Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 4ydd Tachwedd, 2015 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb a ganlyn:

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ann Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.2 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 11.3 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.

 

Gwnaeth y Cynghorydd T. V. Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â cheisiadau 7.2 a 10.1 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.

 

Gwnaeth y Cynghorydd W. T. Hughes ddatganiad o ddiddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.4 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Raymond Jones ddatganiad o ddiddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.3 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.

 

Gwnaeth y Cynghorydd R. O. Jones ddatganiad o ddiddordeb personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 13.1.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd T. V. Hughes at gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac at gais a wnaed gan Swyddog o’r Adran Gynllunio am annedd yn Llangristiolus. Eglurodd pam y bu iddo ddatgan diddordeb yn yr eitem honno.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 228 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion fel â ganlyn :-

 

·           Cofnodion y cyfarfod Arbennig a gafwyd ar 7 Hydref, 2015 (a.m.)

·           Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gafwyd ar 7 Hydref, 2015 (p.m.)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio ar Gorchmynion a chadarnhawyd eu bod yn gywir:-

 

  Cofnodion y cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2015 (a.m.)

  Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2015 (p.m.)

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 42 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 21 Hydref, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Hydref, 2015.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 10.1 a 12.5.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 302 KB

6.1  42C127B/RUR – Ty Fry Farm, Rhoscefnhir

6.2  45LPA605A/CC – Dwyryd, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1  42C127B/RUR – Cais llawn ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth ar dir yn Fferm Fry, Rhoscefnhir.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2  45LPA605A/CC – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi 17 annedd newydd, dymchwel y bloc toiled presennol ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Dwyryd, Niwbwrch.

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Ann Griffith y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 428 KB

7.1  43C196Ty’r Garreg, Rhoscolyn

7.2  46C14V/1 – Parc Carafannau’r Cliff, Trearddur

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  43C196 - Cais llawn i newid defnydd adeilad allanol yn fwyty, altro’r fynedfa bresennol ynghyd â gosod gwaith paced trin carthffosiaeth ger Tŷ’r Garreg, Rhoscolyn.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2015 roedd y Pwyllgor wedi penderfynu cynnal ymweliad safle ac fe wnaed hynny wedyn ar 21 Hydref, 2015.

 

Dywedodd y Cynghorydd T. Ll. Hughes fel Aelod Lleol y credai y dylai’r datblygiad fod yn gydnaws â’r ardal o’i amgylch.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  46C14V/1 – Cais llawn i ailfodelu’r maes carafanau parhaol presennol i ddarparu ar gyfer 14 o garafanau gwyliau parhaol wedi’u hail-leoli i’r elfen deithiolbarhaolynghyd ag ymestyn y parc er mwyn ail-leoli 46 o garafanau symudol yn The Cliff Caravan Park, Trearddur Bay

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2015 roedd y Pwyllgor wedi penderfynu cynnal ymweliad safle ac fe wnaed hynny wedyn ar 21 Hydref, 2015.

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd T. V. Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn i ailfodelu’r safle carafanau statig sy’n bodoli ac i ymestyn ffin ddwyreiniol y safle er mwyn gwneud lle i elfen deithiol y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd T. Ll. Hughes, Aelod Lleol, fod yr ardal o amgylch yn dueddol o ddioddef llifogydd.

 

Holodd Aelodau’r Pwyllgor ynghylch y ffaith fod yr Aelodau Lleol wedi codi’r mater o lifogydd a materion draenio yn yr ardal. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Dŵr Cymru wedi argymell gosod amodau safonol os caiff y cais ei gymeradwyo sef: bod rhaid i ddŵr budr a dŵr wyneb sy’n llifo gael eu draenio ar wahân o’r safle; na chaniateir i ddŵr wyneb gysylltu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i’r system garthffosiaeth gyhoeddus oni bai y cymeradwyir hynny’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol; ac na chaniateir i ddŵr ffo sy’n llifo o’r tir arllwys yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i’r system garthffosiaeth gyhoeddus.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans y credai fod maes carafanau The Cliff yn sefydliad sy’n cael ei redeg yn dda, ac fel Aelod Lleol roedd yn ffyddiog y byddai’r ymgeisydd yn cydymffurfio â’r holl faterion iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â’r safle. Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes ei gynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

8.

Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 278 KB

8.1  34C687/ECON – Hen Safle Ysgol y Bont, Ffordd Stâd Ddiwydiannol, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.1 34C687/ECON – Cais llawn i godi 63 o fflatiau ar gyfer Cynllun Gofal Ychwanegol ar dir hen Ysgol y Bont, Stad Ddiwydiannol, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn cynnwys tir sy’n eiddo i’r Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod un llythyr arall o wrthwynebiad wedi’i dderbyn. Tynnodd sylw at y prif faterion allweddol yn yr adroddiad h.y. lleoliad, angen, mwynderau a phriffyrdd. Roedd yr Adain Briffyrdd wedi gofyn am osod amodau ar fanylion y fynedfa.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes ei gynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac y soniwyd amdanynt gan y Swyddog.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 333 KB

10.1  42C237 – Plas Tirion, Helen’s Crescent, Pentraeth

10.2  45C207J – Ynys Hafan, Penlon

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  42C237 Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Plas Tirion, Helen’s Crescent, Pentraeth

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn gais sy’n groes i bolisi, ond mai’r argymhelliad yw caniatáu.

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd T. V. Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi’i leoli y tu allan i ffin anheddiad yng Nghynllun Lleol Ynys Môn ond oddi mewn i’r ffin yn y Cynllun Datblygu Unedol.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Jamie Bradshaw i annerch y Pwyllgor fel un oedd yn cefnogi’r cais, ac fe wnaeth y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

  Mae’r safle wedi’i leoli oddi mewn i ffin ddatblygu Pentraeth yn y Cynllun Datblygu  Unedol a Stopiwyd, sy’n ystyriaeth berthnasol allweddol ar gyfer y cais hwn gan ei fod yn cadarnhau bod lleoliad y safle o fewn y pentref;

  Mewn perthynas â phryderon aelodau lleol ynglŷn ag effaith y cynnig ar ddiogelwch y ffordd, mae’n glir na fyddai’r cynnig cymharol fach hwn ond yn creu nifer fechan o symudiadau cerbyd, ac na fyddai’n effeithio ar ddiogelwch na gweithrediad y briffordd;

  Mae’r dystysgrif cyfreithlondeb yn cadarnhau bod defnydd cyfreithlon wedi’i sefydlu ar gyfer y safle fel safle storio a dosbarthu. Byddai’r defnydd hwn a ganiateir yn ei gwneud yn bosib i ystod eang o fusnesau weithredu o’r safle;

  Byddai’r cynnig felly’n arwain at welliant gwirioneddol o gymharu â’r sefyllfa bresennol ar y safle, gan y byddai’n cael llai o effaith ar y briffordd nag a gaiff defnydd cyfreithlon presennol y safle;

  Ni fyddai unrhyw effaith negyddol ar y dirwedd gan y byddai’r safle wedi’i osod ymhlith datblygiadau sy’n bodoli, a byddai’n ffurfio ychwanegiad addas ochr yn ochr â’r eiddo o’i amgylch o ran ei raddfa, ffurf ac edrychiad;

  Ni fyddai unrhyw effaith niweidiol ar fwynderau preswyl neu breifatrwydd y preswylwyr cyfagos ychwaith, nac ar yr amgylchedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd R. O. Jones ei gynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  45C207J Cais llawn ar gyfer codi annedd gyda garej ar wahân ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Ynys Hafan, Pen Lôn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn groes i’r Cynllun Lleol Ynys Môn a fabwysiadwyd, ond yn un y gellir ei gefnogi dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd R. O. Jones ei gynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 614 KB

11.1  19C895E – Canolfan Gymuned Millbank, Caergybi

11.2  41C113C – Dol Fraint, Star

11.3  41C99P/ENF – Uned 6, Nant y Felin, Bryn Gof, Star

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 19C89E – Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi canolfan gymunedol newydd yn ei le yng Nghanolfan Gymunedol Millbank, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn aelod o’r awdurdod. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y dystysgrif berchnogaeth anghywir wedi cael ei chyflwyno ar gyfer y safle ac felly byddai’n rhaid gohirio’r cais.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cais am y rhesymau a roddwyd gan y Swyddog.

 

11.2  41C113C Cais llawn ar gyfer creu mynedfa i gerbydau a chau’r fynedfa bresennol ar dir yn Dol Fraint, Star.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff sy’n gweithio yn Adran Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor Sir. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith ei gynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.3  41C99P/ENF – Cais ôl-weithredol i gadw’r gwaith addasu ar yr adeilad allanolfel y cafodd ei adeiladuyn Uned 6, Tant y Felin, Bryn Gof, Star

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o’r Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff

4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd John Griffith y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans ei gynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1023 KB

12.1  11C500ANwyddau Diogelwch Mona, Stryd Wesley, Amlwch

12.2  19C1170 – 4 Llain Bryniau, Caergybi

12.3  19LPA875B/CC – Parc y Morglawdd, Caergybi

12.4  20C312Ysgol Gynradd, Cemaes

12.5  42C61NTy’r Ardd, Pentraeth

 

EITEM HWYR – GYDA CHANIATÂD Y CADEIRYDD

 

12.6  34LPA1015B/CC – Hyfforddiant Môn, Stad Ddiwydiannol, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  11C500A Cais llawn i newid defnydd yr adeilad i 6 fflat ynghyd ag addasu a dymchwel rhan o’r adeilad yn Mona Safety Products, Stryd Wesley, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd R. O. Jones gais i ymweld â’r safle. Eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig. Y rhesymau a roddwyd am ymweld â’r safle oedd oherwydd pryderon trigolion lleol ynghylch materion parcio a phriffyrdd ynghyd â’r effaith ar fwynderau eiddo cyfagos.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2  19C1170 Cais llawn i addasu ac ehangu yn 4 Llain Bryniau, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod sylfeini’r estyniad yn ffinio â thir sydd ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.O. Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  19LPA875B/CC – Cais llawn i newid defnydd rhan o’r tir yn faes i garafanau teithiol (28 o safleoedd), codi bloc cawodydd/toiledau ynghyd â ffurfio ffordd fynediad newydd ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud gan y Cyngor ar dir y Cyngor.

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Raymond Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

Gwnaeth y Cynghorydd R. Ll. Jones, Aelod Lleol, gais i ymweld â’r safle. Y rhesymau a roddwyd am ymweld â’r safle oedd oherwydd materion priffyrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes y dylid ymweld â’r safle ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith ei gynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4  20C312 Gosod caban symudol i’w ddefnyddio fel meithrinfa ar dir Ysgol Gynradd Cemaes, Cemaes

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd W. T. Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  42C61N Cais llawn ar gyfer codi annedd a modurdy yn Tŷ’r Ardd, Pentraeth

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion lle bu penderfyniad i’w wrthod oherwydd bod ôl-troed yr annedd yn rhy fawr. Cafodd y cais ei gymeradwyo trwy apêl. Mae’r cais yn awr am annedd sydd yn fwy na’r maint a ddangoswyd yn yr apêl.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Rhys Davies annerch y cyfarfod fel un oedd yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 292 KB

13.1  11LPA101K/1/LB – Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

13.2  33LPA1024/CC – Fron Deg, Gaerwen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  11LPA101K/1/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer llunio 4 hatsh mynediad yn y llawr gwaelod crog yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, gan mai’r Cyngor yw perchennog yr adeilad, mae’r cais wedi cael ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru am benderfyniad gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi’i wahardd rhag cymeradwyo caniatâd adeilad rhestredig.

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd R. O. Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

 

PENDERFYNWYD nodi bod y cais wedi cael ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru am benderfyniad yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio 1990 (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth).

 

13.2  33LPA1024/CC – Cais i bennu a oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer codi sied amaethyddol i gadw bwyd a pheiriannau amaethyddol ar dir yn Fron Deg, Gaerwen

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y penderfynwyd nad oedd angen caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol ymlaen llaw ar gyfer y datblygiad uchod a’i fod gyfystyr â datblygiad a ganiateir.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth yn unig.