Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chofnodwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn -
Datganodd y Cynghorydd Ann Griffith ddiddordeb sy'n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.4 Datganodd y Cynghorydd Raymond Jones ddiddordeb sy'n rhagfarnu mewn perthynas â chais 7.3 Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol mewn perthynas â cheisiadau 12.9 a 12.10
Datganodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes (nad yw’n aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion) ddiddordeb mewn perthynas â chais 7.2 Datganodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones (nad yw’n aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion) ddiddordeb mewn perthynas â chais 7.3 |
|
Cofnodion Cyfarfod 4 Tachwedd, 2015 PDF 269 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddai Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.4, 12.9 a 12.10 |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 96 KB 6.1 42C127B/RUR – Fferm Ty Fry, Rhoscefnhir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 42C127B / RUR – Cais llawn ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â system trin carthffosiaeth breifat ar dir yn Fferm Tŷ Fry, Rhoscefnhir
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
7.1 11C500A - Nwyddau Diogelwch Mona, Stryd Wesley, Amlwch
7.2 19C895E - Canolfan Gymuned Millbank, Caergybi
7.3 19LPA875B/CC - Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi
7.4 45LPA605A/CC - Dwyryd , Niwbwrch Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 11C500A – Cais llawn i newid defnydd yr adeilad yn 6 fflat ynghyd ag addasu a dymchwel rhan o’r adeilad ym Mona Safety Products, Stryd Wesla, Amlwch
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2015 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a gwnaed hynny ar 18 Tachwedd 2015.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle'r cais o fewn ffin anheddiad Amlwch. Oherwydd bod y cynnig mewn ardal breswyl roedd y Swyddog o’r farn bod tynnu’r defnydd diwydiannol presennol a’i newid i chwe fflat dwy ystafell wely yn fwy priodol. Nid ystyrir y bydd unrhyw effeithiau andwyol ar fwynderau trigolion cyfagos ac ar ben hynny, caniatawyd defnyddio 8 fflat eisoes mewn apêl, sy’n golygu y byddai gwrthod y cais hwn, sydd ar raddfa lai, yn anodd ei amddiffyn mewn apêl.
Amlygodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, sef Aelod Lleol, bryderon mewn perthynas â'r traffig ychwanegol y mae creu chwe fflat yn debygol o’i achosi, gan gymryd y bydd gan ddeiliaid pob fflat o leiaf un car, a thynnodd sylw hefyd at bryderon am ddigonolrwydd y cyfleusterau parcio. Nododd fod y ffyrdd o amgylch y safle’n gul. Mae diogelu preifatrwydd trigolion yr eiddo cyfagos hefyd yn fater o bwys.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn darparu ar gyfer naw o leoedd parcio oddi ar y ffordd ac ystyrir bod hynny’n ddigonol o ran safonau parcio.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ar y sail bod y cynnig yn ddefnydd mwy addas o'r safle. Cafodd ei gynnig ei eilio gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 19C895E – Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi canolfan gymunedol newydd yn ei le yng Nghanolfan Gymunedol Millbank, Caergybi
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn Aelod o'r Awdurdod. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor. Yn ei gyfarfod ar 4 Tachwedd 2015, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais hyd nes derbyniwyd y tystysgrifau perchnogaeth cywir.
Fel Aelod Lleol cyfeiriodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes at bryderon a godwyd mewn perthynas â'r cais a oedd yn ymwneud â pharcio, mwynderau a cholli golau naturiol a disgrifiodd sut roedd y rheini wedi cael sylw gan gynnwys cyflwyno cynlluniau diwygiedig. Dywedodd yr Aelod Lleol mai’r amcan wrth wneud y cais oedd creu adnodd newydd a gwell i drigolion hŷn yr ardal.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried bod y cais yn dderbyniol ac mai’r argymhelliad felly oedd ei ganiatáu. Cadarnhaodd y Swyddog hefyd fod y tystysgrifau perchnogaeth cywir bellach wedi dod i law.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd PDF 299 KB 8.1 19LPA1025/CC – Neuadd y Farchnad, Caergybi
8.2 19LPA1025A/LB/CC – Neuadd y Farchnad, Caergybi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 8.1 19LPA1025 / CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd hen Neuadd y Farchnad i lyfrgell, swyddfeydd gyda siop goffi ategol ynghyd â chreu ramp newydd a chodi storfa beiciau yn Neuadd y Farchnad, Caergybi
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Neuadd y Farchnad yn adeilad hanesyddol sy'n rhan o hanes tref Caergybi a’i fod yn wag ar hyn o bryd. Mae'r Swyddog o’r farn bod y cynllun, fel y cafodd ei gyflwyno, yn dderbyniol yn ei gyd-destun ac y bydd yn gwella edrychiad yr ardal gadwraeth hon yn fawr yn ogystal ag atgyweirio ac adfer prif adeilad rhestredig a hyrwyddo defnydd tymor hir hyfyw a fydd yn ei ailsefydlu wrth galon y gymuned. Yr argymhelliad felly yw caniatáu.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei gymeradwyo fel cyfle gwych i gadw a diogelu adeilad o arwyddocâd hanesyddol. Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Jeff Evans.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Gan fod y Pwyllgor bellach wedi bod yn trafod am dair awr (gyda cheisiadau 12.9 a 12.10 wedi cael eu hystyried o dan Eitem 5 – Siarad Cyhoeddus ac eitem 12.8 wedi cael ei dwyn ymlaen) dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod angen penderfyniad gan fwyafrif yr aelodau yn y Pwyllgor i gytuno i fwrw ymlaen â’r cyfarfod a hynny’n unol â darpariaethau paragraff 4.1.10 Cyfansoddiad y Cyngor. Penderfynwyd y dylai'r cyfarfod barhau.
8.2 19LPA1025A / LB / CC – Cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig i newid defnydd hen neuadd y farchnad i lyfrgell, swyddfeydd gyda siop goffi ategol ynghyd â chreu ramp newydd a chodi storfa beiciau yn Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi.
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith arfaethedig o dan gais 8.1. Mae'n ofyniad statudol bod yr adeilad rhestredig yn cael ei gadw ac mae'r Swyddog o’r farn bod y cynnig fel y cafodd ei gyflwyno yn bodloni’r gofyniad hwnnw.
Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
(Cadarnhaodd y Swyddog wedyn y bydd y mater yn cael ei gyfeirio i sylw CADW) |
|
Ceisidau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
10.1 12C49M/VAR – Casita, Biwmares Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 12C49M / VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01) ar Ganiatâd Cynllunio rhif 12C49K (Codi 35 fflat preswyl ar gyfer pobl 55 oed neu hŷn) er mwyn caniatáu 5 mlynedd arall i gychwyn gwaith datblygu yn Casita, Biwmares
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig wedi cael ei gymeradwyo yn 2010 a bod y cais hwn yn ceisio ymestyn oes y caniatâd am bum mlynedd arall. Mae’r materion allweddol yn ymwneud ag egwyddor y datblygiad; ei effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a materion priffyrdd a pharcio. Er bod y cynnig yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu am ei fod yn gynnig am ddatblygiad preswyl y tu allan i’r ffin ddiffiniedig ar gyfer anheddiad Biwmares yng Nghynllun Lleol Ynys Môn, caiff Biwmares ei adnabod fel canolfan eilaidd dan ddarpariaethau polisi HP3 yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd sy'n parhau i fod yn ystyriaeth gynllunio o bwys. Felly, caiff y cynnig ei gefnogi gan bolisi. O ran yr effaith ar y dirwedd a'r effaith weledol, nid ystyrir y byddai'r bwriad yn arwain at nodwedd ymwthiol a fyddai’n andwyol i gymeriad a mwynderau'r ardal gyfagos a chynigir camau lliniaru hefyd ar ffurf cynllun tirlunio. O ran ystyriaethau priffyrdd, cynhaliwyd Asesiad Trafnidiaeth ac archwiliad diogelwch ac mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi argymell caniatáu gydag amodau.
Fe wnaeth nifer o Aelodau'r Pwyllgor fynegi amheuon ynglŷn â'r bwriad oherwydd ei faint, y lleoliad a’r effaith weledol fyddai’n deillio ohono yn ogystal â digonolrwydd y ffordd fynediad sy'n arwain at safle'r cais. Teimlwyd na fyddai’r ffordd fynediad yn medru ymdopi â’r defnydd ychwanegol a fyddai'n cael ei gynhyrchu gan y datblygiad arfaethedig, ac am y rhesymau hynny roeddent am wrthod y cais. Cyfeiriwyd hefyd at y cyfraniad tai fforddiadwy o £100k yr oedd yr ymgeiswyr wedi cytuno i’w wneud ac awgrymwyd y bydd gwir werth y cyfraniad yn awr yn llawer llai ar derfyn y pum mlynedd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y gellid mynd i’r afael â’r pryder hwn drwy ofyn i'r ymgeisydd ystyried cynyddu'r cyfraniad tai fforddiadwy.
Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans am eglurhad ar statws y cais o ran unrhyw newidiadau o bwys i'r cais a gymeradwywyd yn 2010, a holodd os nad oedd unrhyw newidiadau, a oedd unrhyw sail dros wrthod y cais. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai bwriad y cais oedd adnewyddu'r caniatâd a roddwyd yn 2010.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd y cynnig wedi newid yn sylweddol fel y gellid cyfiawnhau newid y penderfyniad a wnaed yn 2010 a bod y Pwyllgor yn debygol o'i chael yn anodd amddiffyn apêl ar sail y rhesymau a roddwyd dros ystyried gwrthod. Mewn ymateb i awgrym bod anghenion gofal wedi newid yn y pum mlynedd ers cymeradwyo’r cais gwreiddiol, dywedodd Rheolwr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr ac Aelodau Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
12.1 12C31A/ENF – 13 Rosemary Lane, Biwmares
12.2 12C463/ENF – 1 Hampton Way, Llanfaes
12.3 19LPA875C/CC – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi
12.4 19LPA1023A/CC – Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi
12.5 32C197 – The Stables, Caergeiliog
12.6 38C316 – Cen Villa, Carreglefn
12.7 40C58L/RE – Maes Carafannau Tyddyn Isaf, Dulas
12.8 44C250A – Tai Cyngor, Fourcrosses, Rhosgoch
12.9 45C841 – White Lodge, Penlon, Niwbwrch
12.10 45C84J – Caffi’r Marram Grass, White Lodge, Penlon, Niwbwrch
12.11 45C441A/FR – Tal y Bont Bach, Dwyran
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 12C31A / ENF – Cais ôl-weithredol i godi estyniad deulawr yn 13 Rosemary Lane, Biwmares.
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir bod yr estyniad arfaethedig yn dderbyniol o ran maint, dyluniad a deunyddiau ac y bydd yn dod â chymesuredd i gefn y teras, ac ym marn yr Awdurdod Cynllunio Lleol bydd yn welliant i ymddangosiad cefn y teras. Dygodd y Swyddog sylw’r Pwyllgor at luniau o'r adeilad dan sylw a ddangosai sut y byddai'r estyniad deulawr arfaethedig yn dod â chysondeb i gefn y teras am ei fod yn cyfateb yn union i estyniad a godwyd ar yr eiddo cyfagos.
Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies, sydd hefyd yn Aelod Lleol, er nad oedd yn gwrthwynebu'r bwriad mewn egwyddor, ei fod yn pryderu bod y cais yn cael ei wneud yn ôl-weithredol. Teimlai fod hyn yn adlewyrchu gwendid yn y system gynllunio wrth adael i ddatblygiadau gychwyn heb ganiatâd ac wrth beidio cosbi’n ddigonol pan fo hynny’n digwydd. Roedd y Cynghorydd John Griffith o'r un farn.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amod a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 12C463 / ENF – Cais ôl-weithredol i gadw stabl / storfa gardd ynghyd ag estyniad i'r cwrtil yn 1 Hampton Way, Llanfaes, Biwmares
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies, sydd hefyd yn Aelod Lleol, bod ymweliad safle'n cael ei gynnal er mwyn i'r Aelodau fedru gwerthfawrogi’n well effeithiau posib y cynnig ar fwynderau preswylwyr tai cyfagos. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.
Penderfynwyd ymweld â'r safle am y rheswm a roddwyd.
12.3 19LPA875C / CC – Rhybudd o fwriad i ddymchwel pont ym Mharc Gwledig y Morglawdd, Caergybi
Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cyflwynir y cais fel rhybudd ymlaen llaw o’r bwriad i ddymchwel y bont. Mae’r gwaith dymchwel yn ddatblygiad a ganiateir o dan ran 31, Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Y materion dan sylw, felly, yw'r dull o ddymchwel ac adfer y safle ac ystyrir bod y rhain yn briodol ac yn addas at y diben. Mae’r bont dan sylw wedi bod yn bryder iechyd a diogelwch am dros ddwy flynedd bellach.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd bod y datblygiad yn mynd yn ei flaen fel datblygiad a ganiateir yn unol â'r manylion a gyflwynwyd.
12.4 19LPA1023A – Cais llawn i godi 10 o unedau busnes hyblyg ynghyd â lle parcio cysylltiedig ac iard wasanaeth, tirlunio, pwynt i wefru cerbydau trydan, paneli solar a dwy storfa biniau / ailgylchu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. |