Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i Ffrydio'n Fyw (Ar hyn o bryd, nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 515 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gafwyd ar 1 Medi, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, a gynhaliwyd yn rhithwir, yn gywir.

 

 

 

4.

Ymweliad Safleoedd pdf eicon PDF 258 KB

Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle rhithiol a gafwyd ar 15 Medi, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion yr ymweliadau safle rhithwir a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021, yn gywir.

 

5.

Siarad Cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.3, 12.4 a 12.5.

 

6.

Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

7.

Ceisiadau'n Codi pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 7.1  FPL/2021/144 – Cais llawn ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau er mwyn creu unedau ychwanegol yn Llys y Gwynt, Llanfawr Close, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Medi 2021 penderfynwyd ymweld â’r safle. Cynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 15 Medi 2021.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Gwyndaf Williams, a oedd yn siarad o blaid y cais, fod y cais ar gyfer moderneiddio ac adeiladu unedau ychwanegol ar gyfer pobl ifanc ddigartref yn Llys y Gwynt. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y datblygiad hwn yn hwb enfawr i wella ansawdd bywyd a chyfleoedd i’r bobl ifanc dan sylw. Nododd ei bod yn bwysig i’r pwyllgor Cynllunio dderbyn y wybodaeth a ganlyn wrth iddynt ystyried y cais cynllunio i wella a chynyddu maint y cynllun.

  • Datblygwyd Llys y Gwynt yn 1998 gan Gymdeithas Tai Eryri fel uned sydd yn cynnig 9 gwely ar gyfer pobl ifanc digartref yr Ynys.
  • Mae’r cynllun yn cael ei reoli a’i staffio 24 awr y dydd gan Digartref Cyf.
  • Dros y blynyddoedd mae’r cynllun wedi darparu cartref i nifer o unigolion ifanc yr Ynys ac wedi rhoi cyfle iddynt wella a ffynnu.
  • Gan i’r cynllun fod ar waith am 23 o flynyddoedd, mae angen uwchraddio’r adeilad er mwyn cwrdd â’r safonau diweddaraf, ac oherwydd y gofyn cynyddol am y gwasanaeth mae cyfle yn bodoli i roddi 3 uned ychwanegol yno a fydd yn codi  cyfanswm yr unedau o 9 i 12 uned.
  • Mae’r gwelliannau dan sylw yn golygu buddsoddi bron i £1.1m yn y cynllun a denwyd £513k o arian grant Atal Digartrefedd gan Lywodraeth Cymru yn sgil y galw cynyddol sy’n bodoli am y math hwn o wasanaeth.
  • Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021 cyfeiriwyd 84 o bobl ifanc i’r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig gan Llys y Gwynt.
  • O’r 84 unigolyn derbyniwyd 38 ohonynt gan y cynllun. Allan o’r 53 a wrthodwyd roedd 12 oherwydd bod y risg o’u cartrefu yno rhy uchel sy’n tystiolaethu bod asesiad manwl yn cael ei gynnal cyn derbyn unrhyw berson ifanc i’r cynllun.
  • O’r 38 a leolwyd yn Llys y Gwynt yn ystod y flwyddyn dan sylw, roedd 4 ohonynt yn unigolion ôl-ofal a fu yng ngofal y Cyngor.
  • Yn ystod y flwyddyn dan sylw, roedd 11 o ddigwyddiadau lle’r oedd angen cysylltu â’r gwasanaethau brys, 4 oherwydd yr angen am ambiwlans, 2 oherwydd bod plentyn ar goll a 5 oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel. Mae hyn yn lefel isel o achosion ac yn debyg iawn i lefelau a welir mewn cynlluniau fflatiau rhent cyffredinol.
  • Mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Tai Cyngor Sir Ynys Môn yn gefnogol iawn i’r cynnig hwn i wella’r ddarpariaeth yn Llys y Gwynt.

 

Dywedodd y Rheolwr Gorfodaeth Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer dymchwel rhan o’r adeilad a’i addasu a’i ymestyn i greu 6 uned ychwanegol fel hostel i ddarparu llety â chymorth i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Ceisiadau Economaidd

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau economaidd yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

9.

Ceisiadau am Dy Fforddiadwy

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau am dŷ fforddiadwy yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

10.

Ceisiadau'n Gwyro

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

11.

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw gynigion datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

 

12.

Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1 – FPL/2021/220  - Canolfan Addysg Y Bont, Ffordd Cildwrn /, Llangefni

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O2kh1UAB/fpl2021220?language=cy

 

12.2 – FPL/2021/163 – Canolfan Ucheldre, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKxRLUA1/fpl2021163?language=cy

 

12.3 – LBC/2021/24 Canolfan Ucheldre, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OLC9KUAX/lbc202124?language=cy

 

12.4 –  FPL/2201/108 - Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKKltUAH/fpl2021108?language=cy

 

12.5 – FPL/2021/106 – Neuadd, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKHJzUAP/fpl2021106?language=cy

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 12.1  FPL/2021/220 – Cais llawn i gadw’r adeilad parod am gyfnod dros dro hyd at fis Mawrth 2022 i gartrefu dwy ystafell ddosbarth a thoiledau i’w defnyddio gan ddisgyblion yng Nghanolfan Addysg y Bont, Ffordd Cildwrn, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais ar gyfer cadw adeilad parod ar y tir tan fis Mawrth 2022 oherwydd bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol helaeth ar do Canolfan Addysg y Bont. Dywedodd y byddai angen dileu Amod 1 yn adroddiad y swyddog gan fod y cais am gyfnod dros dro yn unig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ieuan Williams.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod Amod 1 yn cael ei ddileu.

 

12.2  FPL/2021/163 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ymestyn yr adeilad rhestredig ynghyd â gwaith tirlunio yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y Cyngor yn berchen ar ran o’r safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cais ar gyfer estyniad ochr i greu siop/cyntedd, codi estyniad cefn er mwyn creu gweithdy celf, stiwdio ddawns, cyfleusterau storio a newid ar gyfer Canolfan Ucheldre, sydd yn adeilad rhestredig, addasu’r gosodiad mewnol ynghyd â dymchwel rhai waliau mewnol a gwneud gwaith tirlunio meddal a chaled. Nododd yr ystyrir na fyddai’r estyniad yn gorbwyso cymeriad neu edrychiad yr adeilad presennol. Nodwyd hefyd y cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig ar 17 Medi 2021 a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 14 Hydref 2021.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffiths.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi’r hawl i’r swyddog weithredu trwy gymeradwyo’r cais yn unol â’r argymhelliad ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.

 

 

12.3  LBC/2021/24 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau, ynghyd ag addasiadau mewnol ac allanol i’r adeilad yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y Cyngor yn berchen ar ran o’r safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cais ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel rhannol ac estyniadau yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  FPL/2021/108 – Cais llawn ar gyfer troi’r adeilad allanol yn annedd fforddiadwy ynghyd a’i addasu a’i ymestyn yn Fedw Uchaf, Brynrefail, Dulas

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Rhys Davies, a oedd yn siarad o blaid y cais, fod y cais ar gyfer trosi adeilad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Materion Eraill

Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.