Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 3ydd Ebrill, 2024 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 151 KB

Cyflwyno, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 6 Mawrth, 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2024 yn gywir.

 

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw siaradwyr cyhoeddus yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 620 KB

 

 6.1 – FPL/2023/61 – Taldrwst, Lon Fain, Dwyran

FPL/2023/61

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 FPL/2023/61 – Cais llawn ar gyfer newydd defnydd tir amaethyddol i fod yn safle cabanau gwyliau er mwyn lleoli 13 o gabanau gwyliau, adeiladu ffordd newydd ar y safle, addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir yn Taldrwst, Lôn Fain, Dwyran

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn ei gyfarfod ar 1 Tachwedd, 2023 penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2023.  Yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr, 2023 penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail nad oedd yr wybodaeth a ddarparwyd ynglŷn â’r system ddraenio yn ddigonol i’w galluogi i wneud penderfyniad.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y datblygwr wedi cyflwyno cais SuDs i’r Awdurdod Lleol fel y corff cymeradwyo ceisiadau SuDS ac mae’r wybodaeth wrthi’n cael ei hasesu. Argymhellodd y Swyddog bod y cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er mwyn i’r cais gael ei asesu’n llawn, ac fel y gellir dod i benderfyniad ynglŷn â’r cais SuDS.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais y cael ei ohirio yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ohirio gan y Cynghorydd Alwen P Watkin.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a nodwyd. 

 

7.

Ceisiadau'n godi

 

 Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

 

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n gwyro pdf eicon PDF 1 MB

 

 10.1 – FPL/2023/359 – Pen Bryn, Rhosmeirch

FPL/2023/359

10.2 – VAR/2024/9 – Bryn Tawel, Ty Croes

VAR/2024/9

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 FPL/2023/359 – Cais llawn ar gyfer cynlluniau diwygiedig ar gyfer codi annedd a ganiatawyd gynt dan ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/47 ar dir ger Pen Bryn, Rhosmeirch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod hwn yn gais i ddiwygio’r cynlluniau ar gyfer yr annedd a gymeradwywyd yn flaenorol o dan gais cynllunio rhif FPL/2021/47.  Ym mis Hydref 2023 cyflwynwyd Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon dan gyfeirnod LUE/2023/23 a oedd yn nodi bod gwaith datblygu cyfreithlon wedi dechrau ar y safle, gan ddiogelu’r caniatâd cynllunio am byth.  Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys newid lleoliad yr annedd, ffiniau’r safle, dyluniad yr annedd a’r fynedfa i’r safle. Bydd yr annedd arfaethedig yn cael ei adleoli’n ganolog o fewn y plot a bydd y fynedfa yn cael ei hadleoli o’r gornel ogledd i’r gornel ddeheuol ar y safle. Mae rhai diwygiadau i ddyluniad yr annedd arfaethedig hefyd, a bydd yn newid o fyngalo dormer brics coch gyda modurdy dwbl ynghlwm i annedd brics deulawr gyda rendr wedi’i baentio a modurdy sengl ynghlwm. Mae’r diwygiadau arfaethedig yn cael eu hystyried yn dderbyniol o ran graddfa a lleoliad, ac fe ystyrir eu bod o ansawdd gwell ac yn welliant cyffredinol i’r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol, sy’n fwy addas gyda datblygiadau lleol cyffredinol. Ymgynghorwyd â’r Awdurdod Priffyrdd mewn perthynas â newid y fynedfa ac nid oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad. Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys gwelliannau bioamrywiaeth yn cynnwys gwaith plannu a thirlunio a gosod blychau ystlumod ac adar ar dalcen yr annedd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jackie Lewis.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 VAR/2024/9 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2023/23 (codi garej ar wahân ynghyd â newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd o dan gyfeirnod cais cynllunio 28C257B/DA) er mwyn diwygio lleoliad y modurdy ym Mryn Tawel, Croes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ond mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle eisoes wedi’i sefydlu o dan gais cynllunio cyfeirnod 28C257A a 28C257B/DA, lle rhoddwyd caniatâd ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd i gerbydau. Mae gwaith wedi dechrau ar y safle i adeiladu’r fynedfa i gerbydau, ac mae’r annedd wedi’i chodi’n rhannol hyn at lefel y to.  Y cais olaf a gymeradwywyd ar gyfer y safle oedd caniatâd cyfeirnod FPL/2023/23 ar gyfer gwneud addasiadau i’r annedd a chodi garej ar wahân newydd. Dyma gynnig i godi’r garej yn nes at y ffin ddwyreiniol a chyntedd wedi’i orchuddio sy’n cysylltu’r garej a’r annedd. Bydd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 3 MB

12.1 – VAR/2024/12 - Ysgol Niwbwrch, Stryd Pen Dref, Niwbwrch

VAR/2024/12

 

12.2 – FPL/2024/10 – Cae Pêl Droed, Llanerchymedd

FPL/2024/10

 

12.3 – VAR/2024/4 - Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi

VAR/2024/4

 

12.4 – HHP/2024/9 – 29 Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi

HHP/2024/9

 

12.5 – FPL/2023/275 - Stad Diwydianol Amlwch

FPL/2023/275

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  VAR/2024/12 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (04) (CEMP), (11) (CTMP), (17) (mesurau cynnal a chadw'r fynedfa a ffyrdd y stad) (20) (Asesiad o Risg Bioddiogelwch), (22) (Dyluniadau sylfaen) a (24) (tai fforddiadwy) o ganiatâd cynllunio FPL/2022/60 (codi 14 annedd ynghyd â chreu ffordd fynediad mewnol a gwaith cysylltiedig) fel y gellir cyflwyno’r wybodaeth y gofynnwyd amdano wedi i’r gwaith ddechrau ar hen safle Ysgol Niwbwrch, Ffordd Pen Dref, Niwbwrch. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym meddiant yr Awdurdod Lleol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod rhaid i’r datblygwr, fel rhan o gais cynllunio FPL/2022/60, gyflwyno’r manylion i’w cymeradwyo cyn dechrau datblygu’r safle.  Roedd y datblygwr wedi clirio’r safle cyn i’r amodau gael eu rhyddhau ac felly roedd rhaid cyflwyno cais dan Adran 73 er mwyn caniatáu cymeradwyo’r manylion ar ôl dechrau ar y gwaith. Mae’r amodau yn ymwneud ag amodau rhif (04), (11), (17), (20), (22) a (24). Ar ôl ymgynghori â’r ymgyngoreion perthnasol, ystyrir bod y manylion a gyflwynwyd yn dderbyniol. Bernir felly ei bod hi’n  dderbyniol rhyddhau’r amodau. Ers cyhoeddi’r adroddiad ysgrifenedig mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i amrywio’r amod yn ymwneud â’r CTMP (amod 11) ac mae’r Ymgynghorydd Ecolegol wedi cadarnhau nad yw’n gwrthwynebu amrywio’r amod yn ymwneud â’r CEMP (amod 4).

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 FPL/2024/10 - Cais llawn i osod dau gynhwysydd ar gyfer storio cyfarpar yng Nghae Pêl-droed, Llannerchymedd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir ym mherchnogaeth y Cyngor Sir.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud â gosod dau gynhwysydd ar y safle i storio offer y clwb.  Bydd y cynwysyddion yn cael eu lleoli yno dros dro am gyfnod o 5 mlynedd a bydd amod yn cael ei gosod i ganiatáu lleoli’r cynwysyddion ar y safle dros dro. Bernir bod datblygiad o’r maint hwn yn dderbyniol gan nad yw’n cael effaith weledol negyddol ar yr ardal gyfagos. Hefyd, bydd gwelliannau bioamrywiaeth yn helpu i wrachod a diogelu bioamrywiaeth.

 

Cynigodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag  argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd  Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog yn unol â’r amodau cynllunion yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 VAR//2024/4 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) (cynlluniau cymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/337 (Cais llawn ar gyfer adeiladu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF)) er mwyn adfer maes parcio'r staff yn Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar rinwedd bod y caniatâd gwreiddiol wedi’i roi gan y Pwyllgor.

 

Adroddodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hystyried yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.