Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd yr ymddiheuriad am absenoldeb a nodir uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb a ganlyn:-
Gwnaeth y Cynghorydd John Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol nad yw’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 13.1 a dywedodd y byddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ar yr eitem honno.
Gwnaeth Mr. Huw Percy, Prif Beiriannydd (Priffyrdd) ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â chais 6.3
Gwnaeth Mr. D. F. Jones, Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas â chais 6.5
|
|
Cofnodion Cyfarfod 1 Gorffennaf, 2015 PDF 269 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2015.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2015. |
|
Ymweliadau Safle Dim wedi’u cynnal ers y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni fu unrhyw ymweliadau safle yn dilyn cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 12.4 |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio PDF 1 MB 6.1 24C300A/ECON – Tyn Rhos Fawr, Dulas
6.2 25C28C – The Bull Inn, Llanerchymedd
6.3 34LPA1013/FR/EIA/CC – Ffordd Gyswllt, Llangefni
6.4 34C304F/1/ECON – Coleg Menai, Llangefni
6.5 36C338 – Ysgol Henblas, Llangristiolus
6.6 42C127B/RUR – Fferm Ty Fry, Rhoscefnhir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 24C300A/ECON – Creu llynnoedd ar gyfer defnydd pysgota a hamdden, codi siop a chaffi ac adeilad storfa ynghyd â ffyrdd mynediad a llecynnau parcio cysylltiedig ynghyd â gosod tanc septig newydd ar dir sy’n ffurfio rhan o Tyn Rhos Fawr, Dulas.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn gwerthfawrogi maint a chyd-destun y cynnig cyn penderfynu ar y cais.
6.2 25C28C – Cais llawn i ddymchwel y tŷ tafarn presennol a’r adeiladau cysylltiedig yn y Bull Inn, Llannerch-y-medd
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog hyd nes derbynnir ymateb / cyfarwyddyd gan CADW o ran rhestru'r adeilad.
6.3 34LPA1013/FR/EIA/CC – Cais llawn i adeiladu ffordd gyswllt a fydd yn cynnwys cylchfan newydd ar yr A5114, gwelliannau i’r biffordd rhwng yr A5114 a’r gylchfan gyfredol ar ben deheuol Ffordd y Stad Ddiwydiannol ac adeiladu ffordd newydd rhwng y pwynt hwn a Pharc Busnes Bryn Cefni ac o’r gogledd o Barc Busnes Bryn Cefni i Goleg Meani trwy’r B5420, Ffordd Penmynydd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn gwerthfawrogi maint a chyd-destun y cynnig cyn penderfynu ar y cais.
6.4 34C304F/1/ECON – Cais amlinellol ar gyfer estyniad i’r campws presennol yn cynnwys codi tri o unedau tri llawr gyda 250 o lecynnau parcio, uned ar wahân sy’n cynnwys campfa a stiwdio ffitrwydd gyda 60 o lecynnau parcio cysylltiedig ynghyd â chae pêl-droed pob tywydd a system ddraenio gynaliadwy gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir yn Coleg Menai, Llangefni.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog er mwyn gwerthfawrogi maint a chyd-destun y cynnig cyn penderfynu ar y cais.
6.5 36C338 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus.
Wedi datgan diddordeb yn y cais, aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.6 42C127B/RUR – Cais llawn ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod system trin carthffosiaeth ar dir yn Fferm Tŷ Fry, Rhoscefnhir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor y gwnaed yr argymhelliad i ymweld â’r safle oherwydd bod gerddi hanesyddol wedi eu lleoli ger y fferm yn Tŷ Fry felly ystyrir ei bod yn angenrheidiol i’r Aelodau weld y cynnig o safbwynt y cyd-destun a’r ardal o’i gwmpas ac, yn ogystal, i asesu pa mor agos yw safle’r cais at adeiladau’r fferm.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
|
|
7.1 19C1145 – Byngalo Harbour View, Ffordd Turkey Shore, Caergybi
7.2 19LPA37B/CC – Safle Cybi, Ysgol Uwchradd Caergybi, Caergybi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 19C1145 – Cais llawn ar gyfer codi anecs yn Harbour View Bunglow, Ffordd Turkey Shore, Caergybi
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod yr Aelod Lleol wedi gofyn drwy e-bost i’r Pwyllgor ymweld â’r safle oherwydd pryderon ynghylch effeithiau’r cynnig ar eiddo y tu cefn i’r safle a’r posibilrwydd y byddent yn colli goleuni.
Dywedodd y Cynghorydd Raymond Jones y byddai’n dymuno i’r Pwyllgor weld safle’r cais er mwyn deall yn well y pryderon lleol a gwnaeth gynnig i’r perwyl hwnnw. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans nad oedd ymweliad safle, yn ei farn ef, yn angenrheidiol oherwydd wedi ystyried popeth yn yr adroddiad, nid oedd yn credu bod unrhyw broblem o ran goleuni ac y byddai ymweld â’r safle ond yn achosi oedi o ran penderfynu ar y cais. Cynigiodd ef na ddylid ymweld â’r safle ac y dylid ystyried y cais yn uniongyrchol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts. Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr John Griffith, Kenneth Hughes, Victor Hughes, Raymond Jones a Richard Owain Jones o blaid ymweld â’r safle a phleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans, Ann Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts yn erbyn ymweliad safle. O’r herwydd, cariodd y bleidlais i gael ymweliad safle.
Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr Aelod Lleol i asesu materion yn ymwneud â’r posibilrwydd o golli goleuni.
7.2 19LPA37B/CC – Cais llawn i ddymchwel rhan o’r adeilad cyfredol, gwaith altro ac ehangu er mwyn creu Ysgol Gynradd newydd ynghyd â ffurfio maes parcio ar Safle Cybi, Ysgol Uwchradd Caergybi
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais gan y Cyngor ydoedd ar dir yn ei feddiant. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2015, gohiriwyd ystyried y cais oherwydd camgymeriad yn y broses ymgynghori mewn perthynas ag Aelodau Lleol, camgymeriad sydd wedi cael ei gywiro erbyn hyn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle’r cais hyd yn ddiweddar, yn cael ei ddefnyddio fel rhan o gampws Ysgol Uwchradd Caergybi. Ers hynny, mae’n wag ac wedi mynd â’i ben iddo. Bydd y gwaith altro a gynigir fel rhan o’r datblygiad yn sicrhau cadwraeth yr adeilad rhestredig sydd yn bwysig i’r gymuned ac yn sicrhau ei fod yn parhau i gael ei ddefnyddio i bwrpas addysgol. Bydd ei leoliad yn ymyl yr Ysgol Uwchradd a chaeau chwaraeon Millbank yn ychwanegu at ganolbwynt addysgol yr ardal. Oherwydd bod safle’r ysgol wedi bod yn cael ei ddefnyddio i ddibenion addysgol ers ei adeiladu’n wreiddiol ac y bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio i’r perwyl hwnnw o ganlyniad i’r cynnig, roedd y Swyddog o’r farn, er y byddai’r ysgolion yn cael eu cyfuno ar un ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
10.1 25C250 – Tregarwen, Coedana, Llanerchymedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 25C250 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd a gosod system trin carthion yn cynnwys manylion llawn am fynediad i gerbydau ar dir ger Tregarwen, Coedana, Llannerch-y-medd
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Ynys Môn ond mae modd ei gefnogi dan ddarpariaethau’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor yr argymhellir yn awr y dylid gohirio’r cais oherwydd apêl cynllunio yn yr ardal sy’n codi materion y bydd swyddogion cynllunio yn dymuno eu hystyried cyn rhyddhau argymhelliad a phenderfyniad ar y mater.
Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid gohirio’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd. |
|
Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw geisiadau eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 647 KB 12.1 19C845H – Holyhead Hotspurs, Caergybi
12.2 19C587C – Parc Felin Dwr, Llaingoch, Caergybi
12.3 39C18Q/1/VAR – Plot 22,Ty Mawr, Porthaethwy
12.4 40C323B – Bryn Hyfryd, Bryn Refail Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 19C845H – Cais llawn i osod caban symudol ar y safle i’w ddefnyddio fel siop gwerthu nwyddau’r clwb pêl-droed yn Holyhead Hotspurs, Caergybi.
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir y mae wnelo’r cais ag ef.
Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 19C58C – Cais llawn i godi 1 bynglo a 2 annedd bâr ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi
Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle’r cais wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Caergybi fel y dynodwyd dan Bolisi 49 y Cynllun Lleol. Mae’r cae cyfan wedi cael ei neilltuo’n benodol ar gyfer tai yn y Cynllun Lleol. Mae egwyddor y datblygiad o’r herwydd eisoes wedi ei sefydlu o ran polisi. Ymhellach, mae caniatâd cynllunio eisoes ar y safle ar gyfer dwy annedd. Roedd y cynllun fel y cafodd ei gyflwyno’n wreiddiol dan y cais am 4 annedd fel dau bâr o unedau tai pâr, ac mae wedi cael ei ddiwygio yn dilyn trafodaethau i roddi sylw i bryderon yn ymwneud â mwynderau eiddo cyfagos. O ran dyluniad, mae’r cynnig yn adlewyrchu’r datblygiadau o’i gwmpas ac ystyrir nad yw’n anghydnaws gyda stadau preswyl yn y cyffiniau. Yr argymhelliad felly oedd un o ganiatáu.
Yn siarad fel Aelod Lleol, mynegodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones bryderon ynghylch effeithiau’r cynnig ar y cae chwarae a fydd yn cael ei gysgodi gan yr adeiladau deulawr arfaethedig ac a fydd hefyd yn tynnu oddi wrth ymdeimlad agored y cae – byddai 2 fyngalo yn well yn yr ardal ac yn cael llai o effaith ar yr ardal sydd union gerllaw. Gofynnodd i’r Pwyllgor wrthod y cais fel y cafodd ei gyflwyno a hynny o blaid diwygio’r cynllun i ganiatáu codi dau fyngalo a fyddai’n well o ystyried cyfyngiadau’r plot.
Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch maint y plot o gymharu â’r cae chwarae a’r eiddo cyfagos ynghyd â’r pellter rhwng y cae chwarae a’r datblygiad arfaethedig.
Dangoswyd lluniau i’r Pwyllgor o ardal y plot a sut y byddai’r cynnig yn edrych yn yr ardal. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y plot yr un fath o ran maint a’r unig newid yw bod y cais yn awr am fyngalo a phâr o ddwy uned deulawr bâr ac yn flaenorol roedd yn gais am ddau bâr o unedau deulawr pâr. Mae’r cyfan o’r tai yn yr ardal sydd union gyfagos yn edrych dros y cae chwarae. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oes byffer digonol rhwng y plot a’r cae chwarae, dywedodd y Swyddog fod pellter o rhwng 7 i 8m rhwng cefn yr eiddo â chefn y plot. Gan gymryd yr holl faterion i ystyriaeth, nid ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
13.1 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 13.1 46C427K/TR/EIA/ECON - Cais cynllunio amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw'n ôl ac eithrio dull mynediad, ar gyfer: Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys porthdai a bythynnod newydd; adeilad canolbwynt canolog newydd yn cynnwys derbynfa gyda chyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr isdrofannol dan do, neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai ac adwerthu; adeilad canolog newydd ar gyfer Marchnad Ffermwyr; adeilad hamdden a sba canolog newydd; canolfan chwaraeon dŵr a chaffi newydd ar safle'r hen Dŷ Cwch; dymchwel y Baddondy ac adeiladu bwyty ar ei safle; dymchwel adeiladau eraill gan gynnwys tair ysgubor amaethyddol a thair annedd; darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r Llwybr Arfordirol gan gynnwys: rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar o goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; creu trywydd cerfluniau a llwybrau pren newydd trwy goetir a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun.
Tir yn Cae Glas: Codi llety a chyfleusterau pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: hyd at 315 o borthdai i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer gweithwyr niwclear; adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; gwesty newydd; adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, adwerthu a bar; cae pêl-droed glaswellt newydd a chae criced; a Canolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: porthdai ac adeiladau cyfleuster wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o borthdai i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Chanolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i ymwelwyr.
Tir yn Kingsland: Codi datblygiad preswyl a ddyluniwyd i'w ddefnyddio yn y lle cyntaf fel llety i weithwyr adeiladu yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi yn cynnwys: hyd at 320 o dai newydd i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn ddatblygiad preswyl a fyddai'n cynnwys: hyd at 320 o anheddau mewn tirwedd o safon uchel a llecynnau agored.
Bydd datblygiadau atodol ar gyfer pob cam o'r gwaith datblygu, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer parcio, ardaloedd gwasanaeth, llecynnau agored a pheiriannau\gwaith. Manylion llawn ar gyfer newid defnydd yr adeiladau Stad ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13. |