Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd yr ymddiheuriad am absenoldeb a nodir uchod.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb a ganlyn:-
Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol nad yw’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 13.2 a dywedodd y byddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ar yr eitem honno.
Gwnaeth y Cynghorydd W. T. Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â cheisiadau 11.1 a 12.1.
Fe wnaeth y Cynghorydd Dylan Rees (nad yw’n Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion) ddatgan diddordeb yng nghais 7.4 ond nododd ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol ei fod yn cael siarad ar y cais ond byddai’n gadael y Siambr ar ôl iddo siarad.
Gwnaeth Mr. D. F. Jones, Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â chais 7.6.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2015 yn amodol ar gynnwys y gair ‘Kingsland’ yn y pedwerydd pwynt bwled h.y.
|
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 19 Awst, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safle a gafwyd ar 19 Awst, 2015. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.4 a 7.6.
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 232 KB 6.1 24C300A/ECON – Tyn Rhos Fawr, Dulas 6.2 29LPA1008A/ECON – Rhos Ty Mawr, Llanfaethlu 6.3 42C127B/RUR – Ty Fry Farm, Rhoscefnhir
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 24C300A/ECON – Creu llynnoedd ar gyfer defnydd pysgota a hamdden, codi siop a chaffi ac adeilad storfa ynghyd â ffyrdd mynediad a llecynnau parcio cysylltiedig ynghyd â gosod tanc septig newydd ar dir sy’n ffurfio rhan o Tyn Rhos Fawr, Dulas.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gan fod angen derbyn eglurhad ar fanylion y cais cyn bod modd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ystyried y mater yn ffurfiol.
6.2 29LPA1008A/CC – Cais llawn i godi ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu llwybr cerdded newydd wrth Stad Bryn Llwyd a chreu myendfa newydd i gerbydau i’r A5025 ar dir gyferbyn â Rhos Ty Mawr, Llanfaethlu
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog gan fod y cais yn ddatblygiad sylweddol sydd wedi’i leoli ar gyrion pentref mewn ardal sensitif.
6.3 42C127B/RUR – Cais llawn ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth ar dir yn Fferm Tŷ Fry, Rhoscefnhir.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gan fod gwybodaeth ychwanegol wedi cael ei chyflwyno a bydd angen ei dadansoddi a’i gwneud yn destun cyhoeddusrwydd ac ymgynghori pellach.
|
|
7.1 19C1145 – Byngalo Harbour View, Ffordd Turkey Shore, Caergybi 7.2 25C28C – The Bull Inn, Llanerchymedd 7.3 25C250 – Tregarwen, Coedana, Llanerchymedd 7.4 34LPA1013/FR/EIA/CC – Ffordd Gyswllt, Llangefni 7.5 34C304F/1/ECON – Coleg Menai, Llangefni 7.6 36C338 – Ysgol Henblas, Llangristiolus 7.7 40C323B – Bryn Hyfryd, Bryn Refail
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 19C1145 – Cais llawn ar gyfer codi anecs yn Harbour View Bunglow, Ffordd Turkey Shore, Caergybi
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 3 Mehefin 2015, penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn disgwyl am gadarnhad ynglŷn â pherchnogaeth y ffordd fynediad i’r annedd. Cafwyd cadarnhad erbyn hyn mai’r Cyngor sydd biau’r trac mynediad o Ffordd Turkey Shore i’r safle a bod gan yr ymgeisydd hawl mynediad ar hyd y trac. Mae’r trac sydd yn union gerllaw’r annedd yn eiddo i’r ymgeisydd a deallir fod gan eiddo eraill hawl tramwy arno. Yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf, 2015 penderfynodd yr Aelodau gynnal ymweliad safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais. Ymwelwyd â’r safle ar 19 Awst, 2015.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Dennis Ryder annerch y cyfarfod i gefnogi ei gais. Nododd Mr Ryder y byddai’r anecs yn cael ei ddefnyddio gan ei chwaer yng nghyfraith a fyddai’n gofalu amdano oherwydd ei salwch.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 25C28C – Cais llawn i ddymchwel y ty tafarn presennol ynghyd â’r adeiladau cysylltiedig yn The Bull Inn, Llannerch-y-medd.
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn.
Dywedodd
y Rheolwr Datblygu
Cynllunio wrth y Pwyllgor fod y cais wedi cael ei dynnu'n ôl.
7.3 25C250 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd a gosod system trin carthion yn cynnwys manylion llawn am fynediad i gerbydau ar dir ger Tregarwen, Coedana, Llannerch-y-medd
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Ynys Môn ond mae modd ei gefnogi dan ddarpariaethau’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Cafodd y cais ei ohirio yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod apêl cynllunio yn y cyffiniau sy’n codi materion y byddai’r Swyddogion Cynllunio yn dymuno eu hystyried cyn cyflwyno argymhelliad a phenderfynu ar y mater.
Dywedodd y Cynghorydd K. P. Hughes ei fod ef yn ystyried y dylid cymeradwyo’r cais gan mai cais cynllunio amlinellol ydyw am annedd ar gyfer teulu lleol. Credai y dylid ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun ac nid yn amodol ar apêl cynllunio arall yn y cyffiniau. Mae’r cais yn dderbyniol dan ddarpariaethau’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd ac mae hefyd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru. Mae’r Cyngor Cymuned Lleol yn cefnogi’r cais ond mae ganddo rai pryderon ynglŷn â mynediad i’r safle. Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo. Nid oedd unrhyw eilydd i’r cynnig hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gwrthod y cais gan ei fod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 153 KB 11.1 42C195A – 8 Maes yr Efail, Rhoscefnhir
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 42C195A – Cais llawn i ddymchwel y porth presennol ynghyd â chodi estyniad ochr newydd a chadw yr ystafell wydr presennol yn 8 Maes yr Efail, Rhoscefnhir.
Wedi datgan diddordeb yn y cais, aeth y Cynghorydd W.T. Hughes allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth.
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn berthynas agos i aelod etholedig. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 633 KB 12.1 20LPA1022/CC – Fron Heulog, Cemaes 12.2 43C197 – Môr Awel, Pont Rhyd y Bont 12.3 45C89B – Rhos yr Eithin, Niwbwrch 12.4 45LPA605A/CC – Dwyryd, Niwbwrch 12.5 46C42B – Glasfryn, Ffordd Ravenspoint, BaeTrearddur
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 Cais llawn ar gyfer codi adeilad amaethyddol i gadw anifeiliaid ar dir yn Fron Heulog, Cemaes
Wedi datgan diddordeb yn y cais, aeth y Cynghorydd W.T. Hughes allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth.
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir y mae wnelo’r cais ag ef.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 43C197 – Cais llawn ar gyfer dymchwel mordurdy presennol ynghyd â chodi annedd ar dir ger Mor Awel, Pontrhydybont
Adroddwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Cynigiodd
y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y
Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.
12.3 45C89B – Cais ôl-weithredol ar gyfer defnydd cymysg o i) storio hyd at 12 o garafannau symudol yn barhaol a ii) defnydd tir fel safle carafannau symudol ar gyfer hyd at 12 o garafannau symudol o 1 Mawrth i 31 Rhagfyr pob blwyddyn yn Rhos yr Eithin, Niwbwrch
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Ann Griffith.
Cynigiodd y Cynghorydd Griffith y dylid cynnal ymweliad safle er mwyn i’r Pwyllgor allu ystyried materion ynghylch yr effaith ar fwynderau eiddo cyfagos, yr effaith weledol ar yr ardal leol a’r AHNE ynghyd â diogelwch ffyrdd. Eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle am y rhesymau uchod.
12.4 45LPA605A/CC – Cais amlinellol gyda holl faterion wedi ei gadw’n ôl ar gyfer codi 17 annedd newydd, dymchwel bloc toiled presennol ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Dwyryd, Niwbwrch
Cyflwynwyd adroddiad ar y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y ddau Aelod Lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith, Aelod Lleol, fod ymweliad safle yn cael ei gynnal er mwyn i’r Pwyllgor allu ystyried materion ynglŷn â’r effaith ar yr ardal oherwydd y maint a’r gwrthwynebiad lleol i’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.
12.5 46C42B – Cais llawn i ddymchwel annedd presennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei le yn Glasfryn, Ffordd Ravenspoint, Trearddur
Adroddwyd ar y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans yr Aelod Lleol bod ymweliad safle yn cael ei gynnal er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y pryderon lleol i'r cais.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle am y rhesymau uchod.
|
|
13.1 14C28T/1/SCR – Parc Ddiwydiannol Mona, Gwalchmai 13.2 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 14C28T/1/SCR – Barn sgrinio ar gyfer fferm solar arfaethedig gyda chynhwysedd o 5MW ar dir yn Parc Diwydiannol Mona, Gwalchmai
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y derbyniwyd barn sgrinio ar gyfer fferm solar arfaethedig gyda chapasiti o 5MW ar dir ym Mharc Diwydiannol Mona, Gwalchmai. Mae safle’r cais ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor. Penderfynwyd nad oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol ar gyfer y cynnig.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad er gwybodaeth yn unig.
13.2 46C427K/TR/EIA/ECON - Cais cynllunio amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw'n ôl ac eithrio dull mynediad, ar gyfer: Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys porthdai a bythynnod newydd; adeilad canolbwynt canolog newydd yn cynnwys derbynfa gyda chyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr isdrofannol dan do, neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai ac adwerthu; adeilad canolog newydd ar gyfer Marchnad Ffermwyr; adeilad hamdden a sba canolog newydd; canolfan chwaraeon dŵr a chaffi newydd ar safle'r hen Dŷ Cwch; dymchwel y Baddondy ac adeiladu bwyty ar ei safle; dymchwel adeiladau eraill gan gynnwys tair ysgubor amaethyddol a thair annedd; darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r Llwybr Arfordirol gan gynnwys: rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar o goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; creu trywydd cerfluniau a llwybrau pren newydd trwy goetir a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun.
Tir yn Cae Glas: Codi llety a chyfleusterau pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: hyd at 315 o borthdai i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer gweithwyr niwclear; adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; gwesty newydd; adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, adwerthu a bar; cae pêl-droed glaswellt newydd a chae criced; a Canolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: porthdai ac adeiladau cyfleuster wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o borthdai i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Chanolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i ymwelwyr.
Tir yn Kingsland: Codi datblygiad preswyl a ddyluniwyd i'w ddefnyddio yn y lle cyntaf fel llety i weithwyr adeiladu yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi yn cynnwys: hyd at 320 o dai ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13. |