Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb To receive any declaration of interest by any Member or Officer in respect of any item of business. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd T. Victor Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 6.2 a dywedodd ei fod wedi cael cyngor gan Adran Gyfreithiol yr Awdurdod a Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ei bod yn briodol iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais hwn.
Datganodd y Cynghorydd T. Victor Hughes ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 12.1.
Datganodd y Cynghorydd W T Hughes ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1.
Datganodd y Cynghorydd R O Jones ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 6.1.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, er nad yn aelod o'r Pwyllgor, y byddai'n datgan diddordeb ac yn gadael y Siambr mewn perthynas â chais 11.1.
Datganodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddiddordeb yng nghyswllt cais 6.2. a dywedodd y byddai'n gadael y Siambr ar ei gyfer.
|
|
Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 19 Hydref, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 19 Hydref, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddodd y Cadeirydd fod siaradwyr cyhoeddus wedi eu cofrestru i annerch y Pwyllgor mewn perthynas â cheisiadau 7.2, 7.3, 12.2 and 12.6. |
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 300 KB 6.1 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch 6.2 36C338A – Henblas School, Llangristiolus
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 20C310B / EIA / RE - Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, seilwaith a gwaith ategol cysylltiedig ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
(Wedi iddynt ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn, gadawodd y Cynghorwyr W T Hughes ac R O Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch).
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.2 36C338A - Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus
(Wedi iddo ddatgan diddordeb yn y cais, gadawodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno).
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
|
|
7.1 15C215C – Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr 7.2 44C102A – Hazelbank, Rhosybol 7.3 45C84M/ENF – Pendref, Penlon, Niwbwrch Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 15C215C - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr
(Oherwydd iddo ddatgan diddordeb yn y cais, nid oedd y Cynghorydd T. Victor Hughes yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r penderfyniad arno).
Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cais hwn er mwyn rhoi sylw i’r mater fel Aelod Lleol. Cadeiriwyd y drafodaeth ar yr eitem gan yr Is-Gadeirydd.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2016 penderfynodd y Pwyllgor y dylid ymweld â’r safle a gwnaed hynny’n ddiweddarach ar 19 Hydref, 2016.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith, sef Aelod Lleol, nad oes unrhyw wrthwynebiadau i'r cais yn lleol. Nododd fod safle'r cais wedi ei leoli o fewn cyrion pentref Llangadwaladr. Mae Llangadwaladr yn anheddiad rhestredig o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn ac o dan HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Credai na fyddai caniatáu'r cais hwn yn cael effaith andwyol ar y dirwedd a’i fod yn gais tirlenwi addas. Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffith at y cyfeiriad yn adroddiad y Swyddog at effaith datblygiad o'r fath ar yr AHNE; ‘roedd hi oedd o'r farn na fyddai annedd yn y lleoliad hwn yn cael effaith negyddol ar yr AHNE.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, sef Aelod Lleol, fod yr ymgeisydd yn gofalu am ei fam oedrannus sydd yn byw yn Tyddyn Bwrtais. Mae'r annedd wedi bod yn y teulu ers dros ganrif. Ar hyn o bryd mae'r ymgeisydd yn byw mewn carafán ar y safle. Dywedodd y Cynghorydd Rogers y gellid cynnwys amod gydag unrhyw ganiatâd er mwyn cyfyngu unrhyw ddatblygiad pellach ar y tir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw'r cynnig yn cael ei ystyried yn gais mewnlenwi derbyniol oherwydd y pellter rhwng yr annedd arfaethedig a'r rhan o’r pentrefan sydd wedi ei datblygu ac y byddai'n gadael bwlch rhwng y pentref a'r annedd. Mae safle'r cais o fewn yr AHNE. Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais.
Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes fod Llangadwaladr yn anheddiad rhestredig lle gellir caniatáu plotiau unigol; mae patrwm o anheddau o'r fath yn bodoli eisoes ym mhentref Llangadwaladr. Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies y gallai datblygiad o'r fath gael effaith andwyol ar y dirwedd a'r AHNE. Cynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.
Yn dilyn y bleidlais PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyriwyd bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.
(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu'r cais).
7.2 44C102A - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau sy'n tynnu'n groes i bolisi Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datbygu gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 116 KB 11.1 45C468 – Bodrida Bach, Brynsiencyn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 45C468 - Cais llawn i droi adeilad allanol yn annedd, creu mynedfa i gerbydau, gosod gwaith trin ynghyd â chodi strwythur lliniaru ecolegol yn Bodrida Bach, Brynsiencyn
(Er nad yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, datganodd y Cynghorydd Peter Rogers ddiddordeb sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio).
Cyflynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Lleol. ‘Roedd y cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Cafwyd diweddariad gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio i’r adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor gan nodi bod Adroddiad Strwythurol bellach wedi dod i law gan yr ymgeisydd. Mae’r Adroddiad Strwythurol yn herio dehongliad y Swyddog o’r gwaith adeiladu newydd sydd ei angen. Dywedodd ymhellach bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi cyflwyno argymhellion y dylid gosod amod gyda’r cais bod raid creu man pasio ar y ffordd i safle'r cais. Gofynnodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio am ganiatâd y Pwyllgor i ohirio'r cais er mwyn mynd i'r afael â'r materion a godwyd fel y nodir uchod.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais er mwyn caniatáu rhagor o amser i swyddogion ystyried cynnwys yr arolwg strwythurol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd a hefyd i drafod y man pasio ar y briffordd y gofynnwyd amdano gan yr Awdurdod Priffyrdd.
|
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 855 KB 12.1 15C30H/FR – Fferm Pen y Bont Malltraeth 12.2 20C304A – Bron Wendon, Cemaes 12.3 23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch 12.4 23C280G – Plas Llanfihangel, Capel Coch 12.5 25C242 – Tyn Cae, Coedana, Llannerchymedd 12.6 46C572 – Glan Traeth, Trearddur Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 15C30H / FR - Cais llawn i newid defnydd a wneir o dir amaethyddol i ymestyn y parc carafanau cyfredol i leoli 14 o garafanau teithiol ychwanegol, ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farming Touring and Camping, Malltraeth
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, y Cynghorydd Peter Rogers.
Cynigiodd y Cynghorydd T V Hughes y dylid ymweld â safle’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ann Griffith fel Aelod Lleol. Y rheswm a roddwyd dros ymweld â'r safle oedd i gael golwg ar y safle i garafannau teithiol a gwersylla sydd ym Mhen y Bont ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD ymweld â'r safle i edrych ar safle'r cais.
12.2 20C304A - Cais llawn i newid defnydd o ran o annedd i Ddosbarth A3 (bwyd poeth i fynd allan) ynghyd â chreu mynedfa i gerddwyr yn Bron Wendon, Cemaes
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.
Dywedodd Mrs Anna Fern, sef siaradwr cyhoeddus a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig, ei bod yn cynrychioli trigolion Penrhyn,Cemaes. Dywedodd fod y trigolion wedi mynegi pryderon o ran parcio a’r traffig ychwanegol yn sgil danfoniadau a chasglu gwastraff. Nid oes troedffordd ger y safle. Mae Penrhyn, Cemaes yn ardal o harddwch eithriadol ac yn agos i'r llwybr arfordirol.
Gofynnodd y Pwyllgor i Mrs. Fern a oes unrhyw eiddo busnes gwag ym mhentref Cemaes ar gyfer darparu cyfleuster o'r fath. Dywedodd Mrs Fern bod yna siopau gwag ar y stryd fawr yng Nghemaes a chredai fod y rhent a godir amdanynt yn rhesymol. Gofynnodd y Pwyllgor i Mrs. Fern hefyd a yw o'r farn bod angen cyfleuster o'r fath yng Nghemaes. Dywedodd Mrs Fern ei bod ar ddeall mai nod yr ymgeisydd yw denu busnes gan bobl sy'n cerdded ar hyd y llwybr arfordirol.
Siaradodd Mrs. Marcie Layton, sef yr ymgeisydd, o blaid y cynnig. Dywedodd Mrs. Layton mai ei nod yw darparu siop prydau iach i bobl ym mhentref Cemaes. Dywedodd fod y gyfradd gordewdra yng Nghymru yn uchel ac roedd yn ystyried y gallai gyfrannu o ran helpu i gynnig opsiynau bwyd iach i bobl yn hytrach na'r gwasanaethau tecawê arferol oherwydd nad oedd o'r farn bod y stryd fawr yng Nghemaes angen opsiwn arferol arall o’r fath. Dywedodd Mrs Layton ei bod yn gobeithio y byddai’n well gan bobl sy'n cerdded ar y llwybr arfordirol a phobl yn y gymuned gael opsiwn bwyd iach ger yr arfordir. Dywedodd ei bod yn cael ei mentora a’i chefnogi gan Prime Cymru i allu cynnig dewisiadau bwyd iach i bobl. Gallai menter o’r fath arwain at gyfleoedd cyflogaeth i bobl leol.
Holodd y Pwyllgor Mrs. Layton pam nad yw'n dymuno rhentu siop ar y stryd fawr yng Nghemaes. Holodd y Pwyllgor hefyd a fyddai modd i bobl allu defnyddio eu ceir i gyrraedd y siop arfaethedig oherwydd culni'r ffordd yn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |