Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 1af Gorffennaf, 2015 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb a ganlyn :-

 

Gwnaeth y Cynghorydd Jeff Evans ddatganiad o ddiddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn eitem 12.1 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arni.

 

Gwnaeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 6.3 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 458 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mehefin, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 3 Mehefin, 2015.

4.

Ymweliad Safleoedd

Ni chafwyd ymweliad safleoedd yn dilyn cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymweliadau safle yn dilyn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim siaradwyr cyhoeddus yn y cyfarfod hwn.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 435 KB

6.1  19C1145 – Byngalo Harbour View, Ffordd Turkey Shore, Caergybi

6.2  25C28C – Tafarn y Bull, Llanerchymedd

6.3  36C338 – Ysgol Henblas, Llangristiolus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 19C1145 Cais llawn i godi rhandy yn Harbour View Bungalow,     Ffordd Turkey Shore, Caergybi

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y

Swyddog ac am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2 25C28C Cais llawn i ddymchwel y tŷ tafarn presennol a’r adeiladau

cysylltiedig yn y Bull Inn, Llannerch-y-medd

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y

Swyddog ac am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.3 36C338 – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu

cadw’n ôl ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y

Swyddog ac am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 134 KB

7.1  22C224 – Tan y Ffordd Isaf, Llanddona

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 22C224 Cais amlinellol i godi annedd ynghyd â manylion llawn am y fynedfa ar dir ger Tan y Ffordd Isaf, Llanddona

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i aelod o staff yn Adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi cael ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd nodyn gweithredu Polisi 50. Mae’r argymhelliad bellach yn un i ganiatáu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod ef, fel Aelod Lleol, yn cefnogi’r cais a chynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K.P. Hughes.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. Victor Hughes y dylid gwrthod y cais gan fod y

Swyddogion wedi argymell gwrthod y cais yn y cyfarfod diwethaf. Dywedodd fod y Cyngor Cymuned Lleol a thrigolion lleol wedi gwrthwynebu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Ann Griffith y cynnig i wrthod y cais.

 

Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Jeff Evans, John Griffith, K.P. Hughes, Vaughan Hughes, W.T. Hughes a Nicola Roberts I gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Pleidleisiodd y Cynghorwyr Ann Griffith, T.V. Hughes a Raymond Jones i wrthod y cais. O’r herwydd, cafodd y bleidlais i ganiatáu’r cais ei chario.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau sy'n groes i Bolisi

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 186 KB

11.1  13C183B/RUR – Seren Las, Bodedern

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1 13C183B/RUR Cais llawn i godi annedd ar gyfer menter wledig, gosod gwaith trin carthion pecyn ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir ger Seren Las, Bodedern

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr

ymgeisydd yn perthyn i Swyddogperthnasolo’r Cyngor Sir. Mae’r Swyddog Monitro wedi sgriwtineiddio’r cais fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos M. Huws, Aelod Lleol, fod y cais i godi

annedd yn gysylltiedig â busnes menter wledig arddwriaethol. Lleolir y

busnes arfaethedig ar gyrion pentref Bodedern. Cefnogir y cais gan Gynllun Busnes ynghyd â dogfen ymateb a baratowyd, y ddau ohonynt, gan ymgynghorydd yr ymgeisydd. Dyfynnodd o bolisi NCT 6 a oedd yn cefnogi busnesau garddwriaethol o’r fath. Mae gan yr ymgeisydd ganiatâd ar gyfer, ac mae wedi prynu twnelau polythen sy’n arwydd o fwriad i ddatblygu’r fenter hon. Dywedodd y Cynghorydd Huws ymhellach fod 2 o fusnesau menter eraill ar yr Ynys wedi cael caniatâd yn ddiweddar.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw polisïau cynllunio yn

caniatáu datblygiad yng nghefn gwlad i gefnogi mentrau gwledig ond pan maent wedi cwrdd â phrofion caeth o ran polisi cynllunio. Rhaid darparu tystiolaeth glir hefyd bod y fenter wedi cael ei chynllunio ar sylfaen ariannol gref. Mae’r Cyngor wedi awgrymu i’r ymgeisydd y dylai ofyn am ganiatâd dros dro am dair blynedd am lety ar y safle er mwyn sicrhau presenoldeb ar y safle ac er mwyn sefydlu a fydd y busnes yn llwyddo. Cafwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd nad oedd yn dymuno ystyried lleoliad dros dro a’i bod yn dymuno i’r cais gael ei ystyried fel un am annedd barhaol.

 

Dywedodd y Cynghorydd K.P. Hughes ei bod yn bwysig cefnogi busnesau menter wledig ond heb wybod a fyddai’r busnes yn llwyddo ai peidio, roedd yn ei chael yn anodd cefnogi cais am annedd barhaol ar y safle. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd T.V. Hughes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod ef o’r farn bod yr ymgeisydd wedi dangos ymrwymiad o ran prynu twnelau polythen ar gyfer y fenter a’i fod o’r farn y byddai annedd dros dro am 3 blynedd yn wariant dianghenraid i’r ymgeisydd. Cynigiodd y Cynghorydd Evans y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn yr adroddiad ysgrifenedig.

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 314 KB

12.1  19LPA37B/CC – Safle Cybi, Ysgol Uwchradd Caergybi, Caergybi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 19LPA37B/CC Cais llawn i ddymchwel rhan o’r adeilad cyfredol, gwaith alro ac ehangu er mwyn creu Ysgol Gynradd newydd ynghyd â ffurfio maes parcio ar Safle Cybi, Ysgol Uwchradd Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sy’n cyflwyno’r cais ar gyfer datblygiad ar dir sydd yn ei feddiant.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymgynghorwyd gyda’r aelodau lleol ar gyfer Ward Caergybi yn hytrach na’r aelodau lleol ar gyfer Ward Ynys Gybi; o’r herwydd byddai’r cais yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais fel y gellir ymgynghori gydag aelodau lleol Ynys Gybi.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 261 KB

13.1  34LPA1015A/CC/SCR – Hyfforddiant Môn, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1 34LPA1015A/CC/SCR Barn sgrinio ar gyfer codi 5 o unedau busnes newydd yn hen safle Hyfforddiant Môn, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod barn sgrinio wedi dod i law ar gyfer codi 5 o unedau busnes newydd ar hen safle Hyfforddiant Môn, Llangefni. Penderfynwyd nad oedd angen Asesiad o Effaith Amgylcheddol ar gyfer y cynnig.

 

PENDERFYNYWD nodi’r adroddiad.

14.

Gorchymyn pdf eicon PDF 2 MB

14.1 Gorchymyn Rheoli Traffig Cyngor Sir Ynys Môn (Amryfal Leoliadau ym Mhorthaethwy) 2015

 

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Beiriannydd (Trafnidiaeth a Traffic) mewn perthynas â’r uchod.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

14.1 Gorchymyn Cyngor Sir Ynys Môn (Gorchymyn Rheoli Traffig) (Amryfal Leoliadau, Porthaethwy) 2015

 

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Beiriannydd (Traffig a Thrafnidiaeth) ar yr

uchod.

 

Dywedodd y Prif Beiriannydd (Traffig a Thrafnidiaeth) y paratowyd y

Gorchymyn arfaethedig mewn ymateb i gwynion a gafwyd dros nifer o

flynyddoedd ynghylch parcio a thagfeydd traffig ar yr A545 ym Mhorthaethwy.  Mae’r tagfeydd i’w priodoli’n bennaf i gyfuniad o lecynnau parcio y mae cyfyngiad aros arnynt a gweithgareddau llwytho a dadlwytho a pharcio yn anghyfreithlon mewn llecynnau lle mae cyfyngiadau ger y groesfan i gerddwyr.Cafwyd deiseb wedi ei llofnodi gan 350 o bobl yn cefnogi’r cynnig cyfredol. Cafwyd wyth o wrthwynebiadau a oedd yn dwyn sylw at effaith andwyol bosibly cynnig ar fasnach a busnesau lleol a hynny oherwydd y gostyngiad yn nifer y llecynnau parcio ar y stryd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig yn unol â’r Gorchymyn a’r

cynlluniau a hysbysebwyd.