Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig â cheisiadau 6.1 a 12.1 ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais ar y ceisiadau hyn.
Fe wnaeth y Cynghorydd Ken Taylor ddatgan ddiddordeb personol yn gysylltiedig â cheisiadau 12.2 a 12.3 ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais ar y ceisiadau hyn.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gyhaliwyd ar 4 Medi, 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Medi 2024 yn gywir.
|
|
Cyflwyno, cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 18 Medi 2024 yn gywir.
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd siaradwyr cyhoeddus yn gysylltiedig â chais 7.1 a 7.2.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 676 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â’r cais hwn ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais.
6.1 FPL/2024/76 – Cais llawn i godi 27 annedd fforddiadwy, adeiladu ffordd fynediad fewnol, gwyro hawl tramwy cyhoeddus, creu bwnd tirlunio, codi ffens acwstig a gwaith cysylltiedig ar dir i’r gogledd o Y Garnedd, Llanfairpwll
Dywedodd y Cadeirydd bod y Swyddog yn argymell cynnal ymweliad safle er mwyn i’r aelodau allu gweld y safle a’r hyn sydd o’i gwmpas.
Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod ymweliad safle’n cael ei gynnal yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i gynnal ymweliad safle gan y Cynghorydd Neville Evans.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
|
|
7.1 – FPL/2023/173 – Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy
7.2 – FPL/2022/289 - Ynys Y Big, Ffordd Biwmares, Glyn Garth, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2023/173 – Cais llawn gyfer newid defnydd yr hen dafarndy (Dosbarth Defnydd A3) i fod yn gyfleuster gofal preswyl (Dosbarth Defnydd C2) ynghyd a'i addasu ac ehangu yn Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 4 Medi 2024 penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2024.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Mr Owain Hughes, Russell Hughes Cyf., fel Asiant y cais. Dywedodd bod y cais yn ymwneud ag ailddatblygu hen dafarn. Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers 2009 ac mae wedi mynd a’i ben iddo a dod yn ddolur llygaid a niwsans yn lleol. Mae'r datblygiad ar gyfer cyfleuster gofal preswyl, nid HMO fel yr honnwyd yn lleol. Bydd yn darparu cartref i bobl hŷn bregus sydd angen ychydig o sicrwydd, cymorth neu ofal ychwanegol. Mae’r bwriad yn cydymffurfio’n llawn â Pholisi Cynllunio TAI 11 gan fod y safle y tu mewn i’r ffin ddatblygu. Mae'r safle o fewn pellter cerdded i ganol y dref a chyfleusterau, gan gynnwys cyfleusterau trafnidiaeth i leoliadau eraill. Ymgynghorwyd â'r adran gwasanaethau cymdeithasol ar sawl achlysur ac maent yn gefnogol ac yn gallu cadarnhau bod angen cyfleuster o'r fath. Mae’r Swyddog Cadwraeth yn gefnogol i'r bwriad i adfer yr adeilad i'w ffurf wreiddiol, yn cynnwys tynnu’r ffenestri bae a chreu adeilad llawer mwy deniadol sy'n adlewyrchu'r adeilad gwreiddiol. Ymgynghorwyd â'r awdurdod priffyrdd ac maent yn gefnogol i'r bwriad. Ystyrir bod y llefydd parcio yn ddigonol o ystyried defnydd blaenorol yr adeilad fel tafarn, heb unrhyw ddarpariaeth parcio, a lleoliad cynaliadwy'r datblygiad gyda digon o lefydd parcio yn y dref. Mae’r adran gynllunio wedi derbyn nifer o lythyrau yn cefnogi’r cais ac mae’n amlwg bod busnesau a phobl leol am weld yr adeilad yma’n cael ei ailddatblygu. Mae gan y datblygwr hanes profedig o weithio'n agos gyda'r awdurdod ar ddatblygiadau o safon uchel ym Mhorthaethwy. Heb os, bydd y cynnig yn cael gwared ar adeilad sy’n niwsans cyhoeddus a dolur llygaid ym Mhorthaethwy. Bydd yr Awdurdod, cynghorwyr lleol a’r Heddlu yn derbyn llai o gwynion o ganlyniad a bydd felly’n lleihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Mae’r Datblygiad yn cyd-fynd â’r polisïau cynllunio, gofynion priffyrdd, cymeriad yr ardal gadwraeth a gofynion ecolegwyr.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu canolfan gwasanaethau lleol Porthaethwy. Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers 15 mlynedd a bydd ei gyflwr yn parhau i ddirywio. Cyfleuster gofal preswyl gyda 10 ystafell wely (Dosbarth Defnydd C2) yw’r defnydd arfaethedig. Mae Polisi TAI 11 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) yn ymwneud â ‘Chartrefi Gofal Preswyl, Tai Gofal Ychwanegol neu Lety Arbenigol ar gyfer yr Henoed’ a dyma’r polisi mwyaf perthnasol o ran y cais hwn. Mae’r safle o fewn pellter cerdded rhesymol at wasanaethau a chyfleusterau yng nghanol y dref ac mae digon o wasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus ar gael. Mae’r cynnig felly’n cydymffurfio â maen prawf 1 a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dai Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gyghorwyr neu Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
12.1 – FPL/2024/105 - Tir i'r Gogledd-Ddwyrain o Gwel y Llan, Llandegfan
12.2 – FPL/2024/7 - 107-113, 116-122, 133-152 Stad Tan y Bryn, Y Fali
12.3 – FPL/2024/78 - Fflatiau Bron Heulog, Y Fali
12.4 – FPL/2024/29 – Tir yn Porth Amlwch
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2024/105 – Cais llawn i godi 30 o anheddau preswyl (100% o unedau tai fforddiadwy), newidiadau i'r fynedfa bresennol, creu mynedfa newydd a ffordd fynediad fewnol ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir i’r Gogledd-Ddwyrain o Gwêl y Llan, Llandegfan
Fe wnaeth y Cynghorydd Glyn Haynes ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â’r cais hwn ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Lleol am ymweliad safle oherwydd pryderon y Cyngor Cymuned a thrigolion lleol ynglŷn â’r fynedfa a phroblemau traffig yn enwedig yn ystod y gwaith adeiladu. Mae’r datblygwr wedi cadarnhau yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd yn lleol y bydd y datblygiad yn cymryd hyd at 2 flynedd i’w gwblhau ac y bydd y gwaith yn cael effaith sylweddol ar yr ystâd dai gerllaw.
Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod ymweliad safle’n cael ei gynnal yn unol â chais yr Aelod Lleol. Eiliwyd y cynnig i gynnal ymweliad safle gan y Cynghorydd Neville Evans.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol.
12.2 FPL/2024/7 - Cais llawn ar gyfer gwaith adnewyddu ar y fflatiau presennol, gosod paneli solar ar y to yn ogystal â thirlunio caled a gwaith cysylltiedig yn 107-113, 116-122, 133-152 Ystâd Tan y Bryn, Y Fali
Fe wnaeth y Cynghorydd Ken Taylor ddatgan buddiant personol yn gysylltiedig â’r cais hwn ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol cadarnhaodd nad oedd hynny’n ei atal rhag cymryd rhan yn y drafodaeth a’r bleidlais
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn ymwneud ag eiddo Cyngor Sir Ynys Môn.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud â saith bloc o fflatiau ar ystâd Tan y Bryn, sydd oddi mewn i ffin ddatblygu’r Fali. Dyma i gais i adnewyddu’r fflatiau a gosod paneli solar ar y toeau ynghyd â gwaith tirweddu caled a gwaith cysylltiedig. Mae’r gwaith allanol yn cynnwys inswleiddio’r waliau a gosod toeau llechi a drysau a ffenestri newydd. Bydd y gwaith yn gwella a moderneiddio edrychiad y fflatiau, a bydd yn cael ei gwblhau i safon uchel gan ddefnyddio deunyddiau a fydd yn sicrhau bod y fflatiau’n gweddu â’r hyn sydd o’u cwmpas. Bydd tri deg dau o baneli solar yn cael eu gosod ar do pob bloc o fflatiau, naill ar y drychiad blaen neu’r cefn, gan ddibynnu ar ba ochr sy’n cael mwy o haul. Bydd hyn yn gwella cynaliadwyedd yr eiddo ac yn darparu ffynhonnell ynni adnewyddadwy newydd. Bydd y gwaith tirweddu yn cynnwys cael gwared ar y ffensys rhwyll, paneli pren a rheiliau dur. Bydd ffensys pren 1.8m o uchder yn cael eu codi, ynghyd â llwybrau concrid a storfa finiau newydd. Bydd hyn yn gwella edrychiad y safle a’r ardal. Mae’r safle mewn ardal adeiledig, ac mae nifer o dai gerllaw’r blociau fflatiau. Bydd y gwaith yn gwella drychiad ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|