Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 3ydd Mehefin, 2015 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim ymddiheuriadau.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb a ganlyn

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod ganddi ddiddordeb personol oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 7.2 a diddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 7.4 ac arhosodd yn y cyfarfod am y drafodaeth ar y cais hwnnw.

 

Datganodd y Cynghorydd Victor Hughes ddiddordeb personol oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 7.2

 

Datganodd y Cynghorydd John Griffith diddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 13.1 a chymerodd ran yn y drafodaeth ar y cais.

 

Er nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor hwn, datganodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddiddordeb personol yng nghyswllt cais 13.1.

3.

Cofnodion Cyfarfod 13 Mai, 2015 pdf eicon PDF 373 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:

 

·         13 Mai, 2015

·         14 Mai, 2015 (ethol Cadeirydd / Is-Gadeirydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:

 

           13 Mai 2015

           14 Mai 2015 (ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd)

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 160 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Mai 2015.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod siaradwyr cyhoeddus yn bresennol yng nghyswllt ceisiadau 7.2 a 7.3.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw gais yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 859 KB

7.1 14LPA1010/CC – Cefn Trefor, Trefor

 

7.2 16C197A – Dridwen, Bryngwran

 

7.3 19C690C – 14 Cae Braenar, Caergybi

 

7.4 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

 

7.5 34LPA1009/CC – Saith Aelwyd, Rhosmeirch

 

7.6 36C338 – Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

(Adroddiad i ddilyn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  14LPA1010/CC – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir yn Cefn Trefor, Trefor.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Awdurdod Lleol sy’n ei gyflwyno a'i fod ar dir sydd ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Adroddodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu fod y Pwyllgor wedi gohirio’r cais yn ei gyfarfod ar 13 Mai er mwyn disgwyl am wybodaeth bellach gan yr ymgeisydd ynglŷn â’r llain gwelededd o’r fynedfa arfaethedig.  Mae’r wybodaeth honno bellach wedi cael ei darparu ac mae’r Adran Briffyrdd wedi cadarnhau ei bod yn dderbyniol.  Mae’r cais yn gais amlinellol am annedd mewn ardal Polisi 50; mae nodyn gweithredu polisi ar ddehongliad newydd o Bolisi 50 wedi cael ei gyflwyno ond yn dilyn trafodaeth gyda’r Gwasanaeth Cynllunio ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, ni roddir unrhyw bwysau i’r nodyn gweithredu ar hyn o bryd, felly caiff y cais ei ystyried dan Bolisi 50 yn ei ffurf bresennol.  Ychwanegodd y Swyddog, wrth dderbyn y llain gwelededd mae Tystysgrif B wedi cael ei chwblhau ac yn dilyn hynny cyflwynwyd hysbysiad i’r tirfeddiannwr a fyddai’n weithredol tan 18 Mehefin 2014.  Felly pe bai’r cais yn cael ei ganiatáu, ni fyddai’r caniatâd yn cael ei ryddhau hyd nes bod y cyfnod hysbysu wedi dod i ben a chaiff unrhyw faterion newydd a all godi o ganlyniad eu hadrodd i’r Pwyllgor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  16C197A – Cais llawn i ddymchwel y sied gyfredol ynghyd â chodi annedd newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Dridwen, Bryngwran

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Gynghorydd sy’n gwasanaethu ar y Cyngor ar hyn o bryd fel y diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor.  Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan y paragraff hwnnw.

 

Oherwydd iddynt ddatgan diddordeb oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt y cais hwn, gadawodd y Cynghorwyr Victor Hughes a Nicola Roberts y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais.

 

Cafodd Mrs Beryl Dickinson, gwrthwynebydd i’r cais, ei gwahodd gan y Cadeirydd i annerch y Pwyllgor fel siaradwr cyhoeddus.  Dywedodd Mrs Dickinson ei bod yn siarad ar ran Pwyllgor Lôn Ffynnon a pherchennog Dridwen a’i bod yn bryderus am y cynnig oherwydd y rhesymau a ganlyn:-

 

           Y safle’n cael ei orddatblygu gan adeilad oedd allan o gymeriad o ran ei faint a’i arddull gan ei fod yn dŷ tref modern.

           Effeithio’n andwyol iawn ar drigolion eiddo cyfagos oherwydd uchder a lleoliad yr annedd newydd arfaethedig a fyddai’n agos iawn at yr eiddo hynny gan arwain at broblemau yn ymwneud â phreifatrwydd a cholli golau.

           Materion heb eu datrys ynghylch wal gydrannol a pherchnogaeth tir.

           Materion mynediad ynglŷn â’r ffordd breifat sef Lôn Ffynnon.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw rai gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw rai gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw rai gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 289 KB

11.1 22C224 – Tan y Ffordd Isaf, Llandddona

 

11.2 45C83C/DEL – Trewen, Penlon, Niwbwrch

 

(Adroddiad i ddilyn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1    22C224 – Cais amlinellol i godi annedd ynghyd â manylion llawn am y fynedfa ar dir ger Tan y Ffordd Isaf, Llanddona

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff yn Adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor.  Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Adroddodd Arweinydd y Tîm Datblygu Cynllunio y gwnaed yr argymhelliad yn adroddiad ysgrifenedig y swyddog i wrthod y cais ar sail y nodyn gweithredu dan Bolisi 50, a chan nad oes unrhyw bwysau yn cael ei roi i’r nodyn gweithredu ar hyn o bryd, yr argymhelliad nawr yw gohirio ystyried y cais er mwyn ei ailystyried yng ngoleuni Polisi 50.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.

 

11.2    4583C/DEL – Cais dan Adran 73 i wneud i ffwrdd ag amod (05) (bydd y gweithdy’n cael ei defnyddio er budd Mr T W Owen a phan na fydd ef ei angen mwyach, bydd yn cael ei ddefnyddio i bwrpas amaethyddiaeth) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 45C83A (codi gweithdy) yn Nhrewen, Penlon, Niwbwrch

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol.  Mae'r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais.

 

Adroddodd Arweinydd y Tîm Datblygu Cynllunio fod y caniatâd gwreiddiol yn dyddio'n ôl i 1989 a’i fod yn dilyn cais tebyg am weithdy a wrthodwyd oherwydd ei effaith bosib ar fwynderau.  Wrth roi’r caniatâd cynllunio i’r cais yn 1989, gosodwyd amod cynllunio arno yn cyfyngu defnydd y gweithdy i Mr T W Owen, a bu raid i’r ymgeisydd hefyd lofnodi cytundeb adran 52 oedd yn golygu pe na fyddai ef neu ei fab angen y sied bellach (roedd yr ail amod ynghylch ei fab yn unol ag amrywiad i eiriad yr amod cynllunio), byddai'n dychwelyd i ddefnydd amaethyddol yn gysylltiedig â’r tyddyn 6.5 acer.  Derbyniwyd dau lythyr yn gwrthwynebu dileu’r amod personol ac roedd y rhain yn seiliedig ar bryderon ynglŷn â’r defnydd o’r safle yn dwysáu o bosib.  Dywedodd y Swyddog fod yna eisoes amod yn cyfyngu sŵn ar y caniatâd ac y byddai’r amod hwn yn parhau mewn grym.  Yr argymhelliad oedd caniatáu'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dywedodd y Rheolydd Gwasanaethau Cyfreithiol ar y pwynt hwn fod y Pwyllgor bellach wedi bod yn eistedd am dair awr (daethpwyd â chais 13.1 ymlaen i’w ystyried yn gynharach yn nhrefn rhaglen y Pwyllgor) a bod angen, dan ddarpariaethau paragraff 4.1.10 Cyfansoddiad y Cyngor, i’r mwyafrif o’r Aelodau hynny o’r Pwyllgor a oedd yn bresennol gytuno i barhau gyda’r cyfarfod.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 660 KB

12.1 19C1145 – Byngalo Harbour View, Ffordd Turkey Shore Road, Caergybi

 

12.2 20C289A/DEL – Arfordir ger yr Harbwr, Cemaes

 

12.3 25C28C – Tafarn y Bull, Llanerchymedd

 

12.4 36LPA827B/CC – Bodhenlli, Cerrigceinwen

 

(Adroddiad i ddilyn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  19C1145 – Cais llawn i godi rhandy yn Harbour View Bungalow, Ffordd Turkey Shore, Caergybi.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd i Aelod Lleol ei alw i mewn.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Datblygu Cynllunio mai’r argymhelliad yn awr yw gohirio ystyried y cais hyd oni fydd Tystysgrif B mewn perthynas â’r ffordd wedi dod i law.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2  20C289A/DEL – Cais dan Adran 73 i wneud i ffwrdd ag amod (03) (caniatâd dros dro) o gais gynllunio cyfeirnod 20C289 (Gosod cloch “Amser a Llanw”) yn y blaen draeth, ger yr harbwr, Cemaes.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno ac sy’n cael ei rentu gan Stad y Goron.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Datblygu Cynllunio fod y Gloch Amser a Llanw wedi cael ei gosod yn Ebrill 2014 yn y lleoliad a gymeradwywyd ac na chafwyd unrhyw sylwadau negyddol gan gymdogion.  Ymgynghorwyd gyda’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ac mae wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

12.3  25C28C – Cais llawn i ddymchwel y dafarn bresennol a’r adeiladau cysylltiedig yn y Bull Inn, Llannerch-y-medd.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn. 

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio y derbyniwyd y cais yn wreiddiol fel rhybudd ymlaen llaw o’r bwriad i ddymchwel y tŷ tafarn a’r adeiladau cysylltiedig cyfredol er mwyn gweld a oedd angen i’r Cyngor gymeradwyo’r dull a’r manylion dymchwel ymlaen llaw. Y gofyniad hwn oedd testun y drafodaeth heddiw. Dywedodd y Swyddog bod y bwriad i ddymchwel wedi creu llawer iawn o bryder yn lleol oherwydd ystyrir bod yr adeilad o arwyddocâd hanesyddol i’r ardal leol.  Derbyniwyd gwybodaeth ynghylch y dull dymchwel a’r modd y bwriedir adfer y safle wedi hynny, cynigion y mae deilydd eiddo cyfagos wedi gwrthwynebu iddynt oherwydd pryderon ynglŷn â’r wal gydrannol.  O ran y dull y bwriedir ei ddefnyddio i ddymchwel yr adeilad ac adfer y safle, yr argymhelliad yw un o gymeradwyo.

 

Siaradodd John Griffith yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Lleol ac eglurodd nad oedd yr ymadrodd “pentref yn marw ar ei draed” a briodolwyd iddo yn yr adroddiad ysgrifenedig yn adran 3 wedi cael ei ddweud ganddo ef mewn gwirionedd, a chredai mai’r gwrthwyneb oedd yn wir – bod y pentref gyda’i gyngor cymuned ymroddgar, yr ysgol gynradd lewyrchus a hyderus a’r llu o sefydliadau dygn a phrysur yn fodel ardderchog i gymunedau eraill ynghylch sut i ffynnu a datblygu er mwyn gwella’r gymuned. Wrth alw’r cais i mewn, cyfeiriodd at yr isod:

 

           Gwrthwynebiad cryf yn lleol i’r cynnig gan gynnwys y Cyngor Cymuned

           Hanes hir yr adeilad a ystyrir yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 1 MB

13.1 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

 

(Adroddiad i ddilyn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1    46C427K/TR/EIA/ECON – Cais cynllunio hybrid sy'n cynnig: Amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw'n ôl ac eithrio dull mynediad, ar gyfer: Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys porthdai a bythynnod newydd; adeilad canolbwynt canolog newydd yn cynnwys derbynfa gyda chyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr isdrofannol dan do, neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai ac adwerthu; adeilad canolog newydd ar gyfer Marchnad Ffermwyr; adeilad hamdden a sba canolog newydd; canolfan chwaraeon dŵr a chaffi newydd ar safle'r hen Dŷ Cwch; dymchwel y Baddondy ac adeiladu bwyty ar ei safle; dymchwel adeiladau eraill gan gynnwys tair ysgubor amaethyddol a thair annedd; darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r Llwybr Arfordirol gan gynnwys: rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar o goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; creu trywydd cerfluniau a llwybrau pren newydd trwy goetir a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun.

 

Tir yn Cae Glas: Codi llety a chyfleusterau pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: hyd at 315 o borthdai i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer gweithwyr niwclear; adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; gwesty newydd; adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, adwerthu a bar; cae pêldroed glaswellt newydd a chae criced; a Canolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: porthdai ac adeiladau cyfleuster wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o borthdai i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Chanolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i ymwelwyr.

 

Tir yn Kingsland: Codi datblygiad preswyl a ddyluniwyd i'w ddefnyddio yn y lle cyntaf fel llety i weithwyr adeiladu yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi yn cynnwys: hyd at 320 o dai newydd i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn ddatblygiad preswyl a fyddai'n cynnwys: hyd at 320 o anheddau mewn tirwedd o safon uchel a llecynnau agored.

 

Bydd datblygiadau atodol ar gyfer pob cam o'r gwaith datblygu, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer parcio, ardaloedd gwasanaeth, llecynnau agored a pheiriannau\gwaith. Manylion llawn ar gyfer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.