Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 6ed Gorffennaf, 2016 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb a ganlyn :-

 

Gwnaeth y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 6.1 oherwydd y cyfeiriad a wneir at dyrbinau gwynt ym Maniffesto Plaid Cymru.

 

Gwnaeth y Cynghorydd W.T. Hughes ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Gwnaeth y Cynghorydd R.O. Jones ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno. Yn ogystal, gwnaeth y Cynghorydd Jones ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 13.1.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Lewis Davies ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.5 ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatganiad o ddiddordeb personol yng nghais 7.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 340 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Mehefin, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 1 Mehefin, 2016 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 25 KB

Cyflwyno cofnodion yr Ymweliadau Safle Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Mehefin, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion yr Ymweliadau Safleoedd Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Mehefin, 2016 fel rhai cywir.

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2, 8.1 a 12.1.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 216 KB

6.1  20C102L/EIA/RE – Fferm Wynt Rhyd y Groes,Rhosgoch

6.2  39C561/FR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 20C102L/EIA/RE – Cais llawn i godi 11 o dyrbinau gwynt gyda 6 thyrbin gwynt hyd at 900kw a hwb hyd at 55m o uchder, rotor o hyd at 52m ar ei draws a hyd at 79m i flaen y llafn,  3 thyrbin gwynt hyd at 900kw a hwb hyd at 45m o uchder, rotor  hyd at 52m ar ei draws a hyd at 70m i flaen y llafn, 2 dyrbin gwynt hyd at 900kw a hwb hyd at 45m o uchder, rotor o hyd at 52m ar ei draws  a hyd at 66m i flaen y llafn uwchben y ddaear ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan y ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i’r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrit (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt bresennol).

 

Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais hwn, aeth y Cynghorwyr W.T. Hughes a Richard O. Jones o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Dywedwyd bod yr ymweliad safle a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 16 Mawrth, 2016 wedi cael ei ohirio ar gais yr ymgeisydd gan fod trafodaethau mewn perthynas â’r cynllun yn parhau i fynd rhagddynt gyda Chyfoeth Naturiol Cymru gyda golwg ar gytuno ar fesurau posibl i liniaru’r effeithiau ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyfagos. Mae’r trafodaethau hyn bellach wedi digwydd ac mae cynllun diwygiedig wedi dod i law.

 

CYTUNWYD i ymweld â’r safle yn unol â’r argymhelliad gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2016.

 

6.2  30C561/FR/TR – Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd ag adeiladu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir ger ‘The Lodge’, Ffordd Caergybi, Porthaethwy.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhellion y Swyddog am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 789 KB

7.1  11C567A – 24 Awelfryn, Amlwch

7.2  30C302M – Gwesty Plas Glanrafon, Benllech

7.3  31C170D – Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1   11C567A – 11C567A - Cais llawn i godi dwy annedd bâr ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger 24 Awelfryn, Amlwch.

 

Adroddwyd ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mehefin, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. Ymwelwyd â’r safle ar 15 Mehefin, 2016.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl oherwydd methiant i wneud penderfyniad ar y cais hwn ac o’r herwydd, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn awr wedi ei wahardd rhag gwneud penderfyniad. Mae Aelodau wedi eu cyfyngu’n awr i wneud penderfyniad ynghylch a ydynt yn dymuno herio’r apêl ai peidio ac os ydynt, ar ba sail.

 

Dywedodd y Cynghorydd W.T. Hughes, un o’r Aelodau Lleol fod ganddo bryderon ynghylch materion parcio ar Stad Awelfryn. Roedd yn derbyn bod caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar gyfer un annedd ar y safle ond yn ei farn ef, byddai dwy annedd yn gyfystyr â gorddatblygu. Cyfeiriodd at lwybr cyhoeddus yn ymyl y safle. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio drwy ddweud y byddai gan y ddwy annedd bâr arfaethedig yr un ôl-troed carbon â’r un annedd a oedd wedi ei chymeradwyo o’r blaen.  Nododd ei bod yn amlwg nad oedd rhai o’r llecynnau parcio ar Stad Awelfryn yn cael eu defnyddio ac y bydd cyfleusterau parcio yn cael eu darparu ar safle’r cais hwn sy’n cydymffurfio gyda rheoliadau Priffyrdd.  Dywedodd ymhellach y cafwyd trafodaethau gyda’r Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus mewn perthynas â’r llwybr cyhoeddus sydd gerllaw’r safle. Mae’r Swyddog wedi gofyn am amod yn y caniatâd i’r perwyl na fydd y llwybr cyhoeddus yn cael ei gau i’r cyhoedd.

 

Roedd y Cynghorydd W.T. Hughes o’r farn y byddai’r safle’n cael ei orddatblygu ac roedd o hefyd yn bryderus ynghylch materion parcio yn enwedig y posibilrwydd y gallai’r ceir sydd wedi eu parcio greu rhwystr i’r gwasanaethau brys petai argyfwng yn digwydd ar stad Awelfryn. Cynigiodd bod y materion hyn yn rhaid y dylid eu codi yng ngwrandawiad yr apêl. Chafodd ei gynnig mo’i eilio. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid cofnodi’r bleidlais ar y mater hwn. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei gynnig am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Dyma’r bleidlais :-

 

Peidio â herio’r apêl ar sail argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo:-

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, T. Victor Hughes, Vaughan Hughes, Richard O. Jones, Nicola Roberts  - Cyfanswm 5

 

PENDERFYNWYD peidio â herio’r apêl ac i gefnogi argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r cais.

 

 

7.2   30C302M – Cais llawn i ddymchwel yr adeilad 

presennol ynghyd â chodi bloc o fflatiau (35 fflat) yn ei le yng Ngwesty Plas Glanrafon, Benllech.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatganiad o ddiddordeb personol yn y cais hwn. Yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol, dywedodd bod modd iddo siarad fel Aelod Lleol ar y cais hwn ond y byddai’n mynd allan o’r cyfarfod ar ôl y drafodaeth a chyn y bleidlais.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn gais mawr.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 528 KB

8.1  24C300A/ECON – Tyn Rhos Fawr, Dulas

8.2  34C326D/VAR/ECON – Yr Hen Safle Cross Keys, Sgwar Bulkeley, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.1   24C300A/ECON – Creu llynnoedd ar gyfer defnydd pysgota a hamdden, codi siop/cafFI ac adeilad storfa ategol ynghyd â ffyrdd mynediad a mannau parcio cysylltiedig a gosod tanc septig newydd ar dir yn ffurfio rhan o Tyn Rhos Fawr, Dulas.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd cyd-destun a maint y cais. Nodwyd y cafwyd ymweliad â’r safle ym mis Gorffennaf 2015.

 

Anerchodd Mr. James Dodd y Pwyllgor fel un a oedd yn cefnogi’r cais. Soniodd Mr. Dodd wrth y Pwyllgor am brofiad y Cwmni yr oedd yn ei gynrychioli. Mae’r cais yn un am gyfres o lynnoedd amwynder er mwyn gwella’r cyfleusterau i dwristiaid ar yr Ynys gyda gweithgareddau hwylio, pysgota, canŵio, caffi, storfa gychod a chyfleuster dysgu. Mae’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys 6 llyn. Yn llynnoedd 1,2 a 3, mae’r dŵr yn cael ei storio islaw lefel naturiol y ddaear ac mae pobl llyn yn dal llai na 10,000 o fetrau ciwbig. Mae llynnoedd 4 a 5 hefyd yn dal llai na 10,000 o fetrau ciwbig ond maent wedi eu lleoli o fewn y gwaith pridd ar gyfer strwythurau cynnal Llyn 6. Mae Llyn 6 yn gweithredu fel ‘corlan’ ac yn dal dros 100,000 o fetrau ciwbig. Caiff y broses o adeiladu llynnoedd a chronfeydd dŵr yng Nghymru ei rheoli gan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.  Diwygiwyd y Ddeddf hon yng Nghymru ar 1 Ebrill 2016 a bellach mae rheoliadau’r Ddeddf yn berthnasol i unrhyw gronfa ddŵr sydd â strwythur wedi ei godi ac a fedr ddal rhagor na 10,000 o fetrau ciwbig ac sydd uwchlaw lefel naturiol unrhyw ran o’r tir o’i chwmpas. Caiff y rheoliadau eu gweithredu, eu monitro a’u plismona gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r safonau diogelwch uchaf yn hollbwysig wrth ddylunio’r Llynnoedd a rhaid i Beiriannydd Panel eu harchwilio’n flynyddol a chyflwyno adroddiadau i Gyfoeth Naturiol Cymru.   

 

Holodd y Pwyllgor Mr Dodd am y llifogydd hanesyddol ar yr A5025 gerllaw’r safle. Mewn ymateb, dywedodd Mr Dodd fod y mater, yn dilyn ymgynghori gyda’r Swyddogion Priffyrdd, wedi cael ei liniaru drwy adeiladu ceuffos ym mhwynt isaf y briffordd. Bydd adeiladu’r llynnoedd yn arafu llif y dŵr i’r afon ac yn lliniaru’r broblem llifogydd ar yr A5025.  Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau pellach ynghylch cadw’r enwau Cymraeg ar y llynnoedd arfaethedig. Roedd Mr Dodd yn cytuno fod angen diogelu’r enwau Cymraeg. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Swyddog Asesu Effaith ar yr Iaith Gymraeg y Cyngor wedi derbyn Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod y Cyngor, ers ysgrifennu’r adroddiad, wedi llunio barn sgrinio sy’n cadarnhau nad oes angen asesiad amgylcheddol llawn gyda’r cais. Dywedodd ymhellach y bydd angen gosod amod cynllunio ychwanegol ar unrhyw gais o ran oriau agor y cyfleuster, sef 8 a.m., i

8.00 p.m.  Dywedodd y Swyddog y bydd gwaith tirlunio sylweddol yn cael ei wneud o gwmpas y safle ac y bydd mynedfa newydd i’r briffordd yn cael ei hadeiladu. Bydd y gwaith o ddatblygu’r safle  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un cais ei ystyried yn y cyfarfod hwn.

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un cais ei ystyried yn y cyfarfod hwn.

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 158 KB

34C313A – Croeso, Rhosmeirch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.1  34C313A – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ehangu yn Croeso, Rhosmeirch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn Swyddog perthnasol dan baragraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.3 y Cyfansoddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  15C218 – Royal Oak, Malltraeth

12.2  19C1174/FR – Parc Menter, Holyhead

12.3  28C257A – Bryn Maelog, Llanfaelog

12.4  39LPA1026/TPO/CC – Hen Gronfa Ddŵr, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

12.5  41C8G/DEL – Garnedd Ddu, Star

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1    15C218 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y tŷ tafarn i ddwy uned breswyl yn y Royal Oak, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor er mwyn siarad fel Aelod Lleol ar y cais. Aeth y Cynghorydd R. O. Jones, sef yr Is-gadeirydd i’r Gadair yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais.

 

Dywedodd Mr. David Vaughan, siaradwr cyhoeddus, ei fod yn siarad ar ran y rhan fwyaf o drigolion pentref Malltraeth wrth wrthwynebu’r cais hwn. Dywedodd Mr Vaughan nad oedd y Royal Oak wedi cau oherwydd problemau ariannol ac nad oedd yn gwneud synnwyr i gael gwared ag eiddo hyfyw a fyddai’n golygu colli ased cymunedol hanfodol. Mae’r Royal Oak wedi bod yn y pentref am nifer o flynyddoedd gyda chaniatâd i’r adeilad gael ei ddefnyddio fel tŷ tafarn. Mae angen wedi bodoli erioed am gyfleuster o’r fath ac mae’r angen yn parhau oherwydd mae’n amwynder hanfodol ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr i ardal Malltraeth. Mae’r Royal Oak hefyd ar y llwybr arfordirol a ddefnyddir gan bobl i wylio adar ac i gerdded. Mae ymwelwyr wedi manteisio ar gyfleusterau’r Royal Oak dros y blynyddoedd fel tŷ tafarn mewn pentref.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor i Mr. Vaughan pam nad oedd diddordeb ymysg y pentrefwyr i redeg y tŷ tafarn ym Malltraeth. Hefyd, dywedwyd bod yna dŷ tafarn arall yn y pentref. Dywedodd Mr Vaughan bod diddordeb yn lleol i redeg y Royal Oak ond eu bod wedi colli allan yn yr ocsiwn.  Dywedodd ymhellach fod si ar led bod y tŷ tafarn arall yn y pentref hefyd am gau.

 

Siaradodd Mr. Dafydd Jones, Siaradwyr Cyhoeddus, o blaid y cynnig a dywedodd bod yr ymgeisydd wedi prynu’r adeilad mewn ocsiwn ym mis Rhagfyr 2015 yn dilyn cau’r Royal Oak ym mis Awst 2014 oherwydd diffyg busnes yno.  Yn ôl Polisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn, gellir addasu cyfleusterau o’r fath yn anheddau preswyl ar yr amod y bodlonir y polisïau. Bydd y cynnig yn cynnwys dymchwel yr estyniadau to fflat a chodi estyniad llai gyda tho llechi.  Dywedodd ymhellach y byddai newid defnydd y tŷ tafarn yn anheddau preswyl yn cael effaith gadarnhaol ar eiddo cyfagos gyda llai o sŵn, gwell cyfleusterau parcio ar gyfer trigolion lleol a gwneud defnydd o adeilad sydd wedi bod yn wag ers 2014. Dywedodd Mr Jones hefyd bod yna dŷ tafarn arall ym mhentref Malltraeth. 

 

Holodd y Pwyllgor Mr Jones am y datganiad a wnaed gan y gwrthwynebwyr nad oedd unrhyw resymau busnes pam fod y Royal Oak wedi cau. Dywedodd Mr Jones bod y perchennog wedi cael ei wneud yn fethdalwr oherwydd diffyg busnes yn y Royal Oak ac mai dyna oedd y rheswm dros werthu’r adeilad mewn ocsiwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith, Aelod Lleol, ei bod yn siarad ar ran rhai o drigolion pentref Malltraeth a hefyd ar ran Cyngor Cymuned Bodorgan. Dywedodd ei bod wedi gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 160 KB

13.1  11LPA101M/1/LB/CC – Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  11LPA101M/1/LB/CC – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd y cais yn cael ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer penderfyniad yn unol â Rheoliad 13 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.