Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 411 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod rhithiol blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf, 2021 yn gywir.

 

4.

Ymweliadau Safle pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gynhaliwyd ar 18 Awst, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gynhaliwyd ar 18 Awst, 2021 yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 7.4.

 

 

6.

Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.1  FPL/2019/251/EIA - Cais llawn ar gyfer codi uned ddofednod maes (cynhyrchu wyau) ynghyd â storfa dail, biniau bwyd a gwaith cysylltiedig yng Nghae Mawr, Llannerchymedd.

 

Gan fod Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd ynghlwm â’r cais, fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a chafodd hefyd ei alw i mewn i'r Pwyllgor gan Aelod Lleol. Yn y cyfarfod ar 28 Gorffennaf, 2021 penderfynwyd bod angen cynnal ymweliad safle. Cynhaliwyd ymweliad safle rhithiol ar 18 Awst, 2021.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Siaradodd Ms Wendy Pugh, yn erbyn y cais a dywedodd bod y Cyngor dan bwysau i gymeradwyo’r cais gan y byddai asiant yr ymgeisydd yn apelio pe byddai’r cais yn cael ei wrthod ac y byddai’n hawlio’r costau yn ôl gan yr Awdurdod. Dywedodd bod nifer o unedau dofednod ym Mhowys sydd yn debyg i’r uned yn y cais cynllunio hwn a'u bod yn niweidiol i’r amgylchedd ac yn achosi llygredd aer a dŵr.  Bu i Ms Pugh erfyn ar y Cyngor i wrthod y cais oherwydd y bygythiad i aelwydydd cyfagos mewn perthynas â ffliw adar a llygredd dŵr. Dywedodd y gallai ffermydd eraill ar yr Ynys hefyd benderfynu trosi’n ffermydd dofednod; ac y byddai’r Ynys yn wynebu sefyllfa debyg i’r un ym Mhowys lle ceir unedau dofednod ar raddfa fawr ar hyd a lled y sir.  Dywedodd  Ms Pugh ei bod hi’n bwysig bod Ynys Môn yn cadw’i enw da mewn perthynas â chynhyrchu bwyd o ansawdd ac na fydd y cais yn creu unrhyw swyddi yn yr ardal fel y nodwyd mewn llythyr gan Gyfoeth Naturiol Cymru i’r Cyngor yn 2019 lle cyfeiriwyd at y ffaith y byddai’r adeilad llawr caled yn fferm Cae Mawr yn galluogi i staff gerdded o’r fferm i reoli’r busnes dofednod.  Aeth ymlaen i ddweud na fu llawer o ymgynghori ag aelwydydd cyfagos mewn perthynas â’r datblygiad hwn ac y deallir y byddai newidiadau’n cael eu gwneud i fynedfa’r safle.  Roedd gan  Ms Pugh bryderon ynghylch sut y byddai’r gymuned gyfagos yn mynd ati i gwyno am unrhyw broblemau o ganlyniad i ddatblygiad o’r fath yng Nghae Mawr gan y bydd y cael effaith andwyol ar yr ardal.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith am farn y gwrthwynebwr ynglŷn â maint y sied dofednod yng Nghae Mawr. Ymatebodd Ms Pugh bod hon yn sied ar raddfa fawr mewn ardal cefn gwlad ac y byddai modd ei gweld o’r ffordd ac o eiddo cyfagos.  Dywedodd bod pryderon dybryd yn yr ardal o ran yr arogleuon a fyddai’n dod o’r safle a dywedodd ei bod wedi cysylltu â phobl o bob cwr o Gymru sydd yn byw ger datblygiadau o’r fath ac sydd wedi sôn am yr effaith y mae ffermydd dofednod o’r fath yn ei gael ar yr amgylchedd. 

 

Siaradodd Ms Gail Jenkins o blaid y cais. Dywedodd bod yr ymgeiswyr yn dymuno ehangu eu menter busnes yng Nghae Mawr a’u bod yn bwriadu cynhyrchu bwyd lleol o safon ac amddiffyn yr amgylchedd a bywyd gwyllt a pharchu’r gymuned leol ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 431 KB

8.1 FPL/2021/100 – Parc Diwydiannol Tregarnedd, Llangefni

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKACzUAP/fpl2021100?language=cy

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.1  FPL/2021/100 - Cais llawn ar gyfer codi 6 uned fusnes (Dosbarth Defnydd B1, B2 a B8) ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar Blot 1, Parc Diwydiannol Tregarnedd, Llangefni

 

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sydd wedi cyflwyno’r cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â’r polisïau cynllunio.  Fel y nodwyd yn yr adroddiad mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi pryder mewn perthynas ag effaith y datblygiad ar rywogaethau gwarchodedig ond mae modd eu goresgyn drwy osod amodau addas.

 

Cynigodd y Cynghorydd Eric W Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd  T Ll Hughes MBE.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 678 KB

10.1 VAR/2021/48 – Brynteg, Llansadwrn

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKdzkUAD/var202148?language=cy

 

10.2 VAR/2021/51 – Bodafon, Llangristiolus

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKoJXUA1/var202151?language=cy

 

10.3 VAR/2021/22 - Cleifiog Fawr, Ffordd Gorad,  Y Fali

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000I22WYUAZ/var202122?language=cy

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

10.1  VAR/2021/48 - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (06) (Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2020/76 (Codi annedd) er mwyn diwygio'r dyluniad ar dir ger Brynteg, Llansadwrn

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno o dan Adran 73A i ddiwygio amod (06) o ganiatâd cynllunio VAR/2020/76 i ddiwygio dyluniad yr annedd ym Mrynteg, Llansadwrn.  Mae’r cais yn groes i Bolisi TAI 6 yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fodd bynnag mae sefyllfa wrth gefn yn bodoli gan fod y safle'n elwa o ganiatâd cynllunio blaenorol y gellir ei weithredu.

 

Cynigodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

10.2  VAR/2021/51 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (13) (cynlluniau wedi eu cymeradwyo) o ganiatâd cynllunio rhif 36C328B (codi annedd a garej) er mwyn diwygio cynlluniau'r garej ar dir ger Bodafon, Llangristiolus

       

         Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno o dan Adran 73A i amrywio amod (06) o ganiatâd cynllunio 36C328B i ddiwygio dyluniad y garej arfaethedig, i’w gynyddu rhyw fymryn i gynnwys ail lawr ar gyfer swyddfa a stiwdio/campfa.  Nododd bod y caniatâd cynllunio blaenorol wedi’i weithredu’n gyfreithiol a chan bod sefyllfa ‘wrth gefn’ yn bodoli o hyd ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol ac yn gwella’r cynlluniau a gafodd eu cymeradwyo’n flaenorol. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Eric W Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes. 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

 

10.3  VAR/2021/22 - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) (strwythurau amddiffyn rhag llifogydd) o ganiatâd cynllunio rhif 49C289K/VAR yn Cleifiog Fawr, Lôn Gorad, Y Fali

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Gorfodi Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno o dan Adran 73 i ddileu amod (02) (strwythurau amddiffyn rhag llifogydd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod NO49C289K/VAR.  Nododd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â’r Asesiad Canlyniad Llifogydd atodol sy’n ddiwygiad o’r adroddiad a gwblhawyd yn 2016.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â gostwng lefel y llawr gorffenedig 3.82m uwchlaw datwm  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1 FPL/2021/144 - Llys Y Gwynt, Llanfawr Close, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKiIlUAL/fpl2021144?language=cy

 

12.2 FPL/2021/145 – Rhosydd, Brynteg

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKjboUAD/fpl2021145?language=cy

 

12.3 HHP/2021/183 – Dirion Dir, Llangefni

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKYIXUA5/hhp2021183?language=cy

 

12.4 HHP/2021/157 – The Old Smithy, Marianglas

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKIeLUAX/hhp2021157?language=cy

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

12.1  FPL/2021/144 - Cais llawn ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau er mwyn creu unedau ychwanegol yn Llys y Gwynt, Llanfawr Close, Caergybi

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Glyn Haynes bod ymweliad safle rhithiol yn cael ei gynnal er mwyn i’r Pwyllgor weld y safle yn ei gyd-destun. Eiliwyd y cynnig am ymweliad safle gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais gan Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

12.2  FPL/2021/145 - Cais llawn ar gyfer gosod 2 gwt bugail yn Rhosydd, Brynteg

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Gofynnodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Margaret M Roberts, am ymweliad safle rhithiol er mwyn i’r Pwyllgor weld y safle yn ei gyd-destun. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod ymweliad safle rhithiol yn cael ei gynnal ac fe eiliwyd y cynnig am ymweliad safle gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais gan Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

12.3  HHP/2021/183 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu ynghyd â chodi ystafell ardd yn Dirion Deg, Llangefni

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Gofynnodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Dylan Rees, am ymweliad safle rhithiol er mwyn i’r Pwyllgor weld y safle yn ei gyd-destun. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod ymweliad safle rhithiol yn cael ei gynnal ac fe eiliwyd y cynnig am ymweliad safle gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais gan Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

 

 

12.4  HHP/2021/157 - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn The Old Smithy, Marianglas

 

        Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Gofynnodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Margaret M Roberts, am ymweliad safle rhithiol er mwyn i’r Pwyllgor weld y safle yn ei gyd-destun. 

 

Cynigodd y Cynghorydd John Griffith bod ymweliad safle rhithiol yn cael ei gynnal ac fe eiliwyd y cynnig am ymweliad safle gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle rhithiol yn unol â chais gan Aelod Lleol ac am y rhesymau a nodwyd.

 

 

13.

Materion Eraill pdf eicon PDF 196 KB

13.1 FPL/2021/198 – Bryn Gollen Newydd, Llanerchymedd

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OLKeRUAX/fpl2021198?language=cy

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.1  FPL/2021/198 - Cais llawn ar gyfer cadw’r strwythur presennol a pharhau â'r gwaith o godi uned gwyliau ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ym Mryn Gollen Newydd, Llannerchymedd

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais yn ddyblygiad o gais a wrthodwyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 7 Gorffennaf, 2021 ar gyfer cadw’r strwythur presennol a godwyd heb ganiatâd cynllunio a pharhau â’r gwaith i godi uned wyliau newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig. Nid oes unrhyw ystyriaethau cynllunio newydd o bwys yn codi nas ymdriniwyd â hwy wrth wrthod caniatáu’r cais. Aeth ymlaen i ddweud bod Adran 70B(4)(b) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn rhoi’r hawl i awdurdodau cynllunio wrthod penderfynu ar geisiadau y maent wedi’u gwrthod os nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chais tebyg o dan Adran 78 wedi dod i ben; mae’r broses apelio yn ddilys o hyd ac felly fe all yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad. Argymhellir bod yr Awdurdod Cynllunio yn gwrthod penderfynu ar y cais sydd gerbron y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod o'r farn, yn dilyn derbyn gwybodaeth gan arbenigwyr cynllunio, bod gan yr Awdurdod Cynllunio ddyletswydd i benderfynu ar geisiadau. Nododd y gwnaed penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau tebyg yn y gorffennol a bod y rheiny wedi arwain at apêl megis y cais yng Nghae’r Ddol, Bodorgan lle barnwyd nad oedd y cais mewn ardal gynaliadwy yn ôl yr awdurdod cynllunio ac y byddai’n ddibynnol ar deithiau car preifat ond roedd yr Arolygydd Cynllunio’n anghytuno. Rhoddodd y Cynghorydd Hughes enghreifftiau o geisiadau tebyg ar gyfer unedau gwyliau mewn cefn gwlad agored. Nododd nad oedd unrhyw wrthwynebiad i’r cais yn lleol na chan y Cyngor Cymuned ac roedd o’r farn ei fod mewn ardal gynaliadwy. Cynigodd y Cynghorydd Hughes bod y cais yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd a’i asiant siarad ar y cais. Eiliwyd y cynnig i ohirio’r cais gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Cynigodd y Cynghorydd Dafydd Roberts gefnogi argymhelliad y Swyddog i wrthod penderfynu ar y cais. Ni chafwyd eilydd i’r cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD gwrthod yr argymhelliad bod swyddogion yn gwrthod penderfynu ar y cais.

 

(Yn unol â’r penderfyniad, bydd adroddiad ar y cais gwreiddiol ynghyd ag argymhellion y swyddogion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.)