Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Jackie Lewis ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig â chais 12.1 gan ei bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Nododd y Cynghorydd Jackie Lewis ei bod wedi derbyn cyngor cyfreithiol a bod modd iddi gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio ar y cais.
Fe wnaeth y Cynghorydd Ken Taylor ddatgan diddordeb personol yn gysylltiedig â chais 12.1 gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Nododd y Cynghorydd Ken Taylor ei fod wedi cael cyngor cyfreithiol a bod modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio ar y cais.
Bu’r Cynghorydd Douglas M Fowlie, Aelod Lleol (er nad yn Aelod o’r Pwyllgor) ddatgan diddordeb personol yng nghais 10.2. Dywedodd fod gan y cais yr un cod post ag eiddo un o’i berthnasau. Ni gymerodd y Cynghorydd Fowlie unrhyw ran yn y drafodaeth fel Aelod Lleol.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr, 2025 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
|
Ymweliad Safleoedd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Siaradwr Cyhoeddus yn gysylltiedig â chais 12.4.
|
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau'n Codi Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
10.1 – VAR/2025/6 – Bryn Brochan, Talwrn
10.2 – VAR/2025/53 – Dyfria, Ty Croes
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 VAR/2025/6 – Cais o dan Adran 73A i amrywio amod (13) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 23C325 (newid defnydd yr adeilad allanol i annedd, addasu ac ehangu ynghyd a chodi modurdy a storfa goed) er mwyn cynyddu maint a diwygio dyluniad yr estyniad i'r cefn yn Bryn Brochan, Talwrn.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo er bod y cynnig yn groes i Bolisi TAI 7 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Adroddodd yr Arweinydd Tîm bod y caniatâd cynllunio blaenorol, 23C325, ar gyfer troi adeilad allanol yn annedd, ynghyd ag addasiadau ac estyniadau a chodi garej a storfa goed ym Mryn Brochan, Talwrn ei gymeradwyo ar 9 Medi, 2015. Cymeradwywyd y cais cynllunio o dan y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol, a oedd yn caniatáu troi adeiladau allanol yn anheddau preswyl. Mae’r caniatâd cynllunio blaenorol wedi cael ei ddiogelu drwy Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon sy’n cadarnhau bod y gwaith ar y safle wedi cychwyn; felly, mae opsiwn wrth gefn ar gyfer y safle ac mae hyn yn ystyriaeth berthnasol. Mae’r cynnig yn gwyro oddi wrth Bolisi TAI7 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd am ei fod yn darparu uned breswyl marchnad agored. Fodd bynnag, mae opsiwn wrth gefn gan fod Tystysgrif Defnydd Cyfreithiol ar gyfer uned breswyl marchnad agored. Mae hyn yn ystyriaeth berthnasol yn nhermau cynllunio ac mae’n eithriadol o bwysig. Dyma gais i amrywio’r cais a gafodd ei gymeradwyo’n flaenorol er mwyn cynyddu maint a newid dyluniad yr estyniad yn y cefn. Roedd yr estyniad a gafodd ei gymeradwyo’n wreiddiol yn mesur 4.4m x 3.8m x 3.9m o uchder. Bydd yr estyniad arfaethedig yn mesur 8.2m x 6.7m gydag uchder o rhwng 3 - 3.7m oherwydd lefel y tir ar y safle. Bydd yr estyniad newydd yn cynnwys un ystafell wely ychwanegol, cegin newydd ac ardal fwyta ac eistedd. Bydd yr estyniad yn cynyddu maint yr adeilad allanol gwreiddiol tua 61%. Derbynnir fod hyn yn ychwanegiad sylweddol mwy na’r hyn a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Ailadeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad; fodd bynnag, gan ei fod yn Adeilad Rhestredig Gradd II, mae’r pwysigrwydd i warchod yr adeilad rhestredig adfeiliedig yn drech na’r canllawiau. Mae dyluniad yr estyniad yn cyd-fynd â chymeriad hanesyddol yr adeilad rhestredig ac yn ei barchu. Mae’r dyluniad a’r deunyddiau o ansawdd uchel a chredir bod diffiniad clir rhwng yr adeilad allanol gwreiddiol a’r estyniad newydd. Mae’r cynnig yn cydymffurfio â’r safonau parcio ac yn darparu gwelliannau ecolegol digonol. Mae’r Swyddog yn argymell caniatáu’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd John Ifan Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
10.2 VAR/2025/53 – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (05) o ganiatâd cynllunio rhif 28C397A (Newid defnydd adeilad allanol i annedd) ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
Cynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
12.1 – FPL/2025/304 – Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern
12.2 – FPL/2025/208 – 97 Stryd y Farchnad, Caergybi
12.3 – ADV/2025/14 – Oriel Ynys Môn, Llangefni
12.4 – FPL/2025/283 – Porthladd, Caergybi
12.5 – FPL/2025/275 – Aberhoccwn, Hermon
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 FPL/2025/304 – Cais llawn ar gyfer codi ffens 2.6m o uchder a newid y gatiau presennol yn Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.
Adroddodd yr Arweinydd Tîm mai cais yw hwn i godi ffens 2.6m o uchder a chynyddu maint y giatiau yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Bydd y ffens yn amgylchynu cwrtil gogledd-ddwyreiniol a deheuol yr ysgol, a bydd giatiau newydd 2.6m o uchder yn cael eu gosod yn lle’r giatiau presennol, 2m o uchder, yn ne orllewin y safle. Bydd y ffens yn cynnwys paneli metel wedi eu gorchuddio â haen o bowdr a’u paentio’n wyrdd. Bydd y ffens yn creu ffin benodol a diogel o amgylch yr ysgol er mwyn diogelu disgyblion a staff ac atal mynediad heb awdurdod a thresmasu. Bydd y ffens yn mesur 2.6m o uchder a chredir bod hynny’n ddigonol ac yn dderbyniol er mwyn diogelu’r safle’n well. Ni fydd y datblygiad yn edrych allan o le ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw eiddo cyfagos. Bydd y ffens tua 45m oddi wrth yr eiddo preswyl agosaf. Bydd y cais yn gwella bioamrywiaeth drwy ddarparu blychau adar ar y coed presennol. Ni fydd unrhyw goed yn cael eu torri ac os oes coed â gwreiddiau sy’n mesur mwy na 25mm mewn diamedr ger y ffens arfaethedig, bydd y gwaith tyllu’n cael ei gwblhau â llaw yn unol ag argymhellion Swyddog Tirwedd y Cyngor. Ni fydd y cynnig yn cael effaith ar ddŵr wyneb a bydd bwlch ar waelod y ffens er mwyn caniatáu i ddŵr wyneb lifo fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’r cais yn cydymffurfio â’r polisïau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais gael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Eiliwyd y cynnig i gymeradwyo’r cais gan y Cynghorydd Jeff Evans.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
12.2 FPL/2025/208 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chreu ardal amwynder cyhoeddus a gwaith cysylltiedig yn 97 Stryd y Farchnad, Caergybi.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd.
Adroddodd yr Arweinydd Tîm bod hwn yn gais llawn i greu mannau eistedd ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr â’r ardal; bydd y datblygiad yn cynnwys sawl man eistedd, cerfluniau, gwaith tirweddu a nodwedd dŵr. Mae’r eiddo wedi’i leoli rhwng Stryd y Farchnad a Heol Fictoria, ac mae oddi mewn i Ardal Gadwraeth Caergybi. Nododd bod cais Caniatâd Ardal Gadwraeth wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fis Tachwedd diwethaf. Mae’r safle wedi’i leoli i’r gorllewin a’r de o Stryd y Farchnad ac i’r dwyrain o Heol Fictoria ac i’r gogledd o’r safle mae 89 Stryd y Farchnad. Mae adeilad a Senotaff rhestredig Gradd II i’r de orllewin ac i’r de o’r safle. Yn unol â’r diffiniad ym Mholisi Cynllunio ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|