mae adroddiad coedyddiaeth wedi cael ei gyflwyno ac mae’n nodi bod y goeden yn dioddef o Glefyd

Coed Ynn. Mae’r adroddiad yn argymell torri’r goeden o fewn 6 mis. Mae’r Swyddog Tirwedd wedi cadarnhau ei bod hi’n annhebygol y gellir cadw’r goeden am fwy na 10 mlynedd oherwydd bod y clefyd yn bresennol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig dros gymeradwyo gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  MAO/2022/16 – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2021/361 (codi uned cyfnod sylfaen newydd) er mwyn ail-eirio amodau (07) (asesiad risg bioddiogelwch), (17) (cynllun rheoli traffig adeiladu), (18) (Tirlunio), (20) (llwybrau troed ar gyfer cerddwyr a (21) (tirlunio) ar dir ger Ysgol y Graig, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor Sir.

 

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais ar gyfer diwygio amodau (07), (17), (18), (20), (21) o gynllun sydd wedi’i gymeradwyo’n flaenorol fel y gellir creu mynedfa dros dro cyn rhyddhau’r amodau er mwyn i archeolegwyr gael mynediad i’r safle.

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.