Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 5ed Tachwedd, 2025 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 366 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2025 yn gywir.

 

 

4.

Ymweliad Safleoedd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwr Cyhoeddus yn gysylltiedig â chais 12.1.

 

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

7.

Ceisiadau'n codi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

10.

Ceisiadau'n gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

11.

Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 4 MB

12.1 – FPL/2025/108 – Canolfan Penrallt, Plas Arthur, Llangefni

FPL/2025/108

 

12.2 – LBC/2025/24 – Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

LBC/2025/24

 

12.3 – CAC/2025/3 – 97 Stryd y Farchnad, Caergybi

CAC/2025/3

 

12.4 – ADV/2025/7 – 91-97 Stryd y Farchnad, Caergybi

ADV/2025/7

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2025/108 – Cais llawn ar gyfer ailddatblygu Canolfan Penrallt yn westy bwtîc 13 ystafell wely a lleoliad priodasau ynghyd â gwaith addasu ac ehangu yng Nghanolfan Penrallt, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd pryderon lleol.    

 

Siarad Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Owen Evans, a oedd yn cefnogi’r cais, bod y cais ar gyfer creu  gwesty bwtîc a lleoliad priodasau yn yr hen ysgol ym Mhenrallt, Llangefni.   Mae’r cais yn sicrhau cydbwysedd rhwng treftadaeth, cadwraeth ac adfywio’r economi.  Y nod yw dod ag un o’r adeiladau mwyaf adnabyddus yn Llangefni yn ôl i ddefnydd a dathlu ei hanes a’i gymeriad.  Mae safle Penrallt wedi bod yn wag ers cau campws Coleg Menai yn 2019.   Mae’r safle mewn lle amlwg oddi mewn i Ardal Gadwraeth Llangefni ac mae Cofeb Restredig Gradd II ar y safle a fydd yn cael ei chadw fel rhan o’r prosiect.   Bydd y gwaith cadwraeth yn cael ei gynnal gyda’r parch mwyaf, gan sicrhau bod arwyddocâd hanesyddol a chymdeithasol y gofeb yn cael ei gydnabod a’i ddeall o hyd.  Bydd y datblygiad yn cynnwys 13 ystafell wely en-suite, neuadd briodasau ac achlysuron i hyd at 200 o bobl, gwelliannau sensitif i’r dirwedd a’r maes parcio, a ffocws cryf ar gynaliadwyedd, gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, storfa beiciau, a systemau ynni effeithlon.  Nododd y bydd gan y gwesty le i 26 o westeion dros nos ac y bydd priodasau ac achlysuron yn denu ymwelwyr ychwanegol i’r dref.  Bydd hyn yn rhoi hwb i fusnesau lleol megis gwestai, bwytai a siopau.   Bydd cydweithio’n digwydd gyda Chanolfan Hamdden Plas Arthur i annog gwesteion i ddefnyddio cyfleusterau lleol.  Aeth Mr Evans ymlaen i ddweud y bydd y datblygiad yn creu 14 swydd lawn amser a 6 swydd ran-amser o leiaf, ynghyd â chyfleoedd pellach i gyflenwyr lleol, cogyddion, siopau blodau a ffotograffwyr.   Bydd y gwaith adeiladu ac addurno yn rhoi blaenoriaeth i gontractwyr lleol, gan sicrhau bod y buddsoddiad yn cefnogi’r economi leol.  Mae’r cynllun wedi’i ddylunio’n ofalus i barchu a gwella cyd-destun hanesyddol y safle.  Bydd strwythur carreg gwreiddiol yr adeilad - gyda’i ffenestri nodedig a’i dalcen arddull Iseldiraidd - yn cael ei gadw a’i adnewyddu.   Bydd yr estyniadau arfaethedig yn gymedrol ac yn gydnaws, gan sicrhau bod cymeriad yr adeilad yn parhau i gyfrannu’n gadarnhaol i’r Ardal Gadwraeth.  Mae’r cynllun tirwedd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y coed aeddfed o amgylch y safle a’r ardal o amgylch y gofeb.   Bydd y gwelliannau yn adfer y berthynas hanesyddol rhwng yr adeilad a’r gofeb yn unol ag arferion gorau ym maes cadwraeth.  Aeth ymlaen i ddweud bod y prosiect yn cynnig dyfodol cynaliadwy i adeilad sy’n bwysig i’r gymuned leol, gan ddiogelu hanes Penrallt, creu swyddi yn lleol a helpu’r economi leol.  

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm bod y cais ar gyfer ailddatblygu hen adeilad Ysgol y Sir ym Mhenrallt, Llangefni a gafodd ei ddefnyddio yn ddiweddarach fel campws ategol ar gyfer Coleg Menai cyn dod yn wag.   Mae'r adeilad wedi'i leoli o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 1013 KB

13.1 - DEM/2025/2 – Ger y Graig, Llangefni

DEM/2025/2

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 13.1  DEM/2025/2 – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd blaenorol ar gyfer dymchwel modurdai yn Ger y Graig, Llangefni

 

Nodwyd bod y cais wedi cael ei ganiatáu o dan Ran 31 o  Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredin a Ganiateir) 1995.