Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Medi, 2023 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Alwen Watkin a Robin Williams.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 228 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2023 fel cofnod cywir.

 

4.

Ymweliadau Safle

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw ymweliadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â chais 12.3.

 

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

7.

Ceisiadau'n Codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 2 MB

10.1 VAR/2023/37 – Yr Erw, Llansadwrn

VAR/2023/37

 

10.2 FPL/2023/23 – Bryn Tawel, Ty Croes

FPL/2023/23

 

10.3 VAR/2023/15 – Llain Capelulo, Pentre Berw

VAR/2023/15

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 VAR/2023/37 – Cais dan Adran 73A i ddiwygio amod (09) (Cynlluniau cymeradwy) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2019/32 (codi annedd) er mwyn caniatáu diwygiad i'r dyluniad yn Yr Erw, Llansadwrn.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn mynd yn erbyn polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod egwyddor y datblygiad hwn yn y lleoliad hwn eisoes wedi’i gymeradwyo gan ganiatâd cynllunio blaenorol a chyhoeddwyd tystysgrif cyfreithlondeb ar 15 Hydref, 2018. Oherwydd hyn, mae’r caniatâd cynllunio ar gyfer codi annedd wedi’i ddiogelu’n barhaol. Mae’r cais hwn yn ceisio caniatâd ar gyfer gwneud addasiadau i ddyluniad yr annedd. Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at yr addasiadau hynny, fel y nodir yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog a chadarnhaodd gan nad oedd problemau goredrych, ystyrir bod yr addasiadau’n dderbyniol ac yn gwella’r cynlluniau cyffredinol a gymeradwywyd yn flaenorol. Felly, argymhellir cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Neville Evans.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 FPL/2023/23 – Cais llawn ar gyfer codi garej ar wahân ynghyd â newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd dan gyfeirnod cais cynllunio 28C257B/DA yn Bryn Tawel, Ty Croes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn mynd yn erbyn polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr egwyddor ar gyfer datblygu’r safle eisoes wedi’i gymeradwyo dan ganiatâd cynllunio blaenorol, ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y safle gan gynnwys adeiladu mynedfa i gerbydau a chodi annedd hyd at lefel y to yn rhannol. Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau cynllunio sef effaith yr addasiadau arfaethedig ar yr annedd, a garej ar wahân newydd ar yr annedd a gymeradwywyd yn flaenorol, yn ogystal a’r effaith ar anheddau a’r ardal gyfagos. Mae’r addasiadau arfaethedig yn cynnwys codi uchder crib y to o 6.6m i 7.7m, disodli’r ddwy ffenestr dormer ar y drychiad blaen gyda goleuadau to a chael gwared ar dormer y to yn y cefn. Mae dyluniad ac ymddangosiad yr annedd yn debyg iawn i’r annedd a gymeradwywyd yn flaenorol, ac mae’n cyd-fynd ag eiddo cyfagos o ran graddfa a chymeriad, ac felly fe’u hystyrir yn dderbyniol. Cyfeiriodd y Rheolwr Rheoli Datblygu at ddimensiwn y garej ar wahân arfaethedig, a chadarnhawyd ei fod dderbyniol o ran ei leoliad, graddfa, dyluniad ac ymddangosiad gan na fyddai’n cael effaith negyddol ar y safle presennol nac ar eiddo cyfagos, ac mae’n cydymffurfio gyda’r polisïau cynllunio perthnasol. Felly, argymhellir cymeradwyo’r cais.

 

Bu i’r Cynghorydd Neville Evans, gan weithredu fel Aelod Lleol, gadarnhau nad oedd wedi derbyn unrhyw gynrychiolaethau ynghylch y cynnig, ac nad oedd y Cyngor Cymuned wedi codi unrhyw bryderon. Cynigiodd fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd dim yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 FPL/2022/186 – Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch

FPL/2022/186

 

12.2 FPL/2023/177 - Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

FPL/2023/177

 

12.3 FPL/2022/296 – The Lodge, Ffordd yr Ysgol, Llanddaniel

FPL/2022/296

 

12.4 FPL/2023/143 – Ysgol Gymuned Y Fali, Lon Spencer, Valley

FPL/2023/143

 

12.5 FPL/2023/155 – Llwyn Onn, Llanfairpwll

FPL/2023/155

 

12.6 VAR/2023/36 – Stad y Felin, Llanfaelog

VAR/2023/36

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 FPL/2022/186 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i faes carafan teithiol, newid defnydd yr adeilad allanol presennol i ddefnydd ategol i'r maes carafan ynghyd a gosod system trin carthffosiaeth yn Esgobaeth Bran, Llanbedrgoch.

Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aeloda Lleol oherwydd pryderon lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Non Dafydd, Aelod Lleol, i aelodau’r Pwyllgor fynychu ymweliad safle ffisegol oherwydd pryderon lleol ynghylch materion priffyrdd. Cefnogwyd y cais gan y Cynghorydd Paul Ellis, cyd Aelod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Neville Evans fod ymweliad safle’n cael ei gynnal yn unol â dymuniad yr Aelod Lleol, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle ffisegol yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.2 FPL/2023/177 – Cais llawn ar gyfer amnewid y llifoleuadau presennol ar y cae synthetig yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn ceisio caniatâd er mwyn disodli’r hen golofnau a’r hen system llifoleuo metel yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, a gosod lampau LED modern sy’n effeithlon o ran ynni sy’n bodloni safonau perfformiad chwaraeon cydnabyddedig. Bydd y cyfleuster sydd wedi’i llifoleuo’n cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer gweithgareddau pêl-droed yn y Ganolfan Hamdden. Mae’r cynlluniau arfaethedig yn dangos 8 o oleuadau newydd ar y safle yn yr un dimensiwn â’r colofnau presennol sydd o fewn y cae petryal. Ni fydd y system newydd yn ymgorffori colofnau sy’n fwy o ran maint neu nifer na’r rheiny sydd ynghlwm â’r drefn oleuo bresennol. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig, ac nid yw Adran Iechyd yr Amgylchedd wedi codi unrhyw bryderon yn dilyn ei asesiad o’r wybodaeth a gyflwynwyd mewn perthynas â lefelau goleuo sy’n cyd-fynd â’r cais. Yr argymhelliad yw bod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE a ddylai ddatgan diddordeb gan y bydd y cais ar gyfer goleuadau newydd yn cael eu defnyddio at ddibenion pêl-droed yn bennaf, ac o ystyried ei gyfraniad personol i weithgareddau pêl-droed. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Cyfreithiol mai diddordeb personol yw hwn, ac y gallai’r aelod gymryd rhan lawn yn y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes MBE.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 FPL/2022/296 – Cais llawn am godi paneli solar arae yn cynnwys dwy res o 20 panel solar yn The Lodge, Ffordd yr Ysgol, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch yr effaith ar fwynderau eiddo cyfagos.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Cyfeiriodd Mr David Tudor y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i’r cais, gan ofyn i’r Pwyllgor ystyried a yw’n briodol gosod fferm solar mewn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 445 KB

13.1 Land and Lakes, Parc Arfordirol Penrhos, Caergybi

 

13.2 Gorchymyn Rheoleiddio TraffigCemaes

 

13.3 Gorchymyn Rheoleiddio TraffigRhostrehwfa

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1   Land and Lakes, Parc Arfordir Penrhos, Caergybi

 

Cafodd y mater ei gyflwyno unwaith eto i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ôl cael ei ystyried yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2023 yng ngoleuni llythyr a dderbyniwyd gan Richard Buxton Solicitors ar gyfer preswylydd lleol sy’n honni bod y Pwyllgor wedi cael ei gamgyfeirio mewn perthynas â sawl mater.

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod llythyr gan Richard Buxton Solicitors wedi’i dderbyn yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer ceisiadau Land and Lakes ar 7 Mehefin 2023. Mae’r llythyr yn honni fod y Pwyllgor wedi cael ei gamgyfeirio mewn perthynas â sawl mater. Er bod Swyddogion yn hyderus bod y mater wedi’i adrodd yn briodol i’r Pwyllgor, a bod Aelodau’n ymwybodol o’r materion a gyflwynwyd iddynt i’w hystyried, manteisir ar y cyfle i gyfeirio at rai o’r materion hynny ac i gadarnhau’r penderfyniad a wnaed a sylfaen y penderfyniad hwnnw. Mae’n amlwg y bydd y gwrthwynebwyr yn herio’r penderfyniad, mae’r adroddiad yn gyfle I ddelio â rhai o’r materion a godir yn y llythyr. Gofynnir i aelodau adolygu’r adroddiad fel adlewyrchiad o’r penderfyniad maent wedi’i wneud.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll. Jones bod cyn weithiwr o Anglesey Aluminium wedi anfon llythyr ato, a’i fod yn dymuno ei ddarllen yn y Pwyllgor. Roedd wedi hysbysu’r Rheolwr Rheoli Datblygu o’r llythyr ac roedd yn disgwyl am ei ymateb.

Bu i’r Cadeirydd wrthod y cais i ddarllen y llythyr, gan nodi bod ceisiadau Land and Lakes wedi cael eu trafod yn helaeth yn ystod mwy nag un cyfarfod, a bod penderfyniad wedi’i wneud. Nid yw cynnwys y llythyr yn berthnasol i’r mater sy’n cael ei ystyried heddiw, sef bod aelodau’r Pwyllgor yn cadarnhau eu bod wedi deall yr hyn roeddynt yn pleidleisio yn ei gylch yn y cyfarfod ar 7 Mehefin 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad oedd yn credu ei bod hi’n gywir na theg nad oedd y Cynghorydd Robert. Llywelyn Jones yn cael darllen y llythyr yr oedd wedi cyfeirio ato. Roedd hefyd o’r farn fod y diffyg hyder a achosir drwy atal pobl penodol rhag siarad yn cyfrannu at ymestyn y mater, ac er ei fod o’r farn y dylid rhoi cyfle i ddarllen y llythyr, byddai’n dilyn safbwynt y Cadeirydd. Cyfeiriodd at y cais Land and Lakes, a beth oedd ynghlwm ag o o ran amser, trafodaethau a chyfreithlondebau a safbwyntiau gwahanol, a dywedodd ei fod yn credu fod y wybodaeth a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn wedi’i deall, er nad oedd pawb yn cytuno â hi, a dywedodd ei bod wedi’i chyflwyno’n deg. O ystyried y gwahaniaeth sylweddol ym marn y rheiny a oedd yn cefnogi ac yn gwrthwynebu cais Land and Lakes, roedd o’r farn mai’r llysoedd fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol. Fodd bynnag, hoffai weld y ddwy ochr yn cytuno ar gamau cadarnhaol wrth symud ymlaen, a gorau po gyntaf y gellir cyflwyno’r mater ar gyfer dyfarniad cyfreithiol annibynnol.

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y llythyr a anfonwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.