Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - Dydd Mercher, 7fed Medi, 2016 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau canlynol o ddiddordeb : -

 

Datganodd y Cynghorydd W T Hughes ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1.

 

Datganodd y Cynghorydd R O Jones ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1.

 

Datganodd y Cynghorydd T V Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 6.2 ond nododd ei fod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol a chyngor gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â'r cais ac y caniateir iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais a phleidleisio arno.

 

Datganodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â cheisiadau 6.2 a 7.3.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 111 KB

Cyflwyno, i’w cadranhau, cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 13 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y Ymweliadau Safle a gafwyd ar 17 Awst, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Awst 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw siaradwyr cyhoeddus.

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 398 KB

6.1  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

6.2  36C338A – Henblas School, Llangristiolus

6.3  39C561/FR – The Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 20C310B / EIA / RE - Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, isadeiledd a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

(Ar ôl datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd W T Hughes a'r Cynghorydd R O Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad ar y cais).

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.2 36C338A - Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

(Ar ôl datgan diddordeb yn y cais, gadawodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

6.3 39C561 / FR / TR - Cais llawn i godi Canolfan Zorb ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir yn The Lodge, Ffordd Caergybi, Caergybi

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.

Applications Arising pdf eicon PDF 672 KB

7.1  10C130 – Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw

7.2  19C1174/FR – Enterprise Park, Caergybi

7.3  25C255A – Tan Rallt, Carmel

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1 10C130 - Cais llawn i osod mesurydd parcio ym Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cais hwn er mwyn rhoi sylw i'r mater fel Aelod Lleol.  Cadeiriwyd yr eitem gan yr Is-Gadeirydd.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol oherwydd teimladau cryf o fewn y gymuned leol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod llythyr ychwanegol yn cefnogi’r cais hwn wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.  Nododd bod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2016, wedi penderfynu gwrthod y cais, a hynny’n  groes i argymhelliad y Swyddog.  Y rheswm dros wrthod oedd y pryderon am yr effaith negyddol ar bobl leol ac ar dwristiaeth yn Ynys Môn. Pwysleisiodd mai cais yw hwn i osod mesurydd parcio yn y maes parcio yn hytrach na phenderfynu ar yr  egwyddor o ddefnyddio'r maes parcio neu’r egwyddor o godi tâl am barcio.  Ystyrir y byddai gosod mesurydd parcio yn cael effaith niwtral ar y dirwedd gyfagos ac y byddai’r mesurydd wedi ei sgrinio'n ddigonol. O’r herwydd, roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ann Griffith fel Aelod Lleol gan ddweud ei bod yn deall  barn y Swyddogion Cynllunio a'r angen am resymau cynllunio digonol mewn perthynas â'r cais.  Fodd bynnag, dywedodd fod codi tâl ar bobl leol i barcio ar y safle yn annerbyniol.  Anogodd yr ymgeisydd i ystyried trefniadau arbennig ar gyfer pobl leol fel y rheini sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar Draeth Llanddwyn.  Dywedodd y Cynghorydd Griffith mai ei phryderon hi oedd y materion parcio ar y briffordd a'r materion posib o ran diogelwch y ffyrdd dros fisoedd yr haf.

 

Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers fel Aelod Lleol a dywedodd mai cais i leolimesurydd yn unig yw hwn. Nododd bod yr ymgeisydd yn dymuno gwella’r profiad i ymwelwyr â’r ardal a’i fod yn derbyn argymhelliad y Swyddog.

 

Dywedodd y Cynghorydd R A Dew, sef Aelod Lleol ar gyfer ardal etholiadol gyfagos, nad oedd wedi newid ei farn na’i safbwynt mewn perthynas â'r cais hwn ac roedd yn cwestiynu addasrwydd lleoli mesuryddion parcio o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol; nid oes cyfleusterau ar gael yn y maes parcio. Mae pobl leol ac ymwelwyr  wedi mwynhau gweithgareddau hamdden yn yr ardal ers nifer o flynyddoedd ac mae pobl sy'n ymweld â'r Heneb yn yr ardal wedi bod yn parcio yn y maes parcio.   Mae Cyngor Cymuned Llanfaelog yn gwrthwynebu'r cais hwn.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Dew at y problemau parcio ar y briffordd leol ger y safle pan fydd y maes parcio'n llawn; 'roedd o'r farn y gallai'r rhain waethygu os cymeradwyir codir tâl am barcio.  Mae'r A4080 yn ffordd brysur a hon yw’r brif lôn i Drac Rasio Ty Croes.  Holodd pam nad yw'r ymgeisydd yn ystyried caniatáu parcio am ddim ar y safle ar gyfer trigolion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dai Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau am dai fforddiadwy yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 332 KB

10.1  24C261B – Dafarn Drip, Penysarn

10.2  45C467 – Penparc, Niwbwrch

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1 24C261B - Cais llawn i godi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Dafarn Drip, Penysarn

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn un sy’n tynnu’n groes i Gynllun Lleol mabwysiedig Ynys Môn ond y gellir ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 45C467 - Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi'u cadw’n ôl ar gyfer codi annedd ar dir ger Penparc, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn un sy’n tynnu’n groes i Gynllun Lleol mabwysiedig Ynys Môn ond y gellir ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ardal wedi ei dynodi’n Bentrefan a Chlwstwr Cefn Gwlad o dan bolisi HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd a gellir cefnogi’r cais fel safle mewnlenwi sydd yn union gyfagos i ran ddatblygedig y pentrefan gwledig.

 

Mynegodd y Cynghorydd T V Hughes ei bryderon bod caniatáu anheddau dros y blynyddoedd yn yr  ardal hon - sydd wedi ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol - wedi troi ardal Penlon i fod yn bentref ynddo’i hun a bod hynny wedi newid cymeriad yr ardal.   Cyfeiriodd at faterion llifogydd yng nghyffiniau'r cais.  ‘Roedd y Cynghorydd Hughes yn gwrthwynebu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig i ganiatáu.   

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r  amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid ystyriwyd unrhyw gynigion o’r fath yn y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 354 KB

12.1  17C226G – Ger y Nant, Llandegfan

12.2 44C102A – Hazelbank, Rhosybol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1 17C226G - Cais llawn i wneud gwaith altro ac estyniadau yn Ger y Nant, Llandegfan

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.

 

Fel Aelod Lleol, gofynnodd y Cynghorydd Lewis Davies am ymweliad â’r safle er mwyn i'r Aelodau gael gweld faint y gwaith altro a’r estyniadau arfaethedig ac effaith hynny ar fwynderau eiddo cyfagos.  Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2 44C102A - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir y tu cefn i Hazelbank, Rhosybol

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Fel Aelod Lleol, gofynnodd y Cynghorydd W T Hughes am ymweliad â’r safle er mwyn i'r Aelodau gael gweld cyd-destun safle'r cais o’i gymharu ag eiddo cyfagos. Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 251 KB

13.1  39LPA1014A/CC – Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  39LPA1014A/CC – Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod cais wedi dod i law i ddymchwel yr adeiladau presennol ond nododd nad oedd angen caniatâd cynllunio i wneud hynny.

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth.