Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:
Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.1 Gwnaeth y Cynghorydd Kenneth Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â chais 7.1 Gwnaeth y Cynghorydd Ann Griffiths ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â chais 7.4 Gwnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts dddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â chais 11.1 Gwnaeth y Cynghorydd Victor Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â cheisiadau 7.2,12.7 a 12.8
Gwnaeth Mr D.F.Jones, y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â chais 7.2. |
|
Cofnodion Cyfarfod 2 Medi, 2015 PDF 292 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Medi, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Medi, 2015. |
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion yr ymweliadau safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2015. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai siaradwr cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.3. |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 139 KB 6.1 24C300A/ECON – Tyn Rhos Fawr, Dulas
6.2 42C127B/RUR – Ty Fry Farm, Rhoscefnhir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 24C300A/ECON – Creu llynnoedd ar gyfer defnydd pysgota a hamdden, codi siop a chaffi ac adeilad storfa ynghyd â ffyrdd mynediad a mannau parcio cysylltiedig a gosod tanc septig newydd ar dir yn ffurfio rhan o Tyn Rhos Fawr, Dulas
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor y bydd, fe dybir, angen cryn amser i gael eglurhad ynghylch manylion y cais cyn y gall y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ei ystyried yn ffurfiol ac o’r herwydd, argymhellwyd bod y cais yn cael ei dynnu oddi ar restr y Pwyllgor yn y cyfamser.
Penderfynwyd symud ymlaen yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
6.2 42C127B/RUR – Cais llawn ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod system breifat ar gyfer trin carthffosiaeth ar dir yn Fferm Tŷ Fry, Rhoscefnhir
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddir yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
7.1 29LPA1008A/ECON - Rhos Ty Mawr, Llanfaethlu
7.2 36C338 - Ysgol Henblas, Llangristiolus
7.3 45C89B - Rhos yr Eithin, Niwbwrch
7.4 45LPA605A/CC - Dwyryd, Niwbwrch
7.5 46C42B - Glasfryn, Ffordd Ravenspoint, Trearddur Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 29LPA1008A/CC – Cais llawn i godi ysgol gynnradd newydd ynghyd â chreu llwybr newydd i gerddwyr ger Stad Bryn Llwyd a chreu mynedfa newydd i gerbydau i'r A5025 ar dir gyferbyn â Rhos Ty Mawr, Llanfaethlu.
(Wedi datgan diddordeb yn y mater, aeth y Cynghorydd Kenneth Hughes allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno).
Mae’r cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais gan y Cyngor ydyw. Yn ei gyfarfod ar 2 Medi 2015, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais. Ymwelwyd â’r safle ar 16 Medi, 2015.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y datblygiad arfaethedig yn ymwneud â chodi ysgol gynradd ardal newydd fel rhan o raglen foderneiddio’r Cyngor ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif. Y materion cynllunio allweddol yw effaith y datblygiad ar y dirwedd ddynodedig, yr adeilad hanesyddol, archeoleg, effaith ar y briffordd a mwynderau preswyl ynghyd ag ecoleg a draenio. Ystyrir y gellir cefnogi’r cynnig o ran egwyddor y datblygiad oherwydd mae’r safle wedi’i leoli ar gyrion pentref Llanfaethlu; mae polisïau’r cynllun datblygu’n cefnogi creu adeiladau ac adnoddau cymunedol oddi mewn i aneddiadau presennol neu ar eu cyrion. Oherwydd topograffi’r safle, mae’r Swyddog o’r farn y byddai’r effeithiau ar y dirwedd a’r effeithiau gweledol yn gymedrol ac y gellid eu lliniaru ymhellach drwy waith tirlunio. Mae’r topograffi a gosodiad a dyluniad yr adeilad arfaethedig hefyd yn golygu na fyddai’r cynnig yn cael effaith ar yr ardal o gwmpas Eglwys St Maethlu. Nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig mewn egwyddor oherwydd, fel rhan o’r cynnig, bydd troedffordd yn cysylltu’r ysgol a’r pentref. Er y daw newidiadau ffisegol a gweledol i’r safle yn sgil y cynllun, gellir lliniaru’r rhain drwy waith tirlunio a sgrinio gofalus a drwy reoli’r defnydd o gampws yr ysgol ac nid ydynt yn faterion a fyddai’n cyfiawnhau gwrthod y cais. O’r herwydd, mae’r argymhelliad yn un i ganiatáu’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 36C338 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus
Wedi datgan diddordeb yn y mater, aeth y Cynghorydd Victor Hughes a’r Rheolwr Datblygu Cynllunio allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.
Adroddir ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn gweithio yng Ngwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr Awdurdod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Medi, 2015, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm nad oedd, fe dybiwyd, yn gais mewnlenwi; mae safle’r cais y tu allan i’r ffin ddatblygu; nid yw’n cydymffurfio â Pholisi 50 ac mae’n orddatblygu.
Cyfeiriodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd at yr adroddiad ysgrifenedig sy’n rhoi sylw i’r rhesymau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor am wrthod y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 273 KB 11.1 38C219F - Cae Mawr, Llanfechell
11.2 45C311F - Annan, Pen Lôn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 38C219F – Cais llawn i godi ysguboriaid amaethyddol traddodiadol yn Cae Mawr, Llanfechell
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn swyddog perthnasol fel y diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan y paragraff hwnnw.
Wedi iddi ddatgan diddordeb yn y cais, ni wnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts gymryd rhan yn y drafodaeth na’r penderfyniad ar y cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 48C311F – Cais llawn ar gyfer codi garej, gweithdy a storfa goed ar wahân ynghyd â lle byw hunangynhwysol yn gysylltiedig â’r annedd gyfagos yn Annan, Pen Lôn
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog yn yr Adran Gynllunio. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
12.1 12C431F – Gwynfa, Beaumaris
12.2 12LPA1003E/FE/VAR/CC – Pont Townsend, Penrhyn Safnas, Biwmares
12.3 14LPA1021/CC – Bwlchyfen, Pentir, Tyn Lon
12.4 19LPA1018/CC – 91-95 Stryd y Farchnad, Gwesty a Gril y Crown, Caergybi
12.5 19C608Q – Tyddyn Bach, Lôn Ynys Lawd, Caergybi
12.6 43C196 – Ty’r Garreg, Rhoscolyn
12.7 46C14V/1 – Parc Carafannau’r Cliff, Trearddur
12.8 47LPA1020/CC – Cott, Llanrhuddlad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 12C431F – Cais llawn ar gyfer newid y ffenestr bresennol yn ddrysau Ffrengig yn Gwynfa, Biwmares
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cymeradwyo cais blaenorol am ganiatâd Adeilad Rhestredig i newid ffenest am ddrws Ffrengig, nid ystyrir y byddai modd i’r Awdurdod wrthod y cais cynllunio hwn. Yr argymhelliad felly yw cymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 12LPA1003E/FR/VAR/CC – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) (manylion am y morter a phwyntio’r wal) ac amrywio amod (02) (sampl o banel un metr sgwâr o’r wal) o gais cynllunio cyfeirnod 12LPA1003B/CC/MON (mân newidiadau i gynllun a gymeradwywyd eisoes dan 12LPA1003/FR/CC ac amrywio amodau (02) (Cynllun Rheoli y Adeiladu), amod (07) (carthffos gyhoeddus), amod (08) (rheoli traffig), dileu amod (09) (rhan o’r gwaith bwndio) o gais cyfeirnod 12LPA1003/FR/CC (gwaith lliniaru llifogydd a byndio) ym Mhont Townsend, Penrhyn Safnas, Biwmares
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai cais gan y Cyngor ydyw ac mae ar ran o dir sy’n eiddo i’r Cyngor.
Rhoddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor, ers drafftio’r adroddiad, bod llythyr arall o wrthwynebiad wedi’i dderbyn oddi wrth breswylydd ar Stryd Alma, Biwmares ac mae’r llythyr yn cyfeirio at y cynllun yn ei gyfanrwydd. Adroddodd y Swyddog y gellir crynhoi’r cais fel un i ddiwygio’r amodau perthnasol er mwyn caniatáu rhagor o amser i’r ymgeisydd gyflwyno cynllun rheolaeth adeiladu, cynllun rheoli traffig a manylion ynghylch gorffeniad y wal – roedd y manylion hyn i fod i gael eu cyflwyno cyn dechrau’r gwaith. Mae’r cais hefyd yn ceisio diwygio’r amod ynglŷn â’r garthffos gyhoeddus a dileu’r amod cynllunio mewn perthynas â’r bwnd gan na fydd yr elfen hon o’r cynllun yn cael ei gweithredu bellach, a dyma yw’r unig newid ffisegol i’r datblygiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 14LPA1021/CC – Cais llawn i godi adeilad amaethyddol i storio gwair a gwellt ar dir yn Bwlchyfen, Tyn Lôn Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 19LPA1018/CC – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol yn 91-95 Stryd y Farchnad ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 12LPA1003C/CC/SCR – Castle Meadow, Biwmares
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 12LPA1003C/CC/SCR – Barn Sgrinio ar gyfer cwlfert i liniaru llifogydd yn Castle Meadow, Biwmares
Roddwyd gwybod i’r Pwyllgor nad yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried bod angen Asesiad Effaith Amgylcheddol yn yr achos hwn.
Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.
|