Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf, 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf, 2025 yn gywir.
|
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.3 a 12.1.
|
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
7.1 FPL/2025/97 - Ponta Delgada, Stad Ravens Point, Bae Trearddur
7.2 - FPL/2023/181 – Shire Hall, Lôn Glanhwfa, Llangefni
7.3 - OP/2025/3 – Ty’n Llain, Malltraeth
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2025/97 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd yn ei lle yn Ponta Delgada, Ystâd Ravens Point, Bae Trearddur.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Gorffennaf, 2025 penderfynodd y pwyllgor ymweld â’r safle. Cynhaliwyd yr ymweliad ar 30 Gorffennaf, 2025.
Siaradwyr Cyhoeddus
Wrth wrthwynebu'r cynnig, dywedodd Mr Hayward Miltonfod yr eiddo, Ponta Delgada, ar gornel allanol Ravens Point, wrth edrych o'r môr ac mewn lleoliad amlwg o ben gogleddol prif fae Bae Trearddur a'r holl ffordd trwy 240 gradd wrth ddod o gyfeiriad Rhoscolyn. Yn ystod yr ymweliad safle gwelwyd bod nifer o dai deulawr gerllaw. Fodd bynnag, datblygwyd y llain yma fel rhan o gynllun ehangach Ravenspoint, a ddyluniwyd gan y Pensaer llwyddiannus o Gymru a osododd amod bod yr holl anheddau’n rhai unllawr. Pwrpas y cyfyngiad a'r warchodaeth oedd sicrhau bod yr ystâd er budd pawb, i gadw siâp ac edrychiad naturiol yr arfordir, er budd y gymuned ehangach ac atal cynlluniau datblygu rhy fawr. Nid oes unrhyw beth wedi newid i gyfiawnhau y dylid diystyru'r gofyniad cynllunio hwn. Dywedodd fod rhai o'r tai wedi gosod ffenestri dormer yn eu to ac mai’r cais hwn fyddai'r cyntaf i fod yn ddatblygiad un deulawr. Mae drychiad cornel Ponta Delgada yn gwneud y datblygiad yn hynod sensitif. Mae gan y cais hwn gryn botensial i ail-ddiffinio ffiniau'r hyn sy'n dderbyniol a chaniatáu datblygiadau nad oes modd eu rheoli ac amharu ar fudd ehangach yr ystâd a cholli siâp y pentir. Efallai y bydd yr ymgeisydd yn cyflwyno'r eiddo presennol fel deulawr ond prin fod ffitiadau ystafell ymolchi a lle storio yn y llecyn yn y to, sydd ond yn bosibl mynd iddo trwy risiau allanol, yn ei wneud yn annedd deulawr. Mae'r ymgeisydd yn ei gymharu â'r eiddo deulawr 'The Lookout' sydd wedi'i leoli y tu ôl i safle’r cais, ond nid oedd y tŷ hwn wedi’i gynnwys yn y cyfyngiad cynllunio. Nododd nad oedd yr ymgeisydd wedi ymgynghori â phreswylwyr yr ystâd ynghylch y cynnig hwn. Mae'r cynnig yn groes i ofyniad Canllaw Dylunio Canllawiau Cynllunio yr Awdurdod Lleol. Nododd fod gwrthwynebiadau ysgrifenedig wedi’u cyflwyno gan nifer o breswylwyr ynghylch graddfa, màs, arwynebedd llawr ac effaith ormodol y datblygiad arfaethedig.
Wrth gefnogi'r cais, dywedodd Ms Sioned Rowlands, Asiant yr Ymgeisydd, fod safle'r cais wedi'i leoli o fewn ffin ddatblygu Bae Trearddur. Mae polisi cynllunio 7 o TAI 13 yn nodi nad oes rhaid i anheddau newydd fod o'r un raddfa â'r eiddo presennol. Er y bydd y datblygiad arfaethedig yn cynyddu'r arwynebedd, mae'r safle yn llain ddwbl, ac mae lle ar gyfer annedd fwy ar y safle. Nododd fod y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan yr eiddo cyfagos yn nodi mai dim ond annedd unllawr y dylid ei chodi ar yr ystâd hon ond mae anheddau deulawr gerllaw. Mae'r Swyddogion Cynllunio wedi cadarnhau, yn yr adroddiad ysgrifenedig, gan mai cais cynllunio newydd yw hwn, nid oes ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau'n gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
12.1 – VAR/2025/16 – Marian, Talwrn
12.2 – OP/2025/1 – Ffordd Llanfawr, Caergybi
12.3 – FPL/2025/66 – Mandarin Royale, Ffordd Victoria, Caergybi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 VAR/2025/16 – Gwneir y cais o dan Adran 73A ar gyfer dileu amod (01) (caniatâd dros dro) ac amrywio amod (03) (Oriau Defnydd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod VAR/2022/37) (codi caban symudol ar gyfer busnes arlwyo) er mwyn diwygio’r oriau defnydd ym Marian, Talwrn
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelodau lleol.
Siaradwr Cyhoeddus
Wrth gefnogi ei gais, dywedodd Dr. Ieuan Jones, fod y caban symudol yn Uned Containex sydd wedi'i gosod ar sylfaen goncrit ar y lôn sy'n arwain at ei eiddo Marian, Talwrn. Adeiladwyd y sylfaen goncrit gan y perchennog blaenorol ar gyfer busnes magu ieir ac roedd dŵr a thrydan gerllaw ac fe'i hailgysylltwyd heb drafferth. Cais yw hwn i addasu’r caniatâd cynllunio yn strwythur parhaol ar gyfer uned storio a chegin paratoi bwyd. Dywedodd fod y caban ar gyfer ei ferch sydd wedi sefydlu busnes llwyddiannus fel cogydd preifat. Cyfeiriodd at broblemau iechyd ei ferch a’i bod yn dymuno parhau â'i busnes.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at lythyr yn gwrthwynebu'r cais, gan yr eiddo cyfagos, a e-bostiwyd at Aelodau'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cynghorwyr Non Dafydd a Dylan Rees wedi datgan y byddent yn tynnu'n ôl eu cais y dylid cyfeirio'r cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion pe bai'r argymhelliad yn cael ei gymeradwyo. Ymddiheurodd i'r Aelodau Lleol a'r ymgeisydd gan fod camgymeriad gweinyddol wedi digwydd, a chyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor i'w ystyried. Dywedodd fod y cais wedi'i gymeradwyo i ddechrau ar gyfer codi caban symudol ar gyfer busnes arlwyo ar 16 Rhagfyr, 2020 am gyfnod dros dro o 5 mlynedd. Diwygiwyd amod (03) y caniatâd sy'n ymwneud â'r oriau y caniateir defnyddio'r caban symudol ym mis Gorffennaf 2022 o dan gais Adran 73A. Cais yw hwn i ddileu'r amod cyfnod dros dro (01) i ganiatáu defnydd parhaol o'r caban symudol ac amrywio amod (03) i ddiwygio'r oriau defnydd a ganiateir ymhellach. Gosodwyd Amod (01) oherwydd pryderon y gallai’r cynnig achosi niwsans a thrwy hynny fod yn niweidiol i amwynder eiddo cyfagos er mwyn galluogi'r Awdurdod Cynllunio Lleol i ailystyried y sefyllfa ar ôl 5 mlynedd. Bydd y cyfnod dros dro yn dod i ben ar 16 Rhagfyr, 2025. Er bod sylwadau wedi'u derbyn yn gwrthwynebu'r cais, nid oes unrhyw bryderon wedi'u codi mewn perthynas â'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r busnes. Mae maen prawf 4 polisi cynllunio PS 13 yn cefnogi ffyniant economaidd a chynaliadwyedd cymunedau gwledig drwy hwyluso twf mentrau gwledig ar raddfa briodol, ehangu busnesau presennol ac arallgyfeirio drwy gefnogi ymdrechion i ailddefnyddio adeiladau presennol, datblygu unedau 'lle gwneir gwaith', gweithio gartref, a thrwy hybu’r defnydd o safleoedd ac adeiladau mewn lleoliadau hygyrch priodol sy'n gyson â Strategaeth Ofodol y Cynllun ac yn unol â Pholisïau Strategol PS5 a PS6. Ystyrir bod y cynnig yn cyd-fynd â nodau ac amcanion y polisïau gan ei fod yn sicrhau cynaliadwyedd y gymuned wledig. Ystyrir bod y cynnig o faint priodol o ystyried ei leoliad. Ni fu unrhyw newid mewn polisi ers i'r caniatâd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
|
Materion Eraill Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|